minus bangor1 bangor2 bangor3 bangor4 bangor5 bangor6 bangor7 bangor8 bangor9 bangor10 bangor11 bangor12 bangor13 bangor14 bangor15 bangor16 bangor17 bangor18 bangor19 bangor20 bangor21 bangor22 bangor23 bangor24 bangor25 bangor26 bangor27 bangor28 bangor29 bangor30 bangor31 bangor32 bangor33 bangor34 bangor35 bangor36 bangor37 bangor38 bangor39 bangor40 bangor41 bangor42 bangor43 bangor44 bangor45 bangor46 chevron-down chevron-left chevron-right chevron-up download email facebook instagram plus search twitter vimeo youtube external

Goleuadau, sain a brecwast yng Ngŵyl Coda diolch i Esgobaeth Bangor!

Mae Esgobaeth Bangor yn falch o gyhoeddi partneriaeth â Gŵyl Coda eleni, bydd yn galluogi'r ŵyl i gynnig lletygarwch hael, fel brecwast bob bore, a phrofiad proffesiynol ar ran sain a goleuadau yn y prif leoliadau.

Cynhelir Gŵyl Coda yn yr Esgobaeth yn Fferm Ngharafanau a Gwersylla Dol Llys (gwelir y leoliad yma) yn Llanidloes o ddydd Gwener 27 Gorffennaf hyd ddydd Sul 29 Gorffennaf.

Thema'r ŵyl gyntaf Gŵyl Coda yw ‘Cywain Gobaith’ ac mae'n anelu at fod yn ddigwyddiad amrywiol, cynhwysol, croesawgar a hael.

Dechreuodd syniad a chynllun cyffrous Gŵyl Coda yn 2015. Mae'r tîm cynllunio wedi bod yn hyblyg ac yn agored, ac mae'n cynnwys cyfieithwyr, dylunwyr gwe, trefnwyr, cynghorwyr ac eraill o amrywiaeth o gefndiroedd ac enwadau Cristnogol. Cafodd Gŵyl Coda ei ysbrydoli'n rhannol gan fynychu, cyfranogi a mwynhau’r ŵyl Gristnogol flynyddol ‘Greenbelt’.

Bydd Gŵyl Coda yn cynnwys cerddoriaeth a siaradwyr Cymraeg a rhyngwladol, megis

  • Canon Manon James (diwinyddes ac awdures)
  • Geraint Rhys (cerddor)
  • Awel Irene a Jane Harries (Cymdeithas y Cymod)
  • Anna-Jane Evans (Cymorth Cristnogol)
  • Gethin Evans, (Cytûn)
  • Cass Meurig, a fydd yn lansio ei halbwm newydd.

Un o'r prif gyfranwyr rhyngwladol fydd Wisam Salsaa, sy'n rhedeg gwesty Banksy Walled Off yn Methlehem, a fydd yn siarad ar ddefnyddio’r celfyddydau i herio anghyfiawnder.

Bydd mynychwyr yr ŵyl hefyd yn gallu mwynhau nifer o weithdai gweddi, celf a sgiliau syrcas, ymhlith eraill.

Dywedodd y Parchedig Stuart Elliot, un o dîm trefnu'r ŵyl

"Rydym wrth ein bodd bod Esgobaeth Bangor wedi dewis gweithio mewn partneriaeth â Gŵyl Coda eleni. Rydym yn falch iawn o allu rhoi profiad hyd yn oed yn well i'r rhai sy'n ymuno â ni ac rydym yn edrych ymlaen at gael Esgob Andy John ochr yn ochr â'n rhestr wych o gyfranwyr dros y penwythnos."

Gan edrych ymlaen at yr ŵyl, meddai Esgob Bangor - y Gwir Barchedig Andy John

"Mae'n wych bod y weledigaeth ar gyfer Gŵyl Coda wedi cael ei meithrin ac erbyn hyn mae'n barod i dwyn ffrwyth. Mae'n bwysig i Gymru gael gŵyl sy'n rhoi cyfle i rai o'n prif gerddorion, meddylwyr, siaradwyr a gweithredwyr Cristnogol ddod at ei gilydd i ddathlu, dysgu, gweddïo a mwynhau. Mae'n ddigwyddiad cyffrous iawn; digwyddiad ein bod ni’n falch o gefnogi a chroesawu yn Esgobaeth Bangor."


Gwybodaeth Llawn am yr Ŵyl

Tocynnau

Gwefan

Tudalen Facebook

Rhestr Ebost

Trydar

Instagram

Cymraeg

Lights, sound and breakfast at Gŵyl Coda Festival from the Diocese of Bangor!

The Diocese of Bangor is pleased to announce that it will be in partnership with Gŵyl Coda Festival this year enabling the festival to offer generous hospitality, a shared breakfast on each morning and a professional experience in terms of sound and lighting at the main venues.

The Gŵyl Coda Festival is being held in the Diocese at Dol Llys Farm Caravan and Camping (location can be seen here), in Llanidloes from Friday 27 July to Sunday 29 July.

The theme of this first Gŵyl Coda Festival is ‘Gathering Hope’ and it aims to be a diverse, inclusive, welcoming and generous event.

The exciting idea and planning of the Gŵyl Coda Festival began 2015. The planning team has been flexible and open, and includes translators, web designers, organisers, advisors and others from a variety of backgrounds and Christian denominations. Gŵyl Coda Festival was also partly inspired by attendance at, participation in and appreciation of the annual Greenbelt Christian Festival.

Gŵyl Coda Festival will feature both Welsh and international music and speakers, such as

  • Canon Manon James (theologian and author)
  • Geraint Rhys (musician)
  • Awel Irene & Jane Harries (Cymdeithas y Cymod)
  • Anna-Jane Evans (Cymorth Cristnogol)
  • Gethin Evans, (Cytun)
  • Cass Meurig, who will be launching her new album.

One of the principle international contributors will be Wisam Salsaa, who runs Banksy’s Walled Off Hotel in Bethlehem, who will be speaking on using arts to challenge injustice.

Festival goers will also be able to enjoy a number of prayer, art and circus skills workshops, amongst others.

The Rev’d Stuart Elliott, one of the festival’s organising team said,

“We’re delighted that the Diocese of Bangor has chosen to work in partnership with Gŵyl Coda Festival this year. We’re really pleased to be able to provide an even better experience to those joining us and are looking forward to having Bishop Andy John alongside our great list of contributors for the weekend.”

Looking forward to the festival, the Bishop of Bangor - the Right Reverend Andy John - said,

“It is excellent that the vision for this Gŵyl Coda Festival has been nurtured and is now ready to bear fruit. It is important for Wales to have a festival which gives some of our main Christian musicians, thinkers, speakers and activists an opportunity to come together to celebrate, learn, pray and enjoy. It is a really exciting event, that we are proud to support and welcome to the Diocese of Bangor.”


Full Festival Info

Tickets

Website

Facebook page

Email list

Twitter

Instagram