minus bangor1 bangor2 bangor3 bangor4 bangor5 bangor6 bangor7 bangor8 bangor9 bangor10 bangor11 bangor12 bangor13 bangor14 bangor15 bangor16 bangor17 bangor18 bangor19 bangor20 bangor21 bangor22 bangor23 bangor24 bangor25 bangor26 bangor27 bangor28 bangor29 bangor30 bangor31 bangor32 bangor33 bangor34 bangor35 bangor36 bangor37 bangor38 bangor39 bangor40 bangor41 bangor42 bangor43 bangor44 bangor45 bangor46 chevron-down chevron-left chevron-right chevron-up download email facebook instagram plus search twitter vimeo youtube external
English

Mae "Llefa’r Cerrig" yn brosiect gyffrous sydd yn cael ei rhedeg ar draws Esgobaeth Bangor i ddiogelu, adnewyddu, a gwella pump o’n heglwysi mwyaf hardd a hanesyddol:

  • Beuno Sant, Clynnog Fawr
  • Cadfan Sant, Tywyn
  • Cybi Sant, Caergybi
  • Deiniol Sant, Bangor
  • Y Santes Fair, Conwy

Dynodwyd y pum eglwys yma fel targedau penodol ar gyfer y gwaith hwn gan eu bod yn rhannu’r nodweddion o fod yn arbennig o fawr, yn hynafol, ac yn “nwmenaidd”.

Eglwys Beuno Sant, Clynnog Fawr | St Beuno's Church, Clynnog Fawr

Mawr

Mae pob un o’r pum eglwys sydd wedi eu cynnwys yn y prosiect hwn yn adeiladau sylweddol ac amlwg yng nghanol eu cymunedau: tyfodd eglwysi Cadfan Sant, Cybi Sant a’r Santes Fair fel eglwysi trefol mewn aneddiadau sefydledig, ond cychwynnodd Beuno Sant a Deiniol Sant fel sefydliadau mynachaidd gydag aneddiadau yn tyfu o’u cwmpas.

Mae eu maint sylweddol yn golygu bod yr eglwysi hyn yn adnodd cymunedol o bwys – yn hanesyddol byddent wedi cynnig gofod nid yn unig ar gyfer addoli ond hefyd ar gyfer cymdeithasu, gwneud penderfyniadau, ac yn gysgod mewn cyfnodau o ansicrwydd. Er bod cymuned wedi newid bellach, rydym eisiau i’r adeiladau hyn barhau i gyflawni swyddogaeth gymunedol bwysig.

Eglwys Cybi Sant, Caergybi | St Cybi's Church, Holyhead

Hynafol

Yn aml mae dyddio eglwysi yn fater cymhleth – maent yn cael eu haddasu a’u hehangu gan genedlaethau olynol a gall hyn ei gwneud yn anodd i fod yn sicr o ba mor hynafol mewn gwirionedd yw’r adeilad presennol. Fodd bynnag, yr union ffaith hon yw’r hyn sydd yn eu gwneud yn hardd ac yn gyfareddol. Rydym yn gwybod bod eglwysi wedi bodoli ar y safleoedd hyn cyn belled yn ôl â’r 6ed ganrif (yn achos Deiniol Sant, Bangor, sef y safle cadeirlan sy’n dal i fodoli hynaf ym Mhrydain).

Mae’r adeiladau hyn wedi sefyll prawf amser dros ganrifoedd ond maent wedi bod angen gofal cyson i wneud hyn. Yn awr mae’n ddyletswydd arnom ac yn fraint i ni wneud y gwaith gofalu hyn a’u cadw’n sefyll am ganrifoedd i ddod.

Cadeirlan Deiniol Sant, Bangor | St Deiniol's Cathedral, Bangor

Nwmenaidd

Beth yw ‘y nwmenaidd’? Yn syml, dyma’r ymdeimlad o ‘sancteiddrwydd’ neu ‘arallrwydd’ sydd yn trigo mewn rhai lleoedd neu sefyllfaoedd, yr ymdeimlad o syfrdan ym mhresenoldeb rhywbeth sydd yn fwy na’r hunan. Prun a ydych yn credu yn Nuw neu ddim, mae’r ystod amser a’r nifer o bobl sydd wedi ymwneud â hanes yr adeiladau hyn yn eu gwneud nhw’n llawer mwy na’r unigolion eu hunain.

Mewn byd sy’n canolbwyntio gymaint ar sicrwydd a gwybod, yn aml rydym yn colli’r ymdeimlad o ryfeddu a dirgelwch, ond gall yr adeiladau hardd hyn ei ail-gynnau os cawn y cyfle i wneud hynny, a dyna’r ydym eisiau ei sicrhau.

Cymraeg

"Stones Shout Out" is an exciting project we are running across the Diocese of Bangor to preserve, renew and improve five of our most beautiful and historic churches:

  • St Beuno, Clynnog Fawr
  • St Cadfan, Tywyn
  • St Cybi, Holyhead
  • St Deiniol, Bangor
  • St Mary, Conwy

These five churches have been identified as specific targets for this work as they share the characteristics of being especially large, ancient, and "numinous".

Eglwys Cadfan Sant, Tywyn | St Cadfan's Church, Tywyn

Large

All five of the churches included in this project are large, prominent buildings at the heart of their communities: St Cadfan, St Cybi and St Mary grew as town churches in established settlements, but both St Beuno and St Deiniol started out as monastic institutions around which settlements grew.

The fact of their size means that these churches are an important community resource - historically they will have provided space not only for worship but also for socialising, decision making, and shelter at times of uncertainty. Though society has now changed, we want these buildings to continue fulfilling an important community role.

Eglwys Santes Fair, Conwy | St Mary's Church, Conwy

Ancient

The dating of churches is sometimes complicated - they are modified and enlarged by successive generations and this can make it difficult to be sure how old the current building actually is. However, this very same fact is what makes them beautiful and fascinating. We know that churches existed on these sites as far back as the 6th century (in the case of St Deiniol, Bangor, which is the oldest remaining cathedral site on Great Britain).

These buildings have stood the test of time over centuries but have required continuous care in order to have done so. It is now both our duty and our privilege to carry out this care and keep them standing for centuries more.

Cangell Cadeirlan Deiniol Sant | The Chancel of St Deiniol's Cathedral

Numinous

What is ‘the numinous’? Simply put, it is the sense of ‘holiness’ or ‘otherness’ that inhabits certain places or situations, the sense of awe in the presence of something greater than yourself. Whether or not you believe in God, the span of time and the number of people involved in the history of these buildings makes them so much more than the individuals themselves.

In a world so fixated on certainty and knowability, we often lose that sense of wonder and mystery, but these beautiful buildings can rekindle it, if they are allowed to, and that is what we want to ensure.