minus bangor1 bangor2 bangor3 bangor4 bangor5 bangor6 bangor7 bangor8 bangor9 bangor10 bangor11 bangor12 bangor13 bangor14 bangor15 bangor16 bangor17 bangor18 bangor19 bangor20 bangor21 bangor22 bangor23 bangor24 bangor25 bangor26 bangor27 bangor28 bangor29 bangor30 bangor31 bangor32 bangor33 bangor34 bangor35 bangor36 bangor37 bangor38 bangor39 bangor40 bangor41 bangor42 bangor43 bangor44 bangor45 bangor46 chevron-down chevron-left chevron-right chevron-up download email facebook instagram plus search twitter vimeo youtube external

Trwyddedu ac Ordeinio 2021: Hugh Jones

Dros Ŵyl Bedr eleni yng Nghadeirlan Deiniol Sant ym Mangor, cafodd 14 o bobl ymroddedig, dawnus eu hordeinio neu eu trwyddedu i weinidogaethu.

Fe’u gelwir i “adeiladu corff Crist fel y cyrhaeddwn oll hyd at yr undod a berthyn i’r ffydd ac i adnabyddiaeth o Fab Duw” (Effesiaid 4).

Dyna’u tasg ar y cyd – ond mae gan bob un hefyd eu straeon personol eu hunain am alwad Duw ar eu bywydau.

Yma, cawn sgwrs â Hugh am eu alwedigaeth fel Offeiriad.


Dywedwch ychydig wrtha’i amdanoch eich hun. Pwy ydi Hugh?

Mi ges i fy ngeni yng Nghaer. Mae fy Nain a ’Nhaid yn dod o Lanfairpwll. Fy Nain oedd yr athrawes yr Ysgol Sul yno. Mi wnes i ddarganfod drwy Taith y Pererin bod fy nheulu’n hanu o dŷ o’r enw Ty’n Llain ac mi wnes i ddarganfod drwy ymchwilio i hanes y teulu bod fy Nain wedi bod yn gweithio yn y Rheithordy ym Mhorthaethwy fel is-nyrs i’r Rheithor ar y pryd!

Sut fyddwch chi’n ymlacio?

Dyna gwestiwn da iawn. Roeddwn i’n arfer dweud fy mod i’n chwarae golff ond dydw i ddim yn gallu canfod yr amser i chwarae golff. Y garafán, rydyn ni’n mwynhau hynny. Y ci! Mae’r ci yn wych ar gyfer ymlacio. Mae’n gwneud i chi anghofio am waith oherwydd yr eiliad mae o’n dod i mewn i’r stafell rydych chi’n ymateb iddo fo.

Dwi’n mwynhau darllen – nofel drosedd dda. Un gan John Grisham neu Lee Childs. Mae’r ddau ohonom wrth ein boddau’n cerdded a dwi’n feiciwr eitha’ brwd er nad ydw i wedi gwneud cymaint eleni. Dwi’n aml yn meddwl wrth feicio am bregethau! Dwi’n eitha’ cystadleuol ac yn ceisio curo amserau blaenorol ond dwi’n ffindio mod i’n cael fy ysbrydoli gan yr hyn sydd o ’nghwmpas i.

Dwi’n aml yn defnyddio f’amser yn cerdded i weddïo. Os ydw i allan am dro mi fydda i’n siarad â Duw a byddaf yn gwrando ar emynau. Mewn ffordd dwi’n gweld hynny’n beth therapiwtig iawn. Dydi’r ffôn ddim yn mynd i ganu, dydi cloch y drws ddim yn mynd i ganu, dydi’r ci ddim yn mynd i gyfarth. Rydych chi ar eich pen eich hun efo Duw.

Ble, neu sut, y dechreuodd taith eich ffydd?

Mae’n debyg bod fy ffydd wedi bod yno erioed. Mi oeddwn i’n mynd i’r Ysgol Sul a dwi wedi bod yn mynd i’r eglwys yn rheolaidd gydol fy oes. Gallech chi ddweud i’r daith ddechrau efo fy medydd a chael fy nerbyn i’r Eglwys. Cafodd fy mam ei magu’n Fethodist ac felly ches i ddim fy nghonffyrmio nes oeddwn i’n 23 mlwydd oed oherwydd ei bod hi am i mi wneud y dewis drosof fy hun.

Dwi wedi elwa’n fawr o dreulio llawer o’m bywyd mewn gwahanol rannau o’r byd. Mi es i i Eglwys Gadeiriol Sant Ioan yn Port Moresby, Papwa Gini Newydd a gofynnodd y Deon ar y pryd i mi pwy oeddwn i ac o ble roeddwn i wedi dod. Meddai o wedyn, "O, chi’n dod o Gaer. Mi fyddwch yn ’nabod Povey." Bues i’n Faer Caer flynyddoedd yn ôl a Kenneth Povey oedd fy nghaplan! A dyna fi’n cael y job o ddal y thuser yn ystod y chwe mis y bûm i yno. Ond yn bwysicach oedd yr elfen o daith ysbrydol. Mi es i allan gyda’r Tad John i’r eglwysi cenhadol ac i’r pentrefi. Mi ddysgodd hynny rywbeth i mi, a minnau wedi bod ynglŷn â’r cyngor a’r bywyd cyhoeddus. Pan fyddech chi’n mynd i mewn i’r pentrefi lle roedd y teuluoedd yn byw yn eu cymunedau doedd gan y plant ddim byd ond roedd gan bob un wên ar eu hwynebau. Roedden nhw’n byw mewn cytiau to gwellt a byddai’r merched yn golchi dillad yn yr afonydd. Yna byddech chi’n mynd i’r brifddinas lle’r oedd y gorllewinwyr wedi dod draw gan ddweud bod arnyn nhw angen dŵr poeth a dŵr oer, setiau teledu, oergelloedd... Roedden ni wedi gorfodi ein traddodiadau ninnau a dyna lle’r oedd tlodi trefol, cyffuriau a throseddu. Yn nhermau’r Efengyl, mi ddysgais am gwrdd â phobl lle maen nhw, cyd-gerdded â nhw ar y daith a pheidio gorfodi pethau arnyn nhw. Roedd hynny’n brofiad arall a oedd yn bwerus iawn i mi ar fy nhaith mewn ffydd. Wrth i mi deithio dwi wedi cael profiad cyfoethog o ehangder yr Eglwys ledled y byd.

Dywedwch wrtha’i am eich taith tuag at eich ordeinio.

Mi ges i fy magu mewn eglwys Eingl-Gatholig uchel iawn. Mi ddes i’n Ddarllenydd yn yr eglwys honno yn y pen draw. Roeddwn yn weithgar iawn yn yr eglwys, gyda’r Synod Gyffredinol a phethau felly. Roeddwn i wedi teimlo’r alwad hon i weinidogaethu fel Darllenydd. Mi ges dri chynnig arni am fy mod wedi rhoi’r gorau iddi ar ôl y ddau gyntaf. Doeddwn i ddim yn gallu ymdopi â’r drefn hyfforddi a dilyn proffesiwn. Peilot awyren oeddwn o ran gyrfa. Wnes i ddim rhoi’r ffidil yn y to - wel, wrth ddweud hynny, dwi’n credu’n gryf nad ydi’r Ysbryd Glân yn rhoi’r gorau iddi. Dydi Duw byth yn anobeithio amdanoch chi! Felly dyma fi yma yn yr oed ydw i, oherwydd bod Duw wedi dyfalbarhau efo fi.

Mi ddwedais i wrth yr Esgob adeg hynny, os oedden nhw am ddenu pobol i hyfforddi fel Darllenwyr a oedd hefyd yn gweithio, fod angen iddyn nhw newid eu trefn hyfforddi. Ac mi wnaethon nhw!

Mi oedd gynnon ni garafán wyliau yn Nhreborth a mi ddechreuon ni fynd i Eglwys y Santes Fair ym Mhorthaethwy. Roedd pawb mor groesawgar a chymwynasgar. Symudodd y Darllenydd oedd yno i Fiwmares a gwahoddwyd fi i helpu. Mi’i gwnaed hi’n bosibl i mi gael fy nhrwyddedu yn Eglwys Loegr a’r Eglwys yng Nghymru a roeddwn yn gallu helpu pan oedden ni yma ar wyliau. Roeddwn i wedi teimlo ers amser maith bod yr Ysbryd Glân yn fy nhywys tuag at weinidogaeth ar Ynys Môn.

Mi gefais f’ordeinio fel diacon neilltuol oherwydd mai i hynny rôn i’n teimlo oedd yr alwad ond roedd ychydig o bobol yn gofyn i mi, “Ydach chi’n siŵr?” Roedd yna fater oedran achos dwi’n weddol geriatrig! Yn ffodus dwi’n geriatrig eitha’ ffit! Felly mi es i drwy ail broses ddirnadaeth ac roedden nhw’n o’r un ddirnadaeth â fi.

Dwi’n gallu cofio ysgrifennu’r ymadrodd ‘Taith mewn ffydd ar draws pont gobaith’. Dyna symbol o’m taith i Ynys Môn a phont gobaith yn cynnig cyfle i mi ddod â gobaith yr Efengyl i fwy o bobol.

Beth sy’n eich cyffroi fwyaf am gael eich urddo’n offeiriad?

Roedd gen i rai amheuon ynglŷn â chael fy urddo’n offeiriad, parthed y gollyngdod a chyhoeddi’r fendith yn arbennig. Oeddwn i’n deilwng i wneud hynny? Mi wnes i dreulio peth amser gyda fy Nghynghorydd Ysbrydol a rhoddodd yntau rywfaint o eglurder i mi ynglŷn â hynny a’m helpu i ddeall ein bod, yn y bôn, yn gyfryngau i’r Ysbryd Glân. Nid y ni sy’n maddau, ond gwahodd yr Ysbryd Glân ydym, a chyhoeddi bendith Duw a wnawn, nid ein bendith ni ein hunain fel offeiriaid. Mae’r Sagrafennau’n bwysig iawn i mi. Maent yn rhan o fy DNA bron iawn. Maent yn rhan bwysig o’m bywyd a’m gweinidogaeth ac mae’r gallu i rannu’r ymdeimlad yna o bresenoldeb Duw yn bwysig i mi. Dwi’n edrych ymlaen at allu defnyddio’r doniau hynny i dyfu’r eglwys. Dyna’r gallu i rannu cyfoeth a llawnder rhoddion Duw gyda phobol Dduw a chyda phobol sydd eto i wybod mai pobol Dduw ydyn nhw.

Pa un ydi’ch hoff fisgeden?

Yr un gwenith cyflawn McVitie’s gyda siocled tywyll – achos mae’n iach! Dim ond un y dydd y gallaf ei chael. Dwi’n ddisgybledig iawn. Dwi’n cael un fisgeden gwenith cyflawn gyda siocled tywyll y dydd a dau sgwâr o siocled tywyll gyda’r nos. Dwi wrth fy modd efo siocled tywyll – dydw i ddim yn bwyta siocled llaeth.

Pe bai rhywun yn dweud wrthych eu bod yn meddwl bod Duw am iddyn nhw gynnig mwy, beth allech chi ei ddweud wrthyn nhw?

Dau beth – gwrandewch ar yr Ysbryd. Dwi’n credu’n gryf bod yr Ysbryd Glân wir yn cyfathrebu â ni’n bersonol ac yn uniongyrchol. Yn ail, siaradwch efo rhywun rydych chi’n ymddiried ynddyn nhw.

Cofiwch, os ydych chi’n credu bod yr Ysbryd Glân yn eich galw yna mae’n debyg mai’r ateb yw, Ydi! A chofiwch y bydd Duw yn dyfalbarhau. Fy hoff ddarn o’r Beibl ydi Ioan 15:16, " Nid chwi a'm dewisodd i, ond myfi a'ch dewisodd chwi, a'ch penodi..." Byddwn yn gwahodd pobol i fyfyrio ar y darn yna oherwydd, i mi, dyna bopeth.


Dduw, sydd trwy dy Ysbryd yn llywodraethu ac yn sancteiddio holl gorff yr Eglwys: gwrando ein gweddi a offrymwn dros dy holl bobl ffyddlon, iddynt allu dy wasanaethu mewn sancteiddrwydd a gwirionedd yn eu galwedigaeth a’u gweinidogaeth er gogoniant i’th enw; trwy ein Harglwydd a’n Hiachawdwr Iesu Grist, sy’n fyw ac yn teyrnasu gyda thi a’r Ysbryd Glân, yn un Duw, yn awr ac am byth. Amen.
Cymraeg

Licensing and Ordinations 2021: Hugh Jones

This Petertide at St Deiniol's Cathedral in Bangor, 14 dedicated, gifted people were ordained or licensed for ministry.

They are called to “build up the body of Christ until all of us come to the unity of the faith and of the knowledge of the Son of God” (Ephesians 4).

That is their common task – but each also have their own personal stories about God’s call on their lives.

Here, we talk to Hugh about his vocation as a Priest.


Tell me a little bit about yourself. Who is Hugh?

I was born in Chester. My Nain and Taid originate in Llanfairpwll. My Nain was the Sunday School teacher there. I found out through Taith y Pererin that my family go back to a house called Ty’n Llain and I found out through looking at family history that my Nain worked in the Rectory at Menai Bridge as an under-nurse for the then Rector!

How do you switch off?

That’s a very good question. I used to say I play golf but I don’t find time to play golf. The caravan, we enjoy that. The dog! The dog is brilliant for switching off. He switches you off because the moment he comes into the room you respond to him

I enjoy reading – a good crime novel. A John Grisham or a Lee Childs. We both love walking and I’m quite a keen cyclist though I’ve not done so much this year. I do find myself, when riding, thinking about sermons! I’m quite competitive and try to beat previous times but find myself being inspired by what’s around me.

I’ll often use the walking time to pray. If I’m out on a walk I’ll talk to God and I’ll be listening to hymns. In a way I find it very theraputic. The phone’s not going to go, the doorbell isn’t going to ring, the dog isn’t going to bark. You’re on your own with God.

Where, or how, did your journey of faith start?

I guess it’s always been there. I went to Sunday School and have been a regular churchgoer all my life. One could say it started with Baptism and being received into the church. My mother was brought up a Methodist and so I wasn’t confirmed until I was 23 because she wanted me to make the choice for myself.

I’ve been richly rewarded by spending much of my life in different pars of the world. I went to St John’s Cathedral in Port Moresby, Papua New Guinea, and the then Dean asked me who I was and where I had come from. He then said, “Oh you’re from Chester. You’ll know Povey.” I was mayor of Chester years ago and Kenneth Povey was my chaplain! I was then given the job of holding the thurible during the 6 months I was there. But more important was the spiritual journey element. I went out with Father John to the missionary churches and to the villages. It taught me something, having been involved in council and public life. Where you went into the villages and the families were living in their communities, the children didn’t have anything but they all had a smile on their face. They lived in huts with straw roofs and the women washed clothes in the rivers. Then you go to the capital city where the westerners had come along and said they needed hot and cold water, TV, fridges... We had imposed our traditions and that’s where there was urban poverty, drugs and crime. In terms of the gospel it taught me about meeting people where they are, walking with them on the journey and not imposing on them. That was another experience that was really powerful for me on my journey of faith. As I’ve travelled I’ve had a rich experience of the breadth of the church across the world.

Tell me about your journey to ordination.

I was brought up in a very high anglo-catholic church. I eventually became a Reader in that church. I was actively involved in the church, in the General Synod and things like that. I’d felt this call to Reader ministry. I had three goes because I gave up after the first two. I couldn’t cope with the training regime and doing a profession. My career was an airline pilot. I didn’t give up - well, when I say that, I’m a great believer that the Holy Spirit doesn’t give up. God never gives up on you! Hence this is where I am in these advanced years, because God hasn’t given up on me.

I told the then Bishop that, if they wanted to bring in people to Reader training who were also working, they needed to change their training. And they did!

We had a holiday caravan in Treborth and started going to St Mary’s in Menai Bridge. Everybody was so welcoming and helpful. The Reader there moved to Beaumaris and I was invited to help. It was made possible for me to be licensed in both the Chuch of England and the Church in Wales and was able to help out when we were here on holiday. I’d felt for a long time that the Holy Spirit was pulling me towards ministry on Anglesey.

I was ordained as a distinctive deacon becaue I felt that’s where the call was but there were a few people who were asking me, “Are you sure?” There was an age issue becaue I’m fairly geriatric! Fortunately I’m quite a fit geriatric! So I went through a second discernment and they had the same discernment as me.

I can remember writing the phrase ‘A journey of faith across a bridge of hope’. That symbolised my journey to Anglesey and the bridge of hope being an opportunity to bring the hope of the Gospel to more people

What excites you most about being Priested?

I had some reservations about being priested, around absolution and blessing in particular. Was I fit enough to do that? I spent some time with my Spiritual Adviser and he gave me some clarity around that and helped me to understand that we are, basically, agents of the Holy Spirit. It is not us absolving, we are inviting the Holy Spirit and it is God’s blessing we are pronouncing, not ours as priests. The Sacraments are very important to me. It’s in my DNA almost. It’s an important part of my life and ministry and the ability to be able to share that sense of God’s presence is important to me. I’m looking forward to being able to use those gifts to grow the church. It’s the ability to share the richness and the fullness of God’s gifts with God’s people and with people who are yet to know that they are God’s people.

What’s your favourite biscuit?

It’s a McVities dark chocolate wholemeal – because it’s healthy! I can only have one a day. I’m very disciplined. I have one dark chocolate wholemeal a day and two squares of dark chocolate at night. I love dark chocolate – I don’t do milk chocolate!

If someone were to tell you they thought God wanted them to offer more what might you say to them?

Two things – listen to the Spirit. I’m a great believer that the Holy Spirit does communicate with us personally and directly. Secondly, talk to someone you trust.

Remember that if you think the Holy Spirit is calling you then the answer is probably, Yes! And that God won’t give up on you. My favourite passage is John 15:16, “You did not choose me, but I chose you and appointed you...” I would invite people to reflect on that passage because to me, that’s everything.


Almighty and everlasting God, by whose Spirit the whole body of the Church is governed and sanctified: hear our prayer which we offer for all your faithful people, that in their vocation and ministry they may serve you in holiness and truth to the glory of your name; through our Lord and Saviour Jesus Christ, who is alive and reigns with you in the unity of the Holy Spirit, God for ever and ever. Amen.