minus bangor1 bangor2 bangor3 bangor4 bangor5 bangor6 bangor7 bangor8 bangor9 bangor10 bangor11 bangor12 bangor13 bangor14 bangor15 bangor16 bangor17 bangor18 bangor19 bangor20 bangor21 bangor22 bangor23 bangor24 bangor25 bangor26 bangor27 bangor28 bangor29 bangor30 bangor31 bangor32 bangor33 bangor34 bangor35 bangor36 bangor37 bangor38 bangor39 bangor40 bangor41 bangor42 bangor43 bangor44 bangor45 bangor46 chevron-down chevron-left chevron-right chevron-up download email facebook instagram plus search twitter vimeo youtube external

Caplan Archesgob Cymru

Mae’n bleser gan Archesgob Cymru gyhoeddi bod y Parchg James Tout wedi’i benodi’n Gaplan yr Archesgob.

Swyddogaeth newydd James

Yn ogystal â gweddïo gydag, ac ar ran, Archesgob Cymru, bydd Caplan yr Archesgob yn adnoddai a chefnogi gweinidogaeth yr Archesgob. Bydd James yn gyfrifol cyfathrebu effeithiol yn digwydd ar draws a thu hwnt i’r dalaith gyda chyrff lluosog, ac yn cynorthwyo’r Archesgob yn ei baratoadau ar gyfer ymrwymiadau cyhoeddus.

Wrth siarad am y penodiad dywed yr Archesgob,

Rwyf wedi cael y pleser o gael James yn gydweithiwr o fewn Esgobaeth Bangor, lle bu’n gyfarwyddwr ein prosiect efengylu ‘Llan’. Bydd ei galon am genhadaeth ac efengylu yn gaffaeliad gwerthfawr yn ei rôl fel fy Nghaplan.

Galwedigaeth a gweinidogaeth James

Symudodd James, sy’n wreiddiol o Rydaman yn Sir Gâr, i ganolbarth Cymru yn 2010 ar ôl graddio o Brifysgol Caerdydd a Phrifysgol Fetropolitan Abertawe i ymgymryd â swydd fel athro Cemeg yn Ysgol Uwchradd Llanfyllin. Symudodd wedyn i The Marches School yng Nghroesoswallt lle gorffennodd ei yrfa addysgu fel Cyfarwyddwr Gwyddoniaeth a Phennaeth Cynorthwyol Cyswllt yn 2020.

Hyfforddodd James ar gyfer y weinidogaeth ordeiniedig yn rhan amser trwy Athrofa Padarn Sant ac fe’i hordeiniwyd gan Esgob Gregory yn 2019, gan wasanaethu ei deitl fel Curad Cynorthwyol yn weinidog di-dâl yn Eglwys y Plwyf San Silyn, Wrecsam.

Mae James, a'i fab Aled, yn frwd dros chwaraeon moduro ac unrhyw beth sy'n ymwneud â cheir. Maent hefyd yn mwynhau treulio amser gyda'u gilydd yn creu ac adeiladu gyda Lego. Mae amser gyda theulu a ffrindiau yn hynod o arwyddocaol i James – yn enwedig os yw bwyd yn gysylltiedig!

Dywed James,

Rwyf wrth fy modd yn ymgymryd â’r rôl newydd hon fel Caplan i’r Archesgob. Mae wedi bod yn fraint fawr cael arwain prosiect efengylu Llan am y ddwy flynedd ddiwethaf sy’n chwilio am ffyrdd newydd o ymgysylltu â phobl er mwyn iddynt ddod i gysylltiad â Duw a chael eu trawsnewid. Rwy’n falch iawn o allu parhau â gweinidogaeth o fewn Esgobaeth Bangor ac yn awr yn daleithiol hefyd. Mae’r cyfle i weithio gyda’r Archesgob, tîm hŷn Esgobaeth Bangor, yn ogystal â Chorff y Cynrychiolwyr ar adeg mor gyffrous o newid yn wefreiddiol.

Prosiect Llan

Mae James wedi cyfarwyddo prosiect efengylu ‘Llan’ Esgobaeth Bangor am y 2 flynedd ddiwethaf. Mae’r prosiect hwn wedi derbyn cefnogaeth gan Gronfa Efengylu’r Eglwys yng Nghymru ac mae’n driphlyg: Pererindod, Iaith a Menter Gymdeithasol.

Gan weithio ochr yn ochr â phartneriaid creadigol a chynulleidfaoedd lleol mae prosiect Llan yn ceisio ailddehongli ac ad-drefnu chwe eglwys bererindod fawr o fewn yr esgobaeth, gan wella eu gallu i adrodd stori ffydd yn y mannau hyn. Bydd y rhain yn dod yn lleoedd o groeso a noddfa i bererinion gyda'r prif nod o rannu'r Efengyl. O dan arweiniad James mae tîm Llan wedi bod yn datblygu llwybrau pererindod newydd ar draws yr esgobaeth yn ogystal ag adeiladu ar y rhai sydd eisoes yn bodoli. Bydd digwyddiad i lansio’r prosiect llenyddol ar hyd Llwybr Cadfan yn cael ei gynnal ddechrau mis Mawrth. Am fwy o wybodaeth am hynny gweler yma.

Mae Llan hefyd yn gweithio i sefydlu cymuned addolgar a phreswyl gyda ffocws ar yr iaith Gymraeg ym Methesda tra hefyd yn galluogi a gwella gweinidogaeth a chyfathrebu Cymraeg o fewn Ardaloedd Gweinidogaeth.

Trydydd amcan Llan yw sefydlu mentrau cymdeithasol sy’n galluogi mynegiant newydd o’r eglwys. Mae’r elfen hon o’r prosiect, unwaith eto, wedi’i gwreiddio mewn lleoliadau amrywiol ar draws yr esgobaeth. Bydd y mentrau hyn, yn eu tro, yn cynnig cyfleoedd gwahanol ar gyfer tyfu cymunedau addoli ac yn darparu pwyntiau mynediad i’r rhai sy’n ceisio Duw mewn ffyrdd newydd.

Mae cyflawni allbynnau Llan yn parhau i fod yn flaenoriaeth dros y misoedd nesaf. Er mwyn sicrhau bod momentwm cynyddol y prosiect yn cael ei gynnal, bydd Becks Davie-Tettmar yn symud o’i rôl bresennol o fewn Tîm Deiniol i fod yn Gyfarwyddwr Llan o ddechrau mis Mawrth, gan weithio law yn llaw â Jules Burnand, Elin Owen, Sara Roberts a’r teulu Llan ehangach. Mae Becks yn aelod hirsefydlog o dîm yr esgobaeth, ac mae ei hymrwymiad i efengylu a chenhadaeth yr Eglwys, ynghyd â’i phroffesiynoldeb a’i sgiliau rheoli prosiect, yn golygu bod dyfodol Llan mewn dwylo diogel.


Bydd James yn dechrau'r swydd newydd ar 28 Chwefror ac wedi’i leoli yn Esgobaeth Bangor, lle mae’r Archesgob yn parhau’n Esgob Bangor.


Cymraeg

The Archbishop of Wales' Chaplain

The Archbishop of Wales is delighted to announce that the Revd James Tout has been appointed as Archbishop’s Chaplain.

James's new role

In addition to praying with and for the Archbishop of Wales, the Archbishop's Chaplain will resource and support the Archbishop’s ministry. James will be responsible for effective communication across and beyond the province with multiple bodies, and will assist the Archbishop in his preparation for public engagements.

Speaking of the appointment the Archbishop says,

I have had the pleasure of having James as a colleague within the Diocese of Bangor, where he has been the director of our evangelism project ‘Llan’. His heart for mission and evangelism will be a valuable asset in his role as my Chaplain.

James's ministry

James, originally from Ammanford, Carmarthenshire, moved to mid Wales in 2010 after graduating from Cardiff University and Swansea Metropolitan University to take up a post as a Chemistry teacher in Llanfyllin High School. He then moved to The Marches School in Oswestry where he finished his teaching career as Director of Science and Associate Assistant Head Teacher in 2020.

James trained for ordained ministry part time through St Padarn’s Institute and was ordained by Bishop Gregory in 2019, serving his title as NSM Assistant Curate at St Giles’ Parish Church, Wrexham.

James, and his son Aled, have a passion for motorsport and anything car related. They also enjoy spending time together creating and building with Lego. Time with family and friends is hugely significant for James – especially if food is involved!

James says,

I am overjoyed to take up this new role as the Chaplain to the Archbishop. It has been a great privilege to lead the Llan evangelism project for the last couple of years which is seeking new ways to engage with people that they may come into encounter with God and be transformed. I am very glad to be able to continue a ministry within the Diocese of Bangor and now provincially too. The opportunity to work with the Archbishop, the senior team in the Diocese of Bangor, as well as the Representative Body at such an exciting time of change is exhilarating.

The Llan project

James has directed the Diocese of Bangor’s evangelism project ‘Llan’ for the last 2 years. This project has received support from the Church in Wales’ Evangelism Fund and is three-fold: Pilgrimage, Language and Social Enterprise.

Working alongside creative partners and local congregations the Llan project is seeking to reinterpret and reorder six major pilgrim churches within the diocese, enhancing their ability to tell the story of faith in these places. These will become places of welcome and sanctuary to pilgrims with the primary aim of sharing the Gospel. Under James’ leadership the Llan team have been developing new pilgrimage routes across the diocese as well as building up on those already in existence. An event launching the literary project along Cadfan’s Way will be taking place at the beginning of March.

Llan is also working to establish a worshipping and residential community with a focus on the Welsh language in Bethesda whilst also enabling and enhancing Welsh language ministry and communication within Ministry Areas.

Llan’s third objective is to establish social enterprises which enable fresh expressions of church. This element of the project is, again, rooted in various locations across the diocese These enterprises, in turn, will offer different opportunities for growing worshipping communities and provide access points to those seeking God in new ways.

The delivery of Llan outcomes continues to be a priority over the coming months. To ensure that the project's growing momentum is not lost, Becks Davie-Tettmar will move from her existing role within Tîm Deiniol to become the Director of Llan from the beginning of March, working alongside Jules Burnand, Elin Owen, Sara Roberts and the wider Llan family. Becks is a long-standing member of the diocesan team, and her commitment to evangelism and the mission of the Church, combined with her professionalism and project-management skills, means that the future of Llan is in safe hands. 


James will begin his new role on 28 February and will be based in the Diocese of Bangor, where the Archbishop remains as Bishop of Bangor.