minus bangor1 bangor2 bangor3 bangor4 bangor5 bangor6 bangor7 bangor8 bangor9 bangor10 bangor11 bangor12 bangor13 bangor14 bangor15 bangor16 bangor17 bangor18 bangor19 bangor20 bangor21 bangor22 bangor23 bangor24 bangor25 bangor26 bangor27 bangor28 bangor29 bangor30 bangor31 bangor32 bangor33 bangor34 bangor35 bangor36 bangor37 bangor38 bangor39 bangor40 bangor41 bangor42 bangor43 bangor44 bangor45 bangor46 chevron-down chevron-left chevron-right chevron-up download email facebook instagram plus search twitter vimeo youtube external

Trwyddedu ac Ordeinio 2021: Christine Jones

Dros Ŵyl Bedr eleni yng Nghadeirlan Deiniol Sant ym Mangor, cafodd 14 o bobl ymroddedig, dawnus eu hordeinio neu eu trwyddedu i weinidogaethu.

Fe’u gelwir i “adeiladu corff Crist fel y cyrhaeddwn oll hyd at yr undod a berthyn i’r ffydd ac i adnabyddiaeth o Fab Duw” (Effesiaid 4).

Dyna’u tasg ar y cyd – ond mae gan bob un hefyd eu straeon personol eu hunain am alwad Duw ar eu bywydau.

Yma, cawn sgwrs â Christine am ei galwedigaeth fel Gweinidog Arloesol.


Dywedwch ychydig wrtha’i amdanoch eich hun.

Dwi’n gweithio’n llawn amser ym maes ymchwil cnydau a hyfforddi ffermwyr, gan fwyaf o gartref. Dwi hefyd yn ofalwr i’m mam oedrannus, sy’n byw efo fi. Dathlodd mam ei phen-blwydd yn 99 oed yr wythnos diwethaf. Felly mae gwaith, gofalu am mam a gofalu am Eglwys Tudno Sant (fel warden) yn mynd â’r rhan fwyaf o f’amser. Dwi hefyd yn mwynhau darllen a cherdded. Dwi’n weithgar efo Cyfeillion Dyffryn Dedwydd a Gerddi Haulfre a dwi’n gwirfoddoli gyda’r Ymddiriedolaeth Cadwraeth Cacwn. Roeddwn i’n arfer byw yn Swydd Lincoln nes i mi berswadio fy rheolwr ar y pryd y gallwn weithio gartref.

Felly beth ddaeth â chi draw yma?

Roedd fy nhad yn dod o Ddeganwy yn wreiddiol ac roedd fy mam yma am gyfnod yn ystod y Rhyfel. Roeddwn wrth fy modd efo’r ardal o’r adeg y daethon ni yma am wyliau teuluol am y tro cyntaf. Roedd hynny yn y dyddiau pan fyddai torfeydd yn eistedd ar y cerrig beddau. Fe wnes i fy ngradd ym Mangor ac yna treulio gweddill fy amser yn ceisio dychwelyd yma. Eglwys Tudno Sant ydi un o’r rhesymau pam wnes i ddewis dod i Landudno yn hytrach nag i rywle arall yng Ngogledd Cymru.

O wirfoddoli yn yr eglwys i gael eich trwyddedu. Sut ddigwyddodd hynny?

Symudais i mewn ar y nos Iau ac ar ddydd Sul roeddwn i yn Eglwys Tudno Sant yn dweud, "Oes na unrhyw beth y galla’i wneud i helpu?" Dwi wedi bod yn weithgar ar hyd yr adeg, o ddechrau grŵp ieuenctid yr eglwys i fod yn ymwneud â llawer o wahanol feysydd.

Mi ges alwad ffôn gan Dominic yn dweud fy mod wedi cael fy newis am sgwrs ynghylch trwyddedu. Roeddwn i’n barod i wneud yr hyfforddiant Arweinydd Addoliad fel y gallen ni ofalu am Eglwys Tudno Sant pan na fyddai clerigion ar gael. Roedd yn dipyn o syndod i mi sylweddoli bod y sgwrs ynglŷn â swydd Gweinidog Arloesol. Dwi’n yn synnu i mi gael fy newis.

Pa wahaniaeth, os o gwbl, ydych chi’n meddwl y bydd cael eich trwyddedu yn ei wneud?

Does gen i wir ddim syniad pa wahaniaeth y bydd yn ei wneud! Mae ynglŷn â gwneud pethau’n wahanol. Dwi’n edrych ymlaen at yr hyn gallwn ni ei wneud. Rydyn ni’n eithaf ffodus bod tair ohonon ni’n cael ein trwyddedu’r un pryd o Fro Tudno – gallwn ni weithio efo’n gilydd.

Beth sy’n eich cyffroi am Eglwys Tudno Sant a’ch gweinidogaeth chi yno?

Mae ein prif wasanaethau yn yr awyr agored drwy gydol yr haf. Mae hynny wedi bod yn digwydd ers 1857 o leiaf felly dydi o ddim yn draddodiad newydd. Mae’n wasanaeth anffurfiol a hygyrch. Rydyn ni’n cael llawer o ymwelwyr. Mae pobol yn dod i eistedd ar y cyrion gan nad ydyn nhw efallai’n teimlo’n hyderus am ddod i ymuno ond byddan nhw’n gwrando ymhellach i ffwrdd yn y fynwent.

Mae’r eglwys ei hun yn un o’r llefydd yma sy’n cael eu disgrifio fel lle tenau. Mi allwch chi deimlo bod pobl wedi bod yn gweddïo yno ers canrifoedd.

Rydyn ni’n ceisio cynnal pethau a fydd yn apelio at bobol eraill, rhywbeth na fyddai pobol efallai’n ei ystyried yn wasanaeth eglwys arferol. Rydyn ni wedi bod yn gwneud pethau ar gyfer y Great Get Together ond ddim eleni gan ein bod yn dal i fod yn ofalus. Rydyn ni hefyd yn ceisio defnyddio’r fynwent gymaint ag y gallwn. Gyda Chyfeillion Eglwys Tudno Sant, ni yw’r fynwent eglwys gyntaf yn yr Esgobaeth i ennill Baner Werdd Gymunedol wrth i ni reoli’r fynwent er budd bywyd gwyllt gan sefydlu llwybrau mynwent. Rydyn ni’n ceisio defnyddio hynny i ennyn diddordeb pobol, i’w tynnu i mewn i sylweddoli nad ydi’r Eglwys yn rhywbeth estron na brawychus.

Beth mae eich ffydd yn ei olygu i chi? A yw’r Eglwys wastad wedi bod yn rhan o’ch bywyd?

Mi gefais i fy magu ynddi. Mae wedi bod yn rhan o fy mywyd erioed. Alla i ddim dychmygu bod heb ffydd. Mae’n anodd disgrifio’r peth mewn unrhyw ffordd arall.

Pa un ydi’ch hoff fisgeden?

Roeddwn i’n trio ffindio os ydi Jaffa Cake yn dal yn fisgeden ta ydi hi’n swyddogol yn gacen!

Pe bai rhywun yn dweud wrthych eu bod yn meddwl bod Duw am iddyn nhw gynnig mwy, beth allech chi ei ddweud wrthyn nhw?

Dewch i siarad â rhywun. Mae cymaint o bethau y gall pobol eu gwneud mewn cymaint o wahanol ffyrdd. Mae yna rôl i bawb.Efallai nad ydi pobol yn meddwl bod ganddyn nhw rywbeth i’w gynnig ond, byddwch yn agored i’r hyn mae pobol eraill yn ei weld ynddyn nhw.Cymerwch y cam nesaf ar y daith.


Cymraeg

Licensing and Ordinations 2021: Christine Jones

This Petertide at St Deiniol's Cathedral in Bangor, 14 dedicated, gifted people were ordained or licensed for ministry.

They are called to “build up the body of Christ until all of us come to the unity of the faith and of the knowledge of the Son of God” (Ephesians 4).

That is their common task – but each also have their own personal stories about God’s call on their lives.

Here, we talk to Christine about her vocation as a Pioneer Minister.


Tell me a bit about yourself.

I work full time in crop research and farmer training, mostly from home. I’m also a carer for my elderly mother who lives with me. Mum had her 99th birthday last week. So between work, looking after mum and looking after St Tudno’s (as a warden) that really takes up most of my time. I also enjoy reading and walking. I’m involved with the Friends of Happy Valley and Haulfre Gardens and I’m a volunteer with the Bumblebee Conservation Trust. I used to live in Lincolnshire until I persuaded my then boss that I could work from home.

So, what brought you over here ?

My father came from Deganwy originally and my mother was here for a while in the War. I loved the area from when we first came up here for family holidays. It was in the days when there were crowds sitting on the tombstones. I did my degree at Bangor and then spent the rest of my time trying to get back here. St Tudno’s is one of the reasons I chose to come to Llandudno rather than somewhere else in North Wales.

From volunteering for the church to being licensed. How did that come about?

I moved in on the Thursday night and on Sunday I was up at St Tudno’s saying, “Is there anything I can do to help?” I’ve always been involved from starting a church youth group to being involved in lots of different places.

I got a phonecall from Dominic saying that I had been selected to talk about licensing. I was ready to do the Worship Leader training so that we could look after things at St Tudno’s when clergy weren’t available. It was a bit of a surprise to know it was for a Pioneer Minister role. It’s quite humbling to be chosen.

What difference, if any, do you think being licensed will make?

I have honsetly no idea what difference it’ll make! It’s about doing things differently. I’m looking forward to what we can do. We’re quite lucky that there’s three of us from Bro Tudno being licensed together, we can work together.

What is it that excites you about St Tudno’s and your ministry there?

Our main services are open air right through the summer. It’s been going on since 1857 at least so it’s not a new tradition. It’s a relaxed and accesible service. We get lots of visitors. People come and sit on the fringes who may not feel confident about coming to join in but they’ll listen in from further away in the churchyard.

The church itself, it’s one of these places that described as a thin place. You can feel that people have been praying there for centuries.

We try to put things on that will appeal to other people, something that might not be regarded as a regular church service. We’ve been doing things for the Great Get Together though not this year as we’re still being cautious. We also try and use the churchyard as much as we can. With the Friends of St Tudno’s, we’re the first churchyard in the diocese to have a Community Green Flag where we manage the churchyard for wildlife so we have churchyard trails. We try and use that to interest people, to draw them in to realise that church is not something alien or frightening.

What does your faith mean to you? Has church always been a part of your life?

I was brought up in it. It’s always been part of my life. I can’t imagine not having a faith. It’s hard to describe it as anything else.

What’s your favourite biscuit?

I was just trying to check if Jaffa Cake is still a biscuit or if it’s officially a cake!

If someone were to tell you they thought God wanted them to offer more what might you say to them?

Come and talk to someone. There are so many things that people can do in so many different ways. There’s a role for everyone. It might be that people don’t think they’ve got something to offer but, be open to what other people see in them. Take the next step on the journey.