minus bangor1 bangor2 bangor3 bangor4 bangor5 bangor6 bangor7 bangor8 bangor9 bangor10 bangor11 bangor12 bangor13 bangor14 bangor15 bangor16 bangor17 bangor18 bangor19 bangor20 bangor21 bangor22 bangor23 bangor24 bangor25 bangor26 bangor27 bangor28 bangor29 bangor30 bangor31 bangor32 bangor33 bangor34 bangor35 bangor36 bangor37 bangor38 bangor39 bangor40 bangor41 bangor42 bangor43 bangor44 bangor45 bangor46 chevron-down chevron-left chevron-right chevron-up download email facebook instagram plus search twitter vimeo youtube external

Ffenestr liw newydd yn Llangenfi

Rhodd o ffenestr gwydr lliw i Eglwys Cyngar Sant i gofio un annwyl o’r plwyf.

Y mae Eglwys Cyngar Sant, Llangefni yn falch o gyhoeddi gosod ffenestr liw newydd, rhodd hael gan yr artist arobryn Susan Bradbury. Yn dilyn marwolaeth ei thad Peter Bradbury, penderfynodd yr arlunydd ddathlu ei fywyd trwy greu gwaith celf mewn gwydr lliw a’i gyflwyno i Eglwys Cyngar Sant, lle byddai Peter a’i wraig Mavis yn addoli. Bydd diwrnod agored yn cael ei gynnal rhwng 1:00 pm a 4:00 pm brynhawn Sul, 24 Hydref i’r cyhoedd weld y ffenestr.

Fel Cymrawd Cymdeithas Frenhinol y Celfyddydau, a Chymdeithas Meistri Paentwyr Gwydr Prydain, mae Susan Bradbury yn grëwr cydnabyddedig o waith celf gwydr lliw. Dyfarnwyd iddi Wobr Saltire am Gelf mewn Pensaernïaeth ym 1999 a gellir dod o hyd i'w gwaith mewn lleoliadau mawreddog fel Clwb Criced Sir Durham ac Eglwys Sherbrooke St Gilbert, Glasgow, yn ogystal ag mewn sawl eglwys, sefydliad ac ysbyty arall ledled y DU.

Mae creu gwaith gwydr lliw newydd ar gyfer eglwysi yn fenter gymharol brin, oherwydd cost a chymhlethdod gosodiad gwaith o'r fath. Mae rhoi gwaith o’r fath i Eglwys Cyngar Sant, heb unrhyw gost i’r eglwys, wedi ei ganmol gan ficer y plwyf fel “gweithred eithriadol o hael” ar ran yr arlunydd.

Pan ofynnwyd iddi am yr hyn a’i hysbrydolodd, dywedodd yr arlunydd, “Mae'n debyg y byddai pobl leol a oedd yn adnabod fy nhad yn cofio hen ŵr dall, ond pan oedd yn iau, roedd yn ffotograffydd. Roedd yn berson creadigol a wnaeth fy ysbrydoli i ddod yn arlunydd, felly fe wnes i dyluniad o amgylch y greadigaeth a'r goleuni."

Mae'r gwaith yn canolbwyntio ar stori'r Creu o’r Beibl, gan ddefnyddio gwydr a golau i greu darlun bywiog o'r anifeiliaid, planhigion a’r gŵr a’r wraig gyntaf-Adda ac Efa, fel yr adroddir yn llyfr Genesis.

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â'r Parchedig Stephen Leyland:
01248 521230
revsteveleyland@gmail.com

Stained glass window
Y ffenestr lliw newydd
Cymraeg

A New stained glass window for Llangefni

St Cyngar’s church gifted with stained glass memorial to beloved parishioner.

St Cyngar’s church in Llangefni is set to reveal the installation of a new stained glass window, generously donated to the church by the award-winning artist Susan Bradbury. Following the passing of her father Peter Bradbury, the artist decided to celebrate her father’s life by crafting a piece of art in stained glass and donating the work to St Cyngar’s church where Peter and his wife Mavis worshipped. An open day will be held between 1:00 pm and 4:00 pm on the afternoon of Sunday 24th October for people to come and view the window.

As a Fellow of the Royal Society of Arts, and the British Society of Master Glass Painters, Susan Bradbury is a well-recognised creator of stained glass artwork. She was jointly awarded the Saltire Award for Art in Architecture in 1999 and her work can be found in prestigious locations such as Durham County Cricket Club and Sherbrooke St Gilbert’s Church, Glasgow, as well as in several other churches, institutes and hospitals across the UK.

The creation of new stained glass work for churches is rare, due to the cost and complexity of such an installation. The donation of such a work to St Cyngar’s at no cost to the church has been praised by the parish's vicar as “exceptionally generous” on part of the artist.

When asked about the inspiration for the piece, the artist commented “Local people who knew my father would probably remember an old blind man, but when he was younger, he was a photographer. He was a creative person who inspired me to become an artist, so I themed the design around creation and light.”

The piece centres around the Biblical Creation story, using glass and light to create a vibrant depiction of the first animals, plants and people as told in the book of Genesis.

For more information, please contact the Reverend Stephen Leyland:
01248 521230
revsteveleyland@gmail.com