minus bangor1 bangor2 bangor3 bangor4 bangor5 bangor6 bangor7 bangor8 bangor9 bangor10 bangor11 bangor12 bangor13 bangor14 bangor15 bangor16 bangor17 bangor18 bangor19 bangor20 bangor21 bangor22 bangor23 bangor24 bangor25 bangor26 bangor27 bangor28 bangor29 bangor30 bangor31 bangor32 bangor33 bangor34 bangor35 bangor36 bangor37 bangor38 bangor39 bangor40 bangor41 bangor42 bangor43 bangor44 bangor45 bangor46 chevron-down chevron-left chevron-right chevron-up download email facebook instagram plus search twitter vimeo youtube external

Arweinydd Ardal Weinidogaeth newydd ym Mro Peblig

Dylan Williams

Mae'n bleser gan Esgob Bangor gyhoeddi penodiad Canon Dylan Williams yn Ficer ac Arweinydd Ardal Weinidogaeth newydd Bro Peblig, sy'n gwasanaethu'r cymunedau Caernarfon, y Felinheli, Betws Garmon a'r cylch.

Cafodd Dylan ei fagu yn Eifionydd a bu’n gweithio yn y diwydiant adeiladu am rai blynyddoedd cyn astudio diwinyddiaeth ym Mhrifysgol Bangor. 

Yn dilyn ei ddirnadaeth i'r offeiriadaeth, hyfforddodd Dylan yng Ngholeg Ripon, Cuddesdon, lle y cyfarfu â'i wraig, y Parchg Kim Williams. 

Ers hynny mae Dylan wedi arfer ei weinidogaeth yn yr esgobaeth, gan weinidogaethu yng Nghaergybi, Dolgellau, Amlwch ac, am y ddegawd ddiwethaf, ym Mro Eifionydd. Mae Dylan hefyd wedi gwasanaethu fel Deon Bro ac wedi bod yn aelod o Gabidwl yr Eglwys Gadeiriol er 2012.

Wrth edrych ymlaen at ei rôl newydd, dywedodd Dylan,

Rwyf yn teimlo yn freintigedig dros ben o gael fy nghwahodd gan Esgob Andrew i weinidogaethu yn Mro Peblig. Yr ydym fel Cristnogion yma yn Nghymru yn byw drwy gyfnod anodd ond hefyd cyfnod lle mae posibilrwydd gweld pethau or Newydd, hynny yw posibiliadau diri i ymateb i alwad Iesu Grist. Yr wyf yn hollol grediniol bod llwyddiant cenhadol yr Eglwys yn ddibynol ar i holl bobl Dduw gymeryd o ddifri ei galwedigaeth i fod yn “Bobl Sanctaidd” a thrwy hynny fod y un a Duw a Christ Iesu mewn Gweddi, astudiaeth or Beibl a bywyd Sacramentaidd yr Eglwys. Edrychaf ymalen yn fawr iawn i gydweithio i ddatguddio Teyrnas Duw gyda phobl Caernarfon, Felinheli a Betws Garmon yn y blynyddoedd sydd i ddod wrth i ni sefydlu Ardal Gweinidogaeth Newydd Bro Peblig. 

Dywedodd Archddiacon Bangor, Mary Stallard,

Rwy’n falch iawn y bydd Synod Bangor yn croesawu Canon Dylan Williams i Ardal Weinidogaeth Bro Peblig sydd newydd ei chynnull - gan uno plwyfi Caernarfon â Betws Garmon a'r Felinheli. Mae Canon Dylan yn offeiriad Cymreig profiadol sydd ag angerdd i gefnogi cymunedau lleol ac ysbrydolrwydd bywiog wedi ei wreiddio yn y traddodiad Ffransisgaidd. Mae Canon Dylan a'i wraig, y Parchg Kim Williams, eisoes yn aelodau gwerthfawr o deulu'r esgobaeth. Rydym yn edrych ymlaen at eu croesawu nhw a'u teulu i'w rolau a'u gweinidogaethau newydd ac at weithio gyda nhw.

Hefyd wrth sôn am yr apwyntiad, dywedodd yr Esgob:

Rwy’n falch iawn bod Dylan wedi derbyn fy ngwahoddiad i wasanaethu yn Ardal Weinidogaeth Bro Peblig, sydd newydd ei ffurfio. Bydd y cymunedau amrywiol hyn yn cael eu gwasanaethu'n dda gan offeiriad profiadol sy'n adnabod yr ardal yn dda ac a fydd yn gwasanaethu gyda gofal ac ymroddiad.

Bydd Dylan yn cychwyn ei weinidogaeth newydd y mis nesaf, a chaiff.ei drwyddedu mewn gwasanaeth ddechrau'r mis. Gweddïwch dros Dylan a phobl Bro Peblig wrth iddynt gychwyn ar bennod newydd yn eu bywydau.

Cymraeg

A new Ministry Area Leader for Bro Peblig

Dylan Williams

The Bishop of Bangor is pleased to announce the appointment of Canon Dylan Williams as Vicar and Ministry Area Leader of the newly-formed Bro Peblig Ministry Area, which serves the communities around Caernarfon, y Felinheli and Betws Garmon.

Dylan was brought up in Eifionydd and worked in the building trade for some years before studying theology at Bangor University. 

Following his discernment to the priesthood, Dylan trained at Ripon College, Cuddesdon, where he met his wife, the Revd Kim Williams. 

Dylan has since exercised all his ministry in the diocese, serving in Holyhead, Dolgellau, Amlwch and, for the last decade, in Bro Eifionydd. Dylan has also served as Area Dean and has been a member of the Cathedral Chapter since 2012.

Looking forward to her new role, Dylan said:

I feel very honoured to be invited by Bishop Andrew to minister in Bro Peblig. As Christians in Wales we are living through challenging times, but it is also a time of opportunity to see things afresh with many possibilities of responding to the call of Jesus Christ. I am certain that the mission of the church needs the entire people of God to see themselves as “Holy People” and through it to be at one with God and Christ Jesus in Prayer, Bible Study and the Sacramental life of the Church. I very much look forward to ministering with the people of Caernarfon, y Felinheli and Betws Garmon in revealing the Kingdom of God that is among us in the years to come as we establish the new Ministry Area of Bro Peblig.

The Archdeacon of Bangor, Mary Stallard, said, 

I am delighted that Bangor Synod will be welcoming Canon Dylan Williams to the newly drawn together Ministry Area of Bro Peblig - uniting the parishes of Caernarfon with Betws Garmon and y Felinheli. Canon Dylan is an experienced, Welsh priest with a passion to support local communities and a vibrant spirituality drawing upon the Franciscan tradition. Canon Dylan and his wife, the Revd Kim Williams, are already valued members of the diocesan family. We look forward to welcoming them and their family to their new roles and ministries and to working with them.

Also commenting on the appointment, the Bishop said:

I am delighted Dylan has accepted my invitation to serve in the newly constituted Ministry Area of Bro Peblig. These diverse communities will be well served by an experienced priest who knows the area well and will serve with care and devotion.

Dylan will start his new ministry next month and will be licensed in a service at the start of the month. Please pray for Dylan and the people of Bro Peblig as they begin a new chapter in their lives.