minus bangor1 bangor2 bangor3 bangor4 bangor5 bangor6 bangor7 bangor8 bangor9 bangor10 bangor11 bangor12 bangor13 bangor14 bangor15 bangor16 bangor17 bangor18 bangor19 bangor20 bangor21 bangor22 bangor23 bangor24 bangor25 bangor26 bangor27 bangor28 bangor29 bangor30 bangor31 bangor32 bangor33 bangor34 bangor35 bangor36 bangor37 bangor38 bangor39 bangor40 bangor41 bangor42 bangor43 bangor44 bangor45 bangor46 chevron-down chevron-left chevron-right chevron-up download email facebook instagram plus search twitter vimeo youtube external

Arweinydd Ardal Weinidogaeth newydd ym Mro Enlli

Y Parchg Rhun ap Robert a'i deulu | The Revd Rhun ap Robert and his family

Mae Esgob Bangor yn falch o gyhoeddi penodiad y Parchg Rhun ap Robert yn Ficer ac Arweinydd Ardal Weinidogaeth Bro Enlli, sy'n gwasanaethu cymunedau deheuol Penrhyn Llŷn.

Ar hyn o bryd mae Rhun yn Ficer ym Mywiolaeth Rheithorol Castell-nedd yn Esgobaeth Llandaf. Daw Rhun yn wreiddiol o Aberystwyth, gan symud i Bwllheli gyda'i deulu yn ei arddegau. Yn dilyn gradd mewn Cyfathrebu ym Mangor, bu Rhun yn gweithio yn y sector addysg, gan ddysgu gyntaf ym Machynlleth ac yna ym Mangor, cyn dod yn diwtor Cymraeg i oedolion yn y gweithle.

Ordeiniwyd Rhun yng Nghadeirlan Llandaf yn 2014 ar ôl astudio diwinyddiaeth ym Mhrifysgol Caerdydd a hyfforddi ar gyfer yr offeiriadaeth yng Ngholeg Mihangel Sant, Llandaf. Gwasanaethodd ei guradiaeth yn Aberafan, Port Talbot, ac arhosodd hefyd yn y plwyf gan wasanaethu fel Ficer cyn symud i Fywiolaeth Rheithorol Castell-nedd. 

Mae Rhun yn briod â Magda, sy'n Brif Seicolegydd Clinigol, ac mae ganddyn nhw dri o blant, Ioan, Mari ac Elis.

Wrth edrych ymlaen at ei rôl newydd, dywedodd Rhun:

Fel un sydd â’i wreiddiau’n ddwfn yn yr ardal, mae Pen Llŷn yn agos iawn at 'nghalon i, fel y mae ffydd a thyfu'r Eglwys. Ar ôl 28 mlynedd i ffwrdd mi rydw i mor gyffrous i fod yn dychwelyd i Fro Enlli i wasanaethu Crist a’i bobl yn un o ardaloedd godidocaf Cymru.

Dywedodd Archddiacon Meirionnydd, Andrew Jones:

Dwi'n hynod o falch o'r newyddion fod Rhun ap Robert wedi cael ei apwyntio fel Arweinydd Ardal Weinidogaeth Bro Enlli ac yn ddiolchgar i'r Esgob am wneud apwyntiad doeth. Yr oedd yna lawenydd mawr yma yn yr ardal pan ddaeth y newydd yn gyhoeddus ac mae'r bobl yn edrych ymlaen yn fawr iawn at gael croesawu Rhun a'i deulu. Ar fy rhan i, dwi'n edrych ymlaen at gael gweithio yn agos hefo Rhun ym Mro Enlli a hefyd at gael mwy o amser yn fy rôl fel Archddiacon.

Hefyd wrth groesau’r apwyntiad, dywedodd Esgob Bangor, Andy John,

Ar ôl gweithio’n galed dros y misoedd diwethaf fel Archddiacon ac Arweinydd Ardal Weinidogaeth, bydd penodiad Rhun yn rhyddhau Archddiacon Andrew o’i ddyletswyddau fel Arweinydd Ardal Weinidogaeth. Bydd hyn yn caniatáu inni efelychu'r patrwm yn y ddwy archddiaconiaeth arall, sydd wedi bod yn un buddiol. Daw Rhun â deallysrwydd a phrofiad i'r rôl. Mae'n dda gallu croesawu siaradwr Cymraeg rhugl i'r ardal. Rwy’n gobeithio ac yn gweddïo y daw gweinidogaeth Rhun yn yr esgobaeth â llawenydd a hapusrwydd iddo ef a’i deulu.

Disgwylir y bydd Rhun yn cychwyn ei weinidogaeth newydd ym mis Medi. Cyhoeddir y trefniadau ar gyfer ei drwyddedu yn agosach at yr amser. Gweddïwch dros Rhun, ei deulu, yr Archddiacon Andrew a phobl Bro Enlli.

Cymraeg

A new Ministry Area Leader for Bro Enlli

Y Parchg Rhun ap Robert | The Revd Rhun ap Robert

The Bishop of Bangor is pleased to announce the appointment of the Revd Rhun ap Robert as Vicar & Ministry Area Leader of Bro Enlli, which serves the communities of the southern side of the Llŷn Peninsula.

Rhun is currently Vicar in the Rectorial Benefice of Neath in the Diocese of Llandaff. Originally from Aberystwyth, Rhun and his family moved to Pwllheli in his teenage years. Following his degree in Communications at Bangor, Rhun worked in education sector, teaching first in Machynlleth and then in Bangor, before becoming a Welsh language tutor for adults in the workplace.

Rhun was ordained at Llandaff Cathedral in 2014, having studied theology at Cardiff University and trained for the priesthood at St Michael’s College, Llandaff. He served his curacy at Aberafan, Port Talbot, and also remained in the parish serving as Vicar before moving to the Rectorial Benefice of Neath. 

Rhun is married to Magda, who is a Principal Clinical Psychologist, and they have three children, Ioan, Mari and Elis.

Looking forward to his new role, Rhun said:

As someone who has their roots in the area, Pen Llŷn is very close to my heart. After 28 years away from the area I am excited to return to Bro Enlli to serve Christ and his people in one of Wales’s most beautify areas.

The Archdeacon of Meirionnydd, Andrew Jones, said:

I am delighted with the news about Rhun ap Robert's appointment as Ministry Area Leader of Bro Enlli and very grateful to the Bishop for making such a wise appointment. The news in the Ministry Area was very well received and people are looking forward very much to welcoming him and his family. On my part I am excited at the prospect of working closely with Rhun in Bro Enlli and also being able to spend more time in my role as Archdeacon.

Welcoming the appointment, the Bishop of Bangor, Andy John, said: 

Having worked very hard over recent months as Archdeacon and Ministry Area Leader, Rhun’s appointment will release Archdeacon Andrew from his duties as Ministry Area Leader. This will allow us to replicate the pattern in the other two archdeaconries, which has served us well. Rhun himself brings knowledge and experience to the role. It is good to be able to welcome a fluent Welsh speaker to the area. I hope and pray that Rhun’s ministry in the diocese will bring joy and happiness to him and his family.

It is expected that Rhun will start his new ministry in September. The arrangements for his licencing will be announced closer to the time. Please pray for Rhun, his family, Archdeacon Andrew and the people of Bro Enlli.