minus bangor1 bangor2 bangor3 bangor4 bangor5 bangor6 bangor7 bangor8 bangor9 bangor10 bangor11 bangor12 bangor13 bangor14 bangor15 bangor16 bangor17 bangor18 bangor19 bangor20 bangor21 bangor22 bangor23 bangor24 bangor25 bangor26 bangor27 bangor28 bangor29 bangor30 bangor31 bangor32 bangor33 bangor34 bangor35 bangor36 bangor37 bangor38 bangor39 bangor40 bangor41 bangor42 bangor43 bangor44 bangor45 bangor46 chevron-down chevron-left chevron-right chevron-up download email facebook instagram plus search twitter vimeo youtube external
English

Disgwyl ar Dduw

Waiting upon God

Mwy o wybodaeth am y ddogfen hon

Myfyrdodau a gweddïau ar gyfer Adfent 2017. 

Beth mae’n ei feddwl i fod yn ‘disgwyl ar Dduw’? Mae’r Adfent, fel y gwyddon ni, yn gyfnod o ddisgwyl. Disgwyl ydyn ni am ddyfodiad Mab Duw, a anwyd o Fair. O fewn i’r disgwyl blynyddol hwn, rydyn ni hefyd yn disgwyl i’r Iesu ddod eto, yr ail ddyfodiad.

Gall disgwyl fod yn brofiad pleserus, llawn cyffro, neu’n un o ofn ac arswyd. Mae popeth yn dibynnu ar beth rydyn ni’n disgwyl. Gall olygu ymdeimlad o obaith, bod yn ddisgwylgar. Gan osod disgwyl, a disgwyl ar Dduw, o fewn cyd-destun ffydd, gall hefyd olygu gwasanaethu, gwrando a gweddigarwch.

Mae sawl achlysur yn y Beibl lle cawn hyd i bobl yn ‘disgwyl ar Dduw’. Roedd holl bobl Israel yn disgwyl dyfodiad Meseia Duw fel yr addawyd trwy eiriau’r proffwydi. Bu’r salmwyr yn aml yn defnyddio ‘disgwyl’ yng nghyd-destun gofyn neu ddyheu am i Dduw eu clywed a’u harwain: gweler er enghraifft Salmau 33:20; 37:7; 69:3.

Sut i Ddefnyddio’r Llyfryn Hwn

Ar bob Sul o’r Adfent, fe fydd y darlleniadau ar gyfer yr Ewcharist yn gosod y cyd-destun ar gyfer y myfyrdodau: edrych ar yr Hen Destament, yr Epistol a’r Efengyl, gyda’r Salm yn cael ei hymgorffori yn y weddi agoriadol. Bydd y meddyliau a’r myfyrdodau hefyd yn cysylltu â themâu Patriarchiaid (a Matriarchiaid) yr Adfent, ac yna’r Proffwydi ar Ail Sul yr Adfent, wedyn Ioan Fedyddiwr ar Drydydd Sul yr Adfent, gan ddiweddu gyda Mair ar Bedwerydd Sul yr Adfent.

Neilltuir lle hefyd i adran ‘greadigol’ pob wythnos. Os ydy hyn yn cael ei gynnwys mewn grŵp, mae’n bosib y bydd gofyn i’r person sy’n arwain, ddod â’r deunyddiau angenrheidiol gyda nhw – lle bo’n briodol.

Ceir hefyd myfyrdod dyddiol byr sy’n dechrau ar Ragfyr 1 ac yn gorffen ar Ddydd Nadolig. Fe geir myfyrdod hirach ar gyfer Sul Cyntaf y Nadolig ac ar gyfer Nos Ystwyll ar Ionawr 6. Fe gymerir y myfyrdodau hyn o’r Efengyl ar gyfer yr Ewcharist ar y diwrnod hwnnw.

Gellir defnyddio’r llyfryn gan unigolion eu hunain, neu o fewn lleoliad grŵp. Gellir rhannu deunydd y Suliau yn ystod yr wythnos, os yn ei ddefnyddio yn unigol, neu i ffurfio sail defnydd o fewn grŵp. Os am ei ddefnyddio wedi’r Sul, ychwanegwch at y myfyrdodau, yn unigol neu fel grŵp, unrhyw beth o bwys a nodwyd o’r bregeth a draddodwyd y diwrnod hwnnw.

Mae modd i Arweinwyr Addoliad hefyd ddefnyddio’r deunydd, gan ddarparu myfyrdod iddyn nhw’i gynnig.

Cymraeg

More info about this document

Reflections and prayers for Advent 2017. 

What does it mean to be ‘waiting upon God’? Advent is, as we know, a time of waiting. We wait for the coming of God’s Son, born of Mary. Within this annual waiting, we also wait for the coming again of Jesus, the second coming.

Waiting can be a pleasant, excitement-filled experience, or one of fear or dread. It all depends upon what we are waiting for. It can mean a sense of hope, anticipation, trust, or being watchful. Placing waiting, and waiting upon God, within the context of faith, it can also include serving, listening and prayerfulness.

There are many instances within the Bible where we find people ‘waiting upon God’. The whole people of Israel were waiting for the coming of God’s Messiah as promised through the words of the prophets. The psalmists often put waiting in the context of a seeking or yearning for God to hear them and guide them; see for example Psalms 33:20; 37:7; 69:3.

How to Use This Booklet

Each Sunday of Advent the readings for the Eucharist will provide the setting for the reflections: looking at the Old Testament, the Epistle and the Gospel, with the Psalm being incorporated into the opening prayer. The thoughts and reflections will also relate to the Advent themes of the Patriarchs (and Matriarchs), followed by the Prophets on the Second Sunday of Advent, then John the Baptist on the Third Sunday of Advent, and finishing with Mary on the Fourth Sunday of Advent.

There is also a ‘creative’ slot each week. If this is included in a group, the person leading may need to bring the necessary materials, or ask those coming to bring what is needed with them – when appropriate.

There will also be a short daily reflection beginning on 1 December and ending with Christmas Day. There will be a longer reflection for the First Sunday of Christmas and for the Epiphany on 6 January. These reflections are taken from the Gospel for the Eucharist on that day.

The booklet can be used by individuals alone, or within a group setting. The Sunday material can be spread out during the week, if using it alone, or form the basis for use within a group. If it is being used after the Sunday, draw into the reflections, personally or as a group, anything important noted from the sermon given that day.

The material can also be used by Worship Leaders, providing them with a reflection to offer.