minus bangor1 bangor2 bangor3 bangor4 bangor5 bangor6 bangor7 bangor8 bangor9 bangor10 bangor11 bangor12 bangor13 bangor14 bangor15 bangor16 bangor17 bangor18 bangor19 bangor20 bangor21 bangor22 bangor23 bangor24 bangor25 bangor26 bangor27 bangor28 bangor29 bangor30 bangor31 bangor32 bangor33 bangor34 bangor35 bangor36 bangor37 bangor38 bangor39 bangor40 bangor41 bangor42 bangor43 bangor44 bangor45 bangor46 chevron-down chevron-left chevron-right chevron-up download email facebook instagram plus search twitter vimeo youtube external

Datgelir logo ar gyfer ysgol newydd yr Eglwys

Mae ysgol gynradd eglwys newydd ar Ynys Môn wedi datgelu ei logo. Mae Ysgol Santes Dwynwen yn cael ei hadeiladu yn Niwbwrch a bydd yn agor yn 2019. Bydd yn gwasanaethu pobl ifanc yng nghymunedau Bodorgan, Llangaffo, Dwyran a Niwbwrch, sydd yn Ardaloedd Gweinidogaeth Esgobaeth Bangor Bro Dwynwen a Bro Cadwaladr.

Gofynnwyd i'r holl ddisgyblion, sydd mewn pedair ysgol ar hyn o bryd - Bodorgan, Llangaffo, Dwyran a Niwbwrch - paratoi cynllun o’r hyn yr hoffent ei weld fel logo ar gyfer eu hysgol newydd.

Gosodwyd y dasg hon fel gwaith cartref, a chafodd ei orffen yn y dosbarth. Rhoddwyd y delweddau gorffenedig gerbron y corff llywodraethol cysgodol, a dewiswyd pump i fynd ymlaen.

Wedyn cyfrannodd Ardaloedd Gweinidogaeth Bro Dwynwen a Bro Cadwaladr y gost i ddylunydd graffig creu logo yn seiliedig ar waith un plentyn.

Yn y pen draw dewiswyd dyluniad Caitlin Roberts, sy'n 8 mlwydd oed ac yn mynychu ysgol yn Niwbwrch a bydd yn un o ddisgyblion newydd Ysgol Santes Dwynwen yn 2019. Fel gwobr, cafodd hi gopi wedi'i fframio o'i gwaith ochr wrth ochr â’r i'r dyluniad terfynol.

Cafodd Ysgol Santes Dwynwen ei enwi ar ôl sant benywaidd lleol, Dwynwen, a oedd yn byw ar ynys ger Niwbwrch, o'r enw Ynys Llanddwyn. Dwynwen yw nawddsant cariad yng Nghymru (yn debyg i S. Ffolant mewn gwledydd eraill). Mae'r logo yn dangos y Groes ar lwy garu Gymreig traddodiadol, sydd fel arfer wedi'i gerfio o un darn o bren ac fe'i rhoddir rhwng pobl fel arwydd o gariad a chyfeillgarwch yng Nghymru.


Mae'r lluniau'n dangos Caitlin yn derbyn copi o'r logo newydd, ochr yn ochr â'i chynlluniau gwreiddiol. Mae hi hefyd yn y llun gyda Mrs Manon Williams (Pennaeth Ysgol Santes Dwynwen) a'r Canon Emlyn Williams (Cadeirydd y Llywodraethwyr Cysgodol).

Cymraeg

Logo for new Church school is unveiled

A new church primary school on Anglesey has unveiled its logo. Ysgol Santes Dwynwen is under construction in Newborough and due to be open in 2019. It will serve young people in the communites of Bodorgan, Llangaffo, Dwyran and Newborough, which are in the Diocese of Bangor’s Ministry Areas of Bro Dwynwen and Bro Cadwaladr.

All the pupils, who are presently in four schools - Bodorgan, Llangaffo, Dwyran and Newborough - were asked to draw what they would like to see as the logo for their new school.

This task was set as homework, and finished off in the classroom. The finished images were placed before the shadow governors, and five were chosen to go forward.

The Bro Dwynwen and Bro Cadwaladr Ministry Areas then covered the costs for a graphic designer to create a logo based on the one child’s work.

The design chosen was by Caitlin Roberts, who is 8 years old and attends school in Newborough and will be one of Ysgol Santes Dwynwen’s new pupils in 2019. As a prize, she was presented with a framed copy of her work alogside the final design.

Ysgol Santes Dwynwen has been named after a local female saint, Dwynwen, who lived on a island near Newborough, called Ynys Llanddwyn. Dwynwen is the patron saint of love in Wales (similar to St. Valentine in other countries). The logo shows the Cross on a traditional Welsh lovespoon, which is usually carved from a single piece of wood and is given between people as a token of love and friendship in Wales.


The photos show Caitlin receiving a copy of the new logo, side by side with her original designs. She is also pictured with Mrs Manon Williams (Headteacher of Ysgol Santes Dwynwen) and Canon Emlyn Williams (Chair of the Shadow Governors).