minus bangor1 bangor2 bangor3 bangor4 bangor5 bangor6 bangor7 bangor8 bangor9 bangor10 bangor11 bangor12 bangor13 bangor14 bangor15 bangor16 bangor17 bangor18 bangor19 bangor20 bangor21 bangor22 bangor23 bangor24 bangor25 bangor26 bangor27 bangor28 bangor29 bangor30 bangor31 bangor32 bangor33 bangor34 bangor35 bangor36 bangor37 bangor38 bangor39 bangor40 bangor41 bangor42 bangor43 bangor44 bangor45 bangor46 chevron-down chevron-left chevron-right chevron-up download email facebook instagram plus search twitter vimeo youtube external

Penodiad Newydd i'r Parch Neil Fairlamb

Cyhoeddir heddiw (Dydd Sul, Chwefror 10, 2019) bod y Parch Neil Fairlamb - Ficer ac Arweinydd Ardal Weinidogaeth Bro Seiriol (sy’n gwasanaethu cymunedau Biwmares, Llanddona a Phenmon a’r cyffiniau) yn Archddiaconiaeth Môn - wedi derbyn penodiad fel Tŷ-fel-Cydnabyddiaeth yn Esgobaeth Guildford. Bydd Neil yn ymuno â phobl, tîm a chlerigwyr Plwyf Unedig The Bourne, Farnham, gyda Tilford, a bydd ganddo gyfrifoldeb penodol dros gymuned eglwys yr Holl Saint, Tilford.

Fe ordeiniwyd Neil yn Esgobaeth Southwark fel gweinidog di-dâl, cyn symud i’r weinidogaeth gyflogedig yn Esgobaeth Tyddewi, Symudodd wedyn i Esgobaeth Bangor - yn gwasanaethu i ddechrau yn Arthog, Y Friog a Llwyngwril ar arfordir Meirionnydd, cyn dod yn Rheithor Biwmares yn 2003. Yn ogystal â’i ddoniau gweinidogaethol, mae Neil yn arbenigwr ar winoedd, gyda diddordeb neilltuol yng ngwinoedd a gwirodydd Sbaen a Phortiwgal, a fu’n fodd i’w adfywio ar ei fynych bererindodau ar hyd gwahanol lwybrau Camino at Santiago de Compostela. Mae Neil yn awdur llyfrau hanes ar glerigwyr a byddigions Biwmares, yn ogystal â bod yn Gadeirydd The Grail Trust, sy’n cefnogi plant dan anfantais yn Ne India, ardal y mae’n ymweld â hi pob blwyddyn. Bu hefyd yn ymgeisydd etholiadol sawl gwaith ar gyfer Cynulliad Cymru a San Steffan.

Wrth edrych ymlaen at ei benodiad newydd, meddai Neil, “Mae Yvonne a minnau wedi treulio 20 mlynedd hapus iawn yn Esgobaeth Bangor. Fe briodon ni wrth inni ddechrau ym Meirionnydd ac wedi gwneud llawer o ffrindiau yn y plwyfi a thrwy gysylltiadau ecwmenaidd ehangach megis Ynys Enlli a gweithgareddau estyn allan yr Eglwys Babyddol o Beuno Sant a Loreto. Mae gofal ein hadeiladau treftadaeth wedi bod yn her a roddodd foddhad imi a buon ni’n ffodus o gael byw mewn ardaloedd mor brydferth a fu’n ysbrydoliaeth gyson. Rydw i hefyd yn ddiolchgar am y cyfle i ddilyn fy ngwahanol ddiddordebau, sef sgwennu a gwleidyddiaeth. Bydd y swydd newydd yn Surrey yn gyfle i ofalu am gymuned bentref traddodiadol ond sy’n edrych tuag allan ac i fod yn rhan o weinidogaeth tref brysur Farnham. Dwi’n diolch fy mod yn parhau’n iach a chael y cyfle i barhau yn y weinidogaeth yn fy 70au, yn cydgerdded taith bywyd gyda phobl eraill a chael rhannu yn eu llawenydd a’u galar wrth inni ymlwybro ar ein pererindod Gristnogol yng nghwmni’n gilydd. Mae Yvonne a minnau’n dra diolchgar am gefnogaeth a gweddïau pawb ohonoch."

Dywed Esgob Bangor - y Gwir Barchedig Andy John, Dwi’n hynod falch bod Neil wedi cael hyd i’r lleoliad iawn i barhau gyda’i weinidogaeth, yn ogystal â chael mwynhau rhywfaint o ymddeoliad. Mae gan Neil sawl dawn heblaw am ei ddycnwch dros ei egwyddorion. Fy ngweddi a’m gobaith ydy y bydd y rhain yn parhau i ffyn yn Tilford. Byddwn yn cadw Neil ac Yvonne yn ein gweddïau, gan ddymuno pob bendith iddyn nhw yn y dyfodol. Cofiwch hefyd i weddïo dros bobl a thîm Bro Seiriol wrth inni ddechrau’r broses o benodi Ficer ac Arweinydd Ardal Weinidogaeth yno.”

Mae disgwyl i Neil ddechrau ei weinidogaeth newydd yn Tilford wedi’r Pasg.

Cymraeg

New Appointment for the Rev'd Neil Fairlamb

It is being announced today (Sunday 10 February 2019) that the Rev’d Neil Fairlamb - Vicar and Ministry Area Leader of Bro Seiriol (serving the communities around Beaumaris, Llanddona and Penmon) in the Archdeaconry of Anglesey - has accepted a House-for-Duty appointment in the Diocese of Guildford. Neil will be joining the people, team and clergy of the United Parish of The Bourne, Farnham, with Tilford, having a particular responsibility for the church community of All Saints, Tilford.

Neil was ordained in the Diocese of Southwark as a non-stipendiary minister, before moving into stipendiary ministry in St. David’s Diocese. He then moved to the Diocese of Bangor - serving first in Arthog, Fairbourne and Llwyngwril on the Meirionnydd coast before coming to be Rector of Beaumaris in 2003. In addition to his ministerial gifts, Neil is a knowledgable wine expert, with a particular interest in the wines and spirits of Spain and Portugal, which have refreshed him on many pilgrim treks on the different Camino routes to Santiago de Compostela. Neil is the author of historical books on the clergy and gentry of Beaumaris, as well as the Chair of the Grail Trust, which supports disadvantaged children in South India where Neil visits each year. He also stood for election on numerous occasions to the Welsh Assembly and UK Parliament.

Looking forward to his new appointment, Neil said, "Yvonne and I have been very happy to have spent 20 years in Bangor Diocese. We married just as we started in Meirionnydd and have made many friends in the parishes and through wider ecumenical links including Ynys Enlli and the Roman Catholic Church's outreach activities from St Beuno's and Loreto. The care of our heritage buildings has been a rewarding challenge and we have been fortunate to have lived in such beautiful surroundings that have been daily inspirations. I am also grateful for the opportunity to pursue different interests in writing and politics. The new post in Surrey will be an opportunity to care for a traditional but outward looking village community and to part of a busy town ministry in Farnham. I am so fortunate to be in good health and to be given an opportunity to continue ministry into my 70s, sharing life's journeys with people - in solidarity with their joys and sorrows as we make our Christian pilgrimage together. Yvonne and I are so grateful for everyone's support and prayers."

The Bishop of Bangor - the Right Reverend Andy John - said, “I’m so pleased that Neil has found the right location to continue with his ministry, as well as enjoying some retirement. Neil has many gifts alongside the courage of his convictions. I hope and pray that they will continue to flourish in Tilford. We will keep Neil and Yvonne in our prayers and wish them every blessing in the future. Please do also pray for the people and team of Bro Seiriol as we begin the process of appointing a new Vicar and Ministry Area Leader there.”

It is expected that Neil will begin his new ministry in Tilford after Easter.