minus bangor1 bangor2 bangor3 bangor4 bangor5 bangor6 bangor7 bangor8 bangor9 bangor10 bangor11 bangor12 bangor13 bangor14 bangor15 bangor16 bangor17 bangor18 bangor19 bangor20 bangor21 bangor22 bangor23 bangor24 bangor25 bangor26 bangor27 bangor28 bangor29 bangor30 bangor31 bangor32 bangor33 bangor34 bangor35 bangor36 bangor37 bangor38 bangor39 bangor40 bangor41 bangor42 bangor43 bangor44 bangor45 bangor46 chevron-down chevron-left chevron-right chevron-up download email facebook instagram plus search twitter vimeo youtube external
English

Ewch felly a gwnech ddigyblion o'r holl genhedloedd

Go therefore and make disciples of all nations

Mwy o wybodaeth am y ddogfen hon

Myfyrdodau a gweddïau ar gyfer Grawys 2018


Mae’r daith byddwn ni’n ei dilyn dros wythnosau nesaf y Grawys yn ymwneud â ffydd a disgyblaeth (h.y. bod yn ddisgyblion). Wrth inni gyrraedd yr Atgyfodiad a thu hwnt i hynny, mae’n taith ni bryd hynny hefyd ynglŷn â ffydd a disgyblaeth.

Ar ddiwedd Efengyl Mathew fe ddown at y ‘Comisiwn Mawr’, sy’n cynnwys y geiriau, ‘Ewch, gan hynny, a gwnewch ddisgyblion o’r holl genhedloedd’ (28:19). Mae’n parhau gyda galwad Iesu i fedyddio a dysgu. Yr alwad ydy i ddod yn rhan o deulu Duw, ac i rannu dysgeidiaeth ein ffydd.

Y Grawys hwn, gan ddilyn thema’r esgobaeth am 2018 o ‘dyfu’r Eglwys’ , fe fyddwn yn canolbwyntio ein meddyliau ar fod yn ddisgyblion. Fe fydd pob wythnos o’r Grawys yn ffocysu ar un neu ddau o eiriau’r Comisiwn Mawr. Pa eiriau bynnag a ddefnyddiwn, mae’r cyd-destun y’i gosodir a thôn y llais a ddefnyddir i’w traethu, yn cyfleu ystyr y geiriau penodol hynny.

Mae’r gweddïau, y darlleniadau a’r myfyrdodau hyn wedi’u gosod allan yn y fath fodd ag i alluogi arwain grŵp sy’n dod at ei gilydd ar gyfer Cwrs Grawys, ond gall unigolion, neu Arweinwyr Addoliad, yn rhwydd iawn ddefnyddio’r llyfryn hwn.

Lle ceir grŵp:

  • gellir trafod y cwestiynau hyn mewn grwpiau bach, neu bob yn ddau neu dri, ac yna’u dwyn yn ôl at y grŵp llawn.

Gyda rhai o’r darnau o’r Beibl, efallai y gall fod o gymorth i ddarllen yr ychydig adnodau sy’n dod cyn neu’n dilyn y rhai a ddyfynnir, er mwyn cael gwell dealltwriaeth o’r cyd-destun. Mae chweched wythnos y Grawys, gan mai’r Wythnos Fawr ydy hi, yn fyrrach na’r wythnosau eraill ac yn draddodiadol ddim yn wythnos lle gwelir grwpiau’n cyfarfod. Mae’r myfyrdodau yn ystod yr wythnos honno wedi’u teilwra’n well tuag at ddefnydd unigol adre, er y gellid eu defnyddio gyda grŵp. Fase modd hefyd i Arweinwyr Addoliad ddefnyddio’r gweddïau a’r myfyrdodau.

Gorsafoedd y Groes: Dydy pob un o ddelweddau ‘Gorsafoedd y Groes’ ddim yn cael eu defnyddio. O fewn grŵp, fe all fod yn ddefnyddiol i fod â delweddau eraill o’r gorsafoedd wrth law i’w hastudio a’u cymharu.

Gweddi: Mae’r gweddïau wedi’u hysgrifennu i’w hadrodd ynghyd mewn grŵp, sydd hefyd yn golygu y gall unigolion eu defnyddio heb newid unrhyw eiriau.

Cymraeg

More info about this document

Reflections and prayers for Lent 2018


The journey we make through these weeks of Lent is about faith and discipleship. As we arrive at the Resurrection and go beyond, our journey then is also about faith and discipleship.

At the end of Matthew’s Gospel we find the ‘Great Commission’ which includes the words, ‘Go therefore and make disciples of all nations’ (28:19). It continues with Jesus’ call to baptise and teach. The call is to become a part of God’s family, the Church, and to share the teachings of our faith.

This Lent, following the diocesan theme for 2018 of ‘growing the Church’, we will concentrate our thoughts upon discipleship. Each week of Lent will focus upon one or two of the words from the Great Commission. Whatever words we use, the context in which they are placed and the tone of voice in which they are spoken conveys the meaning of those particular words.

These prayers, readings and reflections are set out in a way that can guide a group gathering for a Lent Course, but this booklet can also be used very easily by individuals, or by Worship Leaders.

Where there is a group:

  • these questions can be looked at in small groups, or in twos and threes, and then brought back to the whole group

With some of the Bible passages, it may be helpful to read the verses that come before and after those quoted to enable a better understanding of the context. The sixth week of Lent, being Holy Week, is shorter than the other weeks and is not usually a time when groups meet. The reflections during that week are better suited for use individually at home, and yet could still be offered in a group. The prayers and reflections could also be used by Worship Leaders.


Stations of the Cross:
Not all the ‘Stations of the Cross’ images are used. In a group it may be helpful to have other images of the stations to look at and to compare.

Prayer: The prayers are written to be said together when in a group, which means they can also be read by individuals without changing any words.