minus bangor1 bangor2 bangor3 bangor4 bangor5 bangor6 bangor7 bangor8 bangor9 bangor10 bangor11 bangor12 bangor13 bangor14 bangor15 bangor16 bangor17 bangor18 bangor19 bangor20 bangor21 bangor22 bangor23 bangor24 bangor25 bangor26 bangor27 bangor28 bangor29 bangor30 bangor31 bangor32 bangor33 bangor34 bangor35 bangor36 bangor37 bangor38 bangor39 bangor40 bangor41 bangor42 bangor43 bangor44 bangor45 bangor46 chevron-down chevron-left chevron-right chevron-up download email facebook instagram plus search twitter vimeo youtube external

Arweinydd Ardal Weinidogaeth newydd yn Dwylan

Tom Saunders

Mae'n bleser gan Esgob Bangor gyhoeddi penodiad y Parch Tom Saunders yn Ficer ac Arweinydd Ardal Weinidogaeth Dwylan, sy'n gwasanaethu'r cymunedau o amgylch Llanfairfechan, Penmaenmawr a Dwygyfylchi.


Magwyd Tom yng Ngogledd Ddwyrain Lloegr ac yn y Cotswolds. Ar ôl graddio mewn peirianneg gemegol, treuliodd wyth mlynedd yn gweithio yn y diwydiant olew yn yr Iseldiroedd ac yn y DU. 

Yn dilyn profiad o droedigaeth raddol yn ei ugeiniau cynnar, daeth yn Gristion, ac ychydig flynyddoedd yn ddiweddarach bu iddo ddirnad galwad i'r weinidogaeth. Ordeiniwyd ef yn offeiriad yn yr Eglwys Gatholig yn 2000, a chafodd brofiad eang mewn gweinidogaeth fugeiliol yn Essex a Dwyrain Llundain. Ar ôl deng mlynedd fel offeiriad mewn plwyf mawr a llewyrchus yn Southend-on-Sea, fe’i penodwyd i rôl esgobaethol uwch gyda chyfrifoldebau am efengylu, cenhadaeth a chynllunio strategol. 

Daeth 2016 â newidiadau mawr ym mywyd Tom wrth iddo dynnu nôl o weinidogaeth weithredol, priodi a symud i fyw gyda'i wraig Angela yn Nyffryn Conwy. Yn 2019 cawsant eu croesawu i'r Eglwys yng Nghymru, a daeth Tom yn aelod o dîm y weinidogaeth ym Mro Celynnin. 

Mae ganddo ddiddordebau mewn diwinyddiaeth Feiblaidd ac ysbrydolrwydd, mae'n aelod o Goleg Cyfarwyddwyr Ysbrydol, mae'n mwynhau darllen, cerdded a chanu, ac mae'n ddysgwr brwd o Gymru.

Wrth edrych ymlaen at ei rôl newydd, dywedodd Tom:

Mae gan bobl Ardal Weinidogaeth Dwylan gyfoeth o gymeriad, doethineb ac egni ysbrydol sy'n rhoi gobaith mawr i mi. Mae’r amseroedd hyn yn heriol, ond, ar yr un pryd, yn llawn addewid Duw ar gyfer y dyfodol. Rwyf wrth fy modd fy mod yn ymuno â nhw fel eu hoffeiriad a'u ficer newydd.

Dywedodd Archddiacon Bangor, Mary Stallard:

Mae Tom yn offeiriad hynod brofiadol o'r Eglwys Gatholig sydd wedi dod o hyd i gartref yn yr Eglwys yng Nghymru ac sydd â llawer i'w gynnig inni yn y weinidogaeth. Daw Tom â gweinidogaeth weddigar, cariad at weithio i adeiladu cymunedau o ffydd a phrofiad o weithio gyda gwahanol ieithoedd. Fel Archddiacon rwyf eisoes wedi teimlo fy mod yn cael cefnogaeth Tom lle mae wedi bod yn barod i gynorthwyo gyda nifer o interregna. Rwyf mor falch y bydd yn ymgymryd â'r weinidogaeth hon ac yn edrych ymlaen at weithio'n agosach gydag ef yn y dyfodol. Rwy’n siŵr y bydd Tom ac Angela yn teimlo’n gartrefol yn gyflym yn Dwylan.

Dywedodd y Parchg David Parry, Arweinydd Ardal Weinidogaeth Bro Celynnin lle mae Tom wedi bod yn rhan o'r tîm gweinidogaeth:

Mae gweinidogaeth offeiriadol ddoeth ac addfwyn Tom wedi cyfrannu cymaint at ein holl gynulleidfaoedd. Mae ef ac Angela yn cael eu hedmygu am eu caredigrwydd a'u hymrwymiad i weddi. Mae Dwylan yn sicr o lwyddo gydag arweinyddiaeth Tom.

Hefyd wrth sôn am yr apwyntiad, dywedodd yr Esgob, Andy John:

Rwy'n falch iawn o gyhoeddi penodiad Arweinydd Ardal Weinidogaeth newydd ar gyfer Dwylan. Daw'r Parchg Tom Saunders â chyfoeth o brofiad i'r penodiad hwn, yn gyntaf yn yr Eglwys Gatholig ac yn ddiweddarach fel Anglican yn yr Eglwys yng Nghymru. Mae Tom yn ddyn hynod ysbrydol ac mae ei gariad parod at Grist a phobl yn gwahodd ffydd a chymuned newydd yn eglwysi Dwylan. Rwy'n dymuno pob bendith iddo ef ac Angela wrth iddynt edrych ymlaen at ddechrau'r weinidogaeth ym mis Chwefror.

Bydd Tom yn cychwyn ei weinidogaeth newydd y mis nesaf. Oherwydd y cyfyngiadau presennol, bydd Tom yn cael ei drwyddedu mewn gwasanaeth preifat yn Nhŷ'r Esgob ar Ddydd Mawrth Ynyd, 16 Chwefror 2021. 

Gweddïwch dros Tom a phobl Dwylan wrth iddynt gychwyn ar bennod newydd yn eu bywydau.

Cymraeg

A new Ministry Area Leader for Dwylan

Tom Saunders

The Bishop of Bangor is pleased to announce the appointment of the Revd Tom Saunders as Vicar and Ministry Area Leader of Dwylan, which serves the communities around Llanfairfechan, Penmaenmawr and Dwygyfylchi.


Tom grew up in the North East of England and in the Cotswolds. After graduating in chemical engineering, he spent eight years working in the oil industry in the Netherlands and in the UK. 

Following a gradual conversion experience in his early twenties, he became a Christian, and a few years later discerned a call to ministry. He was ordained a priest in the Roman Catholic church in 2000 and gained wide experience in pastoral ministry in Essex and East London. After ten years as parish priest of a large, thriving parish in Southend-on-Sea, he was appointed to a senior diocesan role with responsibilities for evangelism, mission and strategic planning. 

The year 2016 brought major changes in Tom’s life as he withdrew from active ministry, married and moved to live with his wife Angela in the Conwy Valley. In 2019 they were welcomed into the Church in Wales, and Tom became a member of the ministry team in Bro Celynnin. 

Tom has particular interests in biblical theology and spirituality, is a member of the College of Spiritual Directors, enjoys reading, walking and singing, and is an avid Welsh learner.

Looking forward to her new role, Tom said:

The people of Dwylan Ministry Area have a wealth of character, wisdom and spiritual energy which gives me great hope. These times are challenging, but, at the same time, full of God’s promise for the future. I am thrilled to be joining them as their new priest and vicar.

The Archdeacon of Bangor, Mary Stallard, said:

Tom is a hugely experienced priest from the Roman Catholic Church who has found a home in the Church in Wales and who has much to offer us in ministry. Tom brings us a deeply rooted prayerful ministry, a love of working to build communities of faith and previous experience of working with different languages. As Archdeacon I have already felt supported by Tom where he has been willing to assist in a number of interregna. I am so glad that he will be taking on this ministry and look forward to working more closely with him in future.  I feel sure that Tom and Angela will quickly feel at home in Dwylan.

The Revd David Parry, Ministry Area Leader of Bro Celynnin, where Tom has been part of the ministry team, said:

Tom’s wise and gentle priestly ministry has contributed so much to all of our congregations. He and Angela are much loved for their kindness and incredible commitment to prayer. Dwylan are sure to flourish with Tom’s leadership.

Also commenting on the appointment, the Bishop of Bangor, Andy John, said:

I’m delighted to announce the appointment of a new Ministry Area Leader for Dwylan. The Revd Tom Saunders brings a wealth of experience to this appointment, firstly in the Roman Catholic Church and latterly as an Anglican in the Church in Wales. Tom is a deeply spiritual man whose infectious love for Christ and people will invite a draw out new faith and community in the churches in Dwylan. I wish him and Angela every blessing as they look forward to starting ministry in February.

Tom will start his new ministry next month. Due to current restrictions Tom will be licenced in a private service in Tŷ’r Esgob on Shrove Tuesday, 16 February 2021. 

Please pray for Tom and the people of Dwylan as they enter a new chapter in their lives.