minus bangor1 bangor2 bangor3 bangor4 bangor5 bangor6 bangor7 bangor8 bangor9 bangor10 bangor11 bangor12 bangor13 bangor14 bangor15 bangor16 bangor17 bangor18 bangor19 bangor20 bangor21 bangor22 bangor23 bangor24 bangor25 bangor26 bangor27 bangor28 bangor29 bangor30 bangor31 bangor32 bangor33 bangor34 bangor35 bangor36 bangor37 bangor38 bangor39 bangor40 bangor41 bangor42 bangor43 bangor44 bangor45 bangor46 chevron-down chevron-left chevron-right chevron-up download email facebook instagram plus search twitter vimeo youtube external

Cwrdd â'r naw bydd yn dilyn yn ôl-draed Pedr Sant

Glenys Samson (Darllenydd) a fydd yn gwasanaethu yn Ardal Weinidogaeth Bro Cybi

“Wedi cael fy magu mewn cartrefi gofal i blant, dim ond wedi imi ddod i Ynys Môn 32 o flynyddoedd yn ôl a dechrau magu gwreiddiau go iawn y gwnes i fynychu’r Eglwys yng Nghymru ac ers hynny, dydw ddim wedi troi’n ôl.

Mae fy ffydd wedi tyfu dros y blynyddoedd, ac mi rydw i’n credu’n gryf bod Duw wedi bod gyda mi trwy gydol fy mywyd, er nad oeddwn i’n sylweddoli hynny ar adegau.

Mae Duw wedi fy nhywys trwy gyfnodau gwirioneddol anodd, gan gynnwys canser, dwy glun newydd a phrofedigaeth.

Dwi’n edrych ymlaen yn fawr at fod yn ddarllenydd er mwyn gallu gwasanaethu Duw a’r bobl. Bydd cael dweud wrth eraill am fy ffydd yn llawenydd mawr i mi. Ond y rhan pwysicaf o’m gweinidogaeth fydd gweddi a dod â phopeth dwi’n ei wneud ac yn ei ddweud o flaen Duw a gofyn am Ei gymorth a’i arweiniad yntau."

Ian Hampson (Darllenydd) a fydd yn gwasanaethu yn Ardal Weinidogaeth Bro Moelwyn

Fe ddois i’n Gristion rhywbryd yn ystod f’arddegau, er na alla i roi fy mys ar yr union adeg.

Sylfaen fy ffydd heb os ydy’r Beibl, ond rydw i hefyd yn gweinidogaethu trwy gyfrwng ganu a chanu’r gitâr ac wedi mynychu gwyliau Spring Harvest a Greenbelt yn rheolaidd dros y blynyddoedd.

Er imi fyw yn Swydd Efrog, fe fues i’n treulio cryn amser yn Sir Feirionnydd a dechrau cymryd rhan ym mywyd yr eglwys. Datblygodd yr ymdeimlad o alwad mor gryf nes i mi roi’r gorau i’m swydd llawn-amser a dod draw yma i fyw, lle gefais f’annog i hyfforddi fel Darllenydd.

Rwy’n teimlo’n angerddol dros rannu fy nghariad tuag at Dduw ac i ddysgu Ei Air, a fedra i ddim aros i gael dechrau yn fy Ngweinidogaeth Drwyddedig ym Mro Moelwyn!

Simon Freeman (trosiannol*, diacon cyflogedig) a fydd yn gwasanaethu ei guradaeth yn Ardal Weinidogaeth Bro Gwydyr

“Fe’m ganwyd a’m magwyd yng Ngorllewin Canolbarth Lloegr. Wedi gadael yr ysgol, fe es i Goleg Arlwyo a gweithio am 2 flynedd yn y fasnach gwestai, cyn symud i’r fasnach win, lle bûm yn gweithio am 26 o flynyddoedd cyn gadael am hyfforddiant Ordeinio.

Mae’r eglwys bob amser wedi bod rhan annatod o’m bywyd. Fe fues i’n mynychu’r Ysgol Sul, ac wedi tyfu’n ddigon hen, ymuno â chôr yr eglwys. Pan dorrodd fy llais, fe ddois i’n was a dyna pryd imi brofi fy nghyfarfyddiad cyntaf gyda Duw wrth imi weini un nos Sul, a theimlo’r alwad.

Fe fues i’n gohirio’r alwad arna i am flynyddoedd lawer, ond roedd yn dychwelyd ata i dro ar ôl tro, hyd nes imi fethu â’i anwybyddu bellach a dyna gychwyn fy siwrne tuag at ordinhad.

Dwi’n edrych ymlaen at weithio a gwasanaethu gyda phobl Ardal Weinidogaeth Bro Gwydyr, er fy mod i’n nerfus ynglŷn â maint a phwysigrwydd y swydd sydd o’m blaen.”


*Rhywun sydd wedi profi galwad i fod yn Ddiacon yn unig ydy diacon neilltuol. Diacon trosiannol ydy rhywun sydd wedi profi galwad i'r offeiriadaeth, ac mae ordeinio fel diacon yn rhan o'u taith.

Nick Golding (neilltuol*, diacon digyflog) a fydd yn gwasanaethu ei guradaeth yn Ardal Weinidogaeth Bro Eifionydd

"Wedi fy ngeni a’m magu yng Ngogledd Llundain, ac yna mynychu ysgol eglwys yn Sussex, fel plentyn roeddwn yn Gorydd a Gwas yn Eglwys y Plwyf yn lleol.

Aeth blynyddoedd heibio ond dod i Ogledd Cymru a chlywed pregethu agored a chynhwysol y Rheithor lleol a fu’n gyfrwng imi ailagor drws a fu ynghau am yn hir, ac ailgysylltu â chariad Duw -rhywbeth yr oeddwn wedi’i deimlo, ond neb ei ddeall, fel plentyn.

Yn dilyn cyfnod o sylweddoliad anodd, cafodd fy nghalon rhywsut ei hagor i’r posibiliadau bod Duw’n darparu ar ein cyfer i ddangos a derbyn cariad trwyddo Fo. Gyda chefnogaeth fy nghlerigwyr, Ardal Weinidogaeth a chymuned yr eglwys leol, cychwynnais fy nhaith tuag at ordinhad, yn gyntaf trwy ddechrau hyfforddiant i fod yn Ddarllenydd, ac yna hyfforddiant ar gyfer y Ddiaconiaeth. Mae hi wedi bod yn dair blynedd syfrdanol, gyffrous a rhyfeddol, yn llawn amheuon, ansicrwydd ac ofnau, ond rhywfodd yn cael ei yrru ‘mlaen - fel y bu erioed - gan rywbeth y tu hwnt i’m rheolaeth i: yr Ysbryd Glân.

Tasg Diacon Neilltuol ydy cerdded ochr yn ochr â’r rhai hynny yn eu cymuned, yn enwedig y tu allan i’r eglwys, rhwng un Sul a’r nesaf. Dim ond trwy ddangos cariad y medrwn ninnau dywys eraill at gariad Duw.

Dwi’n teimlo’n arbennig o freintiedig i allu gwasanaethu pobl Bro Eifionydd, sydd bob amser wedi bod mor groesawgar. Fy ngobaith ydy y gallaf innau, gyda chymorth yr Ysbryd Glân, gyflawni fy ngalwad, un person neu un dasg ar y tro, gan hoelio fy sylw arno Fo, yr Un a ddaeth i ddangos inni a’n hachub ni.

Mor lwcus ydw i o fod wedi gwrando ar yr alwad o’r diwedd. Gofynnodd rhywun imi’n ddiweddar pryd y cefais i alwad gan Dduw. Fy ateb i oedd: “Dwi’n meddwl bod pawb yn cael ei alw, mae’n dibynnu pryd rydych chi’n barod i glywed ac ymateb i’r alwad honno, ac mi roeddwn innau’n barod o’r diwedd.”


*Rhywun sydd wedi profi galwad i fod yn Ddiacon yn unig ydy diacon neilltuol. Diacon trosiannol ydy rhywun sydd wedi profi galwad i'r offeiriadaeth, ac mae ordeinio fel diacon yn rhan o'u taith.

Vince Morris (trosiannol*, diacon cyflogedig) a fydd yn gwasanaethu ei guradaeth yn Ardal Weinidogaeth Bro Tysilio

“Yn wreiddiol o Rydychen, cyn symud i Ripon, Scarborough a Norfolk, fe ddois innau i ffydd yn gynnar ac wedi parhau i’w arddel trwy gydol fy mywyd. Gadewais yrfa mewn gwleidyddiaeth yn 2016 i hyfforddi ar gyfer y weinidogaeth ordeiniedig. Yn fy amser sbâr, rydw i’n helpu gyda Sgwadron o Gadetiaid y Llu Awyr yn Llandudno ac yn mwynhau cerdded, chwarae criced (yn wael) a darllen.

Roedd gen i’r teimlad erioed fy mod yn cael fy nhynnu tuag at fywyd yr eglwys, ac mae hi wedi cymryd dros 6 mlynedd i ddod i’r fan hyn, ar fin cael f’ordeinio.

Rydw i’n edrych ymlaen yn fawr at rannu gair yr Efengyl a helpu pobl i ddod i ffydd yn Ardal Weinidogaeth Bro Tysilio. Wedi mwynhau fy hyfforddiant a bellach yn edrych ymlaen at weithredu hynny’n ymarferol ochr yn ochr â’m ffydd. Mae llawer o waith i’w wneud i helpu gwireddu Teyrnas Dduw a helpu’r Eglwys yng Nghymru i dyfu; fy ngobaith i ydy y byddaf yn deilwng o’m galwad.


*Rhywun sydd wedi profi galwad i fod yn Ddiacon yn unig ydy diacon neilltuol. Diacon trosiannol ydy rhywun sydd wedi profi galwad i'r offeiriadaeth, ac mae ordeinio fel diacon yn rhan o'u taith.

Parch Llewellyn Moules-Jones (offeiriad cyflogedig) a fydd yn parhau i wasanaethu ei guradaeth yn Ardal Weinidogaeth Bro Deiniol

“Prin ydy’r bobl fase’n dadlau nad ydy rôl Diacon yn un neilltuol, ac mae’r cyfle i ddatblygu’r rôl yma yn Ardal Weinidogaeth Bro Deiniol wedi bod yn un werthfawr imi. Mae fy mlwyddyn fel diacon wedi cynnwys amrywiaeth o brofiadau a gwasanaethau, gyda phob un ohonyn nhw’n rhoi boddhad imi, ond yn heriol hefyd ar sawl lefel. Fodd bynnag, mi rydw i’n credu bod pob un wedi cyfrannu at roi llwyfan gwych a Sylfaen gadarn ar gyfer y Weinidogaeth. Bellach, wrth imi gamu ‘mlaen i ateb galwad Duw at yr Offeiriadaeth, rydw i’n gwneud hynny gydag ymdeimlad o ostyngeiddrwydd, diolch a pharchedig ofn, ac yn y sicrwydd y bydd Duw yn parhau i’m harwain wrth imi weinidogaethu yn Ei enw.”

Parch Lesley Rendle (offeiriad digyflog) a fydd yn parhau i wasanaethu ei churadiaeth yn Ardal Weinidogaeth Bro Tysilio

“Cefais fwynhad mawr yn fy mlwyddyn fel Diacon. Mae hi wedi bod yn fraint aruthrol i wasanaethu ochr yn ochr â chydweithwyr yn Ardal Weinidogaeth Bro Tysilio. Yn fwyaf arbennig, fe wnes i fwynhau helpu’r eglwys i ddirnad lle mae Duw yn gweithio yn y gymuned er mwyn archwilio ffyrdd y gallwn ymuno yn y weinidogaeth.

O fod yn ddigyflog, rydw i’n treulio cryn amser oddi allan i’r eglwys, yn y gymuned ehangach, ac wedi canfod bod gwisgo coler glerigol yn y cyd-destun hwn wedi bod yn gyfrwng i agor cyfleoedd newydd i sgwrsio am eglwys, y ffydd a gwneud disgyblion.

Edrychaf ymlaen at ddatblygu’n bellach fy rôl yn y weinidogaeth fel Offeiriad ac yn gyffrous o feddwl lle bydd Duw’n f’arwain nesaf, o fewn yr eglwys yn ogystal â’r gymuned ehangach.”

Parch Sara Roberts (offeiriad cyflogedig) a fydd yn symud o Fro Enlli i barhau ei churadaeth yn Ardal Weinidogaeth Bro Madryn

“Fe wnes i fwynhau f’amser ym Mro Enlli yn aruthrol ac yn ei chyfrif hi’n fraint cael bod yn rhan o’r gymuned yno. Fe gefais i’r cyfle i ddysgu, i werthfawrogi’r ymrwymiad i addoli a gweinidogaethu a brofais gan glerigwyr a lleygwyr Bro Enlli. Bellach, dyma fi’n paratoi i fod yn rhan o gymuned newydd ac yn edrych ymlaen at weld i le mae Duw am f’arwain nesaf yn fy ffurfiant a’m twf fel offeiriad.”

Parch Allan Wilcox (offeiriad digyflog) a fydd yn parhau i wasanaethu ei guradaeth yn Ardal Weinidogaeth Bro Eryri

“Fe’m ganwyd yn Llundain, fy magu yn Essex ac astudio Saesneg ym Mhrifysgol Birmingham. Fe fues i’n dysgu Saesneg, yn ogystal â cherddoriaeth, drama a theory gwybodaeth yn Birmingham, Swydd Caint, St. Helens, Lerpwl a Groningen (Yr Iseldiroedd) am ymron i bymtheng mlynedd ar hugain, cyn ymddeol yn 2006 a dod i fyw yng Ngogledd Cymru.

Roeddwn i’n amau ers talwm bod galwad i’r weinidogaeth ordeiniedig, felly o’r diwedd dyma gofrestru ar gwrs MA Astudiaethau Crefyddol ym Mhrifysgol Bangor. Ar yr un adeg, fe ailgydiais yn fy nghysylltiadau â’r frawdoliaeth jas Brydeinig, a bellach rydw i’n chwarae’r bas dwbl gyda Mart Rodger’s Manchester Jazz.

Mae’r ffordd at Ordeiniad, yn gyntaf fel Diacon a rŵan fel Offeiriad, wedi bod yn un hir, a bu ambell dramgwydd ar hyd y daith; felly mae’r ymdeimlad anesmwyth cwbl ddealladwy o fod yn ymgymryd â chyfrifoldebau mor ddyrys ar yr un llaw hefyd yn dod gyda rhyddhad dwys a chyffro cynyddol.

Fe fydd hi’n fraint i wasanaethu Duw a phobl Ardal Weinidogaeth Bro Eryri.”

Cymraeg

Meet the nine who will follow in St. Peter's footsteps

Glenys Samson (Reader) who will serve in the Bro Cybi Ministry Area

“Having been brought up in children’s homes, it was only when I came to Anglesey 32 years ago and truly settled down that I began to attend the Church in Wales and I have never looked back.

My faith has grown over the years, and I strongly believe that God has been with me all through my life although at times I did not realise it.

God has bought me through some serious times including cancers, hip replacements and bereavement.

I am really looking forward to becoming a reader to being able to serve God and the people. Telling others about my faith will be a great joy. But the most important part of my ministry will be prayer and bringing all that I do and say before God asking for His help and guidance.

Ian Hampson (Reader) who will serve in the Bro Moelwyn Ministry Area

I became a Christian at some point in my mid to late teens, although I cannot define a particular point.

The basis for my faith is very much the Bible, but I also minister though my singing and guitar playing and have been a regular attender at the Spring Harvest and Greenbelt festivals over many years.

Though living in Yorkshire, I found myself spending time in Meirionnydd and began to get involved in church life. The sense of calling became so strong that I gave up a full-time job and came to live here and was encouraged to start training as a Reader.

I have a real passion to share my love of God and to teach his word, and cannot wait to be launched into the world of Licensed Ministry in Bro Moelwyn!

Simon Freeman (transitional*, stipendiary deacon) will serve his curacy in the Bro Gwydyr Ministry Area

“I was born and raised in the West Midlands. When I left school I went to Catering College and worked for 2 years in the hotel trade, before moving into the wine trade. I worked in the wine trade for 26 years before leaving to go into Ordination training.

Church has always been an integral part of my life. I went to Sunday School, then when I was old enough, joined the church choir. When my voice broke, I became a server and it was whilst I was serving one Sunday evening, I first had an encounter with God and sensed a call.

I put off my calling for many years, even though it kept returning again and again. Finally, I couldn’t resist it any longer and my journey to ordination began.

I am looking forward to working with and serving the people of the Bro Gwydyr Ministry Area, though I am nervous about the size and gravity of what I am about to undertake.”


*A distinctive deacon is someone whose calling is to the diaconate alone. A transitional deacon is someone whose calling is to the priesthood, and ordination as a deacon is part of their journey.

Nick Golding (distinctive*, non-stipendiary deacon) will serve his curacy in the Bro Eifionydd Ministry Area

"Born and baptised in North London, and then attending a church school in Sussex, as a child I was both a Chorister and Server in our Parish Church.

Many years passed and it took coming to live in north Wales, and hearing the open and inclusive preaching of the local Rector that helped me to re-open a door that had been closed for a long time, and re-engage with the love of God, which I had felt - but not understood - as a child.

Following a time of difficult realisation, my heart was somehow opened to the possibilities that God provides for us to show and receive love through Him. With the support of my clergy, Ministry Area and local church community, I began my journey towards ordination, firstly by beginning Reader training and subsequently, training for the Diaconate. It has been an astonishing, thrilling and surprising three years, full of doubts, uncertainties and fear. but somehow driven on - as it always had been - by something beyond my control: the Holy Spirit.

The task of a Distinctive Deacon is to walk alongside those in their community, particularly outside of church, between one Sunday and the next. It is only by showing love that we can bring others to the love of God.

I feel particularly honoured to be able to serve the people of Bro Eifionydd who have always been so welcoming. I hope that with the help of the Holy Spirit I will be able to fulfil my calling, one person or one task at a time, and keep my mind on him who came to show us and to save us.

I feel so lucky to have finally listened to the call. Someone recently asked me when I was called by God; I replied, “I think we are all called, all the time, it just depends when you are ready to hear and respond to that call, and I was finally ready.”


*A distinctive deacon is someone whose calling is to the diaconate alone. A transitional deacon is someone whose calling is to the priesthood, and ordination as a deacon is part of their journey.

Vince Morris (transitional*, stipendiary deacon) will serve his curacy in the Bro Tysilio Ministry Area

“Originally from Oxford, before moving to Ripon Scarborough and Norfolk, I came to faith early and has carry this on throughout my life. I left a career in politics in 2016 to train for ordained ministry. In my spare time I help with a Royal Air Force Cadet Squadron in Llandudno and enjoy walking, playing cricket (badly) and reading.

I have always felt that I was being drawn towards the life of the church, and it has taken over 6 years to get to the verge of ordination.

I am very much looking forward to spreading the word of the Gospel and helping people to come to faith in the Bro Tysilio ministry Area. I have enjoyed my training and I am looking forward to putting it into practise alongside my faith. There is a lot of work to be done to help bring about God’s Kingdom and to help the Church of Wales grow, I hope that I maybe worthy of my calling.


*A distinctive deacon is someone whose calling is to the diaconate alone. A transitional deacon is someone whose calling is to the priesthood, and ordination as a deacon is part of their journey.

Rev Llewellyn Moules-Jones (stipendiary priest) will continue to serve his curacy in the Bro Deiniol Ministry Area

“Few would argue that a Deacon's role is a distinctive one, and the opportunity to develop in this role at the Bro Deiniol Ministry Area has been an extremely valuable for me. My year as a deacon has involved an array of both experiences and services, all of which I have found rewarding, but also on many levels challenging. However, all I believe have served as a wonderful platform and sound foundation for Ministry, and as I now journey forward to answer God's call to Priesthood. I do so with a sense of humility, thanks and awe, and in the knowledge that God will continue to guide me as I minister in his name.”

Rev Lesley Rendle (non-stipendiary priest) will continue to serve her curacy in the Bro Tysilio Ministry Area

“I have hugely enjoyed my year as a Deacon. It has been a huge privilege to serve alongside colleagues in the Bro Tysilio Ministry Area. I have particularly enjoyed helping the church to discern where God is working in the community in order to explore ways we might join in in ministry.

Being non-stipendiary, I spend much of my time outside of the church and in the wider community and I have found that wearing a clerical collar in this context has really opened up new opportunities for conversations about church, faith and discipleship.

I am now looking forward to further developing my role in ministry as a Priest and am excited to see where God leads me next both within the church and the wider community.”

Rev Sara Roberts (stipendiary priest) will move from Bro Enlli to continue her curacy in the Bro Madryn Ministry Area

“I have enjoyed my time in Bro Enlli immensely and have been privileged to be part of the community there. I have had opportunity to learn, to value the commitment to worship and ministry that I have witnessed from the clergy and lay-people of Bro Enlli. I am now preparing to become part of a new community and look forward to seeing where God leads me next in my formation and growth as a priest.”

Rev Allan Wilcox (non-stipendiary priest) will continue to serve his curacy in the Bro Eryri Ministry Area

“I was born in London, grew up in Essex and studied English at Birmingham University. I taught English as well as music, drama and the theory of knowledge in Birmingham, Kent, St Helens, Liverpool and Groningen (Netherlands) for almost thirty-five years before retiring in 2006 and coming to live in North Wales.

A long-suspected calling to ordained ministry led me to enrol on the Bangor University MA in Religious Studies. I also re-established connections with the British jazz fraternity and now play double bass with Mart Rodger’s Manchester Jazz.

My road to Ordination, first as Deacon and now as Priest, has been a long one, and there have been hiccups on the way; so the inevitable trepidation that comes with taking on such profound responsibilities is tempered with a sense of equally profound relief and growing excitement.

It will be a privilege to continue to serve God and the people of the Bro Eryri Ministry Area.”