minus bangor1 bangor2 bangor3 bangor4 bangor5 bangor6 bangor7 bangor8 bangor9 bangor10 bangor11 bangor12 bangor13 bangor14 bangor15 bangor16 bangor17 bangor18 bangor19 bangor20 bangor21 bangor22 bangor23 bangor24 bangor25 bangor26 bangor27 bangor28 bangor29 bangor30 bangor31 bangor32 bangor33 bangor34 bangor35 bangor36 bangor37 bangor38 bangor39 bangor40 bangor41 bangor42 bangor43 bangor44 bangor45 bangor46 chevron-down chevron-left chevron-right chevron-up download email facebook instagram plus search twitter vimeo youtube external

Penodiad Cyfarwyddwraig Gynorthwyol Disgyblaeth a Galwedigaethau

Mae Esgob Bangor – y Gwir Barchedig Andy John – yn falch o gyhoeddi penodiad Pam Odam yn Gyfarwyddwraig Gynorthwyol Disgyblaeth a Galwedigaethau Esgobaeth Bangor. Bydd Pam, sy’n gweinidogaethu yn Ardal Weinidogaeth Bro Ardudwy, yn gweithio ochr yn ochr â Chyfarwyddwr Disgyblaeth a Galwedigaethau’r Esgobaeth, y Parch Dominic McClean.

Bydd gan Pam oruchwyliaeth dros les a datblygiad gweinidogion trwyddedig lleyg, yn galluogi i gael mynediad at gefnogaeth briodol ar gyfer eu gweinidogaeth drwyddedig leyg o’r Esgobaeth a’r Dalaith, yn ogystal â chydlynu’r adolygiadau teirblwyddol ar gyfer gweinidogion trwyddedig lleyg a diwrnod myfyrdod blynyddol newydd.

Wrth edrych ymlaen at ei rôl newydd, dywed Pam, “Ers imi gael fy nhrwyddedu yn Ddarllenydd, mae hi wedi bod yn fraint imi wasanaethu ar Fyrddau Darllenwyr yr Esgobaeth a’r Dalaith, yn ogystal ag ar Gyngor Gweithredol y Darllenwyr Canolog, lle cefais y cyfle i helpu llunio Gweinidogaeth Drwyddedig Leyg yn yr amrywiol ffurfiau y’i gwelir heddiw. Mae hi wedi bod yn fraint i fod yn rhan o dîm yr esgobaeth sy’n gwerthfawrogi’r ymrwymiad i addoliad a gweinidogaeth y mae Gweinidogion Trwyddedig Lleyg yn ei wneud. Mae hefyd yn fraint i gynnig o f’amser i gyd-gerdded â Gweinidogion Trwyddedig Lleyg, rhai sydd wedi hen ennill eu ‘plwyf’ a’r rhai newydd, sydd â lle pwysig yn y dasg o addoli Duw, tyfu’r eglwys a charu’r byd.”

Wrth wneud sylw ar benodiad Pam, meddai Esgob Andy, “Bydd annog a datblygu’r doniau a gweinidogaeth holl bobl Dduw yn hanfodol wrth i’r Esgobaeth geisio cyflawni’r genhadaeth a roddwyd inni gan Dduw. Mae Pam yn dwyn cyfoeth o brofiad gyda hi i’w rôl newydd ac fe wn y bydd hi’n gweithio’n dda gyda Dominic. Cofiwch weddïo dros Pam a Dominic a phawb o’r Gweinidogion Trwyddedig Lleyg yn ein Hesgobaeth.”

Cymraeg

Appointment of the Assistant Director of Discipleship and Vocations

The Bishop of Bangor - the Right Reverend Andy John - is pleased to announce the appointment of Pam Odam as the Diocese of Bangor’s Assistant Director of Discipleship and Vocations. Pam, who ministers in the Bro Ardudwy Ministry Area, will be working alongside the Diocesan Director of Discipleship and Vocations, the Rev’d Dominic McClean.

Pam’s will have oversight of the welfare and development of lay licensed ministers, enabling people to access appropriate support for their lay licensed ministry from the Diocese and Province, as well co-ordinating the triennial reviews for lay licensed ministers and a new annual reflection day.

Looking forward to her new role, Pam said, “Since my licensing as Reader I have had the privilege of serving on both our Diocesan and Provincial Readers’ Boards, as well as on the Executive of Central Readers’ Council, where I have had opportunity to help shape Lay Licensed Ministry in the various guises in which we see it today. I feel privileged to be part of the diocesan team which values the commitment to worship and ministry that Lay Licensed Ministers make. It is also a privilege to offer my time to walk alongside existing, as well as new, Lay Licensed Ministers, who have an important place in the tasks of worshipping God, growing the church and loving the world.”

Commenting on Pam’s new role, Bishop Andy said, “Encouraging and developing the gifts and ministry of all God’s people will be crucial as the Diocese seeks to fulfil the mission which God has given us. Pam brings a wealth of experience to her new role and I know that she will work well with Dominic. Please do pray for Pam and Dominic and all of the Lay Licensed Ministers in our Diocese.”