minus bangor1 bangor2 bangor3 bangor4 bangor5 bangor6 bangor7 bangor8 bangor9 bangor10 bangor11 bangor12 bangor13 bangor14 bangor15 bangor16 bangor17 bangor18 bangor19 bangor20 bangor21 bangor22 bangor23 bangor24 bangor25 bangor26 bangor27 bangor28 bangor29 bangor30 bangor31 bangor32 bangor33 bangor34 bangor35 bangor36 bangor37 bangor38 bangor39 bangor40 bangor41 bangor42 bangor43 bangor44 bangor45 bangor46 chevron-down chevron-left chevron-right chevron-up download email facebook instagram plus search twitter vimeo youtube external

Penodiad Newydd i Fro Cybi

O Macclesfield i Gaergybi: Ficer ac Arweinydd Ardal Weinidogaeth newydd i Fro Cybi

Mae Esgob Bangor - y Gwir Barchedig Andy John - yn falch o gyhoeddi penodi’r Parchedig Robert Wardle fel Ficer ac Arweinydd Ardal Weinidogaeth Bro Cybi, sy’n gwasanaethu cymunedau Ynys Gybi - Caergybi, Bae Trearddur a Rhoscolyn - ar Ynys Môn. Mae Rob yn olynu’r Hybarch Andy Herrick, sy’n dod yn Ficer Cynorthwyol yn nhîm gweinidogaeth Bro Cybi, a fydd yn caniatáu iddo ganolbwyntio ei weinidogaeth fel Archddiacon Môn.

Mae Rob, ar hyn o bryd, yn aelod o dîm clerigwyr Gweinidogaeth Tîm Macclesfield.

Ganwyd Rob ym Manceinion, gan adael yr ysgol yn 16 oed i weithio yn y diwydiant adeiladu, ac yno y bu’n hunangyflogedig am y 31 mlynedd nesaf. Dechreuodd Rob ymddiddori mewn gwaith ieuenctid pan dyfodd ei blant ei hun i’w harddegau, cyfnod a oedd yn digwydd cydredeg â’i ddatblygiad yntau o ran ei ymrwymiad i’r ffydd.

Yn 2004 fe fentrodd gwneud cais i astudio yng Ngholeg Diwinyddol St John’s yn Nottingham, gan lwyddo ennill gradd dosbarth cyntaf mewn gwaith ieuenctid a chymunedol a diwinyddiaeth gymhwysol, gan sylweddoli fod ganddo’r gallu i wneud mwy na dim ond gwaith llaw!

Yn 2005, Rob oedd Cyfarwyddwr sefydlol rhaglen Ieuenctid a Chymunedol Cre8, sydd wedi ei chydnabod yn lleol ac yn genedlaethol am ei waith eang gyda phobl ifanc ac oedolion ar gyrion cymdeithas. Hyn fu’n graidd i’w weinidogaeth am y bymtheng mlynedd ddiwethaf.

Cyflwynodd Rob ei hun i’w ordeinio ac ymgymryd â hyfforddiant diwinyddol pellach yng Ngholeg King’s yn Llundain. Hyd at yn ddiweddar, bu Rob yn byw a gweithio o fewn 14 milltir i ardal ei fagwraeth, er bod ganddo gysylltiad hir ag Ynys Môn a Gogledd Cymru, gan fod ganddo deulu’n byw a gweithio yma ers blynyddoedd lawer.

Wrth edrych ymlaen at ei rôl newydd, meddai Robert, “Dwi’n teimlo wedi fy mendithio’n fawr o feddwl am y rhagolygon o weithio gyda phawb yn Ardal Weinidogaeth Bro Cybi. Fedra i ddim aros i ddechrau dod i nabod y bobl, i wasanaethu gyda nhw a gweld newid yn digwydd i bobl hyfryd Ynys Gybi.”

Dywedodd Archddiacon Rob, yr Hybarch Ian Bishop, Archddiacon Macclesfield, "Ordeiniwyd Rob yng Nghadeirlan Caer yn 2011 ac roedd ei weinidogaeth ym Macclesfield yn un anrhydeddus. Gweithiodd ar Stâd Moss am fwy na hynny ac fel Cyfarwyddwr Cre8, fe ddaeth â chreadigrwydd a gobaith mawr i stad dai drefol heriol. Mae ei dosturi a’i angerdd dros gyfiawnder cymdeithasol wedi bod yn gymhelliad i sbarduno rhywfaint o’r gwaith mwyaf dylanwadol ac ysbrydoledig a wnaed yn Esgobaeth Caer ac fe fydd pawn yn gweld ei golli’n fawr."

Yn ôl Esgob Bangor - y Gwir Barchedig Andy John, "Mae hi’n amlwg y bydd Rob a’i ddoniau helaeth yn gaffaeliad mawr i’w weinidogaeth newydd fel arweinydd ym Mro Cybi. Edrychaf ymlaen at weld sut y bydd Duw’n gallu gwneud defnydd o greadigrwydd Rob i ddod â’r Newyddion Da i holl bobl Ynys Cybi. Rydw i hefyd yn ddiolchgar iawn i’r Archddiacon Andy Herrick am ei ostyngeiddrwydd wrth gydnabod yr angen am y newid hwn, sy’n un cadarnhaol i weinidogaeth ein Hesgobaeth ar Ynys Môn ac ym Mro Cybi. Cofiwch weddïo dros Rob, ei deulu, y tîm gweinidogaeth a phobl Bro Cybi, Cre8 a Thîm Gweinidogaeth Macclesfield.’

Y disgwyl ydy y bydd Rob yn symud i Fro Cybi yn yr hydref, pan gynhelir gwasanaeth arbennig ar ddechrau ei weinidogaeth newydd yno.

Cymraeg

New Appointment to Bro Cybi

From Macclesfield to Holyhead : new Vicar and Ministry Area Leader for Bro Cybi

The Bishop of Bangor - the Right Reverend Andy John - is pleased to announce the appointment of the Reverend Robert Wardle as Vicar and Ministry Area Leader of the Bro Cybi Ministry Area, which serves the the communities of Holy Island - Holyhead, Treaddur Bay and Rhoscolyn - on Anglesey. Rob succeeds the Venerable Andy Herrick, who is becoming an Associate Vicar in the Bro Cybi ministry team, which will allow him to focus on his ministry as Archdeacon of Anglesey.

Rob is currently a member of the clergy team in Macclesfield Team Ministry.

Rob was born in Manchester and left school at 16 to work in the building trade, where he remained self-employed for the next 31 years. Rob began to take an interest in youth work when his own children were teenagers, which coincided with the growth of his own faith commitment.

In 2004 he took the plunge of applying to study at St John’s Theological College in Nottingham, gaining a first class honours degree in youth and community work and applied theology and realising that he could more than just work with his hands!

In 2005 Rob was the founding Director of the Cre8 Youth and Community programme in Macclesfield, which has received local and national recognition for its wide-ranging work with marginalised young people and adults. This has been the core of his ministry for the last fifteen years.

Rob went forward for ordination and did further theological training at King's College in London. Until recently, Rob has always lived and worked within 14 miles of where he was born and brought up, although he has a long association with Anglesey and North Wales, as family have been living and working here for many years.

Looking forward to his new role, Robert said, “I feel hugely blessed by the prospect of working with everyone in the Bro Cybi Ministry Area. I can’t wait to get to know the people, to serve with them and to see change happen for the wonderful people of Ynys Cybi.”

Rob's Archdeacon, the Venerable Ian Bishop, Archdeacon of Macclesfield, said, "Rob was ordained in Chester Cathedral in 2011 and has had a most distinguished ministry in Macclesfield. He has worked on the Moss Estate for longer than that and as Director of Cre8 has brought a huge amount of creativity and hope to a challenging urban estate. His compassion and passion for social justice has driven some of the most influential and inspiring work done in the Chester Diocese and he will be deeply missed by all."

The Bishop of Bangor - the Right Reverend Andy John - said, "It is clear that Rob has great gifts that he will bring to his new leadership ministry in Bro Cybi. I'm looking forward to seeing how God is able to use Rob's creativity to bring the Good News to all the people of Ynys Cybi. I'm also very grateful to Archdeacon Andy Herrick for his humility in recognising the need for this change, which is a positive one for the ministry of our Diocese on Anglesey and in Bro Cybi. Please do pray for Rob, his family, the ministry team and people of Bro Cybi, Cre8 and the Macclesfield Team Ministry.’

It is expected that Rob will move to Bro Cybi in the autumn, when a special service will be held to celebrate the start of his new ministry there.