minus bangor1 bangor2 bangor3 bangor4 bangor5 bangor6 bangor7 bangor8 bangor9 bangor10 bangor11 bangor12 bangor13 bangor14 bangor15 bangor16 bangor17 bangor18 bangor19 bangor20 bangor21 bangor22 bangor23 bangor24 bangor25 bangor26 bangor27 bangor28 bangor29 bangor30 bangor31 bangor32 bangor33 bangor34 bangor35 bangor36 bangor37 bangor38 bangor39 bangor40 bangor41 bangor42 bangor43 bangor44 bangor45 bangor46 chevron-down chevron-left chevron-right chevron-up download email facebook instagram plus search twitter vimeo youtube external

Araith Lywyddol Cynhadledd yr Esgobaeth 2021



"Rwyf eisiau gwahodd pob un ohonom unwaith eto i ffydd fywiog mewn Duw byw sy’n ein paratoi i wynebu’r cam nesaf yn ein bywyd gyda’n gilydd."

Mae’r Esgob wedi penderfynu canslo cyfarfod corfforol dydd Sadwrn o Gynhadledd yr Esgobaeth, oedd i'w gynnal yng Nghadeirlan Deiniol Sant ym Mangor. Mae'r argyfwng tanwydd dros y dyddiau diwethaf wedi gwneud bywyd yn anodd ac yn bryderus i nifer ohonom, a nid yw'r Esgob am ychwanegu at yr anawsterau hynny, a byddai am i gyflenwadau tanwydd a'r amser a dreulir yn cyrchu tanwydd gael ei flaenoriaethu at ddibenion eraill ar hyn o bryd.

Yma, mae'r Esgob yn rhannu geiriau'r Anerchiad Lywyddol y byddai wedi'i thraddodi yn ystod y Cymun Bendigaid yn y Gadeirlan. Ceir yma recordiad a wnaed yn ystod yr ychydig ddyddiau diwethaf yn y Gadeirlan, a'r testun dwyieithog.

Rhannwch eiriau'r Esgob gydag eraill yn eich Ardal Weinidogaeth, a chynhaliwch yr esgobaeth gyfan yn eich gweddïau y Sul hwn.


"Blant, yr ydych chwi o Dduw, ac yr ydych wedi eu gorchfygu hwy, oherwydd y mae'r hwn sydd ynoch chwi yn gryfach na'r hwn sydd yn y byd."
1 Ioan 4:4

Mae Ioan, awdur yr epistol o ble y daw’r dyfyniad hwn, wrth ei fodd yn cymharu gwahanol realiti ysbrydol. Mae’n sôn am oleuni a thywyllwch, cariad a chasineb, Crist a’r gwrthgrist, perthyn ac unigrwydd. A dyma’r ffordd y mae’n ein gorfodi i ystyried y gwahanol realiti rydyn ni’n eu hwynebu a’r dewisiadau rydyn ni’n eu gwneud.

Y diwrnod o'r blaen, roeddwn i'n darllen hanes Victoria Arlen yn ei llyfr 'Locked In' a sut, yn 14 mlwydd oed, y gyrrodd cyfuniad o wahanol afiechydon hi i goma ymwybodol. Roedd wedi dioddef dwy flynedd o ffitiau a dioddefaint corfforol nad oedd na diagnosis na gwellhad iddyn nhw. Roedd y coma ymwybodol yn golygu ei bod yn clywed popeth oedd yn cael ei ddweud wrthi neu amdani: geiriau hardd ei theulu a geiriau creulon a difrïol y rhai oedd i fod i ofalu amdani.

Pan ddaeth ei llais, a pheth symudiad, yn ôl, roedd pedair blynedd wedi mynd heibio ac, erbyn hynny, roedd yn ei harddegau. Roedd y rhan fwyaf o’i dannedd wedi pydru (feddyliodd neb am lanhau ei dannedd) ac roedd ei chyhyrau wedi teneuo’n drychinebus.

Pan enillodd y fedal aur yn y ras nofio dull rhydd 100 metr yn y gemau para Olympaidd 2012, dangosodd beth mae'r enaid dynol yn gallu ei wneud. Ond yr her fwyaf iddi hi, fel Cristion, oedd maddau. Sut allai hi faddau i’r rhai oedd wedi ei cham-drin a’i sarhau yn yr ysbyty?Fe wnaeth, ond fe fyddwn i’n argymell eich bod yn darllen yr hanes eich hunan i ganfod beth oedd hynny wedi ei olygu, ac yn ei olygu, iddi hi heddiw.

Rwy’n credu fod ei stori’n ein helpu i ddeall beth oedd Ioan yn ei feddwl ynghylch gorchfygu. Roedd gan Victoria ddewis: byw gyda chasineb a chwerwder neu ddarganfod goleuni a bywyd.

Rwy’n deall nad yw’n hawdd dod o gysgod y panedemig ac yn deall hefyd nad ydyn allan eto. Mae’n hollol bosibl na welwn ni fyth y math hwnnw o fywyd eto, er gwell er gwaeth. Fe wyddom ein bod wedi colli llawer. Mae’r rhan fwyaf ohonom yn adnabod rhywun a oedd wedi cael (neu sy'n dal) ei effeithio gan Covic-19. Mae pobl sydd wedi marw neu sy’n dal yn wael yn ein hatgoffa ein bod ni, yn wirioneddol, yn perthyn i’n gilydd ond yn ein hatgoffa hefyd bod ein byd yn fregus, a bydd hyd yn oed stori newydd nad oes yna brinder petrol yn arwain at y math o banig sy’n anodd ei wrthsefyll. Efallai bod y sail i’r math hwn o banig, o deimlad nad oes gennym ni reolaeth, yn dangos anniddigrwydd dyfnach, sef ein bod ni’n bryderus ac yn ofnus ac â diffyg ymddiriedaeth ddofn mewn llywodraeth ac yn y rhan fwyaf o sefydliadau, gan gynnwys yr eglwys.

Cyfle da, felly, i ailystyried rhai o’r egwyddorion creiddiol sy'n sail i'n ffydd. Geiriau Sant Ioan eto. ‘Blant, yr ydych chwi o Dduw, ac yr ydych wedi eu gorchfygu hwy, oherwydd y mae'r hwn sydd ynoch chwi yn gryfach na'r hwn sydd yn y byd’.

Mae Ioan yn cyfeirio at y systemau, dylanwadau, gwahanol realiti ysbrydol hynny sydd ar waith yn y byd, yr hyn y mae Sant Paul yn eu galw'n rym a thywysogaethau. Mae’r rhain yn gallu ffurfio ein byd, yn gynnil ond yn rymus. Mae’n llawer anos gwrthsefyll rhywbeth sydd bron yn anweledig, fel gwau gyda niwl. Ond, er hynny, mae Ioan yn dweud ein bod wedi eu goresgyn oherwydd bod yr un sydd ynom ni yn fwy na'r un sydd yn y byd.

Ac, wrth bendroni, rwy’n meddwl, beth mae’n ei feddwl wrth ddweud hynny?Ac ym mha ffordd mae hynny’n egluro’r hyn rydyn ni wedi bob trwyddo yn ystod y pandemig.

Mae Ioan yn amlwg yn credu fod ffydd yng Nghrist yn anhepgorol. Yn ddiweddarach, fe fyddai’n ysgrifennu:‘Pwy yw gorchfygwr y byd ond yr hwn sy'n credu mai Iesu yw Mab Duw?(1 Ioan 5:5). Ac mae ffydd fel hyn sy’n credu fod Duw wedi dod atom ni yn Iesu'n gwybod nad yw nihiliaeth yn mynd i unlle. Y stori Gristnogol yw bod Duw wedi ymddangos ym mherson Iesu Grist. Nid yw’r glôb a’i gwrs heb ystyr na diben. Mae yna ddarlun mawr, wrth gwrs, ond pan mae’n dod i lawr ataf i, fy mywyd i, fy anwyliaid i, yna mae'n dod yn hynod bersonol. Dydyn ni ddim angen rhigwm gôr syml plentyn i wybod ei fod yn wir, serch hynny, fod Iesu'n fy ngharu a'm bod yn gwybod hynny.

Ond dyw ffydd fel hyn ddim yn gysur di-ben-draw. I Ioan, lens oedd ffydd i ddeall y byd. Daeth dyfodiad Iesu â’r cwestiynau hynny ynghylch ein diben yn y pen draw i gryn sylw. Profiad y Cristnogion cyntaf oedd bod bywyd yn gwneud llawer mwy o synnwyr gyda Duw yn ei ganol, na hebddo. Ar ôl cael blas ar y bywyd newydd, roedd fel eu bod yn rhannu atgyfodiad Iesu ei hunan. Wrth iddyn nhw faddau, roedd cysgodion tywyll pechod yn diflannu a rhyddid yn cael ei ollwng yn rhydd i sefyllfaoedd a oedd, fel arall, yn edrych yn llwm a diobaith. Yn yr ystyr hynny, roedd yr hyn roedden nhw’n ei brofi a'r hyn roedden nhw'n ei gredu ynddo yr un peth, wedi'u cysylltu'n ddi-dor mewn ffordd oedd yn adeiladu ffydd ac yn rhoi dewrder i'w cenhadaeth.

Dydw i ddim yn meddwl, fodd bynnag, fod Ioan yn ystyried ffydd fel dim ond dyfais i allu deall y byd, ond fel ffordd o gysylltu gyda’r byd. Roedd yn credu, beth bynnag fyddai’r byd yn ei daflu ato, bod Iesu hyd yn oed yn gryfach.Ac, felly, heddiw, rwy’n meddwl am y rhai sy’n galaru ac yn gobeithio fod cariad yn cyfarfod galar ac yn ei drawsnewid. Ac rwy’n dal i obeithio y bydd y rhai hynny a allai fod yn dal yn chwerw oherwydd yr hyn a ddigwyddodd yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf yn canfod heddwch a diben. Rwy’n cael fy nghalonogi y gallai hyd yn oed yr anghydfod a’r ymladdfa fwyaf gresynus gael eu cyfarfod gyda maddeuant sy’n ein rhyddhau i berthynasau wedi’u hadfywio. Ond, rwyf hefyd yn gobeithio, pan fydd yn rhaid i’r eglwys gyflwyno datganiadau, un ai ar newid hinsawdd neu ar faterion cyfiawnder, nad yw'n gwneud hynny ar hap ond oherwydd ein bod yn credu fod Duw'n caru digon ar y byd i anfon Crist i'w waredu.

Ac, rwy’n meddwl mai yma, efallai, y mae'r cylch yn cael ei gau. Mae’r un sydd ynom ni yn fwy na’r un sydd yn y byd. Mae’n hawdd i ni fod yn blwyfol wrth herio ein ffydd a bron â chael ein goresgyn gan gyflwr adeiladau neu gyllid. Rwy’n gwerthfawrogi fod hynny’n bryder i lawer a hoffwn i ddim bychanu'r sefyllfaoedd y mae'n rhaid i ni eu rheoli. Ond, os mai cyd-destun ein gwaith yw’r unig ffordd rydyn ni’n ystyried ein bywyd, fe fyddwn yn symud yn dragywydd o anobaith at ryddhad ac yn ôl eto fyth, yn dibynnu ar sut mae pethau'n edrych.

Ein gobaith yw'r un sydd wedi'n gwneud ac sydd wedi'n hachub. Rydyn ni’n rhannu’r gras oddi fry oherwydd fe wyddom mai Ef yw Goleuni'r Byd, Gobaith Cenhedloedd ac o'r argyhoeddiad hwn rydym yn meiddio credu fod gennym efengyl i’w chyhoeddi. Rwyf eisiau gwahodd pob un ohonom unwaith eto i ffydd fywiog mewn Duw byw sy’n ein paratoi i wynebu’r cam nesaf yn ein bywyd gyda’n gilydd. Nid gobaith yn erbyn gobaith, na nofio'n groes i'r llanw, yw hyn ond argyhoeddiad cadarn, yng ngeiriau Ioan, fod yr un sydd ynom ni'n fwy na'r un sydd yn y byd.

Diolch i ti, O Dduw


+Andrew Bangor

Cymraeg

Diocesan Conference Presidential Address 2021


"I want to invite each of us once more to a vibrant faith in a living God that equips us to meet the next stage of our life together"

The Bishop has decided to cancel the in-person session of the Diocesan Conference, due to be held at Saint Deiniol’s Cathedral in Bangor. The fuel crisis over recent days has made life difficult and anxious for a number of us, and the Bishop does not wish to add to those difficulties, and would want fuel supplies and time spent accessing fuel to be prioritised for other purposes at present.

Here, the Bishop shares the words of the Presidential Address he would have delivered during the Holy Eucharist at the Cathedral. You'll find here a recording made in the last few days in the Cathedral, and the bilingual text.

Please share the Bishop's words with others in your Ministry Area, and please hold the whole diocese in your prayers this Sunday.


"You, dear children, are from God and have overcome them, because the one who is in you is greater than the one who is in the world."
1 John 4:4

John, the author of the epistle from which this text of is taken, loves to contrast spiritual realities. He speaks of light and darkness, love and hate, Christ and antichrist, belonging and isolation. And in this way he forces us to engage with the realities we face and the choices we make.

I found myself reading the story of Victoria Arlen in her book ‘Locked in’ and how at the age of 14 she experienced a combination of diseases which left her in a conscious coma. She has suffered two years of seizures, fits and physical suffering which had neither diagnosis nor cure. The conscious comma meant she heard everything that was said to or about her: the beautiful words spoken by her family and the dismissive and cruel words spoken by others who were meant to be looking after her.

When she regained her voice and some movement, four years had elapsed and she was now a teenager. Her teeth had largely rotted (no one thought to brush her teeth) and her muscle loss was catastrophic.

When she won the gold medal in the 100 metres freestyle at the 2012 para Olympics she showed what the human soul is capable of doing. But the biggest challenge for her, a Christian, was forgiveness. How could she forgive those who mistreated and abused her in hospital? She did but I recommend you read the story yourself to see what that meant and means for her today.

I think her story helps us understand what John means about overcoming. There was a choice for Victoria: live with hate and bitterness or discover light and life.

I’m conscious that our coming from the shadows of the pandemic is not straightforward and we are not there yet. It’s entirely possible we shall never return to that kind of life, either for good or ill, again. We know that much has been lost. Few of us do not know someone who was affected (or still is) by Covid-19. People who died or became unwell reminded us that we truly belong to each other but also that our world is fragile and even a new story about there being no shortage of petrol produces the kind of panic which is hard to resist. Perhaps underpinning this kind of panic, of feeling we are not in control, reveals a deeper malaise which is that we are anxious and fearful and deeply mistrustful of government and most institutions, including the church.

So a good opportunity to revisit some founding principles which underpin our faith. St John’s words again: ‘You, dear children, are from God and have overcome them, because the one who is in you is greater than the one who is in the world’.

John is addressing those systems, influences, spiritual realities which are at work in the world, what St Paul calls the powers and principalities. These can shape our world subtly but powerfully. It’s much harder to resist something which is almost invisible, like knitting with fog. But nonetheless, John says we have overcome them because the one in us is greater than the one in the world.

And I find myself wondering what he means by this? And in what way does it address what we have experienced during the pandemic?

John clearly believes that faith in Christ is indispensable. Later he would write: ‘Who is it that overcomes the world? Only the one who believes that Jesus is the Son of God’. (1 John 5:5). And faith like this which believes that God has come to us in Jesus knows that nihilism is a dead end. The Christian story is that God has turned up in person of Jesus Christ. This globe and its course are not without meaning or purpose. That’s a big picture of course but when it crunches down into me, my life, my loved ones then it becomes deeply personal. We don’t need the child’s ditty with its overly simplistic overtones to know it is nonetheless true that Jesus loves me this I know.

But faith like this is no creature comfort. For John, faith was a lens through which to understand the world. The coming of Jesus brought those questions about our final purpose sharply into focus. The experience of the first Christians was that life made much more sense with God at the centre than without. When they experienced new life it was as though they were sharing in the resurrection of Jesus himself. When they forgave, the dark shadows of sin were dispelled and liberty was released into the situations that otherwise seemed bleak and hopeless. In this sense what they experienced and what they believed were all of a piece, seamlessly connected in a way that built faith and gave courage to their mission.

I don’t think John regarded faith as only a device by which to understand the world however but as a way of engaging with it. He believed that whatever the world had to throw, Jesus was stronger still. And so today I think of those who grieve and take hope that love meets grief and transforms it. I take hope that those who might feel embittered at what the last 2 years have brought can know peace and purpose. I take heart that even the most wretched of disputes and fights can be met with forgiveness which liberates us into new restored relationships. But I also take hope that when the church needs to speak out on issues whether climate change or matters of justice, they do so not randomly but because we believe that God loved the world enough to send the Christ to redeem it.

And I think this is where perhaps I come full circle. The one who is in us is greater than the one in the world. It is easy for us to localize our faith challenge and become almost overwhelmed by the state of buildings or finances. I appreciate these are concerns for many and have no wish to belittle the situations we need to manage. But if the context of our working is the only lens through which we approach our life, we will forever be moving from despair to relief and back again depending on how things look.

Our hope is in the one has made us and saved us. We share grace from above because we know He is the Light of the World, the Hope of the Nations and from this conviction we dare to believe we have a gospel to proclaim. I want to invite each of us once more to a vibrant faith in a living God that equips us to meet the next stage of our life together. This is not hoping against hope or swimming against the tide but a firm conviction, in the words of John, that the one who is in us is greater than the one who is in the world.

Thanks be to God


+Andrew Bangor