minus bangor1 bangor2 bangor3 bangor4 bangor5 bangor6 bangor7 bangor8 bangor9 bangor10 bangor11 bangor12 bangor13 bangor14 bangor15 bangor16 bangor17 bangor18 bangor19 bangor20 bangor21 bangor22 bangor23 bangor24 bangor25 bangor26 bangor27 bangor28 bangor29 bangor30 bangor31 bangor32 bangor33 bangor34 bangor35 bangor36 bangor37 bangor38 bangor39 bangor40 bangor41 bangor42 bangor43 bangor44 bangor45 bangor46 chevron-down chevron-left chevron-right chevron-up download email facebook instagram plus search twitter vimeo youtube external

Esgob newydd i Esgobaeth Abertawe ac Aberhonddu

Peiriannydd awyrennau a fu’n gwasanaethu yn y Llynges Frenhinol yn ystod Rhyfel Ynysoedd y Falkland fydd Esgob nesaf Abertawe ac Aberhonddu.

Dewiswyd Archddiacon Wrecsam, John Lomas, yn 10fed Esgob Abertawe ac Aberhonddu, esgobaeth sy’n ymestyn hyd arfordir Penrhyn Gŵyr i’r de a thua’r gogledd mae’n cynnwys rhan helaeth o Ganolbarth Cymru.

Yn ystod ei 12 mlynedd fel peiriannydd awyrennau yn y Llynges Frenhinol, roedd yr Archddiacon John yn rhoi gwasanaeth i hofrenyddion, awyrennau jet Phantom F4 ac yna awyrennau jet Sea Harrier ar y llongau cludo HMS Illustrious ac Ark Royal, gan wasanaethu yn Rhyfel Ynysoedd y Falkland. Ar ôl gadael y Llynges treuliodd ddwy flynedd yn y Dwyrain Canol, yn gweithio ar awyrennau jet tornado yng nghanolfan awyr filwrol Dhahran yn ystod Rhyfel y Gwlff gyntaf. Maes o law gadawodd ei yrfa i hyfforddi ar gyfer y weinidogaeth ac fe’i hordeiniwyd yn 1994.

Ers hynny gwasanaethodd John yn Esgobaeth Llanelwy ac mae wedi chwarae rhan allweddol wrth gychwyn eglwysi a thrawsnewid y rhai oedd yn cael anawsterau. Yn ei swydd yn Archddiacon Wrecsam roedd yn rhan o’r tîm a arweiniodd gais llwyddiannus yr esgobaeth am £1.9m ar gyfer prosiect efengylu mawr yng nghanol Wrecsam – Cymuned Gristnogol Stryt yr Hôb erbyn hyn. Cyn hynny roedd John yn Weinidog Trosglwyddo esgobaethol, gan helpu plwyfi heb Reithor i feddwl am y dyfodol mewn ffyrdd blaengar. Yn ei swydd yn Rheithor Treffynnon am ddegawd roedd yn goruchwylio adeiladu eglwys newydd, San Pedr, fel adnodd i’r gymuned gyfan.

Cyhoeddwyd penodiad John yn Esgob Abertawe ac Aberhonddu heddiw (4 Tachwedd) gan esgobion yr Eglwys yng Nghymru. Mae’n dilyn ymddeoliad Archesgob Cymru, John Davies, ym mis Mai, oedd hefyd yn Esgob Abertawe ac Aberhonddu.

Cadarnheir y penodiad ar 21 Tachwedd mewn cyfarfod o Synod Cysegredig Esgobion yr Eglwys yng Nghymru yn Eglwys San Silin, Wrecsam.

Dywedodd yr Uwch Esgob, Andy John, bod yr Archddiacon John yn angerddol dros efengylu.

Dywedodd,

Bydd John yn ychwanegiad rhagorol at Fainc yr Esgobion ac rwy’n falch iawn ei fod wedi derbyn y swydd hon. Mae’n angerddol dros efengylu ac am gefnogi clerigwyr yn eu gweinidogaeth fugeiliol. Yn bennaf oll, mae’n canolbwyntio ar bobl - mae’n gwybod sut i fynd ochr yn ochr ag eraill a’u helpu. Rhoddodd ei brofiad yn y Llynges Frenhinol, yn benodol, werthfawrogiad iddo y gall bywyd fod yn anodd ac mae’n wynebu heriau gyda gobaith ac egni, yn ogystal â synnwyr digrifwch cynnil.

Ychwanegodd Esgob Llanelwy, Gregory Cameron,

Gwasanaethodd John esgobaeth Llanelwy yn ffyddlon ac yn deilwng. Yn awr mae’n dwyn ei angerdd sylweddol dros yr Efengyl a’i ddawn greadigol at wasanaeth pobl a chynulleidfaoedd Abertawe ac Aberhonddu, ac, er ein bod yn drist o golli ei weinidogaeth, rydym yn siŵr y bydd yn dod â bendithion sylweddol i’w esgobaeth newydd. Dymunwn bob bendith iddo ef a Jan wrth iddyn nhw gychwyn ar gyfnod o drosglwyddo i gartref a gweinidogaeth newydd.

Dywedodd yr Archddiacon John ei fod yn edrych ymlaen at arwain Esgobaeth Abertawe ac Aberhonddu wrth iddi gychwyn ar bennod newydd.

Dywedodd,

Rwy’n teimlo’n freintiedig iawn o fod wedi cael fy mhenodi yn esgob Abertawe ac Aberhonddu ac rwy’n edrych ymlaen at gael dod i adnabod yr esgobaeth. Fy ysgogiad, bob amser, yw gweithio gyda phobl a’r clerigwyr i’w rhyddhau a rhoi’r adnoddau iddynt i adeiladu eglwys yn y gymuned a bod y dehongliad gorau un o Newyddion Da yr Iesu ym mha bynnag sefyllfa yr ydym yn ein cael ein hunain, boed mewn lleoliad trefol mawr neu leoliad bychan gwledig iawn. Mae helpu pobl ar y ffordd i fyw eu bywyd gorau yng Nghrist yn fraint anferth.

Dywedodd bod ei amser yn y Llynges, yn ogystal â’i ffydd, wedi rhoi hyder iddo i ddod o hyd i ffordd trwy sefyllfaoedd anodd.

Rwyf wedi bod yn rhan o rai prosiectau gwych sy’n newid bywydau a gweithio mewn a gyda thimau rhyfeddol ac rwy’n hyderus y bydd hynny’n parhau yn y cam nesaf hwn o’m gweinidogaeth. Rwyf yn gryf o blaid cadw pethau’n syml, yn glir a hawdd eu deall. Rwy’n hoff iawn o symlrwydd neges Esgobaethol Abertawe ac Aberhonddu sef ‘Casglu, tyfu, mynd’. Rwy’n gobeithio gweithio gyda phobl yr esgobaeth i sicrhau bod y geiriau yma’n dod yn fyw, bod casglu’n digwydd, bod tyfu’n digwydd a bod mynd yn digwydd. Ac o ganlyniad bod Efengyl fyw yn cael ei gweld, ei phrofi a’i chyhoeddi.

Taith ei weinidogaeth

Yn wreiddiol o Ashton-under-Lyne, ymunodd yr Archddiacon John â’r Llynges Frenhinol ar ôl gadael yr ysgol i hyfforddi fel peiriannydd awyrennau yn Adain Awyr y Llynges. Bu’n gweithio ar jetiau Phantom F4, hofrenyddion Lynx a Sea Harriers ar longau cludo awyrennau o gwmpas y byd, a bu’n gwasanaethu yn Rhyfel Ynysoedd y Falkland. Ar ôl gadaely Llynges treuliodd ddwy flynedd yn y Dwyrain Canol, yn gweithio ar awyrennau jet tornado.

Cychwynnodd John hyfforddi ar gyfer y weinidogaeth yng Ngholeg Diwinyddol Mihangel Sant yn Llandaf, Caerdydd ac fe’i hordeiniwyd yn 1994.

Ei guradiaeth gyntaf oedd y Rhyl lle bu’n gwasanaethu am bum mlynedd o 1994 i 1999. Yna dychwelodd i’r Llynges Frenhinol fel Caplan i’r 3 Sgwadron Llong Ddistryw yn gwasanaethu ar Longau ei Mawrhydi Edinbugh, Glasgow a Liverpool. Yn ystod y cyfnod hwn gwasanaethodd yn Sierra Leone a dychwelodd i Ynysoedd y Falklan. Tra’r oedd yno, arweiniodd wasanaeth cofio teimladwy wrth Gofeb Rhyfel Mount Pleasant, y mae enwau’r rhai fu’n gwasanaethu gydag o 19 mlynedd ynghynt wedi eu hysgrifennu arni.

Dychwelodd John i Gymru fel Rheithor Treffynnon yn 2001, lle treuliodd y 10 mlynedd nesaf a goruchwylio adeiladu Eglwys newydd San Pedr.

Fe’i gwnaed yn Ganon Cadeirlan Llanelwy yn 2008 a bu’n gwasanaethu fel Deon Ardal Treffynnon o 2008 i 2011.

Penodwyd John yn Genhadwr Trosglwyddo yng Nghorwen o 2011 i 2013, ac yna bu’n Genhadwr Trosglwyddo ar gyfer Bangor Monachorum. Daeth yn Archddiacon Llanelwy yn 2014, ac, yn dilyn ad-drefnu esgobaethol, fe’i penodwyd yn Archddiacon Wrecsam yn 2018.

Cyfarfu John ei wraig, Jan, yn yr ysgol, ac maent wedi priodi ers bron i 42 o flynyddoedd. Mae ganddynt ddwy ferch a phump o wyrion ac wyresau.

Yn ei amser hamdden mae’n mwynhau cerdded a darllen ac mae’n edrych ymlaen at gael cerdded ym Mannau Brycheiniog.

Mae hefyd yn edrych ymlaen at ddangos ei barch yng Nghapel Harvard, yng Nghadeirlan Aberhonddu, capel catrodol Cyffinwyr De Cymru. Gwasanaethodd ei daid yn y gatrawd yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf. Yn yr 1990au roedd John yn Offeiriad i 3ydd Fataliwn y Ffiwsilwyr Cymreig.

Cymraeg

A new Bishop for the Diocese of Swansea and Brecon

An aircraft engineer, who served in the Royal Navy during the Falklands War, will be the next Bishop of Swansea and Brecon.

The Archdeacon of Wrexham, John Lomas, has been chosen as the 10th Bishop of Swansea and Brecon, a diocese which stretches south to the coast of the Gower and north into much of mid-Wales.

During his 12 years as an aircraft engineer in the Royal Navy, Archdeacon John serviced helicopters, Phantom F4 jets and then Sea Harrier jets on the carriers HMS Illustrious, Invincible and Ark Royal, serving in the Falklands War. After leaving the Navy he spent two years in the Middle East, working on tornado jets at Dhahran military airbase during the first Gulf War. He eventually left the career to train for ministry and was ordained in 1994.

Since then, John has served in St Asaph Diocese and has played a key role in planting churches and transforming those in difficulties. As Archdeacon of Wrexham he was part of the team leading the diocese’s successful £1.9m bid for a major evangelism project in the heart of Wrexham – now Hope Street Christian Community. Prior to that John was the diocesan Transition Minister, helping parishes with no current Vicar to think about the future in innovative ways. As Vicar of Holywell for a decade he oversaw the building of a new church, St Peter’s, as a resource for the whole community.

The announcement of John’s appointment as Bishop of Swansea and Brecon was made today (Nov 4) by the Church in Wales bishops. It follows the retirement in May of the Archbishop of Wales, John Davies, who was also the Bishop of Swansea and Brecon.

The appointment will be confirmed on November 22 at a meeting of the Sacred Synod of Church in Wales Bishops at St Giles’ Church, Wrexham. Archdeacon John’s consecration as Bishop will take place at Brecon Cathedral at a date yet to be fixed.

The Senior Bishop, Andy John, said Archdeacon John had a passion for evangelism.

He said,

John will be an excellent addition to the Bench of Bishops and I am delighted he has accepted this role. He has a passion for evangelism and for supporting clergy in pastoral ministry. Above all, he is people focused – he knows how to get alongside others and to help them. His experience in the Royal Navy, in particular, gave him an appreciation that life can be tough and he faces challenges with hope and energy, as well as a gentle sense of humour.

The Bishop of St Asaph, Gregory Cameron, added,

John has served the diocese of St Asaph faithfully and with distinction. Now he brings his considerable passion for the Gospel and his creative flair to the service of the people and congregations of Swansea and Brecon, and, while we’re sad to lose his ministry, we are sure that he will bring great blessings to his new diocese. We wish him and Jan every blessing as they begin the transition to a new home and ministry.

Archdeacon John said he was looking forward to leading the Diocese of Swansea and Brecon as it began its new chapter.

He said,

I feel very privileged to have been appointed as Bishop of Swansea and Brecon and am looking forward getting to know the diocese. My motivation has always been to work with people and clergy to release them and resource them to build church in the community and to be the very best interpretation of the Good News of Jesus in whatever situation we find ourselves, whether we are in a large urban setting or a small deeply rural setting. Helping people on the road to living their best life in Christ is a huge privilege.

He said his time in the Navy, as well as his faith, had given him the confidence to find a way through difficult situations.

I have been involved in some wonderful life changing projects and worked in and with some amazing teams and I am confident that will continue in this next stage of my ministry. I am very much a fan of keeping things simple, straightforward and understandable. I love the simplicity of the Swansea and Brecon Diocesan message of ‘Gather, grow, go’. I hope to work with the people of the diocese to make sure that these three words burst into life, that gathering happens, growing happens and going happens. And as a consequence a living Gospel is seen, experienced and proclaimed.

Journey of ministry

Originally from Ashton-under-Lyne, Archdeacon John joined the Royal Navy after leaving school to train as an aircraft engineering mechanic in the Fleet Air Arm. He worked on Phantom F4 jets, Lynx helicopters and Sea Harriers on airship carriers around the world, and served in the Falkland War. After leaving the Navy he spent two years in the Middle East working on Tornado Jets.

John began training for ministry at St Michael’s Theological College in Llandaff, Cardiff, and was ordained in 1994.

His first curacy was at Rhyl where he served for five years from 1994 to 1999. He then returned to the Royal Navy as a Chaplain to the 3rd Destroyer Squadron serving on HMS’s Edinburgh, Glasgow and Liverpool. During this time he served in Sierra Leone and returned to the Falkland Islands. While there, he led a poignant service of remembrance at the Mount Pleasant War Memorial which was inscribed with the names of those he had served with 19 years earlier.

John returned to Wales as Vicar of Holywell in 2001, where he spent the next 10 years and oversaw the building of the new St Peter’s Church.

He was made a Canon Cursal of St Asaph Cathedral in 2008 and served as Area Dean of Holywell from 2008 to 2011.

John was appointed Transition Missioner for Corwen from 2011 to 2013, followed by a year as Transition Missioner for Bangor Monachorum. He became Archdeacon of St Asaph in 2014 and, following a diocesan reorganisation, was appointed Archdeacon of Wrexham in 2018.

John met his wife, Jan, in school and they married nearly 42 years ago. They have two daughters and five grandchildren.

In his spare time, he enjoys walking and reading and is looking forward to hikes in the Brecon Beacons.

He is also looking forward to paying his respects at the Harvard Chapel at Brecon Cathedral, the regimental chapel of the South Wales Borderers. His grandfather served in the regiment in the First World War. In the 1990s, John was Padre to the 3rd Battalion of the Royal Welch Fusiliers.