minus bangor1 bangor2 bangor3 bangor4 bangor5 bangor6 bangor7 bangor8 bangor9 bangor10 bangor11 bangor12 bangor13 bangor14 bangor15 bangor16 bangor17 bangor18 bangor19 bangor20 bangor21 bangor22 bangor23 bangor24 bangor25 bangor26 bangor27 bangor28 bangor29 bangor30 bangor31 bangor32 bangor33 bangor34 bangor35 bangor36 bangor37 bangor38 bangor39 bangor40 bangor41 bangor42 bangor43 bangor44 bangor45 bangor46 chevron-down chevron-left chevron-right chevron-up download email facebook instagram plus search twitter vimeo youtube external

Esgob Andy yn croesawu ymwelwyr o Lango, Uganda

Roedd Esgob Bangor - y Gwir Barchedig Andy John - yn falch i groesawu dau ymwelydd o'n cyfaill-esgobaeth yn Uganda heddiw (Mai 17 2018).

Cyrhaeddodd y Parchedig Ganon Lawrence Oyugi (Ficer Eglwys yr Holl Saint, Obanga pe Wany) a Joseph Atepo Lunga, (Cadeirydd y Lleygwr yn Eglwys yr Holl Saint, Obanga pe Wany) ym Mangor heddiw.

Mae Obanga pe Wany yn blwyf o fewn tref Lira, yng Ngogledd Uganda, yn Esgobaeth Lango, sy'n cyfaill-esgobaeth ag Esgobaeth Bangor.

Mae Canon Lawrence a Joseph yma yn Esgobaeth Bangor i ymweld â phobl yn Ardal Gweinidogaeth Bro'r Dwynwen, i ddathlu 15fed penblwydd y cyswllt rhwng Eglwys yr Holl Saint Obanga pe Wany ac Eglwys y Santes Fair, Llanfairpwll ac i ymestyn y cyswllt â chymunedau eglwysig eraill yn Ardal Gweinidogaeth Bro Dwynwen.

Bydd Canon Lawrence a Joseph yn aros gyda phobl Gristnogol ym Mro Dwynwen trwy gydol eu hymweliad sy’n para am bythefnos. Maent yn dychwelyd i Uganda ddydd Mawrth 29 Mai.

Meddai Esgob Andy, "Mae'n wych croesawu Canon Lawrence a Joseff i'n Hesgobaeth. Mae gen i atgofion melys o'r Sul ym mis Gorffennaf 2014 a dreuliais yn Eglwys yr Holl Saint, Obanga pe Wany.

Mae'n wych bod y cyswllt rhwng Eglwys y Santes Fair, Llanfairpwll ac Obanga pe Wany yn ymestyn ledled Bro Dwynwen a bod y 15fed penblwydd yn cael ei ddathlu fel hyn.

Fel pobl Gristnogol o wahanol ddiwylliannau a chyd-destunau, mae ‘na lawer y gallwn ei ddysgu oddi wrth ein gilydd a chymaint i ni ddathlu gyda'n cariad a’n brwdfrydedd dros yr Efengyl.

Rwyf yn gweddïo y bydd ymweliad Canon Lawrence a Joseff yn ffrwythlon a bendithiol, ac y bydd Duw yn gofalu am eu teuluoedd yn eu habsenoldeb.'


Mae'r rhaglen swyddogol ar gyfer yr ymweliad hwn yn dechrau

  • Ar nos Sadwrn 19 Mai gyda 'Croeso Cymreig’ am 7:30yh yn Neuadd Pritchard Jones, Niwbwrch
  • Ar fore Sul 20fed Mai am 10yb, mae gwasanaeth ar y cyd i Ardaloedd Gweinidogaeth Bro Dwynwen a Bro Cadwaladr, yn Neuadd Gymunedol Gaerwen,
  • Ar fore Sul 27ain Mai am 10yb, bydd gwasanaeth ffarwel yn Eglwys y Santes Fair, Llanfairpwll.

Mae croeso i bawb fynychu'r digwyddiadau hyn.

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â threfnydd yr ymweliad hwn, Charles Owens (ebost)

Cymraeg

Bishop Andy welcomes Ugandan visitors from Lango

The Bishop of Bangor - the Right Reverend Andy John - was pleased to welcome two visitors today from our link diocese of Lango, Uganda (May 17 2018).

The Reverend Canon Lawrence Oyugi (Vicar of All Saints’ Church, Obanga pe Wany ) and Joseph Atepo Lunga, (Chair of Laity at All Saints Church, Obanga pe Wany) arrived in Bangor today.

Obanga pe Wany is a Parish within the town of Lira, in Northern Uganda, in the Diocese of Lango, which is a linked with the Diocese of Bangor.

Canon Lawrence and Joseph are in the Diocese to visit people in the Bro Dwynwen, Ministry Area and to celebrate the 15th anniversary of the link between All Saints Obanga pe Wany and St Mary's Church Llanfairpwll and to extend the link with other church communities in the Bro Dwynwen Ministry Area.

Canon Lawrence and Joseph will be staying with Christian people in Bro Dwynwen throughout their two week visit. They return to Uganda on Tuesday 29 May.

Bishop Andy said, “It is wonderful to welcome Canon Lawrence and Joseph to our Diocese. I have fond memories of the Sunday in July 2014 which I spent in All Saints Church, Obanga pe Wany.

It is excellent that the link between St. Mary’s Llanfairpwll and Obanga pe Wany is extending throughout Bro Dwynwen and that this 15th anniversary is being celebrated in this way.

As Christian people from different cultures and contexts, there is much that we can learn from each other and much for us to celebrate with our shared love and passion for the Gospel.

I am praying that Canon Lawrence and Joseph’s visit will be fruitful and blessed, and that God will be caring for their families in their absence.’


The official programme for this visit begins

  • On Saturday 19th with a ‘Welsh Welcome’ at 7:30pm in The Pritchard Jones Hall, Newbough
  • On Sunday 20th May at 10am, there is a joint service for the Bro Dwynwen and Bro Cadwaladr Ministry Areas, at Gaerwen Community Hall,
  • On Sunday 27th May at 10am, there will be a farewell service in St Mary's Church, Llanfairpwll.

All are welcome to attend these events

For more information, please contact the organiser of this visit, Charles Owens (email)