minus bangor1 bangor2 bangor3 bangor4 bangor5 bangor6 bangor7 bangor8 bangor9 bangor10 bangor11 bangor12 bangor13 bangor14 bangor15 bangor16 bangor17 bangor18 bangor19 bangor20 bangor21 bangor22 bangor23 bangor24 bangor25 bangor26 bangor27 bangor28 bangor29 bangor30 bangor31 bangor32 bangor33 bangor34 bangor35 bangor36 bangor37 bangor38 bangor39 bangor40 bangor41 bangor42 bangor43 bangor44 bangor45 bangor46 chevron-down chevron-left chevron-right chevron-up download email facebook instagram plus search twitter vimeo youtube external

Cyngerdd Gŵyl Ddewi hwyr yn atseinio yn y Gadeirlan

Catrin, Manon a Gwenno

Caiff ansoddeiriau megis gwych, ysbrydoledig, cofiadwy eu defnyddio yn llawer rhy aml; ond roedd y cyngerdd yn y Gadeirlan nos Sadwrn Ebrill 21ain yn haeddu'r ansoddeiriau hyn a mwy.

Cafwyd perfformiadau cerddorol gan Gôr y Brythoniaid, Côr Seiriol, Dylan Cernyw, Pedwarawd Cennin ac unawdau gan John Eifion. Cyflwynwyd rhaglen amrywiol yn ymestyn o waith clasurol, drwy gerdd dant at ganu poblogaidd.

Braf oedd gweld yr adeilad ar wedd newydd; byrddau wedi eu haddurno gyda blodau'r gwanwyn yn lle'r meinciau traddodiadol a Catrin, Manon a Gwenno yn croesawu'r gynulleidfa ar y ffliwt.

Uchafbwynt y noson mae'n siwr oedd perfformiad yr holl artistiaid gyda'i gilydd o ' O tyred i'n gwaredu' ac 'Mor fawr wyt Ti'. Wrth i'r cord olaf gael ei daro cododd yr holl gynulleidfa luosog ar eu traed fel un ton fawr i gymeradwyo. Moment i'w chofio! Bydd muriau'r hen Gadeirlan yn atseinio am flynyddoedd i ddod yn swn y gân.

Gwnaethpwyd elw o £4,200 tuag at y Gadeirlan . Diolch i bawb am gefnogi; i'r noddwyr am eu cyfraniadau ac i'r holl artistiaid am roi mor hael o'u hamser a'u doniau.

Anona Jones

Dylan Cernyw
Cymraeg

A belated St David's Day Concert fills the Cathedral

Pedwarawd Cennin

Superlatives such as amazing, wonderful, inspirational are used far too often but these and many more were particularly apt when describing the concert in the Cathedral on Saturday, April 21st.

The performers were Cor y Brythoniaid, Cor Seiriol, Dylan Cernyw, Pedwarawd Cennin and John Eifion. They presented a programme of music ranging from the classical to cerdd dant to popular music.

A new image was created in the church as the traditional pews had been replaced by tables and chairs decorated with spring flowers. Three young flautists greeted the audience as they entered.

The concert finale was a rendering of the Welsh hymns ' O tyred i'm gwaredu' and ' Mor fawr wyt Ti', performed by all the artists on stage together. As the final chord was played, an appreciative audience rose to its feet as one; a moment to treasure.

£4,200 was raised for the Cathedral funds. Thank you to local businesses who sponsored the event; to all those who worked to make it a success and especially to the artists for being so generous in giving of their time and talents.

Anona Jones

Côr Seiriol