minus bangor1 bangor2 bangor3 bangor4 bangor5 bangor6 bangor7 bangor8 bangor9 bangor10 bangor11 bangor12 bangor13 bangor14 bangor15 bangor16 bangor17 bangor18 bangor19 bangor20 bangor21 bangor22 bangor23 bangor24 bangor25 bangor26 bangor27 bangor28 bangor29 bangor30 bangor31 bangor32 bangor33 bangor34 bangor35 bangor36 bangor37 bangor38 bangor39 bangor40 bangor41 bangor42 bangor43 bangor44 bangor45 bangor46 chevron-down chevron-left chevron-right chevron-up download email facebook instagram plus search twitter vimeo youtube external

Buddsoddiad mawr mewn efengylu yn Esgobaeth Bangor

“Trwy dorri tir newydd a thrwy adeiladu ar sylfaen ein cryfderau, bydd Llan yn magu hyder wrth gyhoeddi’r Efengyl ledled yr esgobaeth gyfan” | Andy John

Pererindod, Iaith a Menter yw ffrydiau allweddol prosiect newydd “Llan” yn Esgobaeth Bangor, sydd wedi derbyn cefnogaeth gan Gronfa Efengylu'r Eglwys yng Nghymru. Nod y Gronfa Efengylu yw cefnogi prosiectau esgobaethol o faint sylweddol sy'n canolbwyntio ar dyfu'r Eglwys.

Mae “Llan” yn brosiect saith mlynedd, gwerth £3m, a fydd yn gweld gweinidogaethau newydd yn datblygu ledled yr esgobaeth, wrth i ni ganolbwyntio ar estyn allan mewn ffyrdd newydd i’n cymunedau gyda chariad Duw yng Nghrist. Bydd Llan yn ein galluogi i ddatblygu ein gweinidogaeth bererindod ym mhob cwr o’r esgobaeth, i dyfu cymuned eglwysig Gymraeg newydd, ac i lansio pedair menter gymdeithasol a fydd yn arloesi math newydd o bresenoldeb a thsytiolaethu Anglicanaidd mewn pedair o'n trefi a'n pentrefi.

Mae tyfu gweinidogaethau newydd wrth wraidd Llan

Hyder

Syr Paul Silk sy’n cadeirio pwyllgor Cronfa Efengylu'r Eglwys yng Nghymru. Wrth gyhoeddi cais llwyddiannus Esgobaeth Bangor, dywedodd: 

“Mae Llan yn brosiect cyffrous ac amrywiol sydd wedi’i gynllunio i ysgogi ffurfiau newydd o weinidogaethu, i gwrdd â phobl mewn gwahanol gyd-destunau ac i feithrin ffydd ar draws ffiniau diwylliannol a chymdeithasol ac yn ein dwy iaith genedlaethol. Mae’r cais wedi ei ffurfio a’i ystyried yn ofalus, ac rydym yn hyderus y bydd y prosiect yn ddefnydd cadarn o'r Gronfa Efengylu.”
Eglwys Padrig Sant ar y llwybr arfordirol ar ogledd Ynys Môn

Gwreiddiau dwfn y llan

Mae gan y “llan” wreiddiau dwfn yn hanes Cymru, gan dyddio nôl i ddyddiau cynharaf bywyd yr Eglwys yn Esgobaeth Bangor. Roedd y llannau cyntaf yn gorlannau cysegredig a sefydlwyd gan y seintiau Cristnogol cynnar fel mannau i fyw, i gwrdd, ac i wahodd trawsnewid. Bydd Llan yn sefydlu llannau newydd ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain - lleoedd lle gall cyfarfyddiadau â Duw yng Nghrist a thrawsnewid bywydau ddigwydd yn y byd sydd ohoni.

Wrth son am Llan, dywedodd Esgob Bangor, Andy John:

"Rwy’n falch iawn bod Pwyllgor Cronfa Efengylu’r Eglwys yng Nghymru wedi cymeradwyo ein cais am gyllid. Mae cysylltiad uniongyrchol rhwng Llan a’r Blaenoriaethau esgobaethol hynny a sefydlwyd gennym rai blynyddoedd i’n galluogi i ganolbwyntio ar feithrin disgyblion, tyfu gweinidogaethau newydd, a chroesawu plant, teuluoedd a phobl ifanc. Credwn fod y Blaenoriaethau hyn yn darparu sylfaen ragorol ar gyfer datblygu ffrydiau newydd o bererindod, efengylu Cymraeg a mentrau cymdeithasol arloesol Llan. Trwy dorri tir newydd a thrwy adeiladu ar sylfaen ein cryfderau, bydd Llan yn magu hyder wrth gyhoeddi’r Efengyl ledled yr esgobaeth gyfan. Rwyf am ddiolch i aelodau’r pwyllgor am eu hyder yn ein cynlluniau, yn ogystal a’r cydweithwyr hynny y mae eu gweledigaeth a’u dewrder yn ein harwain mewn ffyrdd newydd.”
Eglwys Cwyfan Sant yn ne Ynys Môn

Pererindod

Bydd pwyslais Llan ar Bererindod yn caniatáu inni ddathlu lleoedd, adeiladau a thirnodau sy'n mynegi ehangder ein treftadaeth Gristnogol. Byddwn yn buddsoddi mewn chwe chanolfan ragoriaeth newydd o amgylch yr esgobaeth, ac mewn llwybrau pererindota hen a newydd ym mhob cwr o’r esgobaeth. Yn bwysicach fyth, byddwn hefyd yn buddsoddi mewn pobl trwy hyfforddi croesawyr a thywyswyr i adrodd ein stori Gristnogol, a gwahodd ymwelwyr i ddod yn wir bererinion trwy gydblethu eu stori eu hunain â stori fyw ffydd.

Dywedodd yr Hybarch Andrew Jones, Archddiacon Meirionnydd, am Bererindod: 

"Rwyf mor falch bod pererindod wrth galon Llan. Ers cenedlaethau mae pererinion wedi dod i’n hesgobaeth i ymweld â’r nifer o ‘gyrchfannau sanctaidd’ sydd gennym ar garreg ein drws. Dros y blynyddoedd rwyf wedi arsylwi gyda chyffro'r traffig pererindod cynyddol i Ynys Enlli ar adeg pan mae cynulleidfaoedd eglwysig rheolaidd yn gwanhau. Mae pob un o'n safleoedd pererindod yn leoedd o dawelwch, harddwch, goleuni a hyd yn oed o drawsnewid dychmygus o'r byd hwn i'r nesaf - gofodau sy’n cynnig inni roddion gwerthfawr ac unigryw.”
“Mae pob un o'n safleoedd pererindod yn leoedd o dawelwch, harddwch, goleuni a hyd yn oed o drawsnewid dychmygus o'r byd hwn i'r nesaf” | Andrew Jones

Iaith

Bydd pwyslais Llan ar Iaith yn ein gweld yn tyfu cymuned eglwys Gymraeg newydd, gyda chefnogaeth cynllun “blwyddyn i ffwrdd” a fydd yn caniatáu i hyd at bum person ifanc bob blwyddyn gael blas ar weinidogaeth Gristnogol Gymraeg ei hiaith. Yn ogystal, byddwn yn datblygu ystod o adnoddau Anglicanaidd Cymraeg i gefnogi dysgu, addoli ac arloesi.

With groesawu'r ffrwd Iaith, dywedodd Paul Roberts, Swyddog Cyfathrebu’r newydd yr esgobaeth: 

"Mae canolbwyntio ar y Gymraeg yn flaenoriaeth yng Nghymru; felly mae'n rhaid i ni ddatblygu a gwella ein sgiliau, ein harbenigedd a'n hadnoddau i adlewyrchu hyn. Mae’r adnoddau efengylu sydd ar gael yn Gymraeg yn gyfyngedig iawn ac rydym wedi wynebu heriau wrth feithrin galwedigaethau Cymraeg eu hiaith. Trwy chwistrelliad o egni newydd i'r maes pwysig hwn, bydd Llan yn darparu sylfaen Gymraeg gyson i feithrin a chefnogi efengylu trwy'r esgobaeth gyfan.”
Mentrau’n dod ag egni newydd i gymunedau lleol, a rhoi cyfle i fath newydd o eglwys i ymgynnull

Menter

Bydd pwyslais Llan ar Fenter yn ein galluogi i sefydlu pedwar canolbwynt newydd o weithgaredd cymunedol yn yr esgobaeth. Boed yn gaffi neu’n dafarn, yn ofod celfyddydol neu’n weithdy ar gyfer busnesau bach lleol, yn hostel ar gyfer partïon ysgol sy’n cerdded y bryniau neu’n siop gornel mewn pentref lle mae gwasanaethau'n brin, bydd mentrau sy'n canolbwyntio ar gyfiawnder yn cael eu lansio i helpu i ddod ag egni newydd i gymunedau lleol, yn ogystal â rhoi cyfle i fath newydd o eglwys i ymgynnull yno.

Dywedodd Archddiacon Bangor, Mary Stallard, am y ffrwd hon:

“Pwrpas ffrwd menter Llan yw efengylu - ymestyn ein cyrhaeddiad i gysylltu, gwasanaethu ac ymgysylltu â ffydd gyda phlant, teuluoedd a phobl ifanc, sy'n aml yn ymylol neu ddim yn bresennol yn ein gwaith cyfredol. Ein bwriad yw adeiladu ar ac ymestyn y gwaith arloesol cyffrous sydd eisoes wedi cychwyn mewn sawl man yn yr esgobaeth. Ein gobaith yw y gallwn ddatblygu prosiectau mentrau cymdeithasol newydd: byddai’r rhain yn ffyrdd o wasanaethu anghenion ein cymunedau lleol, gan fodelu ffordd Iesu o wasanaeth cariadus.”
Adfeilion mynachaidd ar Ynys Enlli, un o brif gyrchfanoedd pererindod Cymru

Camau nesaf

Sefydlir tîm ymroddedig i yrru Llan ymlaen a byddant yn canolbwyntio ar gyflawni allbynnau cryf a mesuradwy o fewn pob ffrwd, gan alluogi adfywiad mewn gweinidogaethau Cristnogol trwy efengylu ac ymgysylltu. Bydd recriwtio nifer fach o staff allweddol yn gam cynnar pwysig. O dan oruchwyliaeth Cyngor yr Esgobaeth, a thrwy ymgynghori'n agos ag arweinwyr clerigol a lleyg ar draws yr esgobaeth, bydd y gwaith pwysig o ddatblygu adnoddau a nodi safleoedd allweddol ar gyfer tair ffrwd Llan yn dechrau.

Caiff Llan ei gefnogi o Dŷ Deiniol, swyddfeydd yr esgobaeth ym Mangor, ond mae'n brosiect ledled yr esgobaeth a fydd yn cael effaith ar draws gogledd-orllewin a chanolbarth Cymru.

Cymraeg

Major investment in evangelism in the Diocese of Bangor

A young crowd in the diocese on the move in Meirionnydd

Pilgrimage, Welsh-language and Enterprise are the key streams of a new Diocese of Bangor project that has received support from the Church in Wales’s Evangelism Fund, which is offering grants for major diocesan projects which focus on growing the church.

“Llan” is a £3m, seven-year project that will see the development of new ministries across the diocese focused on reaching out in new ways to our communities with the love of God in Christ. Llan will enable us to develop our pilgrimage ministry across the diocese, to grow a new Welsh-language church community, and to launch four social enterprises pioneering a new sort of Anglican presence and witness in four of our towns and villages.

Sir Paul Silk, Chair of the Church in Wales's Evangelism Fund Committee

Confidence

The Church in Wales’s Evangelism Fund committee is chaired by Sir Paul Silk. Announcing the Diocese of Bangor's successful bid, he said: 

“Llan is an exciting and diverse project designed to stimulate new forms of ministry, to encounter people in different contexts and to nurture faith through cultural and social boundaries and in our two national languages. The bid was well thought-out and constructed, and we are confident that the project will be a sound use of the Evangelism Fund.”
St Patrick's Church on the coastal path on the north side of Anglesey

The idea of the “llan”

The idea of the “llan” goes back to the beginning of the life of the Church in the Diocese of Bangor. The first llans were sacred enclosures established by the early Christian saints as places of encounter and transformation. Our new Llan initiatives will establish twenty-first century llans – places where encounters with God in Christ and the transformation of lives can take places in today’s world.

Speaking about Llan, the Bishop of Bangor, the Right Revd Andy John said:

"I’m delighted the Church in Wales’s Evangelism Fund Committee has approved our bid for funding. Llan arises directly from those diocesan Priorities we established some years ago to focus on nurturing disciples, growing new ministries, and welcoming children, families and young people. We believe these Priorities provide an excellent basis for developing Llan’s new streams of pilgrimage, Welsh-language evangelism and pioneer social enterprise projects. Through new work and through building on our strengths, Llan will enable us to become more confident in the gospel across the whole diocese. I want to thank the committee members for their confidence in our plans, as well as those colleagues whose vision and courage is leading us forward in new ways."
The Bishop of Bangor at one of our Cathedral days for Year 6 pupils

Pilgrimage

Llan’s emphasis on Pilgrimage will allow us to celebrate places, buildings and landmarks that hold the breadth of our Christian heritage. We will invest in six new centres of excellence around the diocese, and in new and old pilgrim pathways that will criss-cross the diocese. More importantly, we will also invest in people through training welcomers and guides to become excellent at telling our Christian story, and inviting visitors to become true pilgrims by interweaving their own story with the living story of faith.

Speaking about the Pilgrimage stream, the Archdeacon of Meirionnydd, Andrew Jones, said: 

"I am so delighted that pilgrimage is at the heart of our Llan evangelism project. For generations pilgrims have come to our diocese to visit the many “holy pilgrim places” we have on our doorstep. Over the years I have observed with excitement the increasing pilgrimage traffic to Bardsey Island at a time when regular church congregations are weakening. All of our pilgrimage sites are places of silence, beauty, light and even of imaginative transition from this world to the next - spaces of precious and irreplaceable gifts."
St Tanwg's Church, Llandanwg

Language

Llan’s emphasis on Language will see us growing a new Welsh-language church community, supported by a gap-year scheme that will allow up to five young people each year to get a taste of Welsh-speaking Christian ministry. In addition, we will develop a range of Welsh-language Anglican resources to support learning, worship and innovation.

Welcoming the Language stream, Paul Roberts, the diocese's new Communications Officer said: 

"Focus on the Welsh-language is a priority in Wales; therefore we must develop and enhance our skills, expertise and our resources to reflect this. Evangelism resources available in Welsh are very limited, and we have faced challenges in nurturing Welsh-speaking vocations. By an injection of new energy into this important area, the Language stream of Llan will provide a constant Welsh-language base to nurture and support evangelism throughout the diocese."
Making a contribution to local communities and creating a space for a brand new type of church to gather

Enterprise

Llan’s emphasis on Enterprise will enable us to establish four new hubs of community activity in the diocese. Be it a café or a pub, art space or a workshop for local emerging small businesses, a hostel for hill-walking school parties or a newsagent in a village where services are scarce, we will launch justice-oriented enterprises that will make a contribution to local communities, as well as providing a space for a brand new type of church to gather.

The Archdeacon of Bangor, Mary Stallard, said of the Enterprise stream:

"The purpose of the enterprise stream of Llan is all about evangelism – extending our reach to connect, serve and engage in faith with children, families and young people, who are often marginal or not present in our current work. Our intention is to build on and extend the exciting pioneer work which has already begun in several places in the diocese. It’s our hope that we can develop a number of new social enterprise projects: these would be ways of serving the needs of our local communities, modelling Jesus’s way of loving service." 
Our social enterprises will be “ways of serving the needs of our local communities, modelling Jesus’s way of loving service” | Mary Stallard

Next steps

A dedicated team will be established to drive Llan forward and will be focused on delivering strong and measurable outcomes within each stream, enabling the revival of Christian ministries through evangelism and engagement. The recruitment of a small number of key staff will be an important early step. Under the oversight of the Diocesan Council, and consulting closely with clerical and lay leaders across the diocese, the important work of developing resources and identifying key sites for the three streams of Llan will then begin.

Llan will be supported from Tŷ Deiniol, the diocesan offices in Bangor, but it is a diocesan wide project which will have an impact across north-west and mid Wales.