minus bangor1 bangor2 bangor3 bangor4 bangor5 bangor6 bangor7 bangor8 bangor9 bangor10 bangor11 bangor12 bangor13 bangor14 bangor15 bangor16 bangor17 bangor18 bangor19 bangor20 bangor21 bangor22 bangor23 bangor24 bangor25 bangor26 bangor27 bangor28 bangor29 bangor30 bangor31 bangor32 bangor33 bangor34 bangor35 bangor36 bangor37 bangor38 bangor39 bangor40 bangor41 bangor42 bangor43 bangor44 bangor45 bangor46 chevron-down chevron-left chevron-right chevron-up download email facebook instagram plus search twitter vimeo youtube external

Ordeinio 2019 - Cwrdd â'r Ymgeiswyr

Isod fe geir sylwadau gan bob un ohonyn nhw wrth iddyn nhw baratoi ar gyfer eu cyfnod newydd yn y weinidogaeth Gristnogol:

Andrew Hughes

Diacon a fydd yn gwasanaethu curadiaeth yn Ardal Weinidogaeth Bro Cadwaladr (Gaerwen/Aberffraw)

Fe’m ganwyd yn Plymouth, lle’r oedd fy nhad yn gaplan gyda’r llynges, ond wedi treulio’r rhan fwyaf o’m bywyd yng Ngogledd Cymru. Bu’r Eglwys yn rhan annatod o’m bywyd erioed. Fe gefais fy medyddio yn Eglwys Crist, Caernarfon, bedydd esgob yn Eglwys y Santes Fair, Llanfairpwll, yn ogystal â bod yn gantor yng Nghadeirlan Bangor, lle gafodd fy nghariad at gerddoriaeth eglwysig ei feithrin.

Bûm yn gweithio yn y diwydiant bwyd am ddwy flynedd ar hugain cyn astudio rheoli busnes gyda thwristiaeth ac Almaeneg. Wedi’r cyfnod hwn i ffwrdd o’r diwydiant bwyd, fe deimlais alwad gan Dduw i wasanaethu yn yr Eglwys. Dechreuais y cwrs Archwilio’r Ffydd yn 2010 a arweiniodd at radd mewn Diwinyddiaeth a Disgyblaeth ar gyfer y Weinidogaeth. Fe fues i’n hyfforddi ac yn gwasanaethu fel Darllenydd cyn cael f’argymell i hyfforddi ar gyfer y weinidogaeth ordeiniedig.

Bu fy siwrne at ordeiniad yn un hir a heriol, ond hefyd yn llawn breintiau gan Dduw ac yn un gorfoleddus imi. Bu Duw’n profi cryfder fy ffydd, yn agor a chau drysau, ond dysgodd pob rhan o’r daith rhywbeth newydd i mi, gan feithrin fy ffydd.

Erbyn hyn, dwi’n edrych ymlaen at gyfnod newydd yn fy ngweinidogaeth ym Mro Cadwaladr, a hynny gyda chymysgedd o gyffro a’r ansicrwydd sy’n dod gyda menter. Lluniwyd pawb yn nelwedd Duw ac mae’n fraint cael gyd-gerdded â nhw, trwy lawenydd a galar, yn rhannu Newyddion Da’r Efengyl.


Hugh Jones

Diacon a fydd yn gwasanaethu curadiaeth yn Ardal Weinidogaeth Bro Tysilio (Porthaethwy/Benllech)

Fe’m ganwyd yng Nghaer sawl blwyddyn yn ôl bellach, i deulu oedd â llawer o dreftadaeth Gymreig iddi.

Fe fues i’n weithgar ym mywyd cyhoeddus trwy gydol fy mywyd, yn gwasanaethu’n ddiweddar fel cadeirydd Ardal Harddwch Naturiol Eithriadol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy, yn ogystal â Bwrdd Cymunedau Mwy Diogel Gogledd Cymru.

Fe fues i’n weithgar yn Esgobaeth Caer, yn gwasanaethu ar Synod yr Esgobaeth a Synod Cyffredinol Eglwys Loegr. Am sawl blwyddyn roeddwn yn teimlo galwad gref at y Weinidogaeth fel Darllenydd ond roedd fy ngalwedigaeth fel peilot cwmni awyrennau yn tarfu ar fy astudiaethau.

Ond mae Duw yn un sy’n dyfalbarhau! Ar fy nhrydydd cynnig, fe lwyddais i gwblhau'r maes llafur hyfforddi tair blynedd ym Mhrifysgol Caer ac fe gefais fy nhrwyddedu fel Darllenydd yng Nghadeirlan Caer yn 2009.

Am flynyddoedd lawer, fe deimlais fod yr Ysbryd Glân yn fy ngalw i’r weinidogaeth yn yr Eglwys yng Nghymru, ac i Ynys Môn yn benodol. Fel canlyniad, fe ges i fy hun yn addoli yn Eglwys y Santes Fair ym Mhorthaethwy ac yn ymateb i’r angen i gefnogi Tîm Gweinidogaeth Bro Tysilio, dan arweiniad y Canon Angela Williams. Mae hi’n fraint i fod yn rhan o’r tîm hwn ac yn hyfryd cael gwasanaethu ynddo. Yn ysbrydol, dwi’n teimlo mai fama mae Duw am imi fod.

Cyfoethogwyd fy nhaith Gristnogol wedi’i chyfoethogi gan y cyfleoedd i addoli mewn Eglwysi’r Gymuned Anglicanaidd ledled y byd. Medraf gofio’n benodol y gwersi a ddysgwyd wrth wasanaethu’r Eglwys genhadol ym Mhapwa Gini Newydd, a fu’n fodd imi ddeall sut y mae hi’n bosib gwasanaethu ac addoli Duw mewn gwahanol ffyrdd, tra’n cynnal uniondeb yr Efengyl.

Credaf fod rôl Diacon Neilltuol yn un sy’n seiliedig ar wasanaeth, sy’n cynnig cyfleoedd cenhadol cyffrous a heriol, gan dywys yr Eglwys ymlaen i gyfnod newydd cyffrous.


Eryl Parry

Diacon Arloesi a fydd yn gwasanaethu curadiaeth yn Ardaloedd Weinidogaeth Bro Celynnin (Conwy) ac Ardal Genadu Aberconwy (Esgobaeth Llanelwy)

Dwi’n galw fy hun yn Sgowsar Cymraeg! Yn un a fagwyd i deulu o Gymry yn Lerpwl, fe es i weithio i John Lewis fel hyfforddai graddedig mewn gwahanol leoliadau yn y DU. Wedi dychwelyd i Lerpwl, fe sefydlais a rhedeg canolfan gynadledda i Archesgobaeth Babyddol Lerpwl, cyn sefydlu a datblygu’r gweithgareddau masnachol ar gyfer y ddwy Gadeirlan yn Lerpwl. Cefais fwynhad gweithio gyda rhwydweithiau cyfoedion ehangach i dyfu twristiaeth a hybu adnewyddiad yn Lerpwl.

Yn 2016, symudais i Gonwy. Mae cenedlaethau o’m teulu’n hanu o Ogledd Cymru ac wedi bod yn aelodau ffyddlon eglwysi yn yr Esgobaeth hon. Felly mae’r gwreiddiau’n ddwfn yma ac er na wnes i erioed ddychmygu fy hun yn gadael bywyd y ddinas, mae symud yma wedi teimlo fel ‘dod adre’ mewn rhyw fodd.

Mae’r Duw a addolwn ni yn un sy’n llawn yr annisgwyl, ond mae’n gwybod beth sydd o’n blaenau ni cyn inni wybod, i’r graddau fel bod hyd yn oed newid dramatig mewn bywyd yn gallu teimlo fel galwad amlwg: i’r union fan a’r lle ac i’r union bwrpas: Gweinidogaeth Arloesol.

Mae inni stori o obaith i’w gyfleu a’i ddehongli i’r rhai hynny sydd ar hyn o bryd ‘oddi allan i waliau’ ein heglwysi. Bu fy nghyndeidiau’n gwasanaethu eglwys a fu’n meddiannu safle llawer mwy canolog mewn cymdeithas, felly mae ceisio gwasanaethu ‘ar y cyrion’ yn ymddangos yn dasg anodd tu hwnt. Ond mae’n her gyffrous ar y llaw arall, ac yn un sy’n gofyn creadigrwydd, dewrder a menter.

Y cysur ydy nad mentro wrth ein hunain fydden ni. Mae cyfeillgarwch a gwneud ffrindiau newydd yn llawenydd pur. Dwi wrth fy modd yn gweithio gyda, ac adeiladu timau, felly’n edrych ymlaen go iawn at adeiladu ein bywyd gyda’n gilydd wrth inni geisio ewyllys Duw a gwasanaethu’i bobl yn y presennol a thros y blynyddoedd sydd i ddod.”


Siôn Rhys Evans

Diacon a fydd yn gwasanaethu curadiaeth yn Ardal Weinidogaeth Llandudno

Yn dilyn magwraeth ar Ynys Môn, dechreuais i fy ngwaith o fewn bywyd yr Eglwys mewn plwyfi Anglicanaidd yng nghanol Llundain. Yn ddiweddarach fe wasanaethais fel aelod o dîm Cytûn, sefydliad ecwmenaidd cenedlaethol Cymru, cyn cael fy mhenodi yn rhan o dîm cydlynu cenedlaethol yr Eglwys Fethodistaidd ym Mhrydain. Yno, bues i’n gyfrifol am ddatblygiad gweinidogaethol, addysg ddiwinyddol a sawl prosiect isadeiledd arwyddocaol, yng nghyd-destun newid corfforaethol sylweddol. Dychwelais i Ogledd Cymru fel Ysgrifennydd yr Esgobaeth yn Esgobaeth Bangor ar ddiwedd 2013.

Dw i’n edrych ymlaen at yr anrhydedd o wasanaethu'r Eglwys a'r esgobaeth fel diacon dros y flwyddyn nesaf. Mae sawl math o wasanaethu a thystiolaethu Cristnogol. Braint a braw yw cael y cyfle i weinidogaethu yn y ffordd newydd hon o fewn yr esgobaeth, law yn llaw â chyfeillion lleyg ac ordeiniedig. Eu ffyddlondeb a'u creadigrwydd hwy sy’n ei gwneud hi’n amser mor gyffrous i fod yn rhan o'r Eglwys yn y fan hon ar hyn o bryd.


Stephen Rollins 

Diacon a fydd yn gwasanaethu curadiaeth yn Ardal Weinidogaeth Bro Ystumanner (Tywyn, Meirionnydd)

Cefais fy ngeni, fy magu a’m bedyddio yn Llundain, gan astudio Saesneg a Lladin ym Mhrifysgolion Southampton a Lerpwl. Bues i’n dysgu yn Folkestone a Buckingham cyn treulio pedair ar ddeg o flynyddoedd dramor yn Bermuda, Singapore a Gogledd Cyprus.

Yn ystod y blynyddoedd hynny, yn enwedig yng Nghyprus, synhwyrodd fy nghaplan lleol bod galwad posib imi i’r weinidogaeth ordeiniedig, felly fe ddechreuais astudio ddiwinyddiaeth trwy ddysgu o bell! Dychwelais i Brydain yn 2002 a diweddu yn Swydd Berkshire, lle bûm yn addysgu mewn colegau a gweithio fel caplan lleyg, yn ogystal â pharhau gyda’m hyfforddiant. Ymddeolais yn 2016 a symud i fyw i Ogledd Cymru.

Gydag anogaeth frwdfrydig gan fy nghlerigwyr lleol yn Nhywyn - Parch Richard Vroom, Parch Janet Fletcher ac yn fwy diweddar dan oruchwyliaeth y Parch Ddr Ruth Hansford - fe fues i’n gweithio gyda Bro Ystumanner fel Arweinydd Addoliad a Gweinidog Ewcharist, gan gymryd y Cymun Bendigaid at y rhai hynny sy’n methu mynychu eglwys.

Fe fu’r daith yn un hir i mi at Ordeiniad, ond dwi wedi derbyn llawer o anogaeth ar hyd y ffordd. Mae fy nyled i fy nheulu yn fwy nag y gallaf ei fynegi. Yn wir, wrth imi ddechrau fy ngweinidogaeth ordeiniedig, mae’r parchedig ofn, ynghyd â’r gorfoledd a deimlaf yn wyneb y fraint aruthrol hon wedi’i blethu gyda theimlad o ryddhad a diolchgarwch i gymaint o bobl.


Nick Webb

Diacon a fydd yn gwasanaethu curadiaeth yn Ardal Weinidogaeth Bro Cadwaladr (Gaerwen/Aberffraw)

Yn wreiddiol o Surrey, fe raddiais mewn Astudiaethau Beiblaidd ym Mhrifysgol Sheffield. Yn dilyn hynny, fe fues i’n rheolwr marchnata cyn gweithio gyda recriwtio ac yna dod yn hyfforddwr a galluogydd busnes hunangyflogedig i raglenni rheoli newid a datblygu arweinyddiaeth, gan weithio gyda chwmnïau ledled Ewrop a Chyfandiroedd America.

Fe fues i hefyd yn gweithio fel cerddor addoliad Cristnogol, cynhyrchydd celfyddydau creadigol a phregethwr lleyg gyda sawl eglwys annibynnol a’r Bedyddwyr yn Sheffield a Manceinion, a hefyd fel aelod bwrdd gyda Communitas International (Christian Associates gynt), mudiad cenhadol byd-eang yn ffocysu ar gymunedau secwlar, “ôl-Gristnogol”, dinesig yn bennaf.

Wedi ymddeol i Ynys Môn, roeddwn yn dal i deimlo galwad i weithio gyda phobl a mudiadau wrth iddyn nhw nodi, adeiladu a chynnal newidiadau cadarnhaol yn eu bywydau a dyma fi’n dechrau dilyn galwad i weinidogaethu fel diacon neilltuol gyda’r Eglwys yng Nghymru. Mae i ddiaconiaid neilltuol weinidogaeth o wasanaeth, yn gweithio gyda’r Esgob ac offeiriaid ac yn ffocysu’n bennaf ar y bwlch hwnnw sy’n drothwy rhwng yr eglwys a’r byd.

Bellach mi rydw i’n edrych ymlaen at ddatblygu fy ngalwad fel diacon neilltuol yn eglwysi a chymunedau Ardal Weinidogaeth Bro Cadwaladr. Mae’n her sylweddol, yn ôl siars yr Esgob i fod yn “gennad teyrnas Crist, gan gyhoeddi’r efengyl mewn gair a gweithred”, ond serch hynny, yn galonogol wrth ystyried disgwyliadau gwasanaethu’r gymuned leol a dirnad sut i helpu pobl i ymateb i alwad Duw mewn ffyrdd ffres a chyffrous.


Simon Freeman

Offeiriad a fydd yn parhau i wasanaethu ei guradiaeth yn Ardal Weinidogaeth Bro Gwydyr (Betws y Coed)

Dwi wedi mwynhau’n fawr fy mlwyddyn fel diacon, yn gwasanaethu pobl Bro Gwydyr. Ddysgais i gymaint gan fy mheriglor hyfforddiant - Parch Stuart Elliott - yn ogystal â phobl yr Ardal Weinidogaeth, ynghylch gwasanaethu cymuned ac addoliad a hefyd cynnal yr Ardal Weinidogaeth o ddydd i ddydd. Yn benodol, cefais fwynhad o ochr fugeiliol ffy ngweinidogaeth ddiaconaidd.

Edrychaf ymlaen at ddatblygu cam nesaf fy ngalwad fel offeiriad. Fe fyddaf yn dyfnhau fy ngwybodaeth, ymrwymiad a’m gwasanaeth i Dduw, yr Eglwys a’r bobl rydw i’n eu gwasanaethu, wrth imi ddechrau cyflawni'r hyn y credaf y ces i fy ngalw i’w wneud.


Vince Morris

Offeiriad a fydd yn parhau i wasanaethu ei guradiaeth yn Ardal Weinidogaeth Bro Tysilio (Porthaethwy/Benllech)

Yn wreiddiol o Rydychen, cyn symud i Ripon, Scarborough a Norfolk, fe ddes i’r ffydd yn gynnar ac mae hynny wedi aros gyda mi trwy gydol fy mywyd. Gadewais yrfa mewn gwleidyddiaeth yn 2016 i hyfforddi ar gyfer y weinidogaeth ordeiniedig.

Dwi wedi teimlo erioed fy mod yn cael fy nenu at fywyd yr eglwys, ac fe gymerodd hi dros 7 mlynedd i gyrraedd y fan lle rydw i ar fin cael f’ordeinio fel offeiriad.

Dwi’n edrych ymlaen yn fawr at barhau i rannu gair yr Efengyl a helpu pobl i ddod i ffydd yn Ardal Weinidogaeth Bro Tysilio. Roedd fy mlwyddyn fel diacon yn fwynhad, yn enwedig gweithio ochr yn ochr ag aelodau eraill tîm yr Ardal Weinidogaeth.

Mae llawer o waith i’w wneud i ddwyn i fod Teyrnas Dduw ac i helpu’r Eglwys yng Nghymru a Bro Tysilio i dyfu – gobeithio y byddaf yn deilwng o’r alwad.


Cymraeg

Ordination 2019 - Meet the Candidates

Below are some thoughts from each of them, as they prepare for the new stage of their Christian ministry:

Andrew Hughes

Deacon - who will serve a curacy in the Bro Cadwaladr (Gaerwen/Aberffraw) Ministry Area

I was born in Plymouth, where my father was a naval chaplain, but have lived most of my life in North Wales. The Church has always been an integral part of my life. I was baptised in Christ Church Caernarfon, confirmed at St Mary’s Church Llanfairpwll, as well as being a chorister of Bangor Cathedral, where my love of church music was nurtured.

I worked in the food industry for twenty two years before studying business management with tourism and German. After this period away from the food industry I sensed a calling from God to serve in the Church. I started the Exploring Faith course in 2010 which led on to a degree in Theology and Discipleship for Ministry. I trained and served as a Reader before being recommended to train for ordained ministry.

My journey to ordination has been long and challenging, but it has also been filled with God-given privileges and has been a great joy to me. God has tested the strength of my faith, opening and closing doors, but each part of the journey has taught me something new and nurtured my faith.

I now look forward to a new phase in my ministry in Bro Cadwaladr with both excitement and trepidation. All people are made in the image of God it is a privilege to walk with them, in joy and sorrow, sharing the Good News of the Gospel.


Hugh Jones

Deacon - who will serve a curacy in the Bro Tysilio (Menai Bridge/Benllech) Ministry Area

I was born in Chester many years ago, into a family with much Welsh heritage.

I have been active in public life for many years, recently serving as chair of the Clwydian Range and Dee Valley Area of Outstanding Natural Beauty as well as the North Wales Safer Communities Board.

I was also active in the Chester Diocese serving on Diocesan Synod and the General Synod of the Church in England. For many years I felt a strong call to Reader Ministry but was frustrated by my profession as an airline pilot, which got in the way of studies.

But God does not give up! At the third attempt I was able to complete the three year training syllabus at the University of Chester and was licensed as a Reader in Chester Cathedral in 2009.

For many years I felt the Holy Spirit was calling me to ministry in the Church in Wales and Ynys Môn in particular. As a result, I found myself worshiping at St Mary’s, Menai Bridge and responding to a need to support the Bro Tysilio Ministry Team, led by Canon Angela Williams. It is a privilege to be a part of this team and a joy to serve in it. Spiritually I feel that I am where God wants me to be.

My Christian journey has been enriched by the opportunity to worship in Churches of the Anglican Communion around the world. I can particularly recall the lessons learned when serving the missionary Church of Papua New Guinea, which helped me to understand how it is possible to serve and worship God in a variety of ways, whilst maintaining the integrity of the Gospel.

I believe that the role of Distinctive Deacon is one based on service, which provides exciting and challenging missionary opportunities, taking the Church forward into an exciting new era.


Eryl Parry

Pioneer Deacon - who will serve a curacy in the Bro Celynnin (Conwy) Ministry Area and Aberconwy Mission Area (St. Asaph Diocese)

I describe myself as a Welsh Scouser! I grew up in a Welsh-speaking family in Liverpool and went to work for John Lewis as a graduate trainee in various locations around the UK. Upon returning to Liverpool I set up and ran a conference centre for Liverpool’s Roman Catholic Archdiocese, before setting up and developing the commercial activities for both Liverpool’s Cathedrals. I enjoyed working in wider peer networks to further the growth of tourism and regeneration in Liverpool.

In 2016 I moved to live in Conwy. Generations of my family come from North Wales and have been committed members of churches in this Diocese. My roots run very deep here. So whilst I could never imagine myself leaving city life, moving here has felt like something of a homecoming.

We worship a God of surprises who knows the script before we do, so that even as dramatic a change in life can feel like the most obvious calling: at this time, to this place and for a particular purpose: Pioneer Ministry.

We have a narrative of hope to convey and interpret to those currently ‘outside the walls’ of our churches. My forebears served a church that occupied a much more central role in society, and seeking to serve as a pioneer can seem a daunting task. But it is an exciting challenge too, and one that needs creativity, courage and risk.

The comfort is that it is never a lone venture. Companionship and the making of new friends is an absolute joy. I love working in and building teams, so I’m really looking forward to building life together as we seek God’s will and serve his people today and for the years to come.”


Siôn Rhys Evans

Deacon - who will serve a curacy in the Llandudno Ministry Area 

A native of Anglesey, my work for the Church began in several central London Anglican parishes. I subsequently served as team member at Cytûn, Wales’s national ecumenical organisation, before taking up an appointment within the national coordinating team of the Methodist Church in Britain. There I was responsible for ministerial development, theological education and several significant infrastructure projects, within a context of significant organisational change. I returned to north Wales as Diocesan Secretary in the Diocese of Bangor at the end of 2013.

I am looking forward to the privilege of serving the Church and the diocese as a deacon over the coming year. Christian service and witness take many forms. I’m glad and humbled to have the opportunity to minister in this new way within the diocese, alongside lay and ordained colleagues whose faithfulness and creativity make this such an exciting time to be part of the Church here.


Stephen Rollins

Deacon - who will serve a curacy in the Bro Ystumanner Ministry Area (Tywyn, Meirionnydd)

I was born, baptised and grew up in London and studied English and Latin at the Universities of Southampton and Liverpool. I taught in Folkestone and Buckingham for before spending fourteen years abroad in Bermuda, Singapore and Northern Cyprus.

During those years abroad, especially in Cyprus, my local chaplain sensed that I might have a call to ordained ministry, so I began to study theology by distance learning! I returned to Britain in 2002 and ended up in Berkshire where I taught in colleges and worked as a lay chaplain,as well as furthering my training. I retired in 2016 and came to live in North Wales.

With great encouragement from my local clergy in Tywyn - Rev Richard Vroom, Rev Janet Fletcher and more recently under the supervision of Rev Dr Ruth Hansford - I’ve been working within Bro Ystumanner as a Worship Leader and Eucharistic Minister, taking Holy Communion to those unable to get to church.

My road to Ordination has been a long one, and I’ve received much encouragement along the way. My debt to my family is more than I can ever express. Indeed, as I begin my ordained ministry, the awe and joy I feel at such a profound privilege is matched by a sense of relief and gratitude to so many people.


Nick Webb

Deacon - who will serve a curacy in the Bro Cadwaladr (Gaerwen/Aberffraw) Ministry Area

Originally from Surrey, I graduated with a degree in Biblical Studies from Sheffield University, and then was a marketing manager, before working in recruitment and subsequently becoming a self-employed business coach and facilitator for change management and leadership development programmes, working for companies across Europe and the Americas.

I also served as a Christian worship musician, creative arts producer and lay preacher with several independent and Baptist churches in Sheffield and Manchester, and also as a board member with Communitas International (previously Christian Associates), a global missional movement focused on secular, “post-Christian”, and mostly urban communities.

On retiring to Anglesey, I still felt called to work with people and organisations as they identify, build and sustain positive changes in their lives and began to pursue a call to minister as a distinctive deacon with the Church in Wales. Distinctive deacons have a ministry of service, working with Bishop and priests and primarily focusing on the liminal space between the church and the world.

I am now looking forward to developing my calling as a distinctive deacon in the communities and churches of Bro Cadwaladr Ministry Area. I am daunted by the challenge of the Bishop’s charge to be “herald of Christ’s kingdom, proclaiming the gospel in word and deed”, but nevertheless much encouraged by the prospect of serving the local community and discerning how to help people respond to God’s call in fresh and exciting ways.


Simon Freeman

Deacon - who will continue to serve his curacy in the Bro Gwydyr Ministry Area (Betws y Coed) 

I have thoroughly enjoyed my year as a deacon, serving the people of Bro Gwydyr. I have learned a huge amount from my training incumbent - Rev Stuart Elliott - as well as from the people of the Ministry Area about service of the community and worship, as well as the day to day running of a Ministry Area. I have particularly enjoyed the pastoral aspect of my diaconal ministry.

I am looking forward to developing the next stage of my calling as a priest. I will be deepening my knowledge, commitment and service to God, the Church and the people I serve, as I begin to fulfil that which I believe I have been called to do.


Vince Morris

Priest - (stipendiary) who will continue to serve his curacy in the Bro Tysilio Ministry Area (Menai Bridge/Benllech

Originally from Oxford, before moving to Ripon Scarborough and Norfolk, I came to faith early and it been with me throughout my life. I left a career in politics in 2016 to train for ordained ministry.

I have always felt that I was being drawn towards the life of the church, and it has taken over 7 years to get to the verge of ordination as a priest.

I am very much looking forward to continuing to spread the word of the Gospel and helping people to come to faith in the Bro Tysilio ministry Area. I have enjoyed my year as a deacon, especially working alongside others member of the team in the Ministry Area

There is a lot of work to be done to help bring about God’s Kingdom and to help the Church in Wales and Bro Tysilio grow, I hope that I will be worthy of my calling.