minus bangor1 bangor2 bangor3 bangor4 bangor5 bangor6 bangor7 bangor8 bangor9 bangor10 bangor11 bangor12 bangor13 bangor14 bangor15 bangor16 bangor17 bangor18 bangor19 bangor20 bangor21 bangor22 bangor23 bangor24 bangor25 bangor26 bangor27 bangor28 bangor29 bangor30 bangor31 bangor32 bangor33 bangor34 bangor35 bangor36 bangor37 bangor38 bangor39 bangor40 bangor41 bangor42 bangor43 bangor44 bangor45 bangor46 chevron-down chevron-left chevron-right chevron-up download email facebook instagram plus search twitter vimeo youtube external

O Lundain i Lanfairpwll, heb anghofio Llanidloes, ordeiniad ac Aberdaron: Curad yn symud i Ynys Môn

Bydd y Parch Naomi Starkey yn cael ei thrwyddedu fel Ficer ar y Cyd Bro Dwynwen, ar 1 Awst am 7yh yn Eglwys y Santes Fair, Llanfairpwll.


Mae Esgob Bangor – y Gwir Barchedig Andy John – yn falch o gyhoeddi penodiad y Parchedig Naomi Starkey fel Ficer Cynorthwyol Ardal Weinidogaeth Bro Dwynwen, sy’n gwasanaethu cymunedau o amgylch Llanfairpwll, Brynsiencyn, Dwyran a Niwbwrch ar Ynys Môn.

Ar hyn o bryd, mae Naomi yn gurad – wedi’i lleoli yn Aberdaron ar ben draw Penrhyn Llŷn – sy’n rhan o Ardal Weinidogaeth Bro Enlli. Fe fydd hi’n symud, i fod yn rhan o Dîm Ardal Weinidogaeth Bro Dwynwen, sydd dan arweiniad y Parchedig Eric Roberts.

Yn un a anwyd yng Nghaergrawnt a’i magu ar Ynysoedd y Sianel, treuliodd Naomi llawer o’i blynyddoedd gwaith yn Llundain, lle gweithiodd fel golygydd i Gymdeithas Ddarllen y Beibl, sy’n cyhoeddi llyfrau Cristnogol a nodiadau darllen Beiblaidd, yn ogystal â bod yn gartref teitlau ‘Llan Llanast’. Mae hi hefyd yn awdures ei hunan sydd bellach wedi cyhoeddi pum llyfr, sy’n ceisio annog pobl yn eu harchwiliad o’r bywyd Cristnogol, y diweddaraf yn dwyn y teitl ‘The Recovery of Joy’.

Tyfodd yr alwad i gael ei hordeinio yn dilyn ei symudiad i Lanidloes yn 2011, er ei bod eisoes wedi dechrau dysgu’r Gymraeg yn Llundain, diolch i ddiddordeb mewn ieithoedd! Ordeiniwyd Naomi yn 2014, gan dreulio blwyddyn gyntaf ei gweinidogaeth ym Mro Cyfeiliog a Mawddwy, yn gwasanaethu tref Machynlleth a’r pentrefi cyfagos. Fe symudodd yn ddiweddarach i Aberdaron fawr mwy na dwy flynedd yn ôl .

Wrth edrych ymlaen at ei rôl newydd, dywedodd Naomi, ‘Mae hi wedi bod yn fraint cael byw mewn rhan mor brydferth o’r byd a chael tyfu yn fy ngweinidogaeth wrth imi weithio ymysg cymunedau Bro Enlli. Ond, yn anorfod, fe ddaw terfyn ar guradau, ac mae’n hyfrydwch i mi gael y cyfle i ymuno ag Eric a’r tîm ym Mro Dwynwen. Dwi’n edrych ymlaen yn arw at ddod i nabod y rhan honno o Ynys Môn – lle prydferth arall! – a gweld lle mae Duw’n ein harwain wrth inni geisio adeiladu Ei deyrnas.’

Fe fydd Naomi a Daniel (yr ieuengaf o’i thri phlentyn) yn symud i fyw i Lanfairpwll yr haf nesaf wedi i Daniel gwblhau ei TGAU, a’r disgwyl ydy y cynhelir gwasanaeth arbennig i ddathlu dechrau ei gweinidogaeth newydd ym Mro Dwynwen.

Dywedodd Arweinydd Ardal Weinidogaeth Bro Enlli, yr Hybarch Andrew Jones, ‘Yn naturiol, mae rhywun yn drist o golli aelod mor alluog a chydwybodol o’n Tîm Gweinidogaeth. Mae hi wedi bod yn fraint inni i gyd ym Mro Enlli i fod yn rhan o ddatblygiad Naomi fel offeiriad. Fe wnaiff hi’n dda ym Mro Dwynwen ac fe fydd hi yn ein gweddïau.’

Dywedodd Esgob Bangor - y Gwir Barchedig Andy John, ’Mae Naomi yn un o nifer o bobl y cafodd eu galwedigaeth i’r weinidogaeth ordeiniedig, a’u sefydlu dilynol yn weinidog, eu meithrin o fewn Esgobaeth Bangor. Fy mraint i ydy fod wedi bod yn rhan o’i thaith o’r cychwyn cyntaf. Fe fydd hi’n ychwanegiad rhagorol i’r tîm ym Mro Dwynwen. Mae ei gafael ar y Gymraeg eisoes yn dda iawn, ac mae hynny’n siŵr o ddatblygu ymhellach. Mi rydw i hefyd yn edrych ymlaen at weld sut bydd ei dawn myfyrio diwinyddol yn cyfarwyddo gwaith y tîm gweinidogaethol ym Mro Dwynwen dros y blynyddoedd sydd i ddod. Cofiwch weddïo dros Naomi, Daniel a phobl Bro Dwynwen, Aberdaron a Bro Enlli.’

Cymraeg

From London to Llanfairpwll, via Llanidloes, ordination and Aberdaron: Curate moves on to Anglesey

Rev Naomi Starkey will be licensed as Associate Vicar of Bro Dwynwen on 1 August, at 7pm in St. Mary’s Church, Llanfairpwll.


The Bishop of Bangor - the Right Reverend Andy John - is pleased to announce the appointment of the Reverend Naomi Starkey as the Assistant Vicar in the Bro Dwynwen Ministry Area, which serves the communities around Llanfairpwll, Brynsiencyn, Dwyran and Newborough on the Isle of Anglesey.

Naomi is presently a curate - based in Aberdaron at the tip of the Lleyn Peninsula - which is part of the Bro Enlli Ministry Area. She will be moving, to become part of Bro Dwynwen Ministry Area Team, which is lead by the Rev’d Eric Roberts.

Born in Cambridge and raised in the Channel Islands, Naomi spent many years of her working life based in London, where she worked as an editor for the Bible Reading Fellowship, which publishes Christian books and Bible reading notes as well as being the home of ‘Messy Church’ titles. She is also an author in her own right and has now published five books, which seek to encourage people in their exploration of Christian living, the most recent being ‘The Recovery of Joy’.

Her call to ordination grew following a move to Llanidloes in 2011, although she’d already begun learning Welsh in London, thanks to an interest in languages! Naomi was ordained in 2014, and spent the first year of her ministry in Bro Cyfeiliog and Mawddwy, serving the town of Machynlleth and the surrounding villages. She subsequently moved to Aberdaron just over 2 years ago.

Looking forward to her new role, Naomi said, ‘It has been a privilege to live in such a beautiful part of the world and to grow in my ministry as I’ve worked in the communities in Bro Enlli. But curacies inevitably come to an end, and I am delighted to have the opportunity to join Eric and the team in Bro Dwynwen. I am looking forward very much to getting to know that part of Anglesey - another beautiful place! - and to see where God is leading us as we seek to build his kingdom.’

Naomi and Daniel (the youngest of her three children) will be moving to live in Llanfairpwll next summer after Daniel has finished his GCSEs and it is expected that a special service will be held to celebrate the start of her new ministry in Bro Dwynwen.

The Ministry Area Leader of Bro Enlli, the Venerable Andrew Jones, said, ‘Naturally one is sorry to be losing such a capable and conscientious member of our Ministry Team. It has been a privilege for all of us in Bro Enlli to be part of Naomi’s development as a priest. She will do well in Bro Dwynwen, and she will be in our prayers.’

The Bishop of Bangor - the Right Reverend Andy John - said, ’Naomi is one of a number of people whose vocation to ordained ministry, and subsequent formation as a minister, has been nurtured within the Diocese of Bangor. It been my privilege to be part of her journey from the very beginning. She will be an excellent addition to the team in Bro Dwynwen. Her knowledge of Welsh is already very good, and will undoubtedly develop further. I also look forward to seeing how her gift for theological reflection informs the work of the ministry team in Bro Dwynwen over the years to come. Please do pray for Naomi, Daniel and the people of Bro Dwynwen, Aberdaron and Bro Enlli.’