minus bangor1 bangor2 bangor3 bangor4 bangor5 bangor6 bangor7 bangor8 bangor9 bangor10 bangor11 bangor12 bangor13 bangor14 bangor15 bangor16 bangor17 bangor18 bangor19 bangor20 bangor21 bangor22 bangor23 bangor24 bangor25 bangor26 bangor27 bangor28 bangor29 bangor30 bangor31 bangor32 bangor33 bangor34 bangor35 bangor36 bangor37 bangor38 bangor39 bangor40 bangor41 bangor42 bangor43 bangor44 bangor45 bangor46 chevron-down chevron-left chevron-right chevron-up download email facebook instagram plus search twitter vimeo youtube external

Archddiaconiaeth newydd!

Mae Esgob Bangor - y Gwir Barchedig Andy John - yn cyhoeddi creu dwy archddiaconiaeth newydd, Archddiaconiaeth Bangor ac Archddiaconiaeth Ynys Môn. Yn flaenorol roedd y ddwy archddiaconiaeth yn un archddiaconiaeth. Penodir Archddiacon newydd i bob archddiaconiaeth.

Mae hyn yn dilyn penderfyniad gan Gyngor Esgobaeth Bangor a chyfres o drafodaethau gyda Synodau Môn a Bangor, yn ogystal â chlerigion o bob rhan o'r esgobaeth.

Mae Archddiaconiaeth Môn yn cynnwys y naw Ardal Weinidogaeth ar Ynys Môn. Mae Archddiaconiaeth Bangor yn cynnwys y naw Ardal Weinidogaeth yng ngogledd Eryri, a’r cymoedd a’r arfordir o’i gwmpas.

Dywedodd yr Esgob, "Mae hwn yn benderfyniad hanesyddol a fydd yn caniatáu i'r esgobaeth wneud cynnydd sylweddol wrth ddatblygu Ardaloedd Gweinidogaeth.

Rydym wedi ymrwymo i'r pethau hynny a fydd yn ein galluogi i addoli Duw yn fwy ffyddlon, i dyfu’r Eglwys ac i garu'r byd. Rhan o rôl ein Harchddiaconiaid newydd fydd galluogi Arweinwyr a Thimau Ardaloedd Gweinidogaeth i gamu ymlaen yn ffyddiog a galluogi eu gweinidogaeth i ffynnu.

Ni fydd y newid hwn yn arwain at unrhyw gynnydd yng Nghronfa Gweinidogaeth yr Esgob, y mae Ardaloedd Gweinidogaeth yn cyfrannu ato, ond mae'n fuddsoddiad doeth a chyffrous yng nghenhadaeth Eglwys Dduw."

Bydd yr Archddiaconiaid newydd yn gwasanaethu yn Llandudno a Chaergybi (Bro Cybi) ac yn ymgymryd â chyfrifoldeb am eu Synod, gan weithio'n agos gyda Thîm Deiniol ac fel rhan o Gyngor yr Esgob.

Bydd y broses ddirnad ar gyfer y ddwy archddiaconiaeth newydd yn dechrau dros y dyddiau nesaf, a cheir proffiliau'r ddwy rol ar adran arbennig o'r wefan esgobaethol.

Cymraeg

A new archdeaconry!

The Bishop of Bangor - the Right Reverend Andy John - is announcing the creation of two new archdeaconries, the Archdeaconry of Bangor and the Archdeaconry of Anglesey. The two archdeaconries were previously one archdeaconry. A new Archdeacon will be appointed to each Archdeaconry.

This follows a decision by the Bangor Diocesan Council and a series of discussions with the Synods of Anglesey and Bangor, as well as clergy from across the diocese.

The new Archdeaconry of Anglesey consists of the island’s nine Ministry Areas. The new Archdeaconry of Bangor consists of the nine Ministry Areas of northern Snowdonia and its surrounding valleys and coastline.

The Bishop said, “This is an historic decision which will allow the diocese to make significant progress in developing Ministry Areas. We are committed to those things which will enable us to worship God more faithfully, to growing the Church and to loving the world.

Part of the role of our new archdeacons will be to enable Ministry Area Leaders and Teams to flourish and enable their ministry to progress.

This change will not result in any increase in the Bishop’s Ministry Fund, to which Ministry Areas contribute, but is a wise and exciting investment in the mission of God’s Church.”

The new Archdeacons will serve in Llandudno and Holyhead (Bro Cybi) and undertake responsibility for their Synods, working closely with Tîm Deiniol and as part of the Bishop’s Council.

The discernment process for the two new archdeacons will begin over coming days, and the role profiles are available on a special section of the diocesan website.