minus bangor1 bangor2 bangor3 bangor4 bangor5 bangor6 bangor7 bangor8 bangor9 bangor10 bangor11 bangor12 bangor13 bangor14 bangor15 bangor16 bangor17 bangor18 bangor19 bangor20 bangor21 bangor22 bangor23 bangor24 bangor25 bangor26 bangor27 bangor28 bangor29 bangor30 bangor31 bangor32 bangor33 bangor34 bangor35 bangor36 bangor37 bangor38 bangor39 bangor40 bangor41 bangor42 bangor43 bangor44 bangor45 bangor46 chevron-down chevron-left chevron-right chevron-up download email facebook instagram plus search twitter vimeo youtube external

Y Parchedig John Matthews

Cyhoeddir heddiw (Dydd Sul, Medi 22ain, 2019) bod y Parch John Matthews - Ficer ac Arweinydd Ardal Weinidogaeth Bro Ogwen (sy’n gwasanaethu cymunedau cylch Bethesda, Tregarth, Pentir, Llandygai a Thalybont) yn Archddeoniaeth Bangor - wedi derbyn ei benodi’n Ficer Gogledd Havelock yn Esgobaeth Waiapu yn Nhalaith yr Eglwys Anglicanaidd yn Aotearoa, Seland Newydd a Pholynesia.

Ordeiniwyd John yn Esgobaeth Tyddewi yn 2002 cyn symud i Esgobaeth Bangor yn 2009, gan wasanaethu’n gyntaf fel Ficer Tregarth, Llandygai a Maesygroes ac yna fel Ficer ac Arweinydd Ardal Weinidogaeth Bro Ogwen yn 2014. John hefyd oedd Deon Ardal Gweithredol cyn-ddeoniaeth Ogwen rhwng 2012 a 2014. O 2010 hyd at 2014, roedd John yn aelod gweithredol o GDAC (Grŵp Datblygu Addoliad Gymraeg) o 2010 hyd at 2014.

Wrth edrych ymlaen at ei benodiad newydd, meddai John, “Er mod i’n gadael, mae fy niolchgarwch aruthrol i Esgob Bangor am fy ngwahodd yn ôl i’r Esgobaeth fu’n fy meithrin yn ystod fy mhlentyndod. Wedi cael y fraint o wasanaethu cymunedau yn Nyffryn Ogwen am y cyfnod hwn, mae sawl perthynas clos wedi datblygu ac mae fy niolch i bobl yr ardal hon am fy nerbyn innau a Sue i’w bywydau. Hoffwn dalu teyrnged i’r Tîm Gweinidogaethu, y bu hi’n gymaint o fraint eu gwasanaethu a’u harwain. Gallaf sicrhau Esgobaeth Bangor o’m gweddïau a gofynnaf i chithau wneud yr un peth wrth inni fentro allan mewn ffydd.

Wedi profiad trawsnewidiol ar gyfnod Astudiaeth yn Nhalaith Aotearoa, Seland Newydd a Pholynesia, datblygodd rhyw ymdeimlad o alwad i wasanaethu yno. Trwy hyder yn yr Arglwydd yn unig y mae Sue a finnau’n symud ymlaen i anrhydeddu’r alwad hon, ac edrychwn ymlaen at weithio gyda theulu eglwys newydd, yn yr Esgobaeth, yn ogystal â’r Plwyf.”

Meddai Esgob Waiapu, y Gwir Barchedig Andrew Hedge, “Dwi’n edrych ymlaen at groesawu John a Sue i Seland Newydd ac yn benodol i Esgobaeth Waiapu a Phlwyf Gogledd Havelock. Mae gan yr Esgobaeth hanes hir o gefnogi a hyrwyddo’r partneriaethau deuddiwylliant sy’n bodoli yn ein talaith a bydd profiad John gyda’r Eglwys yng Nghymru yn cydweddu â hyn ac yn cyfoethogi ein profiad o’r Gymuned Anglicanaidd. Dwi’n hyderus y bydd John a Sue yn derbyn croeso cynnes yn y plwyf a’r esgobaeth ehangach wrth iddyn nhw ddod â’u profiad a’u doniau o’r weinidogaeth ac y bydden nhw’n gallu magu cysylltiadau da gyda thir a phobl Waiapu.”

Dyma’r hyn a oedd gan Esgob Bangor – y Gwir Barchedig Andy John – i’w ddweud, “Dwi wedi ‘nabod John a Sue ers blynyddoedd lawer, yn Esgobaeth Tyddewi, yn ogystal ag Esgobaeth Bangor. Mae gan John sawl dawn, gan gynnwys y gallu i ddod â phobl at y Ffydd ac mae ei weinidogaeth yn cael ei werthfawrogi gan drigolion Bro Ogwen. Fe fydd colled ar ôl John a Sue yn yr Esgobaeth. Fodd bynnag, mae ein dymuniadau gorau’n mynd gyda nhw ar gyfnod newydd eu gweinidogaeth mewn gwlad gyffrous. Byddwn yn sicr o weddïo drostyn nhw’n wastadol.

Cofiwch weddïo dros bobl Gogledd Havelock, yn ogystal â phobl a Thîm Gweinidogaeth Bro Ogwen.”

Cymraeg

The Rev’d John Matthews

It is being announced today (Sunday 22 September 2019) that the Rev’d John Matthews - Vicar and Ministry Area Leader of Bro Ogwen (serving the communities around Bethesda, Tregarth, Pentir, Llandygai and Talybont) in the Archdeaconry of Bangor - has accepted the appointment as Vicar of Havelock North in the Diocese of Waiapu in the Province of the Anglican Church of Aotearoa, New Zealand and Polynesia.

John was ordained in the Diocese of St Davids in 2002 before moving to the Diocese of Bangor in 2009, serving first as Vicar of Tregarth, Llandygai and Maesygroes and subsequently as Vicar and Ministry Area Leader of Bro Ogwen in 2014. John was also Acting Area Dean of the former Ogwen Deanery from 2012-2014. From 2010 to 2014 John was an active member of GDAC (Grwp Datblygu Addoliad Gymraeg) - a group responsible for resourcing and delivering Welsh language worship from 2010 until 2014.

Looking forward to his new appointment, John said “It is with immense gratitude to the Bishop of Bangor for inviting me back to the Diocese which nurtured me through my childhood, that I now leave. Having had the privilege of serving communities in the Ogwen Valley for this period of time, many close relationships have built up and I am grateful to the people of the area for having accepted myself and Sue into their lives. I would like to pay tribute to the Ministry Team, whom it has been my privilege both to serve and lead. I assure the Diocese of Bangor of my prayers and ask for yours as we venture out in faith.

After a life changing experience on Study leave in the Province of Aotearoa, New Zealand and Polynesia in March, a sense of calling emerged to serve there. It is in honouring this call with confidence in the Lord that myself and Sue go forward and look forward to working with our new church family both in the Diocese and the Parish.”

The Bishop of Waiapu, the Right Rev’d Andrew Hedge said, “I am looking forward to welcoming John and Sue to New Zealand and in particular to the Diocese of Waiapu and Parish of Havelock North. The Diocese has a long history of supporting and promoting the bi-cultural partnerships that exist in our province and we see John’s experience in the Church in Wales as being able to compliment this and enrich our experience of the Anglican Communion. I am confident that John and Sue will find a warm welcome in the parish and wider diocese as they bring with them their experience and gifts of ministry and that they will be able to connect well with the land and people of Waiapu.”

The Bishop of Bangor - the Right Reverend Andy John - said, “I have known John and Sue for many years, both in the Diocese of St. Davids and the Diocese of Bangor. John has many gifts, including the ability to bring people to faith and his ministry is valued by people in Bro Ogwen. John and Sue will be missed in the Diocese and I am sorry to be losing them. However we wish them well on this new stage of their ministries in an exciting country. They can be assured of our prayers at all times.

Please do pray for the people of Havelock North as well as the people and Ministry Team in Bro Ogwen.”