Roedd Deiniol Sant yn fab i deulu a oedd yn wreiddiol yn gyfoethog ond â ddifeddiannwyd yn ddiweddarach ac a hanai o’r Hen Ogledd (y teyrnasoedd Brythonaidd cynnar yng Ngogledd Lloegr) a daeth i deyrnas Gymreig Powys i gael lloches. Wedi treulio amser yn feudwy yn Sir Benfro heddiw, teithiodd i Wynedd i sefydlu mynachlog dan nawdd Maelgwn Gwynedd (a oedd hefyd yn noddwr i Cybi Sant). Amgylchynwyd y fynachlog hon gyda ffens o goed cyll wedi eu hatgyfnerthu - ‘bangor’ – gan roi i’r ddinas ei henw hyd heddiw.
Oherwydd nawdd Brenin Gwynedd, a’i safle strategol, yn fuan iawn daeth Bangor yn esgobaeth, gyda Deiniol Sant yn esgob cyntaf. Mae’r dyddiad sefydlu yn 625 felly yn gwneud Bangor yr esgobaeth (a safle cadeirlan) hynaf mewn bodolaeth ym Mhrydain i gyd. Dechreuwyd yr adeilad presennol yn y 13eg ganrif, i gymryd lle’r adeilad cynharach a gafodd ei ddinistrio gan y fyddin Saesnig dan y Brenin John, ac mae wedi profi sawl dinistr ac ailadeiladu ers hynny, gan gynnwys ychwanegu’r tŵr gorllewinol gan Esgob Skeffington yn y 16eg ganrif ac aildrefnu eang yn oes Fictoria dan George Gilbert Scott.
Saint Deiniol was the son of a formerly wealthy but latterly dis-possessed family from the Hen Ogledd (the ancient Brythonic kingdoms of the North of England) who sought refuge in the Welsh kingdom of Powys. After spending a time as a hermit in what is now Pembrokeshire, he travelled to Gwynedd to found a monastery under the patronage of Maelgwn Gwynedd (who was also the patron of St Cybi). This monastery was surrounded by a reinforced hazel fence - a ‘bangor’ - giving the city its name to this day.
Due to the patronage of the King of Gwynedd, and its strategic location, Bangor quickly became a bishopric, with St Deiniol as its first bishop. The foundation date of 625 therefore makes Bangor the oldest extant bishopric (and cathedral site) in the whole of Britain. The present building was begun in the 13th century, replacing the earlier building which was destroyed by the English army under King John, and has undergone multiple destructions and reconstructions ever since, including the additional of the western tower by Bishop Skeffington in the 16th century and a comprehensive Victorian re-ordering under George Gilbert Scott.