minus bangor1 bangor2 bangor3 bangor4 bangor5 bangor6 bangor7 bangor8 bangor9 bangor10 bangor11 bangor12 bangor13 bangor14 bangor15 bangor16 bangor17 bangor18 bangor19 bangor20 bangor21 bangor22 bangor23 bangor24 bangor25 bangor26 bangor27 bangor28 bangor29 bangor30 bangor31 bangor32 bangor33 bangor34 bangor35 bangor36 bangor37 bangor38 bangor39 bangor40 bangor41 bangor42 bangor43 bangor44 bangor45 bangor46 chevron-down chevron-left chevron-right chevron-up download email facebook instagram plus search twitter vimeo youtube external

Arweinydd Ardal Weinidogaeth newydd ym Mro Dwynwen

Llewelyn Moules-Jones yn cyhoeddi’r Efengyl yng Nghadeirlan Bangor | Llewelyn Moules-Jones proclaiming the Gospel in Bangor Cathedral

Mae’n bleser gan Esgob Bangor gyhoeddi penodiad y Parchg Llewelyn Moules-Jones yn Ficer ac Arweinydd Ardal Weinidogaeth ar gyfer Ardal Weinidogaeth Bro Dwynwen, sy’n gwasanaethu’r cymunedau o amgylch Llanfairpwll, Brynsiencyn a Niwbwrch ar Ynys Môn.

Yn frodor o Fôn, y mae Llew yn hannu o linach hir o amaethwyr ar yr ynys Yn dilyn cyfnod ym Mhrifysgolion Bangor a Chaerdydd, cychwynodd Llew ei yrfa fel darlithydd mewn amaethyddiaeth, cyn treulio pymtheg mlynedd yn gweithio i Lywodraeth Cymru, wedi ei leoli yn bennaf yng Nghaerdydd.

Yna, wedi dwys ystyried galwad i’r offeriadaeth, cychwynodd Llew ei hyfforddiant yng Ngoleg Sant Mihangel ac yn diweddarach Athrofa Padarn Sant. Fe’i ordeinwyd yn ddiacon yn 2016 ac yn offeiriad yn 2017.

Yn dilyn blwyddyn o guradaeth yn Eglwys Gadeiriol Bangor, gwahoddwyd Llew i dreulio dwy flynedd olaf ei guradaeth yn Ardal Weinidogaeth Bro Cwyfan ar Ynys Môn dan gyfarwyddyd Canon Philip Barratt.

Wrth edrych ymlaen at ei rol newydd, dywedodd Llew:

“Er yn mynd i weld colli y ffrindiau arbennig rwyf wedi cael y fraint o weinidogaethu iddynt ym Mro Cwyfan, fe ydwyf yn edrych ymlaen yn eiddgar at gyfnod newydd cyffrous ac i barhau a’r gwaith o dyfu Teyrnas Dduw ym Mro Dwynwen.’’

Dywedodd Archddiacon Ynys Môn, Andy Herrick:

“Rwyf yn falch fod Llew wedi’i benodi i Fro Dwynwen ac y bydd felly’n aros gyda ni ar Ynys Môn. Gwnaeth y Parchg Eric Roberts waith mor dda, gan ddod â’r chwe eglwys ynghyd fel Ardal Weinidogaeth, a bugeilio’r gwahanol gynulleidfaoedd mor ffyddlon – gweinidogaeth dal i barhau ac yr ydym yn ddiolchgar iawn amdani. Bydd Llew yn gallu adeiladu ar y sylfaen gadarn honno gyda’i galon fugeiliol ac efengylaidd. Mae stori ffydd Llew ei hun yn gymhellon ac yn ysbrydoledig, a gwn ei fod wrth ei fodd yn arwain eraill i gamu’r un ffordd yng Nghrist, a thyfu’n gryfach yn eu ffydd o ddydd i ddydd. Edrychaf ymlaen at amseroedd da o’n blaenau wrth i gyfuniad unigryw o dalentau Llew gyfuno i sicrhau cynnydd mewn niferoedd a dyfnder ffydd ar draws Bro Dwynwen. A bydd yn gyffrous gweld ei rôl efengylaidd arbennig ar draws de Ynys Môn yn datblygu ac yn tyfu mewn partneriaeth ag Ardaloedd Gweinidogaeth cyfagos ac fel rhan o dîm gweinidogaeth Synod Môn.”

Dywedodd John Roberts a Nia Hall, Wardeiniaid Ardal Weinidogaeth Bro Dwynwen:

“Fel Wardeniaid yr Ardal Wenidogaeth, yr ydym yn falch o groesawu Llew fel Arweinydd yr Ardal Wenidogaeth i barhau â’r arweinyddiaeth addfwyn, feddylgar a gofalgar a’r sgiliau bugeiliol a ddangoswyd gan y diweddar Barchg Eric Roberts. Fel dyn lleol a fagwyd mewn teulu amaethyddol, yr ydym yn sicr y bydd yn ymgartrefu yn dda a dod a’i sgiliau a’i wybodaeth ei hun i’r Eglwys ac i’r gymuned ehangach, ac edrychwn ymlaen i gyd-weithio âg ef. Yn ddios bydd gwên Llew mor llydan ac un Eric fel mae’n ymuno â ni yn y wenidogaeth hon.”

Hefyd wrth sôn am yr apwyntiad, dywedodd Esgob Bangor, Andy John:

“Rwy’n falch iawn o gyhoeddi penodiad Llew yn Arweinydd Ardal Weinidogaeth Bro Dwynwen. Mae gwybodaeth Llew o’r ardal yn cyd-fynd â’i argyhoeddiad fod Duw ar waith yn yr holl gymunedau hyn. Bydd yn dod â’r math o egni a gweledigaeth i alluogi Teyrnas Dduw i dyfu ar draws yr ardal ac arwain yr eglwysi ymlaen i gam nesaf eu bywyd.”

Disgwylir y bydd Llew yn cychwyn ei weinidogaeth newydd fis nesaf. Mae’r trefniadau i alluogi ei drwyddedu, o ystyried y cyfyngiadau cyfredol, yn cael eu trafod. Rydym yn edrych ymlaen at ddathliad cyhoeddus o weinidogaeth newydd Llew maes o law. Gweddïwch dros Llew a phobl Bro Dwynwen wrth iddynt ddechrau pennod newydd yn eu bywydau.

Cymraeg

A new Ministry Area Leader for Bro Dwynwen

Llewelyn Moules-Jones

The Bishop of Bangor is pleased to announce the appointment of the Revd Llewelyn Moules-Jones as Vicar & Ministry Area Leader of the Bro Dwynwen Ministry Area, which serves the communities around Llanfairpwll, Brynsiencyn and Newborough on Anglesey.

A native of Anglesey, Llew hails from a long line of farmers on the island. Following a period at Bangor and Cardiff Universities, Llew began his career as a lecturer in agriculture, before spending fifteen years working for the Welsh Government, based mainly in Cardiff.

Then, after carefully considering his call to the priesthood, Llew began his training at St Michael’s College and later St Padarn’s Institute. He was ordained deacon in 2016 and priest in 2017.

Following a year of curacy at Bangor Cathedral, Llew was invited to spend the final two years of his curacy in the Bro Cwyfan Ministry Area on Anglesey under the direction of Canon Philip Barratt.

Looking forward to his new role, Llew said:

“Although I am going miss the friends I have had the privilege of ministering to in Bro Cwyfan, I am eagerly looking forward to an exciting new chapter and continuing the work of growing the Kingdom of God in Bro Dwynwen.’’

The Archdeacon of Anglesey, Andy Herrick, said:

“I am thrilled that Llew has been appointed to Bro Dwynwen and staying with us on Anglesey. The Revd Eric Roberts did such good work, bringing together the six churches as a ministry area, and pastoring the various congregations so faithfully – a ministry which lives on and for which we are still very grateful. Llew will be able to build on that solid footing with his pastoral and evangelistic heart. Llew’s own faith story is compelling and inspiring, and I know that he loves nothing more than leading others to find that same faith in Christ, and grow stronger in it day by day. I look forward to good times ahead as Llew’s unique blend of gifts combine to bring about growth in numbers and depth of faith across Bro Dwynwen. And it will be exciting to see his special evangelistic role across the south of Anglesey develop and grow in partnership with neighbouring ministry areas and as part of the ministry team of Synod Môn.”

John Roberts and Nia Hall, Ministry Area Wardens for Bro Dwynwen said:

“We are delighted to welcome Llew as Ministry Area Leader, to carry on the gentle, thoughtful and caring leadership and pastoral skills shown by the late Revd Eric Roberts. As a local man brought up in a farming family, we are sure he will settle in well and bring his own skills and knowledge both to the Church and to the wider community, and we look forward to working with him. Undoubtedly, Llew’s smile will be as broad as Eric’s as he joins us in this ministry.”

Also commenting on the appointment, the Bishop of Bangor, Andy John, said:

“I am delighted to announce Llew’s appointment as Ministry Area Leader of Bro Dwynwen. Llew’s knowledge of the area is matched with a conviction God is at work in all these communities. He will bring the kind of energy and vision to enable the Kingdom of God to grow across the area and lead the churches forward on the next stage of their life.”

It is expected that Llew will start his new ministry next month. The arrangements to enable his licencing given current restrictions are being discussed. We look forward to a public celebration of Llew’s new ministry at a later stage. Please pray for Llew and the people of Bro Dwynwen as they enter a new chapter in their lives.