minus bangor1 bangor2 bangor3 bangor4 bangor5 bangor6 bangor7 bangor8 bangor9 bangor10 bangor11 bangor12 bangor13 bangor14 bangor15 bangor16 bangor17 bangor18 bangor19 bangor20 bangor21 bangor22 bangor23 bangor24 bangor25 bangor26 bangor27 bangor28 bangor29 bangor30 bangor31 bangor32 bangor33 bangor34 bangor35 bangor36 bangor37 bangor38 bangor39 bangor40 bangor41 bangor42 bangor43 bangor44 bangor45 bangor46 chevron-down chevron-left chevron-right chevron-up download email facebook instagram plus search twitter vimeo youtube external

Arweinydd Ardal Weinidogaeth newydd ym Mro Eifionydd

Kim Williams

Mae'n bleser gan Esgob Bangor gyhoeddi penodiad y Parchg Kim Williams yn Ficer ac Arweinydd Ardal Weinidogaeth Bro Eifionydd, sy'n gwasanaethu Porthmadog, Cricieth a'r cylch.

Cafodd Kim ei magu yn Ardal y Llynnoedd cyn astudio yn Lincoln lle darllenodd Fioleg Gymhwysol. 

Yn dilyn ei dirnadaeth i'r offeiriadaeth hyfforddodd Kim yng Ngholeg Ripon, Cuddesdon, lle cyfarfuwyd â'i gŵr, Canon Dylan Williams. 

Wedi hynny mae wedi gweinidogaethu ym Machynlleth, Amlwch ac, ers 2010, ym Mhorthmadog a Bro Eifionydd fel Ficer ar y Cyd.

Wrth edrych ymlaen at ei rôl newydd, dywedodd Kim: 

Dros y deng mlynedd o fyw a gweinidogaethu yn Fro Eifionydd, rwyf wedi dod i garu’r ardal ai bobl yn fawr iawn. Efallai y bydd y cam o fod yn Offeiriad ar y cyd i Arweinydd Ardal Weinidogaeth yn ddiddorol ac yn heriol; fodd bynnag, gyda Thîm yr Ardal Weinidogaeth ymroddedig a galluog ochr yn ochr â mi, mae gen i obeithion mawr am ddyfodol Bro Eifionydd. Rwy’n falch iawn ein bod yn gallu parhau ar ein taith o ffydd gyda’n gilydd ar adeg o ansicrwydd a phryder mawr.

Dywedodd Archddiacon Meirionydd, Andrew Jones:

Rwy’n falch iawn bod Kim wedi’i phenodi’n Arweinydd Ardal Weinidogaeth ar gyfer Bro Eifionydd a bydd hyn yn darparu cysondeb a gweledigaeth newydd. Bydd hefyd yn dda cael Kim ar y fforwm Arweinwyr Ardaloedd Gweinidogaeth ym Meirionnydd.

Wrth sôn am yr apwyntiad, dywedodd yr Esgob: 

Nid yw Kim Williams yn ddieithr i Fro Eifionydd a bydd nawr yn troi’r profiad hwnnw i rôl newydd fel Arweinydd Ardal Weinidogaeth. Mae Kim yn offeiriad doeth ac ymroddedig a bydd yn datblygu bywyd y cymunedau hynny gyda gweledigaeth a gobaith.

Bydd Kim yn cychwyn ei gweinidogaeth newydd y mis nesaf, a chaiff ei thrwyddedu mewn gwasanaeth ddechrau'r mis. Gweddïwch dros Kim a phobl Bro Eifionydd wrth iddynt gychwyn ar bennod newydd yn eu bywydau.

Cymraeg

A new Ministry Area Leader for Bro Eifionydd

Kim Williams yn dathlu'r Cymun Bendigaid ym Mro Eifionydd | Kim Williams celebrating the Holy Eucharist in Bro Eifionydd

The Bishop of Bangor is pleased to announce the appointment of the Revd Kim Williams as Vicar and Ministry Area Leader of the Bro Eifionydd Ministry Area, which serves the communities around Porthmadog and Cricieth.

Kim was brought up in the Lake District before studying at Lincoln, where she read Applied Biology. 

Following her discernment to the priesthood Kim trained at Ripon College, Cuddesdon, where she met her husband, Canon Dylan Williams. 

She has subsequently ministered in Machynlleth, Amlwch and, since 2010, in Porthmadog and Bro Eifionydd as Associate Vicar.

Looking forward to her new role, Kim said:

Over the ten years of living and ministering in Bro Eifionydd, I have come to love the area and its people very much. The step from Associate Vicar to Ministry Area Leader may be both interesting and challenging; however, with a committed and capable Ministry Area Team alongside me, I have great hopes for the future of Bro Eifionydd. I am delighted that at a time of great uncertainty and worry we are able to continue on our journey of faith together.

The Archdeacon of Meirionydd, Andrew Jones, said: 

I am delighted that Kim has been appointed Ministry Area Leader for Bro Eifionydd, and this will provide both continuity and a renewed vision. It will also be good to have Kim on the Ministry Area Leaders' forum in Meirionnydd.

Also commenting on the appointment, the Bishop said:

Kim Williams is no stranger to Bro Eifionydd and will now turn that experience to a new role as Ministry Area Leader. Kim is a wise and dedicated priest and will develop the life of those communities with vision and hope.

Kim will start his new ministry next month, and will be licensed in a service at the start of the month. Please pray for Kim and the people of Bro Eifionydd as they begin a new chapter in their lives.