minus bangor1 bangor2 bangor3 bangor4 bangor5 bangor6 bangor7 bangor8 bangor9 bangor10 bangor11 bangor12 bangor13 bangor14 bangor15 bangor16 bangor17 bangor18 bangor19 bangor20 bangor21 bangor22 bangor23 bangor24 bangor25 bangor26 bangor27 bangor28 bangor29 bangor30 bangor31 bangor32 bangor33 bangor34 bangor35 bangor36 bangor37 bangor38 bangor39 bangor40 bangor41 bangor42 bangor43 bangor44 bangor45 bangor46 chevron-down chevron-left chevron-right chevron-up download email facebook instagram plus search twitter vimeo youtube external

Ethol Archesgob Cymru Newydd

Mae Esgob Bangor wedi ei ethol yn 14eg Archesgob Cymru.

Mae'n Hesgob yn olynu John Davies, a ymddeolodd ym mis Mai ar ôl pedair blynedd fel arweinydd yr Eglwys yng Nghymru.

Bu i'r Archesgob newydd sicrhau mwyafrif o ddau-draean ymhlith aelodau'r Coleg Ethol ar ddiwrnod cyntaf cyfarfod y Coleg yn Eglwys y Drindod Sanctaidd, Llandrindod. Cadarnhawyd yr etholiad ar unwaith gan y pum esgob cadeiriol arall. 

Gorseddir yr Archesgob yng Nghadeirlan Deiniol Sant ym Mangor maes o law. Fel Archesgob, bydd yn parhau i wasanaethu fel Esgob Bangor.

Dywedodd yr Archesgob newydd:

Wrth inni edrych tua'r dyfodol, rydym yn wynebu llawer o heriau, ond nid ydym yn gwneud hynny ar ein pen ein hunain. Rydym yn wynebu'r heriau gyda gras Duw a gyda'n gilydd, oherwydd gyda'n gilydd rydym yn gymaint cryfach. Rwy'n hyderus y bydd yr Eglwys yng Nghymru yn gallu ymateb ag egni a gweledigaeth. Mae'n fraint enfawr i mi wasanaethu ein Heglwys i'r perwyl hwn.

Croesawodd Archddiacon Meirionnydd, yr Hybarch Andrew Jones, yr etholiad ar ran Esgobaeth Bangor:

Mae arweinyddiaeth ein Hesgob yn Esgobaeth Bangor ers 2009 wedi bod yn rhagorol ac yn cael ei werthfawrogi'n fawr. Mae wedi llywio'r esgobaeth drwy gyfnodau anhysbys ac wedi gwneud hynny gyda gofal, tosturi ac eglurder.

Dyma fraint fawr i ni fel esgobaeth. Ef yw trydydd Esgob Bangor i ddod yn Archesgob Cymru yn y ganrif ddiwethaf, gan olynnu G. O. Williams ar ddiwedd y 70au a Charles Green yn y 30au. Bu'r ddau hynny'n ddylanwadol, ac rwyf yn sicr y bydd ein Harchesgob newydd yn eithriadol yn yr un modd, gan arwain ein Heglwys yn strategol, yn ddiwyd ac yn fugeiliol.

Fel Esgobaeth rydym yn gweddïo dros ein Harchesgob newydd a'i deulu, gan ofyn iddo gael ei fendithio yn ei weinidogaeth a'i arweinyddiaeth newydd.


Ar nos Fawrth 7 Rhagfyr am 5.30pm, yng Nghadeirlan Deiniol Sant ym Mangor, byddwn yn dathlu Cymun Bendigaid ar Gân yn ddiofryd i’r Ysbryd Glân, i weddïo dros yr Archesgob newydd ar ei etholiad, ac dros Esgobion yr Eglwys yng Nghymru. Mae croeso cynnes i bawb.

Cymraeg

New Archbishop of Wales elected

The Bishop of Bangor has been chosen as the 14th Archbishop of Wales.

Our Bishop succeeds John Davies, who retired in May after four years as the leader of the Church in Wales.

The new Archbishop secured a two-thirds majority vote at a meeting of the Electoral College on the first day of its meeting at Holy Trinity Church, Llandrindod Wells. The election was immediately confirmed by the five other diocesan bishops.

The new Archbishop will be enthroned at Saint Deiniol’s Cathedral in Bangor in due course. As Archbishop he will continue to serve as Bishop of Bangor.

The new Archbishop said:

As we look to the future, we face many challenges, but we do not do so alone. We move forward with God's grace and with one another, because together we are so much stronger, so much better. I am confident that the Church in Wales will be able to respond with energy and vision and vigour. It is my enormous privilege to serve our Church to this end.

The Archdeacon of Meirionnydd, the Venerable Andrew Jones, welcomed the news on behalf of the Diocese of Bangor, saying:

Our new Archbishop's leadership in the Diocese of Bangor since 2009 has been excellent and very much appreciated. He has steered the diocese through uncharted times, and has done so with care, compassion and clarity.

This is a great privilege for us as a diocese. Our Bishop becomes the third Bishop of Bangor to be the Archbishop of Wales in the last century - G.O. Williams in the late 70s and Charles Green in the 30s. Both played a significant part in the history of our Church, and I am certain that our new Archbishop will follow their example, leading our Church strategically, diligently and pastorally.

As a diocese, we pray for our new Archbishop and his family, that he will be blessed in this new ministry and leadership.


On Tuesday 7 December, at 5.30pm, at Saint Deiniol's Cathedral in Bangor, a Choral Holy Eucharist of the Holy Spirit will be celebrated to pray for the new Archbishop, and for all the Bishops of the Church in Wales. All are welcome.