minus bangor1 bangor2 bangor3 bangor4 bangor5 bangor6 bangor7 bangor8 bangor9 bangor10 bangor11 bangor12 bangor13 bangor14 bangor15 bangor16 bangor17 bangor18 bangor19 bangor20 bangor21 bangor22 bangor23 bangor24 bangor25 bangor26 bangor27 bangor28 bangor29 bangor30 bangor31 bangor32 bangor33 bangor34 bangor35 bangor36 bangor37 bangor38 bangor39 bangor40 bangor41 bangor42 bangor43 bangor44 bangor45 bangor46 chevron-down chevron-left chevron-right chevron-up download email facebook instagram plus search twitter vimeo youtube external

Gweinidogaethau newydd yng Nghadeirlan Deiniol Sant ac Ardal Weinidogaeth Bro Deiniol

Oddi wrth yr Esgob

Mae Cadeirlan Deiniol Sant ac Ardal Weinidogaeth Bro Deiniol yn greiddiol i’n hesgobaeth. Y gymuned o Gristnogion o gylch Deiniol Sant roddodd enedigaeth i ddinas Bangor, ac, fel esgobaeth, tua’r Gadeirlan a’r ddinas yr edrychwn ni am batrwm o addoliad angerddol, gweinidogaeth fywiog a gwasanaeth cariadus.

Ar ôl diolch i Kathy Jones am ei gweinidogaeth yn ein plith fel Deon dros y pum mlynedd diwethaf, rhaid nawr edrych yn bwrpasol i’r dyfodol. Mae’r heriau sy’n ein hwynebu, yn y Gadeirlan a ledled eglwysi’r ddinas, yn finiog ac yn glir, ond felly hefyd mae’r cyfleoedd ar gyfer cenhadaeth a’r angen am dystiolaethu Cristnogol ffyddlon, creadigol.

Rwyf wedi adolygu sefyllfa’r Gadeirlan a Bro Deiniol gyda fy nghydweithwyr dros yr wythnosau diwethaf, ac wedi ystyried argymhellion Gofwy o’r Gadeirlan dan arweiniad Archddiacon Bangor yn gynharach eleni. Yng ngoleuni’r ddirnadaeth hon, rwyf wedi penderfynu gohirio penodi Deon newydd am gyfnod sylweddol o amser.

Fodd bynnag, fel y gallwn wneud cynnydd sylweddol a chwim ym Mangor, rwyf heddiw yn cyhoeddi nifer o benodiadau sylweddol i ddarparu arweinyddiaeth drawsnewidiol i’r Gadeirlan a Bro Deiniol ar gyfer y blynyddoedd a ddaw.

Ymysg y penodiadau hyn y mae:

  • Is-Ddeon newydd i arwain gweinidogaeth a chenhadaeth y Gadeirlan ac i weithredu fel y prif offeiriad yn Ardal Weinidogaeth Bro Deiniol
  • Cyfarwyddwr Cerdd newydd, a fydd â rôl hanfodol yn ail-fywiog addoliad y Gadeirlan
  • Gweinidog Teulu newydd i wella gweinidogaeth y Gadeirlan a’r Ardal Weinidogaeth ym mysg plant, teuluoedd ac ysgolion
  • aelodau newydd o’r Cabidwl i oruchwylio bywyd y Gadeirlan, gan gynnwys Canoniaid newydd o’r tu mewn a thu hwnt i’n hesgobaeth, ac, am y tro cyntaf, dau Ganon Lleyg

Yn eu cyfanrwydd, mae’r penodiadau hyn yn fuddsoddiad sylweddol o amser, dawn ac adnodd yng Nghadeirlan Deiniol Sant. Rwy’n falch iawn bod gennym bobl ddawnus o fewn cyrraedd inni, a fydd yn gweithio gyda ni i adeiladu gweinidogaeth feunyddiol y Gadeirlan a’r Ardal Weinidogaeth i’r ddinas a’r esgobaeth mewn ffyrdd ffyddlon a chreadigol. Rwyf hefyd wrth fy modd bod cymaint o gyfeillion wedi derbyn fy ngwahoddiad i ymuno â’r Cabidwl, ac felly i chwarae eu rhan wrth lunio bywyd y Gadeirlan i’r hir-dymor, gan arwain y newidiadau sylweddol y mae angen iddynt ddigwydd trwy eu craffu a’u goruchwyliaeth ddoeth.

Ymunwch â mi mewn gweddi dros y rhai yr wyf yn cyhoeddi eu penodiadau heddiw, a thros genhadaeth a gweinidogaeth yr Eglwys yn ein Cadeirlan a ledled dinas Bangor.

Hollalluog Dduw, a ysbrydolaist dy esgob Deiniol i gasglu o’i gwmpas gymuned o Gristnogion i gyd-fyw bywyd cytun; caniatâ i ni, sy’n anrhydeddu’r cof amdano, weithio i atgyfnerthu teulu dy Eglwys mewn ffydd, gobaith a chariad; trwy Iesu Grist ein Gwaredwr. Amen.

Yn bur iawn,

Y Gwir Barchg Andy John
Esgob Bangor
Y Nawfed Sul wedi’r Drindod
1 Awst 2021


Is-Ddeon a Chanon Drysorydd newydd

Mae’r Esgob wedi penodi’r Parchg Siôn Rhys Evans yn Is-Ddeon. Bydd Siôn felly’n gweithredu yn lle’r Deon yn y Gadeirlan, ac yn arwain Ardal Weinidogaeth Bro Deiniol. Bydd yn meddiannu sedd y Canon Drysorydd yn y Cabidwl.

Magwyd Siôn ar Ynys Môn, ac mae wedi gweithio i’r Eglwys yn Llundain, Caerdydd a gogledd Cymru, gan wasanaethu nifer o blwyfi Anglicanaidd yn Llundain, Cytûn fel Prif Weithredwr Cynorthwyol, a’r Eglwys Fethodistaidd ym Mhrydain fel ei Chyfarwyddwr Gweinidogaeth a Dysg. Mae wedi bod yn Ysgrifennydd yr Esgobaeth ym Mangor ers 2014 ac, ers 2019, mae wedi gwasanaethu fel Curad yn Ardal Weinidogaeth Bro Tudno.

Fel Is-Ddeon, bydd Siôn yn gwasanaethu fel y prif offeiriad yn y Gadeirlan a’r Ardal Weinidogaeth, gan gadeirio cyfarfodydd y Cabidwl, rheoli staff y Gadeirlan, a gweithio’n agos gydag aelodau presennol y tîm gweinidogaeth: Canon Tracy Jones (Canon y Bywyd Cynulleidfaol), Canon Angela Williams (y Canon Emeritws), ac Elma Taylor (Darllenydd).

Er mwyn galluogi Siôn i wasanaethu fel Is-Ddeon, bydd yn cael ei secondio am hanner ei amser o’i rôl bresennol fel Ysgrifennydd yr Esgobaeth, a bydd yn dwyn ei weinidogaeth offeiriadol ym Mro Tudno i ben ym mis Medi.

Wrth sôn am ei rôl newydd, dywedodd Siôn:

“Cefais y fraint o dreulio 20 mlynedd yn gweithio i’r Eglwys mewn nifer o wahanol rolau, wyth o’r blynyddoedd hynny yn Esgobaeth Bangor, ac rwy’n falch o allu dwyn y blynyddoedd hynny o brofiad i’r rôl newydd hon. Rwyf yr un mor ymwybodol fy mod wedi f’ordeinio’n gymharol ddiweddar, ac fy mod yn etifeddu gofal o’r Gadeirlan oddi wrth Ddeoniaid yr wyf wedi’u hadnabod – Trevor Evans, Alun Hawkins, Sue Jones a Kathy Jones – yr oeddent oll yn meddu ar brofiad offeiriadol dwfn. Felly, rwy’n mynd i’r afael â’r alwad hon yn wylaidd, ac yn ymwybodol iawn o ymddiriedaeth yr Esgob ynof.

Nid yw’r cerrig milltir personol hyn yn ddim o’u cymharu â’r ffaith y bydd Cadeirlan Deiniol Sant, yn 2025, yn dathlu mileniwm a hanner ers dyfodiad Deiniol i’r lle hwn i sefydlu ei “lan” ac i adeiladu o’i gwmpas ei wrychyn plethwaith, y “bangor” gwreiddiol sy’n rhoi i’r ddinas ei henw. Mae llawer i’w wneud – i wella adeilad y Gadeirlan, i atgyfnerthu ein haddoliad, ac i adfywio ein cenhadaeth a’n tystiolaeth i bob rhan o’r ddinas a’r brifysgol – os yr ydym am ddathlu’r pen-blwydd hwnnw, mewn ychydig dros dair blynedd, yn hyderus a’n llawen.

Ac, wrth gwrs, mae ein cerrig milltir ni oll yn simsan o’u gweld yng ngoleuni’r Newydd Da tragwyddol y cawn ein galw i’w gyhoeddi o’r lle hwn – y ffydd, y gobaith a’r cariad a erys. Mae’r croeso cynnes a gefais eisoes gan Canon Tracy Jones, Canon Angela Williams ac Elma Taylor wedi fy nghalonogi, ac edrychaf ymlaen yn awr, gyda nhw, at gofleidio’r her sylfaenol o gyhoeddi’r Newydd Da tragwyddol hwnnw, ochr yn ochr â gweddill staff y Gadeirlan, holl gynulleidfaoedd Bro Deiniol, a Chabidwl y Gadeirlan. Gweddïwch drostyn nhw ac throsof finnau dros y misoedd a ddaw.”

Er mwyn hwyluso secondiad Siôn o’i rôl fel Ysgrifennydd yr Esgobaeth, a sicrhau parhad arweinyddiaeth o fewn Tîm Deiniol, tîm canolog yr esgobaeth, bydd dau o gydweithwyr Siôn yn y tîm yn ysgwyddo cyfrifoldebau newydd. Bydd Owain Prichard, fel Cyfarwyddwr Systemau a Gweithrediadau, yn arwain wrth gydlynu a rheoli swyddogaethau eiddo, cyllid a gweinyddol Tîm Deiniol. Bydd Becks Davie-Tettmar, fel Cyfarwyddwr Prosiectau a Rhaglenni, yn arwain wrth gydlynu a rheoli pob agwedd arall ar waith y tîm, sef y portffolios Meithrin Disgyblion a Galwedigaethau, Addysg ac Ymgysylltu, a Llan.

Wrth sôn am y newidiadau sydd o’n blaenau, dywedodd Owain a Becks:

“Rydym yn edrych ymlaen at gydlynu’r gefnogaeth a gynigiwn o Dîm Deiniol i genhadaeth a gweinidogaeth ym mhob cwr o’r esgobaeth. Mae cymaint o fynegiadau o obaith yn dod i’r amlwg mewn llawer o leoedd yng nghanol yr heriau niferus yr ydym i gyd yn eu hwynebu ar hyn o bryd, a byddwn ni a’n cydweithwyr yn Nhîm Deiniol yn gweithio’n galed i fod law yn llaw ag Ardaloedd Gweinidogaeth yn y tymor a ddaw.”

Cyfarwyddwr Cerdd newydd yn ymuno â'r Gadeirlan

Joe Cooper fydd Cyfarwyddwr Cerdd nesaf y Gadeirlan. Dechreuodd Joe ei hyfforddiant cerddorol yng nghôr Eglwys Golegol Pedr Sant, Wolverhampton lle’r oedd hefyd yn Ysgolhaig Organ. Mae wedi astudio’r organ gyda Henry Fairs a Daniel Moult ac arwain gyda Paul Spicer a Jeffery Skidmore. Mae gan Joe radd Meistr o Goleg Brenhinol Cerdd Birmingham, ac mae’n dderbynnydd Gwobr Wolfenden am arwain. Mae Joe, sydd eisoes wedi dechrau dysgu Cymraeg, yn byw gyda’i bartner Simon, sydd hefyd yn gerddor hyfforddedig, ac mae’r ddau ohonyn nhw’n edrych ymlaen yn fawr at symud i Fangor a dod yn rhan o deulu’r Gadeirlan. Bydd Joe yn gweithio ochr yn ochr ag Organydd y Gadeirlan, Martin Brown, a chyn bo hir bydd yn edrych i recriwtio Ysgolheigion Corawl ac aelodau newydd i adnewyddu ac ehangu gweinidogaeth gorawl y Gadeirlan.

Wrth sôn am ei benodiad, dywedodd Joe:

“Rwy’n edrych ymlaen at ymuno â chi yng Nghadeirlan Deiniol Sant o fis Medi. Rydyn ni i gyd wedi byw trwy gyfnod o bryder ac ansicrwydd, ond wrth i ni gamu o gysgod y pandemig rwy’n gobeithio y gallwn ni adeiladu gyda phositifrwydd.

Rwyf wedi bod yn Gyfarwyddwr Cerdd yn Eglwys Sant Alphege, Solihull am yr wyth mlynedd diwethaf, lle rwyf wedi trochi yn y traddodiad corawl, gan wneud yr adran gerdd yn offeryn cenhadol sy’n cyffwrdd â bywydau pobl ledled y fwrdeistref. Fy ngobaith ym Mangor yw ymgysylltu â’r ddinas a’r esgobaeth gyda’r un dychymyg ac ymrwymiad.”


Apwyntio Gweinidog Teulu newydd

Mae Naomi Wood yn fam i Ethan, sy’n bump, Sophia, sy’n dair, ac mae’n briod â Richard. Mae hi wedi bod yn ymwneud â gweinidogaeth plant eglwysig lleol, esgobaethol a thaleithiol ers graddio fel athrawes ysgol gynradd yn 2004. Mae Naomi yn siaradwr Cymraeg rhugl, wrth ei bodd yn bod yn greadigol, ac yn angerddol am ddweud wrth blant a’u teuluoedd am Iesu Grist mewn ffyrdd hygyrch.

Ar hyn o bryd mae Naomi yn gwasanaethu fel Swyddog Gweinidogaeth Plant a Theuluoedd esgobaethol, a bydd yn cael ei secondio i wasanaethu’r Gadeirlan a’r Ardal Weinidogaeth am ddau ddiwrnod a hanner yr wythnos.


Apwyntiadau newydd i Gabidwl y Gadeirlan


Canon Ganghellor

Bydd Canon Emlyn Williams yn codi o’i sedd gyfredol i ddod yn Ganon Ganghellor. Emlyn yw Arweinydd Ardal Weinidogaeth Bro Cadwaladr a Deon Bro Ynys Môn. Mae’n briod â Clarissa, ac mae ganddo dri o blant a phedwar o wyrion, pob un yn byw ar Ynys Môn. Mae’n hoff o reidiau hir ar ei feic modur, cwrw go iawn, a gwyliau tramor mewn hinsoddau cynnes.


Canon Bencantor

Bydd Canon Robert Townsend yn codi o’i sedd gyfredol i ddod yn Ganon Bencantor. Yn wreiddiol o Spalding yn Swydd Lincoln, daeth Robert i’r Brifysgol ym Mangor ym 1986 i astudio Almaeneg, heb fod yn ymwybodol y byddai’ alwedigaeth i weinidogaeth ordeiniedig yn cael ei meithrin gan bobl y brifysgol, y Gadeirlan a’r esgobaeth. Mae Robert yn edrych ymlaen at gefnogi bywyd addoli’r Gadeirlan fel Canon Brencantor. Mae’n byw ym Miwmares, lle mae’n Arweinydd Ardal Weinidogaeth Bro Seiriol, yn ogystal â gwirfoddoli gyda’r bad achub lleol.


Canon Primus

Bydd Canon Tracy Jones yn codi o’i sedd gyfredol i ddod yn Ganon Primus. Ordeiniwyd Tracy yn y Gadeirlan yn 2012, gan wasanaethu ei churadiaeth a’i swydd gyntaf o gyfrifoldeb ar Ynys Môn. Mae hi wedi gweithio fel Ficer yn Ardal Weinidogaeth Bro Deiniol ers bron i 3 blynedd. Mae hi nawr yn edrych ymlaen at weithio ochr yn ochr â’r Is-Ddeon a’r Cabidwl yn yr hyn sy’n addo bod yn gyfnod cyffrous ym mywyd y Gadeirlan.


Canon Tertius

Y Parchg Kim Williams yw Arweinydd Ardal Weinidogaeth Bro Eifionydd, gan wasanaethu cymunedau Beddgelert, Porthmadog, Cricieth a’r cylch. Mae wedi gwasanaethu yn Esgobaeth Bangor am ei 20 mlynedd gyfan o weinidogaeth ordeiniedig. Yn wreiddiol o Ardal y Llynnoedd, astudiodd Kim yn Lincoln, Hull a Rhydychen a chymhwyso fel athro cyn dechrau hyfforddi ar gyfer y weinidogaeth yng Ngholeg Ripon, Cuddesdon. Mae Kim yn briod â Chanon Dylan Williams, Arweinydd Ardal Weinidogaeth Bro Peblig, ac mae ganddyn nhw ddwy ferch, Heledd a Ffion.


Canon Quintus

Mae’r Parchg Alan Gyle yn offeiriad ac ymgynghorydd sefydliadol sydd, dros y degawd diwethaf, wedi gweithio ym mhob esgobaeth yng Nghymru yn darparu hyfforddiant i glerigion, gan weithio’n fwyaf diweddar gyda Mainc yr Esgobion. Yn Albanwr, astudiodd Gerddoriaeth yn Aberdeen ac yna Diwinyddiaeth yn Rhydychen cyn cael ei ordeinio yn Esgobaeth Llundain. Ymhlith swyddi eraill, roedd yn Is-Ganon yng Nghapel Sant Siôr yng Nghastell Windsor, lle yr oedd hefyd yn Gymrawd Tŷ Sant Siôr gan ganolbwyntio ar bolisi cymdeithasol, ac roedd yn Gaplan Coleg Imperial a’r Coleg Celf Brenhinol yn Llundain. Mae’n ymweld yn aml â Borth-y-Gest ac Eryri.


Canon Mygedol

Mae’r Parchg Nick Golding yn Ddiacon Nodedig yn Ardal Weinidogaeth Bro Eifionydd, ac mae wedi chwarae rhan allweddol yn adnewyddiad rôl diaconiaid yn yr esgobaeth, yn ogystal â chyfrannu’n egnïol ac yn greadigol at drafodaethau am ffyrdd newydd o fod yn Eglwys mewn byd heriol. O gefndir hynod eclectig mewn hen bethau, ffilm Brydeinig, gwaith ieuenctid a seicotherapi, mae galwad Nick i fod yn ddiacon yn dod â phrofiad eang o fywyd. Mae’n byw yn Nhremadog gyda’i bartner o 31 mlynedd, Michael, eu milgi bach a’u poli-parot.


Canon Lleyg

Mae Jane Coutts yn byw ar Ynys Môn ac wedi addoli yn y Gadeirlan gyda’i theulu ers chwarter canrif. Mae hi wedi bod yn Warden y Gadeirlan am y deng mlynedd diwethaf, yn cynrychioli’r gynulleidfa mewn nifer o brosesau arwyddocaol, ac yn cydlynu agweddau allweddol ar weinidogaeth y Gadeirlan.


Canon Lleyg

Janet Gough oedd Cyfarwyddwr Cadeirlannau ac Adeiladau Eglwysig Eglwys Loegr, lle datblygodd fentrau i wella didwylledd, cynaliadwyedd ac ariannu adeiladau eglwysig, a sicrhau bod cadeirlannau, eglwysi a’u trysorau yn dod yn fwy adnabyddus ac yn cael eu mwynhau gan eu haddolwyr, cymunedau ehangach ac ymwelwyr. Mae hi wedi ysgrifennu dau lyfr ar gadeirlannau ac adeiladau eglwysig. Astudiodd Janet hanes a hanes celf yng Nghaergrawnt, a bu’n gweithio gyntaf yn Ninas Llundain ac yna i dŷ ocsiwn Sotheby’s am ddeng mlynedd. Dyfarnwyd OBE iddi am ei gwasanaeth i dreftadaeth yn 2017.


Clerc y Cabidwl

Mae gan Robert Jones gysylltiadau lu â’r Gadeirlan, ar ôl bod yn aelod o’r côr, Myfyriwr Organ a Phrif Weinydd Allor. Mae ganddo radd Meistr mewn Cerddoriaeth o Brifysgol Bangor ac mae bellach yn gweithio fel Cynorthwyydd i’r Esgob ac Ysgrifennydd yr Esgobaeth, ochr yn ochr â gwaith llawrydd fel cerddor. Bydd Robert yn parhau yn ei rôl yn cefnogi’r Esgob ac Ysgrifennydd yr Esgobaeth, law yn llaw â’i gyfrifoldebau fel Clerc y Cabidwl.


Gosber Gosod a threfniadau'r hydref

Bydd yr Is-Ddeon, y Cyfarwyddwr Cerddoriaeth a’r Gweinidog Teulu newydd yn cychwyn ar eu gwaith yn ystod mis Medi, a fydd i raddau helaeth yn gyfnod cynefino, cynllunio a pharatoi. Ein disgwyliad yw y bydd y Gadeirlan, trwy gydol mis Medi, yn parhau i gael ei defnyddio fel Canolfan Frechu, ac y bydd patrwm cyfredol gwasanaethau’r Sul yn parhau hefyd.

Bydd gweinidogaethau newydd Siôn, Joe a Naomi yn cael eu nodi’n gyhoeddus mewn gwasanaeth Gosber am 5pm ar 26 Medi 2021, pryd y bydd Canoniaid newydd hefyd yn cael eu gosod, ochr yn ochr â Chlerc y Cabidwl a Chofrestrydd a’r Dirprwy Gofrestrydd yr Esgobaeth. Cyhoeddir natur y gwasanaeth, y gallai fod angen iddo fod trwy wahoddiad yn unig, yn nes at yr amser, er y gobeithir y bydd llawer o’r cyfyngiadau cyfredol wedi’u llacio erbyn hynny.

Disgwylir y bydd patrwm newydd o wasanaethau yn ystod yr wythnos ac ar y Sul, ar gyfer y Gadeirlan a’r Ardal Weinidogaeth, ar waith o ddechrau mis Hydref, ochr yn ochr ag oriau agor newydd y Gadeirlan.

Cymraeg

New ministries at Saint Deiniol’s Cathedral and the Ministry Area of Bro Deiniol

From the Bishop

Saint Deiniol’s Cathedral and the Ministry Area of Bro Deiniol are at the heart of our diocese. The Christian community gathered by St Deiniol gave birth to the city of Bangor, and, as a diocese, we look to the Cathedral and the city for a pattern of vital worship, vibrant ministry and loving service.

Having thanked Kathy Jones for her ministry to us as Dean over the last five years, we must now purposefully look to the future. The challenges we face, both within the Cathedral and across the city churches, are sharp and clear, but so also are the opportunities for mission and the need for faithful, creative Christian witness.

I have reviewed the position of the Cathedral and Bro Deiniol with colleagues over recent weeks, and have taken account of the recommendations of a Visitation of the Cathedral led by the Archdeacon of Bangor earlier this year. In light of this discernment, I have decided to delay the appointment of a new Dean for a substantial period of time.

However, so that we can make significant and rapid progress in Bangor, I am today announcing a number of significant appointments to provide transformative leadership for the Cathedral and Bro Deiniol for the coming years.

These appointments include:

  • a new Sub-Dean to lead the Cathedral’s ministry and mission and to act as the senior priest in the Ministry Area of Bro Deiniol
  • a new Director of Music, who will have a vital role in reenergizing the Cathedral’s worshipping life
  • a new Family Minister to enhance the Cathedral and the Ministry Area’s ministry to children, families and schools
  • new members of the Chapter to oversee the Cathedral’s common life, including new Canons from within and beyond our diocese, and, for the first time, two Lay Canons

Together, these appointments constitute a significant investment of time, talent and resources at Saint Deiniol’s Cathedral. I am delighted that we have available to us gifted people who will work with us to build up the Cathedral and Ministry Area’s day-to-day ministry to the city and the diocese in faithful and creative ways. I am also delighted that so many colleagues have accepted my invitation to join the Chapter, and so to play their part in shaping the Cathedral’s life into the longer term, guiding the significant changes that need to take place through their wise discernment and oversight.

Please join me in praying for those whose appointments I am announcing today, and for the mission and ministry of the Church in our Cathedral and across the city of Bangor.

Almighty God, who inspired your bishop Deiniol to gather around him a community to live the common life: grant that we, who honour his memory, may work to build up the family of your Church in faith and hope and love; through Jesus Christ our Saviour. Amen.

Grace and peace to you all.

The Rt Revd Andy John
Bishop of Bangor
The Ninth Sunday after Trinity
1 August 2021


A new Sub-Dean & Canon Treasurer

The Bishop has appointed the Revd Siôn Rhys Evans as Sub-Dean. Siôn will therefore act in the Dean’s stead within the Cathedral, and will lead the Ministry Area of Bro Deiniol. He will occupy the Chapter stall of Canon Treasurer.

Siôn was brought up on Anglesey, and has worked for the Church in London, Cardiff and north Wales, serving a number of Anglican parishes in London, Cytûn as its Assistant Chief Executive, and the Methodist Church in Britain as its Director of Ministries, Learning & Development. He has been Bangor’s Diocesan Secretary since 2014 and, since 2019, has served as Curate of the Ministry Area of Bro Tudno.

As Sub-Dean, Siôn will serve as the senior priest in the Cathedral and Ministry Area, chairing meetings of the Chapter, managing the Cathedral’s staff, and working closely with the current members of the ministry team: Canon Tracy Jones (the Canon for Congregational Life), Canon Angela Williams (the Canon Emeritus), and Elma Taylor (Reader).

To enable Siôn to serve as Sub-Dean, he will be seconded for half of his time from his current role as Diocesan Secretary, and will conclude in September his priestly ministry in Bro Tudno.

Speaking about his new role, Siôn said:

“I’ve been privileged to have spent 20 years working for the Church in a number of different roles, eight of those years within the Diocese of Bangor, and I’m glad to be able to bring those years of experience to this new role. I’m equally very aware that I’m relatively newly ordained, and that I inherit care of the Cathedral from the Deans I have known – Trevor Evans, Alun Hawkins, Sue Jones and Kathy Jones – who were all possessed of deep priestly experience. I’m therefore approaching the task ahead with trepidation, humbled by the trust placed in me by the Bishop.

These personal milestones are as nothing compared to the fact that, in 2025, Saint Deiniol’s Cathedral will celebrate the millennium and a half anniversary of Deiniol’s arrival in this place to establish his “llan” and to build around it his wattle fence, the original “bangor” from which the city takes its name. There is much to be done – to enhance the Cathedral’s fabric, to build up our worshipping life, and to reinvigorate our mission and witness to all parts of the city and the university – to enable us to celebrate that anniversary, in a little over three years’ time, with confidence and joy.

And, of course, all our anniversaries are fleeting when seen in the light of the eternal Good News of faith, hope and love that we are called proclaim from this place. I have been touched by the warm welcome I have already received from Canon Tracy Jones, Canon Angela Williams and Elma Taylor, and I now look forward, with them, to embracing the fundamental challenge of proclaiming that eternal Good News, alongside the rest of the Cathedral staff team, all the congregations of Bro Deiniol, and the Cathedral Chapter. Please pray for them and for me over the months ahead.”

To facilitate Siôn’s secondment from his role as Diocesan Secretary, and to ensure continuity of leadership within Tîm Deiniol, the central diocesan team, two of Siôn’s colleagues within the team will assume new responsibilities. Owain Prichard, as Director of Systems & Operations, will take a lead in coordinating and managing Tîm Deiniol’s property, finance and administrative functions. Becks Davie-Tettmar, as Director of Projects & Programmes, will take a lead in coordinating and managing all other aspects of the team’s work, namely the Discipleship & Vocations, Education & Engagement, and Llan portfolios.

Speaking of the changes ahead, Owain and Becks said:

“We’re looking forward to coordinating Tim Deiniol’s support of mission and ministry across the diocese. There are so many expressions of hope emerging in lots of places amid the many challenges we are all facing at the moment, and we and our colleagues in Tîm Deiniol will be working hard to be alongside Ministry Areas in this next season.”

A new Director of Music joins the Cathedral

Joe Cooper is to be the Cathedral’s next Director of Music. Joe began his musical training as a chorister at St Peter’s Collegiate Church, Wolverhampton where he was also Organ Scholar. He has studied organ with Henry Fairs and Daniel Moult and conducting with Paul Spicer and Jeffery Skidmore. Joe holds a Master’s degree from the Royal Birmingham Conservatoire, and is a recipient of the Wolfenden Award for conducting. Joe, who has already begun to learn Welsh, lives with his partner Simon, who is also a trained musician, and they are both very much looking forward to moving to Bangor and becoming part of the Cathedral family. Joe will work alongside the Cathedral Organist, Martin Brown, and will soon be looking to recruit new Choral Scholars and choristers to refresh and enhance the Cathedral’s choral ministry.

Commenting on his appointment, Joe said:

“I am looking forward to joining you at Saint Deiniol’s Cathedral from September. We have all lived through a time of worry and uncertainty, but as we emerge from the shadow of the pandemic I hope we can build with freshness and positivity.


A new Family Minister appointment

Naomi Wood is mother to five-year-old Ethan and three-year-old Sophia, and is married to Richard. She has been involved in local, diocesan and provincial church-based children’s ministry since graduating as a primary school teacher in 2004. Naomi is a fluent Welsh-speaker, loves being creative and is passionate about telling children and their families about Jesus Christ in creative and accessible ways.

Naomi currently serves as the diocesan Children & Families Ministry Officer, and will be seconded to serve the Cathedral and Ministry Area for two-and-a-half days a week.


New appointments to the Cathedral Chapter


Canon Chancellor

Canon Emlyn Williams will vacate his current Chapter stall to become Canon Chancellor. Emlyn is the Ministry Area Leader of Bro Cadwaladr and the Area Dean of Anglesey. He is married to Clarissa, and he has three children and four grandchildren, all living on Anglesey. He likes long rides on his motorbike, real ale, and foreign holidays in warm climates.


Canon Precentor

Canon Robert Townsend will vacate his current Chapter stall to become Canon Precentor. Originally from Spalding in Lincolnshire, Robert came to the University in Bangor in 1986 to study German, unaware that his vocation to ordained ministry was soon to be nurtured by the people of the university, Cathedral and diocese. Robert is looking forward to supporting the Cathedral’s worshipping life as Canon Precentor. He lives in Beaumaris, where he is the Ministry Area Leader of Bro Seiriol, as well as a volunteer with the local lifeboat.


Canon Primus

Canon Tracy Jones will vacate her current Chapter stall to become Canon Primus. Tracy was ordained in the Cathedral in 2012, serving her curacy and first post of responsibility in Anglesey. She has worked as a Vicar in the Bro Deiniol Ministry Area for almost 3 years. She is now looking forward to working alongside the Sub-Dean and Chapter in what promises to be an exciting time in the Cathedral’s life.


Canon Tertius

The Revd Kim Williams is Ministry Area Leader of Bro Eifionydd, serving the communities centred around Beddgelert, Porthmadog and Cricieth, and has served within the Diocese of Bangor for the whole of her 20 years of ordained ministry. Originally from the Lake District, Kim studied in Lincoln, Hull and Oxford and qualified as a teacher before beginning training for ordination at Ripon College, Cuddesdon. Kim is married to Canon Dylan Williams, the Ministry Area Leader of Bro Peblig, and they have two daughters, Heledd and Ffion.


Canon Quintus

The Revd Alan Gyle is a priest and organisational consultant who, over the past decade, has worked in every diocese in Wales delivering training and coaching clergy, working most recently with the Bench of Bishops. A Scotsman, he read Music in Aberdeen and then Theology in Oxford before being ordained in the Diocese of London. Among other posts, he was a Minor Canon at St George’s Chapel in Windsor Castle, where he also held a Fellowship at St George’s House focusing on social policy, and was Chaplain of Imperial College and the Royal College of Art in London. He is a frequent visitor to Borth-y-Gest and to Snowdonia.


Honorary Canon

The Revd Nick Golding is a Distinctive Deacon in the Ministry Area of Bro Eifionydd, and has played a key part in the renewal of the diaconate within the diocese, as well a contributing energetically and creatively to discussions about new ways of being Church in a changing and challenging world. From a highly eclectic background in antiques, British film, youth work and psychotherapy, Nick’s calling to the diaconate brings with it a breadth of life experience. He lives in Tremadog with his partner of 31 years, Michael, their whippet and their parrot.


Lay Canon

Jane Coutts lives on Anglesey and has worshipped at the Cathedral with her family for 25 years. She has been a Cathedral Warden for the past ten years, representing the congregation in a number of significant processes, and coordinating key aspects of the Cathedral’s ministry.


Lay Canon

Janet Gough was formerly Director of Cathedrals & Church Buildings for the Church of England, where she developed initiatives to improve the openness, sustainability and funding of church buildings, and to ensure that cathedrals, church buildings and their treasures become better known and enjoyed by their worshippers, wider communities and visitors. She has written two books on cathedrals and church buildings. Janet read history and history of art at Cambridge, and worked first in the City of London and then for Sotheby’s auction house for ten years. She was awarded an OBE for services to heritage in 2017.


Chapter Clerk

Robert Jones has many connections to the Cathedral, having been a chorister, Organ Student and Head Server. He holds a Master’s degree in Music from Bangor University and now works as Assistant to the Bishop & Diocesan Secretary, alongside freelance work as a musician. Robert will continue in his role supporting the Bishop and Diocesan Secretary in addition to his responsibilities as Chapter Clerk.


Installations and autumn arrangements

The new Sub-Dean, Director of Music and Family Minister will begin their work during the course of September, which will largely be a time of induction, planning and preparation. Our expectation is that, for the duration of September, the Cathedral will continue to be used as a Vaccination Centre, and as the current pattern of Sunday services will be maintained.

Siôn, Joe and Naomi’s new ministries will be publicly marked at Evensong at 5pm on 26 September 2021, during which new Canons will also be installed, alongside the Chapter Clerk and the Diocesan Registrar and Deputy Registrar. The nature of the service, which may need to be by invitation only, will be announced closer to the time, though it is hoped that many of the current restrictions will have been lifted by then.

A new pattern of weekday and Sunday services for the Cathedral and Ministry Area is expected to be in place from the beginning of October, alongside new opening hours for the Cathedral.