minus bangor1 bangor2 bangor3 bangor4 bangor5 bangor6 bangor7 bangor8 bangor9 bangor10 bangor11 bangor12 bangor13 bangor14 bangor15 bangor16 bangor17 bangor18 bangor19 bangor20 bangor21 bangor22 bangor23 bangor24 bangor25 bangor26 bangor27 bangor28 bangor29 bangor30 bangor31 bangor32 bangor33 bangor34 bangor35 bangor36 bangor37 bangor38 bangor39 bangor40 bangor41 bangor42 bangor43 bangor44 bangor45 bangor46 chevron-down chevron-left chevron-right chevron-up download email facebook instagram plus search twitter vimeo youtube external

Penodiad Newydd i Bro Seiriol

‘Mi fydd yn gwasanaethu cymunedau Bro Seiriol gyda gofal, dychymyg a ffydlondeb’

Dyma beth oedd gan Esgob Bangor, y Gwir Barchedig Andrew John i'w ddweud am benodiad Parchedig Ganon Robert Townsend yn Ficer ac Arweinydd Ardal Weinidogaeth newydd i Bro Seiriol ar Ynys Môn.

‘Rwy’n falch iawn bod Canon Townsend wedi derbyn y rôl Arweinydd Ardal Gweinidogaeth Bro Seiriol. Mae Robert wedi gwasanaethu’r rhan fwyaf o weinidogaeth yn yr esgobaeth hon ac mae’n dod ag awydd dwfn i bobl adnabod Duw ac aeddfedu yn eu ffydd. Gweddïwch dros Robert a’i wraig Kath yn ogystal â thimau’r weinidogaeth a phobl Bro Seiriol a Bro Eryri’.

Wrth siarad am ei apwyntiad newydd, dywedodd y parchedig Ganon Robert Townsend ‘Mae’n fraint cael y cyfle i arwain y genhadaeth a’r weinidogaeth yn Bro Seiriol ac i annog y bobl yno ar ein pererindod ffydd. Rwy’n edrych ymlaen yn fawr i weithio ochr yn ochr â phobl a chymunedau ffyddlon Bro Seiriol i adrodd a chyhoeddi stori’r Efengyl’.

‘Rydw i wrth fy modd bod Robert yn dychwelyd i Ynys Môn. Mae dyfnder ei brofiad a'i sgiliau arbennig yw'r union beth sydd ei angen ar gyfer twf a datblygiad ar draws Bro Seiriol. Mi fydd yn gydweithiwr gwych i'w gael ar dîm gweinidogaeth y Synod. Rydym yn edrych ymlaen yn eiddgar iawn i groesawu Robert a Kath’, dywedodd Archddeacon Ynys Môn Andy Herrick.

Ar hyn o bryn mae Robert yn Ficer ar y Cyd ac Arweinydd Ardal Gweinidogaeth dros dro yn Bro Eryri sy’n gwasanaethu cymunedau Llanberis, Llanrug Bethel a Deiniolen.

Daeth Robert o Spalding yn Sîr Lincoln i astudio ym Mhrifysgol Bangor cyn ateb ei alwad i weinidogaeth ordeiniedig ag hyfforddi yn Ngholeg Mihangel Sant yn Llandaf, ag fe’i ordeinwyd yng Ngadeirlan Bangor yn 1993.

Ar wahân i’r 4 blynedd o wasanaeth yn Esgobaeth Tyddewi, mae Robert wedi gwasanaethu ei weinidogaeth gyfan yn Esgobaeth Bangor gan gynnwys rhai blynyddoedd fel ficer yn Amlwch a Llanfairpwll ar Ynys Môn.

Y mae Robert hefyd wedi gwasanaethu fel Cyfarwyddwr Addysg yr Esgobaeth a Chyfarwyddwr Cyfathrebu. Mi fydd ei waith fel Swyddog Cyfathrebu Esgob Bangor yn parahu.

Ychwanegodd Emlyn Williams, is-gadeirydd Clerigol Synod Môn, ‘Roeddwn yn falch o glywed am benodiad Canon Robert Townsend fel Arweinydd Ardal Gweinidogaeth Bro Seiriol. Mae ganddo set o sgiliau unigryw, ac rwy’n siŵr y bydd yn cyfoethogi bywyd y Synod a bywyd Bro Seiriol wrth ini archwylio ffyrdd newydd o wneud Cenhadaeth a Gweinidogaeth ar draws yr Ynys’.

Diswylir y bydd Robert yn symyd i Bro Seiriol yn yr Hydref, pan fydd gwasanaeth arbennig yn cael ei gynnal i ddathlu dechrau ei weinidogaeth newydd yno.

Cymraeg

New Appointment for Bro Seiriol

‘He will serve the communities of Bro Seiriol with care, imagination and devotion’.

Said the Bishop of Bangor, the Right Reverend Andy John as it was announced that Reverend Canon Robert Townsend has been appointed the new Vicar and Ministry Area Leader of Bro Seiriol.

‘I am delighted Canon Townsend has accepted the role of Ministry Area Leader of Bro Seiriol. Robert has served the largest part of ministry in this diocese and brings a deep desire for people to know God and mature in their faith. Please pray for Robert and his wife, Kath, as well as the ministry teams and people of Bro Seiriol and Bro Eryri’.

Speaking about his new role, Robert said, 'It’s wonderful to have the opportunity to lead the mission and ministry in Bro Seiriol and to encourage the people there on our pilgrimage of faith. I’m really looking forward to working alongside the faithful people and communities of Bro Seiriol to tell and proclaim the Gospel story’.

'I’m thrilled that Robert is returning to Anglesey. His depth of experience and special skills are just what’s needed for growth and development across Bro Seiriol. And he will be a great colleague to have on the Synod ministry team. We look forward with great anticipation to Kath and Robert joining us’ said Andrew Herrick, The Archdeacon of Anglesey.

Robert is currently Associate Vicar and acting Ministry Area Leader in Bro Eryri, serving the communities around Llanberis, Llanrug, Bethel and Deinolen.

Robert came from Spalding in Lincolnshire to study at the university in Bangor. He sensed a call to ordained ministry and trained at St. Michael’s College in Llandaff. He was ordained in Bangor Cathedral in 1993.

Apart from the 4 years of service in St. David’s Diocese, Robert has served his whole ministry in the Diocese of Bangor, including some years on Anglesey, where he was Vicar of Amlwch and Vicar of Llanfairpwll. Robert has also served as the Diocese’s Director of Education and Director of Communications. He is also the Bishop of Bangor’s Communications’ Officer, a role which he will retain.

Emlyn Williams Clerical Vice Chair of Synod Môn added ‘I was pleased to hear of Canon Robert Townsend’s appointment to the role of Ministry Area Leader in Bro Seiriol. Robert has a unique skill set, and I’m sure he will enrich the life of the Synod, and that of Bro Seiriol, as we explore together new ways of doing Mission and Ministry, across the Island’.

It is expected that Robert will move to Bro Seiriol in the autumn, when a special service will be held to celebrate the start of his new ministry there.