minus bangor1 bangor2 bangor3 bangor4 bangor5 bangor6 bangor7 bangor8 bangor9 bangor10 bangor11 bangor12 bangor13 bangor14 bangor15 bangor16 bangor17 bangor18 bangor19 bangor20 bangor21 bangor22 bangor23 bangor24 bangor25 bangor26 bangor27 bangor28 bangor29 bangor30 bangor31 bangor32 bangor33 bangor34 bangor35 bangor36 bangor37 bangor38 bangor39 bangor40 bangor41 bangor42 bangor43 bangor44 bangor45 bangor46 chevron-down chevron-left chevron-right chevron-up download email facebook instagram plus search twitter vimeo youtube external

Llongyfarchiadau Bro Moelwyn

Mae gardd sy'n ymroddedig i newyddion da a llonyddwch wedi ennill gwobr yn Eglwys y Drindod Sanctaidd, Penrhyndeudraeth.

Cychwynodd 'Ecclesiastical Insurance' brosiect Newyddion Da a chystadleuaeth stori, bu i Eglwys y Drindod, Penrhyndeudraeth ymgeisio ym mis Awst gyda'r weledigaeth o greu gardd o'r enw 'Heddwch ar ôl y storm'.

Wrth siarad am y prosiect, dywedodd Mrs Angela Swann, ysgrifennydd y gynulleidfa:

Roedd y cais yn seiliedig ar ddatblygu gardd llonyddwch ar ochr ddeheuol yr eglwys gyda golygfeydd i Aber Dwyryd, i orffwys, myfyrio a chofio'r rhai a golloddd eu bywydau yn ystod y Pandemig. Gofynnwyd i mi ddewis pennawd  addas ar gyfer  y gystadleuaeth a dewisiais 'Heddwch ar ôl y storm', a oedd yn myfyrio ar Iesu'n tawelu'r storm ar y môr ac yn annog y disgyblion i gael ffydd yn Nuw y bydd popeth yn dda.

Bydd yr ardd yn cynnwys meinciau coffa, ardaloedd plannu fydd yn cynnwys perlysiau a lafant, planhigion cyffyrddol a pheraroglus. Bydd yn gwbl hygyrch i ddefnyddwyr cadeiriau olwyn a bydd ardal ar gyfer plant fydd cynnwys pwll dŵr bach diogel ac ardal bywyd gwyllt i gyd-fynd â'n hardal gadwraeth sydd yn y brif fynwent.

Mae 'Ecclesiastical Insurance' wedi cysylltu ag Eglwys y Drindod Sanctaidd gan ddweud ei bod wedi ennill gwobr ranbarthol Cymru o £1,500. Mae pedwar enillydd rhanbarthol arall a fydd yn cymryd rhan yn y rownd derfynol ym mis Mai 2022 mewn seremoni wobrwyo yn Llundain, gyda'r cyfle i ennill £6,000 arall. Bydd Church Matters, y cylchgrawn 'Ecclesiastical Insurance', yn rhoi sylw i bob ennillydd rhanbarthol yn ystod y misoedd nesaf.

Enillwyr ai peidio, mae Eglwys y Drindod Sanctaidd yn sicr y bydd hyn, hyd yn oed ar lefel ranbarthol, yn dod â chyhoeddusrwydd ac yn dangos ei bod o ddifrif am y gwaith a wnawn. Er na fydd arian y wobr yn mynd yn bell iawn yn natblygiad yr ardd, bydd yn rhoi rhywfaint o arian i ymgeisio am nawdd cyfatebol gan sefydliadau eraill. Mae gan Sefydliad y Cerddwyr ddiddordeb mewn sefydlu partneriaeth â'r prosiect drwy ei ymgorffori yn eu prosiectau Llwybrau at Les. Mae gan y Cynllun Ad-dalu Cymunedol sydd wedi bod yn helpu gyda'r bywyd gwyllt a chadwraeth blodau gwyllt ym mynwent Oes Fictoria ddiddordeb hefyd.

Llongyfarchiadau i Eglwys Y Drindod Sanctaidd

Cymraeg

Congratulations Bro Moelwyn

A garden dedicated to good news and tranquility has won an award at Holy Trinity Church, Penrhyndeudraeth.

Ecclesiastical Insurance opened a Good News project and story competition which Holy Trinity Church entered back in August with a vision to create a garden entitled Peace after the Storm. 

Speaking of the project Mrs Angela Swann, congregational secretary, says:

The application was based on developing a tranquillity garden at the south side of the church with views to the Dwyryd Estuary, to rest, reflect and remember those whose lives were lost in the Covid Pandemic. I was asked to provide a headline in the competition and chose 'Peace after the storm', which reflected on Jesus calming the storm at sea and encouraging the disciples to have faith in God that all will be well.

The garden will include memorial benches, raised beds of herbs and lavenders, tactile and fragrant plants. It will be fully accessible to wheelchair users and have a children's area of small safe pond and wildlife area to complement our conservation area in the main churchyard. 

Holy Trinity church have been contacted by Ecclesiastical Insurance informing them that they have won the Welsh regional prize of £1,500. There are four other regional winners who will take part in the final in May 2022 at an awards ceremony in London, with the opportunity of winning a further £6,000. Church Matters, the Ecclesiastical Insurance magazine, will be featuring each regional finalist in the coming months. Voting opens on 3 January 2022 and a link will be provided if you would like to offer your support.

Whether winners or not, Holy Trinity Church are certain that even at a regional level this will bring publicity and show that they are very serious about the work that they do. Eve though the prize money will not go very far in the development of the garden it will give them some finance to seek more match funding from other organisations. The Ramblers Organisation are interested in partnering with the project through incorporating it into their Pathways to Wellbeing projects and the Community Payback Scheme who have been helping with the wildlife and wildflower conservation in the Victorian churchyard are also interested.

Many congratulations to Holy Trinity Church