minus bangor1 bangor2 bangor3 bangor4 bangor5 bangor6 bangor7 bangor8 bangor9 bangor10 bangor11 bangor12 bangor13 bangor14 bangor15 bangor16 bangor17 bangor18 bangor19 bangor20 bangor21 bangor22 bangor23 bangor24 bangor25 bangor26 bangor27 bangor28 bangor29 bangor30 bangor31 bangor32 bangor33 bangor34 bangor35 bangor36 bangor37 bangor38 bangor39 bangor40 bangor41 bangor42 bangor43 bangor44 bangor45 bangor46 chevron-down chevron-left chevron-right chevron-up download email facebook instagram plus search twitter vimeo youtube external

Negeseuon Nadolig Esgob Andy 2019

Mae Esgob Bangor - y Gwir Barchedig Andrew John - yn falch i ryddhau ei negeseuon Nadolig.

Mae ei neges ysgrifenedig (isod), gyda'r pennawd ‘Fedra i ddim credu hyn!’, yn ein herio ni i ddarganfod haelioni Duw wrth ddod i'r byd fel plentyn diymadferth.

Yn ei neges fideo Nadolig (Cliciwch yma), sydd ar gael yn y Gymraeg a’ Saesneg, mae Esgob Andy yn ystyried a yw stori'r Nadolig yn stori serch o chwith, ac yn ymweld â'r Caffi Pris Teg ym Mangor wrth i wirfoleddwyr y caffi yn paratoi i gynnal cinio Nadolig i'r digartref. Cafodd ei ffilmio ym Mangor, ar Fynydd Parys, ger Amlwch ac mae'n cynnwys delweddau o rai marchnadoedd Nadolig yn yr Almaen.

Mae 'Closed Captions' (isdeitlau) ar gael wrth ddefnyddio'r botwm ‘CC’ neu olwyn ddannedd ‘Settings’ ar Facebook.

Mae 'na groeso i chi rannu a defnyddio'r negeseuon hyn.

☩ ☩ ☩ ☩ ☩ ☩ ☩ ☩ ☩ ☩ ☩ ☩ ☩ ☩ ☩ ☩

‘Fedra i ddim credu hyn!’ (‘I don’t believe it!’)

Bydd dilynwyr Victor Meldrew yn cofio’n dda ei ebychiad rhwystredig, ‘I don’t believe it!’ mewn ymateb i gyfres o gyd-ddigwyddiadau damweiniol chwerthinllyd. Fe fase’r rhai ohonoch sy’n anghyfarwydd â ‘One Foot in the Grave’ yn mwynhau gwylio penodau ar YouTube neu iPlayer. Yn fynegiant o dalp o amheuaeth yn gymysg ag anghrediniaeth, daeth yr ymadrodd yn un o hoff ddywediadau’r 1990au.

Er ei fod yn llawn ffraethineb deifiol, mae rhywbeth ychydig yn ddyrchaf ôl, efallai, yn y geiriau. Ac yn Feiblaidd hefyd. Pan glywodd Mair y newyddion ei bod am eni mab, nid yn annhebyg oedd ei hymateb cyntaf hi; pan ddywedwyd wrth y bugeiliaid bod Ceidwad byd yn gorwedd mewn cafn bwydo anifeiliaid, tebyg iawn oedd eu hymateb hwythau.

Dydy’r datganiadau hanesyddol rheini ddim yn cynnwys surni Victor, ond maen nhw’n rhannu’r un anghrediniaeth. Mewn gwirionedd, mae hi’n anodd pan fo’r blynyddoedd yn llunio disgwyliadau penodol am y byd, sut mae pethau i fod, be’ sy’n wir a be’ sy ddim. Ac felly, pan fo rhywbeth cwbl annisgwyl yn digwydd, sy’n chwalu ffiniau arferol yr hyn sy’n gredadwy, mae’n hawdd deall pam mai ‘Fedra i ddim credu hyn!’ ydy’r ymateb cyntaf.

Dwi wedi fy nghyffwrdd yn ddiweddar gan ddewrder yr adwaith rhyfeddol a welwyd ar Bont Llundain gan ddynion gwrol ac anhunanol neu gan y rhai sy’n gwrthod ildio i awyrgylch o anobaith a Brexit blinderus. Fe welais fywydau’n cael eu cyffwrdd trwy garedigrwydd banciau bwyd lleol a Chaffi Pris Teg ym Mangor a sut y gwelir newid yn amgylchiadau pobl bregus. Mae hi’n ymddangos i mi fod y gallu hwn, i newid a chael ein trawsnewid, yn mynd at wraidd ystyr y Nadolig. Pan deimlwn ninnau Oleuni’r Byd yn treiddio ein tywyllwch ni neu ryfeddod Duw hael sy’n estyn allan yn y ffordd fwyaf anhygoel trwy fabi diymadferth, dyna pryd y daw’r Nadolig yn fyw.

Yr eiliad honno ydy’r groesfan lle gallwn un ai ymuno â’r angylion a bloeddio canu... neu styfnigo fel yr hen Victor a dweud ‘I don’t believe it’. Ni biau’r dewis.

+Andrew Bangor

Cymraeg

Bishop Andy's Christmas Messages 2019

The Bishop of Bangor - the Right Reverend Andrew John - is pleased to release his Christmas messages.

His written message (below), entitled I don’t believe it!, challenges us to discover the generosity of God in coming to the world as a helpless child.

In his video Christmas message (Click here), which is available in Welsh and English, Bishop Andy wonders whether the Christmas story is a love story in reverse, and features Bangor’s Fair Price Café as volunteers prepare to host a Christmas lunch for the homeless. It was filmed in Bangor, on Parys Mountain, near Amlwch and includes images from some Christmas markets in Germany.

Closed Captions (subtitles) are available by using the button ‘CC’ or via the settings ‘cog’ on Facebook.

Please do share and use these messages.

☩ ☩ ☩ ☩ ☩ ☩ ☩ ☩ ☩ ☩ ☩ ☩ ☩ ☩ ☩ ☩

‘I don’t believe it’

Fans of Victor Meldrew will remember his unforgettable ‘I don’t believe it’ outburst and the riotous disasters which followed. Those unfamiliar with ‘One Foot in the Grace’ have a treat in store via YouTube or iPlayer. Synonymous with a scepticism born of incredulity, the words became the catchphrase of the 1990s.

Though dripping with caustic wit there is something, perhaps, salutary in the outburst. And Biblical too. When Mary was told the news she would bear a son her first response was little different; when the shepherds were told a Saviour was lying in a feeding trough, theirs was much the same.

All the ancient statements lack Victor’s acidity but they share the same disbelief. In truth, it’s hard when the years shape certain expectations about the world, the way things are, what’s true and what isn’t. And so, when something utterly unexpected happens, which breaks up these settled boundaries of belief, we can understand why ‘I don’t believe it’ becomes the first response.

I’ve been struck recently by the courage of some extraordinary behaviour whether seen on London Bridge by fearless and selfless human beings or by those who refuse to concede to an agenda of despair and Brexit fatigue. I’ve seen lives touched by kindness in local foodbanks and a Fair Price Café in the city of Bangor and how change takes place in the fortunes of vulnerable people. This capacity to change and be changed seems to me gets to the heart of what Christmas means. When we discover the Light of the World piercing our own darkness or the wonder of a generous God reaching out in the most extraordinary of ways through a helpless child, Christmas comes alive.

It’s at this point we might choose to join the angels and sing a bit. Or stick with Victor and say ‘I don’t believe it’. The choice is ours.

+Andrew Bangor