minus bangor1 bangor2 bangor3 bangor4 bangor5 bangor6 bangor7 bangor8 bangor9 bangor10 bangor11 bangor12 bangor13 bangor14 bangor15 bangor16 bangor17 bangor18 bangor19 bangor20 bangor21 bangor22 bangor23 bangor24 bangor25 bangor26 bangor27 bangor28 bangor29 bangor30 bangor31 bangor32 bangor33 bangor34 bangor35 bangor36 bangor37 bangor38 bangor39 bangor40 bangor41 bangor42 bangor43 bangor44 bangor45 bangor46 chevron-down chevron-left chevron-right chevron-up download email facebook instagram plus search twitter vimeo youtube external

I lawr y tŵr

Paratowch eich hun am her newydd! Abseil yr Eglwys!

Os nad ydych wedi abseilio o'r blaen, neu efallai eich bod wedi gwneud hynny ac yr hoffech wneud hynny eto, yna dyma'ch cyfle. Mae’r cyfle wedi codi, ar benwythnos y Pasg hwn, i abseilio i lawr tŵr Eglwys y Santes Fair ym Metws y Coed – y Porth i Eryri! Cofrestrwch nawr i gymryd y disgyniad i lawr yr adeilad eiconig hwn yng nghanol y pentref. Teimlwch y rhuthr adrenalin gyda golygfa o'r pentref twristiaeth o safbwynt gwahanol!

Mae Ardal Weinidogaeth Bro Gwydyr a Sgowtiaid 1af Gwydyr yn eich gwahodd i fod yn rhan o’r her unigryw hon sy’n cael ei threfnu gyda Seren Ventures.

I archebu eich lle abseilio (gorau po gynharaf – mwy o ddewis o slotiau amser a ffi archebu gostyngol o £10) ewch i wefan Ardal Weinidogaeth Bro Gwydyr  neu dilynwch y ddolen hon i gofrestru.

Rydym yn eich annog i godi nawdd i gefnogi ein prosiectau o fewn Ardal Weinidogaeth Bro Gwydyr ac yn Sgowtiaid 1af Gwydyr.

Abseil Tŵr Eglwys y Santes Fair, dydd Sadwrn 16, dydd Sul 17 a dydd Llun 18 Ebrill 2022.

Swyddfa BGMA, Eglwys y Santes Fair, Ffordd Caergybi, Betws y Coed, Conwy, LL24 0AY | 01690 710149 | admin@browydyr.cymru

The scouts and group preparing to abseil
Cymraeg

Easter Abseil

Brace yourself for a new challenge! Church Abseil!

If you've not abseiled before, or perhaps you have and you'd like to again, then here's your chance. The opportunity has arisen, this Easter Weekend, to abseil down the tower of St Mary’s Church at Betws y Coed – the Gateway to Snowdonia! Sign up now to take on the descent down this iconic building in the centre of the village. Feel the adrenaline rush with a view of the tourist village from a different perspective!

Bro Gwydyr Ministry Area and 1st Gwydyr Scouts invite you to be part of this unique challenge which is being organised with Seren Ventures.

To book your abseil place (the earlier the better – more choice of time slots and reduced booking fee from £10) please visit the Bro Gwydyr Ministry Area website or follow this link to sign up.

We encourage you to raise sponsorship to support our projects within Bro Gwydyr Ministry Area and at 1st Gwydyr Scouts.

St Mary’s Church Tower Abseil, Saturday 16, Sunday 17 and Monday 18 April 2022.

BGMA Office, St Mary’s Church, Holyhead Road, Betws y Coed, Conwy, LL24 0AY | 01690 710149 | admin@brogwydyr.cymru

Looking up towards the tower