minus bangor1 bangor2 bangor3 bangor4 bangor5 bangor6 bangor7 bangor8 bangor9 bangor10 bangor11 bangor12 bangor13 bangor14 bangor15 bangor16 bangor17 bangor18 bangor19 bangor20 bangor21 bangor22 bangor23 bangor24 bangor25 bangor26 bangor27 bangor28 bangor29 bangor30 bangor31 bangor32 bangor33 bangor34 bangor35 bangor36 bangor37 bangor38 bangor39 bangor40 bangor41 bangor42 bangor43 bangor44 bangor45 bangor46 chevron-down chevron-left chevron-right chevron-up download email facebook instagram plus search twitter vimeo youtube

Llythyr Esgobol newydd Esgob Andy

Annwyl gyfeillion

Cyfarchion yn enw Duw’r Tad ac Iesu Grist. Ar ddechrau’r flwyddyn hon, gadewch imi ddymuno llawenydd a thangnefedd yn yr Ysbryd Glân.

Ym mis Medi 2018, gofynnwyd i aelodau Corff Llywodraethol yr Eglwys yng Nghymru gytuno ai peidio gyda’r datganiad canlynol a luniwyd gan esgobion yr Eglwys yng Nghymru:

Mae’n fugeiliol anghynaliadwy i’r Eglwys barhau i beidio â gwneud unrhyw ddarpariaeth ffurfiol ar gyfer y rhai sydd mewn perthynas o’r un rhywedd.

Canlyniadau’r bleidlais oedd bod 76 aelod yn cytuno, 21 aelod yn anghytuno a difethwyd 1 bleidlais.

Ni chymerodd Fainc yr Esgobion ran yn y bleidlais, fodd bynnag, fe gafwyd addewid ganddyn nhw y rhoddid ystyriaeth i’r canlyniad yn eu trafodaethau yn y dyfodol.

Mae’n werth dwyn i gof nad dyma’r tro cyntaf i’r Corff Llywodraethol ystyried pwnc cydberthynas un-rhywedd. Yn 2014-15, gwahoddwyd y dalaith gyfan i ymgynghori ar newidiadau i’r gyfraith ar briodas yng Nghymru a Lloegr ac i roi eu barn ar sut y dylai’r Eglwys yng Nghymru ymateb. Mewn cyfarfod o’r Corff Llywodraethol ym mis Medi 2015, gwahoddwyd aelodau i fynegi eu sylwadau ar y tri opsiwn canlynol, gan ddefnyddio ffurflen anhysbys i helpu goleuo unrhyw ystyriaethau yn y dyfodol ynglŷn â sut y gall yr Eglwys ymateb i’r newidiadau hyn:

Opsiwn 1:

Dim newid i ddysgeidiaeth ac arfer presennol yr Eglwys ar briodas a phartneriaethau;

Opsiwn 2:

I ganiatáu bendithio uniadau o’r un rhyw yn yr Eglwys yng Nghymru:

Opsiwn 3:

I alluogi cyplau o’r un rhyw i briodi yn yr Eglwys yng Nghymru.

Dyma ganlyniadau o fynegiant barn yr aelodau:

Dewisiadau cyntaf

Opsiwn 1

Esgobion 1

Clerigwyr 21

Llygwyr 28

Opsiwn 2

Esgobion 2

Clerigwyr 1

Lleygwyr 6

Opsiwn 3

Esgobion 3

Clerigwyr 26

Lleygwyr 32

Dim dewis

Esgobion 0

Clerigwyr 0

Llwygwyr 0

Ail ddewisiadau

Opsiwn 1

Esgobion 0

Clerigwyr 1

Lleygwyr 1

Opsiwn 2

Esgobion 3

Clerigwyr 7

Lleygwyr 11

Opsiwn 3

Esgobion 1

Clerigwyr 2

Lleygwyr 2

Dim dewis

Esgobion 2

Clerigwyr 38

Lleygwyr 52

Dangosodd yr ymarferiad hwn nad oedd yr Eglwys yng Nghymru yn unfryd eu barn ar y mater, heblaw bod llai yn cefnogi’r syniad o fendithio uniadau o’r un rhyw.

Mae testun uniadau o’r un rhyw yn parhau i fod yn fater dadleuol ac anodd iawn i’r Eglwys Gristnogol. Mae’n sefyll fel y pwnc unigol anoddaf o ran ceisio undod a chynnal trafodaeth gan ddangos parch. Mae rhai Anglicaniaid ffyddlon ledled y byd yn cyduno o amgylch y ddysgeidiaeth draddodiadol Gristnogol ar y pwnc, gan ymwrthod ag unrhyw fath o adolygiad o’r safbwynt. Eto i gyd, mae’n werth nodi bod taleithiau eraill, ac oddi fewn i’r DU, megis Eglwys Esgobol Yr Alban, wedi dechrau gofyn cwestiynau tebyg i’r rhai hynny sy’n cael eu gofyn o fewn i’r Eglwys yng Nghymru. Yn fyr, dydy’r Eglwys yng Nghymru ddim yn gweithredu ar ei phen ei hun trwy holi’r cwestiynau hyn. Mae’n rhaid inni hefyd gydnabod cyd-destun ehangach hefyd, sef bod pobl LGBTI+ wedi’u herlid am flynyddoedd lawer (a hyd yn oed heddiw) a bod agweddau a rhagdybiaethau’r Eglwys ein dyddiau ni, i lawer o Gristnogion LGBTI+, yn creu amgylchedd gelyniaethus i geisio goroesi ynddo, heb sôn am geisio byw, cyfranogi a ffynnu ynddo.

Yn y llythyr Esgobol hwn, fe hoffwn ddilyn trywydd y mater hwn, gan gyflwyno hefyd fy meddyliau fy hun, gan gynnwys y ffordd y gobeithiaf y gall yr Eglwys yng Nghymru symud ymlaen yn y drafodaeth, tra’n parhau i gynnal undod a chryfhau ein tystiolaeth dros Grist. Fe fyddaf yn amlinellu’r safbwyntiau Beiblaidd a hanesyddol perthnasol, safbwynt presennol yr Eglwys yng Nghymru a meysydd posib ar gyfer datblygiad ac ystyriaeth bellach.

Mae’r rhagymadrodd i Wasanaeth Priodasol 2010 yn amlinellu dysgeidiaeth yr Eglwys yng Nghymru ar briodas yn y termau canlynol:

Rhodd oddi wrth Dduw yw priodas. Trwyddi gall gŵr a gwraig gyd-dyfu yn eu hadnabyddiaeth o Dduw, eu cariad ato a’u gwasanaeth iddo. Fe’i rhoddir fel y gallant, a hwythau’n un â’i gilydd o galon a meddwl a chorff, gynyddu mewn cariad ac ymddiriedaeth. Y mae Duw yn uno gŵr a gwraig mewn uniad am oes sy’n sylfaen i fywyd teuluol, lle (y genir ac y megir plant ac) y gall pob aelod o’r teulu, mewn amseroedd da ac amseroedd drwg, gael cysur, cwmnïaeth a nerth a thyfu i aeddfedrwydd mewn cariad. Y mae priodas yn cyfoethogi’r gymdeithas ac yn cryfhau’r gymuned.

Mae natur a’n dealltwriaeth ninnau o briodas wedi datblygu’n fawr dros y canrifoedd, er bod iddi rhai elfennau yn gyffredin dros amser. Er enghraifft, mae pobl yn briod yng ngwir ystyr y gair hyd yn oed os nad oes plant. Fodd bynnag, un o’r elfennau parhaus ydy bod priodas yn unigryw rhwng gwryw a benyw. Mae’r dystiolaeth i hyn fel y sylfaen cywir ac Ysgrythurol dros ffyniant dynoliaeth i’w chael ym mhenodau cynnar Genesis. Yma, darllenwn i Dduw greu Adda ac Efa a ffrwyth eu huniad oedd Cain ac Abel. Mae’r awdur yn darparu’r rheswm dros briodas mewn termau syml (Genesis 2:23-24):

A dyma’r dyn yn dweud, “O’r diwedd! Un sydd yr un fath â fi! Asgwrn o’m hesgyrn, a chnawd o’m cnawd. ‘Dynes’ fydd yr enw arni, am ei bod wedi’i chymryd allan o ddyn.” Dyna pam mae dyn yn gadael ei dad a’i fam ac yn cael ei uno â’i wraig. Byddan nhw’n dod yn uned deuluol newydd.

Trwy gydol yr Hen Destament, fe hen sefydlwyd mai cyfamod priodas ydy uniad rhwng gwryw a benyw ydy hi. Roedd y cod Lefiticaidd yn gwahardd yn glir i ddyn orwedd gyda dyn a thybir yn aml fod hanes drwg-enwog Sodom a Gomorra yn dangos digofaint a gwrthwynebiad Duw i weithredoedd cyfunrywiol (Genesis 19:1f), hyd yn oed os ydy’r stori’n aml- haenog a braidd yn niwlog ar brydiau.

Yn y Testament Newydd, mae’r disgwyliad a’r argyhoeddiad hwn yn cael ei amlygu’n gryf yn yr Efengylau a’r Epistolau fel ei gilydd. Er nad ydy Iesu’n mynd i’r afael gyda mater uniadau o’r un rhyw yn benodol, y mae’n gwrthod arferion rhywiol sy’n gwyro oddi wrth ewyllys Duw fel y’i datguddir yn yr Ysgrythurau Hebraeg. Y gair mae’n ei ddefnyddio ydy ‘porneia’, sy’n rhoi inni’r gair ‘pornograffi’, ond bwriadwyd i ddefnydd y gair fod mewn cyd-destun llawer ehangach na’r hun a ddeellir o’r gair hwnnw heddiw (Math. 5:32; 15:19). Mae hi’n debygol iawn ei fod yn cwmpasu pob gwyriad oddi wrth arferion rhywiol confensiynol.

Ceir sawl darn allweddol yn yr Epistolau sy’n tueddu i gefnogi’r safbwynt hwn. Yn Rhufeiniaid 1: 26-27, mae’r Apostol Paul yn archwilio cymeriad digofaint a sancteiddrwydd duwiol, gan sgwennu’r geiriau hyn:

Ydy, mae Duw wedi gadael i bobl ddilyn eu chwantau gwarthus. Merched yn dewis gwneud beth sy’n annaturiol yn lle cael perthynas rywiol gyda dyn; a dynion hefyd, yn dewis troi cefn ar y berthynas naturiol gyda merch ac yn llosgi o chwant rhywiol am ei gilydd! Maen nhw’n gwneud pethau cwbl anweddus, ac yn wynebu’r gosb maen nhw’n ei haeddu. 

Mae’n ymddangos ei fod yn cynnwys pob math o fynegiant o garu homoerotig a gwelir y darn yma’n aml fel un sy’n datgan yn ddiamwys ar y pwnc, mewn cytgord llwyr â’r Hen Destament a dysgeidiaeth Iesu. Mewn llythyr arall, mae’r Apostol Paul yn ystyried y rhai hynny sy’n eithrio’u hunain o Deyrnas Dduw:

Peidiwch twyllo’ch hunain: Fydd dim lle yn ei deyrnas i bobl sy’n anfoesol yn rhywiol, yn addoli eilun-dduwiau, neu’n godinebu, i buteinwyr gwrywgydiol, gwrywgydwyr gweithredol, lladron, pobl hunanol, meddwon, nag i neb sy’n enllibio pobl eraill ac yn eu twyllo nhw. (1 Cor. 6:9b-10)

Mae’r Cristnogion hynny sy’n annog yr Eglwys i gadw at ddysgeidiaeth draddodiadol yn credu bod y testunau hyn, gyda’i gilydd, yn darparu gwaharddiad eang a chynhwysfawr. Maen nhw’n gywir wrth nodi, pan fo’r Beibl yn delio â’r mater hwn, ei fod bob amser mewn termau negyddol a’i bod yn cael ei gyfleu’n gryno yn y dywediad cyfarwydd: ‘Ni all yr Eglwys fendithio’r hyn nad ydy Duw’n ei wneud’.

I lawer o Gristnogion, fodd bynnag, mae’r mater yn llai eglur. Bydd y rhai hynny sy’n profi atyniad neu ogwydd at yr un rhyw yn disgrifio sut, mewn perthynas o ymrwymiad a chariad, eu bod yn canfod, nid yn unig cariad, ond gras a heddwch yn datblygu yn y bywyd ar y cyd â’u partner. Maen nhw’n profi’r union ffrwyth yr Ysbryd ag a nodwyd gan yr Apostol Paul fel arwydd o bresenoldeb a bendith Duw (Gal 5:22-23). Gosododd Iesu ei hun rhyw fath o brawf mynegol pendant: y ‘ffrwythlondeb’ hynny sy’n datgelu dilysrwydd (neu beidio) unrhyw fath o hawlio cymundeb gyda Duw a gras (Math 5:16-17). Os mai ffrwyth perthynas ydy twf cymeriad duwiol, ym mha ystyr y dylid ystyried perthynas o’r fath ‘yn erbyn ewyllys Duw’?

Mewn pennod ddramatig yn Llyfr yr Actau (pennod 10), mae’r Apostol Pedr yn clywed llais Duw’n chwalu’r hen god Lefiticaidd gyda’i gyfyngiadau ar fwyd - yr hyn sy’n lân ac aflan. Roedd mynd i’r afael â gorchmynion o’r fath, a’u dileu, yn nodi newid radical ym mywyd yr Eglwys. Mae hyn yn llawer mwy dramatig nag y sylweddolwn, gan nad ydyn ni bellach yn rhannu’r un fath o ddealltwriaeth lle’r ystyrir gwaed, bwyd a chefndir yn allweddol ac yn rheoli’n hargyhoeddiadau ffydd. Ond mae goblygiadau’r darn hwn yn bellgyrhaeddol: beth y union a ddileewyd gyda’r digwyddiad arloesol hwn?

Yn Actau 15, yng Nghyngor Jerwsalem, mae Ioan yn cyhoeddi ei farn ar y seiliau hynny roedd y Cenhedloedd yn cael eu cynnwys yn y Cyfamod Newydd. Fodd bynnag, roedd yr union fathau o ryddid mae’r Apostol Paul yn hawlio sydd bellach yn rhan o’r efengyl (Col. 2:20-21), mewn gwirionedd yn cael eu gwahardd gan yr Apostol Ioan, h.y. gwaed a chig anifeiliad wedi’u tagu (Actau 15:20-21). My mhwynt i ydy bod yna ddatblygiad o ran ffydd a chredo hyd yn oed o fewn y Testament Newydd. Digon hawdd fyddai categoreiddio’r cyfeiriad newydd hwn yn syml fel ‘y geiniog yn disgyn’ neu, hyd yn oed, bod yr Apostol Paul wedi ennill y dydd a’r Apostol Ioan, yn y pendraw, yn colli. Ond dydy hynny ddim yn gwneud y tro. Roedd yr Apostol Paul yn amlwg yn credu bod y ‘gyfraith newydd’ yn ysbrydoliaeth trwy’r Ysbryd Glân ac yn gwbl gydnaws â’r efengyl. Mae hi’n amhriodol i’r eglwys ofyn p’un ai bod ffiniau a therfynau’r rhyddid newydd hwn wedi’u harchwilio a’u deall yn iawn.

Mae’r egwyddor hwn o ddatblygu ein dealltwriaeth o’r hyn sy’n ffurfio ewyllys Duw yn cael ei amlygu ymhellach wrth inni ystyried materion eraill lle mae dysgeidiaeth yr Eglwys wedi newid dros amser. Er enghraifft, fase neb yn dadlau heddiw na fuasai Duw yn gwrthwynebu caethwasiaeth a phob ffurf ar ecsbloetio, a hynny’n gyfangwbl ddi-gwestiwn. Mae’r Beibl, fodd bynnag, yn gymharol amwys ynglŷn â chaethwasiaeth - rhywbeth sy’n peri anesmwythyd dwfn. Ceir darnau sy’n delio â natur ein statws newydd fel plant i Dduw - Galatiaid 3:28 er enghraifft - ond dydy goblygiadau’r rhain ddim yn cael eu trafod mewn unrhyw fodd ystyrlon. Mae hyd yn oed cyngor Paul i Philemon, er yn wahanol i’r norm cymdeithasol mewn perthynas â chosbi caethweision, yn syrthio cryn bellter yn brin o gondemnio caethwasiaeth. Mae ymgysylltu â chefndir gwleidyddol a diwylliannol yr Ysgrythurau wedi bod yn allweddol wrth ddatblygu agwedd gyfoes at y pwnc, sy’n parchu awdurdod y Beibl tra’n caniatáu i bersbectif llawnach ddod i’r wyneb.

Mae’r un peth yn wir gyda’r modd rydyn ni’n edrych ar rôl, safle a gweinidogaeth merched. Ar y cyfan, mae’r Testament Newydd yn gadarn yn ymwrthod ag unrhyw rôl arweinyddiaeth glir i ferched yn yr Eglwys. Search hynny, bellach rydyn ni’n cydnabod fel Eglwys bod Duw’n galw merched a dynion yn gydradd at rolau mewn gweinidogaeth ac arweinyddiaeth ac y rhoddir gras, nid ar seiliau biolegol, ond ar sail galwad. Gellid hefyd ychwanegu at y rhestr hon y ffordd mae’r Eglwys yn trin pobl sydd wedi cael ysgariad, yr arfer o godi llog ar arian a hyd yn oed golwg fyd-eang sy’n gweld y nefoedd ‘i fyny fanna’ ac uffern ‘i lawr fancw’.

Y pwynt ydy bod parhau i ddirnad ewyllys Duw yn cynnwys darllen yr Ysgrythyrau yn ogystal â ffynonellau eraill o awdurdod megis rheswm, tystiolaeth wyddonol ac mewn dialog go iawn gyda disgyblaethau eraill. Dyma ran o’n cyfrifoldeb fel Cristnogion wrth inni geisio deall ewyllys Duw a thystio i’n ffydd.

Dros gyfnod o amser, lle bûm yn gweinidogaethu ochr yn ochr â rhai mewn perthynas â’r un rhyw ac wedi ceisio ymgodymu gyda’r dynfa o fod yn ffyddlon i Dduw ac yn agored i’r Ysbryd, fe ddes i gredu y dylai’r Eglwys bellach gynnwys yn llawn, heb wahaniaeth, y rhai hynny sy’n ymrwymo i uniad cariadus parhaol gyda pherson o’r un rhyw. Yn ogystal â hyn, dwi’n credu mai’r ffordd orau i wneud hyn ydy i’r Eglwys briodi’r bobl hyn, fel ag yr ydyn ni’n gwneud gyda dynion a merched.

Nid dyma ddysgeidiaeth yr Eglwys ar hyn o bryd, ond dwi’n credu ei fod yn gyson gyda’n ffydd a’n huniongrededd. Credaf y bydd yn atgyfnerthu ein tystiolaeth mewn byd sy’n dyheu am weld cyfiawnder a thegwch i bawb, waeth pa rywedd, ethnigrwydd a gogwydd rhywiol, ac sy’n methu â deall sut bod yr Eglwys yn dal i gael trafferth gyda phwnc y mae’r rhan fwyaf o bobl wedi hen dderbyn. Mae Cristnogion yn gallu ymddangos yn ddi-hid, yn greulon hyd yn oed, ac wedi’u meddiannu’n anesboniadwy â nifer cyfyngedig o faterion, i’r graddau fod popeth arall a ddwedwn am Dduw a gobaith a ffydd yn pylu i’r cysgodion. A bod yn onest, heb flewyn ar dafod, does ‘na neb yn ein credu ni a does neb yn ein cymryd o ddifrif bellach.

Bydd unrhyw newid swyddogol i ddysgeidiaeth yr Eglwys yn gofyn cael caniatâd yr Eglwys yng Nghymru trwy ei Chorff Llywodraethol. Dwi’n sylweddoli na fydd pawb yn cytuno â’r safbwynt a amlinellir uchod - ac mae dadleuon da dros ddatblygu dysgeidiaeth yr Eglwys mewn ffyrdd eraill, er enghraifft, trwy gyflwyno gwasanaeth o lwon bywyd neu ail-edrych ar gwestiwn bendithio uniadau o’r un rhyw. Ni ellir anwybyddu’r ddadl hon, ond ni all ddigwydd ‘chwaith heb ddoethineb, haelioni a gras. Fy ngweddi ydy y bydd yn peri ichi edrych ar y mater mewn ffordd newydd eleni ac y gwnewch chi weddïo a myfyrio ar sut y medrwn ninnau fod yn ffyddlon i Dduw a chryfhau ein tystiolaeth i gariad achubol Crist.

Cymraeg

Bishop Andy’s new Episcopal Letter

Dear friends

Greetings in the name of God the Father and Jesus Christ. At the start of this year may I wish you joy and peace in the Holy Spirit.

In September 2018 members of the Governing Body of the Church in Wales were asked to agree or not with the following statement written by the bishops of the Church in Wales:

It is pastorally unsustainable for the Church to make no formal provision for those in same-gender relationships.

The results of the ballot were 76 members agreed, 21 members disagreed and 1 ballot was spoilt.

The Bench of Bishops did not participate in the ballot, however they gave an undertaking that their future thinking would be informed by the result.

It is worth recalling that this is not the first time the Governing Body has considered the matter of same sex relationships. In 2014-15 the whole Province was invited to consult on changes to the law of marriage in England and Wales and comment on how it felt the Church in Wales should respond. At a meeting of the Governing Body in September 2015 members were invited to express their view on the following three options using an anonymous form to help inform future consideration of how the Church might respond to these changes:

Option 1:

No change to the Church’s current teaching and practice on marriage and partnerships;

Option 2:

To allow same sex unions to be blessed in the Church in Wales;

Option 3:

To enable same sex couples to marry in the Church in Wales.

The results of the expression of members’ views were as follows:

First preferences

Option 1

Bishops 1

Clergy 21

Laity 28

Option 2

Bishops 2

Clergy 1

Laity 6

Option 3

Bishops 3

Clergy 26

Laity 32

No preference

Bishops 0

Clergy 0

Laity 0

Second preferences

Option 1

Bishops 0

Clergy 1

Laity 1

Option 2

Bishops 3

Clergy 7

Laity 11

Option 3

Bishops 1

Clergy 2

Laity 2

No preference

Bishops 2

Clergy 38

Laity 52

This exercise showed that the Church in Wales did not have a common mind on the matter save that fewer supported the idea of blessing same sex unions.

The matter of same sex unions remains a controversial and difficult matter for the Christian Church. It continues to be the single most difficult subject around which unity and respectful engagement takes place. Some faithful Anglicans across the world are coalescing around the traditional Christian teaching on this subject and to reject any revision of that position. And yet it is worth noting that other provinces, and from within the UK, such as the Scottish Episcopal Church, have begun to ask similar questions to those being asked within the Church in Wales. In brief, the Church in Wales is not acting alone by asking the questions. We also need to recognize a wider context too that LGBTI+ people have been persecuted (and are still today) for many years and for that for many LGBTI+ Christians, the attitudes and assumptions of the Church today makes a hostile environment in which to survive let alone live, participate and thrive.

In this Episcopal letter I would like to explore this matter and also set out my own thinking, including how I hope the Church in Wales can make progress in debate, while retaining unity and strengthening our witness to Christ. I will outline the relevant Biblical and historical perspectives, the present position of the Church in Wales and potential areas for further development and thinking.

The preface to the 2010 Marriage Service outlines the Church in Wales’ teaching on marriage in the following terms:

Marriage is a gift of God, through which husband and wife may grow together in the knowledge, love and service of God. It is given that, united with one another in heart, in mind and in body, they may increase in love and trust. God joins husband and wife in life-long union, as the foundation of family life (in which children are born, nurtured and) in which each member of the family, in good times and in bad, may find comfort, companionship and strength, and grow to maturity in love. Marriage enriches society and strengthens community.

The nature and our understanding of marriage has developed greatly across the centuries even if it has shared some common elements. For example, people are properly and fully married even when there are no children. However one of the enduring elements is that marriage is uniquely between male and female. Recourse for this as the proper and Scriptural basis for human flourishing as been found in the early chapters of Genesis. We read that God created Adam and Eve and their union produced Cain and Abel. The writer provides the reason for marriage in simple terms (Genesis 2:23-24):

This is now bone of my bones and flesh of my flesh; she shall be called ‘woman,’ for she was taken out of man.” That is why a man leaves his father and mother and is united to his wife, and they become one flesh.

Throughout the Old Testament the established ground for contracting a marriage is that it is a union of male and female. The Levitical code explicitly forbade a man lying with a man and the infamous story of Sodom and Gomorrah is often thought to show the wrath and opposition of God to homosexual acts (Genesis 19:1f) even if the story is multi layered and at times opaque.

In the New Testament this expectation and conviction is carried through strongly in both Gospels and Epistles. Although Jesus does not deal with the issue of same sex unions explicitly, he does reject sexual practices which deviate from the will of God as revealed in the Hebrew Scriptures. The word he uses is ‘porneia’ which gives us the word ‘pornography’ but its intended application was much wider than what is commonly understood by that word today (Matt 5:32, 15:19). It is highly likely that it included all deviations from orthodox sexual practice.

There are several key texts in the Epistles which seem to support this position. In Romans 1:26-27, St Paul explores the character of divine wrath and holiness and writes these words:

Because of this, God gave them over to shameful lusts. Even their women exchanged natural sexual relations for unnatural ones. In the same way the men also abandoned natural relations with women and were inflamed with lust for one another. Men committed shameful acts with other men and received in themselves the due penalty for their error.

He appears to include all expressions of homoerotic love and this text is often thought to be conclusive on the matter, in full continuity with the Old Testament and teaching of Jesus. In another letter St Paul considers those who exclude themselves from the Kingdom of God:

Do not be deceived: Neither the sexually immoral nor idolaters nor adulterers nor men who have sex with men nor thieves nor the greedy nor drunkards nor slanderers nor swindlers will inherit the kingdom of God. (1 Cor. 6:9b-10)

Those Christians who urge the Church to adhere to traditional teaching believe that these texts, taken together, provide a broad and comprehensive prohibition. They rightly point out that whenever the Bible deals with this matter it is always in negative terms and is properly summed up in the oft-repeated phrase: ‘The Church cannot bless what God does not.’

For many other Christians, however, the matter is less clear. Those who experience same sex attraction or orientation will describe how, in a committed and loving relationship, they find not only love but grace and peace growing in their shared life with their partner. They experience the very fruit of the Spirit identified by St Paul as a mark of God’s presence and blessing (Gal 5:22-23). Jesus himself provided a kind of litmus test: it is ‘fruitfulness’ which reveals the authenticity (or not) of any claim to communion with God and grace (Matt 5:16-17). If the fruit of a relationship is growth in godly character, in what sense can such a relationship could be considered ‘against the will of God’?

In a dramatic episode in the book of Acts (chapter 10), St Peter hears the voice of God overthrowing the old Levitical code with its restrictions on food - what is clean and unclean. In addressing such prescriptions and abolishing them, it marked a radical shift for the life of the Church. This is much more dramatic than we realize because we no longer share the same kind of understanding in which distinctions of blood, food and background are decisive and control our faith convictions. But the implications for this passage are far reaching: what exactly was abolished in this seminal event?

In Acts 15 at the Council of Jerusalem James delivered his verdict on the grounds upon which the Gentiles were included in the new covenant. However the very liberties St Paul asserts are now part of the gospel (Col. 2:20-21) are actually excluded by St James viz blood and the meat of strangled animals (Acts 15:20-21). My point is that there is a development of faith and belief even within the New Testament. It would be simple to categorize this new direction as only a matter of the penny dropping or, even, that St Paul won the day and St James, eventually, lost out. But this cannot suffice. St Paul clearly believed that the ‘new law’ was an inspiration of the Holy Spirit and fully consonant with the gospel. Is it inappropriate for the church to ask whether the boundaries and limits of this new freedom have been properly explored and understood?

This principle of developing our understanding of what constitutes God’s will is further highlighted when we consider other issues where Church teaching has changed over time. For example, no-one would argue today that God is anything other than implacably opposed to slavery and all forms of exploitation. The Bible, however, shows relative – and deeply problematic - ambivalence to slavery. There are texts which address the nature of our new status as children of God - Galatians 3:28 for example – but the implication of these is not explored in any meaningful way. Even Paul’s advice to Philemon, though different from the societal norm in relation to punishing slaves, falls far short of any condemnation of slavery. Engaging with the political and cultural background of the Scriptures has been critical in developing a contemporary attitude to the issue which respects Biblical authority while allowing a fuller perspective to emerge.

The same is true of how we see the role, position and ministry of women. On the whole, the New Testament is robust in denying any clear leadership role for women in the Church. And yet we now recognize as a Church that God calls women and men equally to ministry and leadership roles and that grace is given not on the basis of biology but on the basis of calling. We could add to this list the way the Church treats people who are divorced, the practice of charging interest on money and even a world view which sees heaven as ‘up there’ and hell ‘down there’.

The point is that continuing to discern the will of God includes reading the Scriptures as well as other sources of authority such as reason, scientific evidence and in serious dialogue with other disciplines. This is part of our responsibility as Christians as we seek to understand the will of God and witness to our faith.

Over a period of time, in which I have ministered alongside those in same sex relationships and have wrestled with how to be faithful to God and open to the Spirit, I have come to believe that the Church should now fully include without distinction those who commit to permanent loving unions with a person of the same sex. I further believe that the best way to do this is for the Church to marry these people as we do with men and women.

This is not the teaching of the Church at this moment but I believe it is fully in keeping with our faith and orthodoxy. I believe it will strengthen our witness to a world which longs to see justice and fairness for all, regardless of gender, ethnicity and sexual orientation, and cannot understand how the Church is still wrestling with an issue that most people have accepted long ago. Christians can seem uncaring, even cruel, and bizarrely obsessed with a limited range of issues so that everything else we say about God and hope and faith is marginalised. To put it bluntly, we are not believed and taken seriously.

Any change to official Church teaching will require the consent of the Church in Wales through its Governing Body. I realize that not everyone will take the position outlined above - and there are good arguments for developing the Church’s teaching in other ways, for example by introducing a service of life vows or revisiting the question of blessing same sex unions. This debate cannot be ignored but neither can it take place without wisdom, generosity and grace. I pray that it will engage you in a new way this year and that you will pray and reflect on how we can be faithful to God and strengthen out witness to Christ’s redeeming love.