minus bangor1 bangor2 bangor3 bangor4 bangor5 bangor6 bangor7 bangor8 bangor9 bangor10 bangor11 bangor12 bangor13 bangor14 bangor15 bangor16 bangor17 bangor18 bangor19 bangor20 bangor21 bangor22 bangor23 bangor24 bangor25 bangor26 bangor27 bangor28 bangor29 bangor30 bangor31 bangor32 bangor33 bangor34 bangor35 bangor36 bangor37 bangor38 bangor39 bangor40 bangor41 bangor42 bangor43 bangor44 bangor45 bangor46 chevron-down chevron-left chevron-right chevron-up download email facebook instagram plus search twitter vimeo youtube external

Cofio COP26 - Datgoedwigo

Yn COP26, llofnododd llawer o genhedloedd addewid yn dweud y bydden nhw’n rhoi’r gorau i ddatgoedwigo erbyn 2030. Mae torri coed yn effeithio ar yr hinsawdd a’r cynefin lleol sy’n gartref i amrywiaeth gyfoethog o blanhigion a bywyd gwyllt; mewn llawer o rannau o’r byd, bydd y rhain yn cael eu colli am byth.

Marc 4: 30 – 32 a’r Datguddiad 22:1-2

Meddai Iesu, ‘Pa fodd y cyffelybwn deyrnas Dduw, neu ar ba ddameg y cyflwynwn hi? Y mae’n debyg i hedyn mwstard; pan heuir ef ar y ddaear, hwn yw’r lleiaf o’r holl hadau sydd ar y ddaear, ond wedi ei hau, y mae’n tyfu ac yn mynd yn fwy na’r holl lysiau, ac yn dwyn canghennau mor fawr nes bod adar yr awyr yn gallu nythu dan ei gysgod.’

Dangosodd yr angel imi afon dŵr y bywyd, yn ddisglair fel grisial, yn llifo allan o orsedd Duw a'r Oen, ar hyd canol heol y ddinas. Ar ddwy lan yr afon yr oedd pren y bywyd, yn dwyn deuddeg cnwd, gan roi pob cnwd yn ei fis; ac yr oedd dail y pren er iachâd y cenhedloedd.

Myfyrdod

Pan adroddodd Iesu ddameg yr hedyn mwstard, byddai’r rhai oedd yn gwrando yn gwybod fod adar yn cartrefu ac yn cysgodi mewn coed; yn ddiweddarach efallai, y bydden nhw hefyd yn dod i wybod bod, yn nheyrnas Dduw, gartref a chysgod i bawb. Byddai’r ddelwedd o ddŵr clir fel crisial hefyd yn rhywbeth hollol adnabyddus mewn oes pan oedd llygredd mewn afonydd ac yn yr aer yn gwbl ddieithr. Fydden nhw ddim yn gwybod chwaith am sut mae’r dail a’r coed yn iachâd i’r cenhedloedd. Heddiw, wrth gwrs, rydyn i yn gwybod.

Wrth gerdded trwy goetir neu barc rydyn ni’n gweld coed sydd gannoedd o flynyddoedd oed gyda’u stori eu hunain i’w hadrodd am sut maen nhw wedi goroesi tywydd stormus a thirweddau cyfnewidiol. Cawn weld coed iau yn cychwyn ar daith bywyd. Cawn weld blodau gwyllt, pryfed, pyllau dŵr, tystiolaeth o anifeiliaid sydd wedi gwneud y lle hwn yn gartref; a nythod yn y coed. Wrth dreulio amser yn y lleoedd hyn mae’n hawdd anghofio yr argyfwng newid hinsawdd.

Pryd oedd y tro diwethaf i chi fynd am dro mewn coetir – sut deimlad oedd hynny, beth oedd yr arogleuon a’r synau o’ch cwmpas?

Mae coed yn hollol bwysig i lesiant ein byd; i blanhigion o bob maint, yr holl fywyd gwyllt - yn fach a mawr, ac i ninnau hefyd. Mae coed yn amsugno deuocsid carbon ac yn ei droi’n ocsigen. Pan fydd coed yn cael eu torri, neu’n cael eu haflonyddu neu’u difrodi, maen nhw’n rhyddhau deuocsid carbon a nwyon eraill i’r aer ac felly, mae colli coedwigoedd yn achosi 10% o gynhesu byd eang.

Mae coedwigoedd a’u cynefinoedd yn helpu i leihau cynhesu byd eang ac yn gallu helpu’r byd i gyrraedd y targed o 1.5o sydd wedi’i osod. Ni fydd hynny’n digwydd oni bai bod datgoedwigo’n cael ei gymryd o ddifrif. Yn ein coetiroedd lleol, mae gan goed rôl hanfodol mewn sicrhau amrywiaeth gyfoethog o fywyd a thwf, y tu hwnt i amsugno carbon deuocsid. Mae’r hyn sy’n digwydd ar draws y byd yn effeithio ar yr aer rydyn ni’n ei anadlu ac mae’r hyn rydyn ni’n ei wneud yn effeithio ar yr aer mae eraill hefyd yn ei anadlu.

Yma yng Nghymru, mae tua 15% o’r tir yn goetir, ond yn Ewrop mae'r cyfartaledd tua 37%. Felly, rydyn yn byw, sy’n syndod efallai, mewn un o'r gwledydd gyda'r lleiaf o goed yn Ewrop! Erbyn 2030, mae’r llywodraeth wedi addo plannu 100,000 hectar arall o goetir yng Nghymru. Mae’r DU yn ei gyfanrwydd, yn mewnforio 80% o’i goed a chynnyrch coed. Am ragor o wybodaeth ar hyn ac ar effeithiau eraill datgoedwigo ar yr amgylchedd, edrychwch ar yr ‘awgrymiadau’ isod.

Mae’r manteision i'r amgylchedd yn dibynnu ar goed aeddfed i 'iachau'r cenhedloedd' ac i ddarparu cynefin croesawgar i fywyd gwyllt ffynnu. Bydd gofalu am y coed sydd gennym nawr a’r rhai a fydd yn cael eu plannu, yn ein helpu ninnau hefyd i ffynnu.

Sut mae bod yn yr awyr agored, mewn coetir neu ryw le arall, yn eich helpu chi i ffynnu a theimlo’n well – yn gorfforol, yn emosiynol, yn feddyliol?

Mae harddwch cread Duw o’n cwmpas ym mhob man, yn ein cysgodi gyda dail iachâd, gymaint â’r adar sy’n nythu yn y goeden mwstard. Mae coed yn rhan hanfodol o’r ateb i iechyd a llesiant y blaned ac hebddyn nhw byddwn nid yn unig yn anafu ni’n hunain ond gweddill y cread hefyd.

Gweddi

Dduw popeth gweledig ac anweledig,
gwrando fy / ein gweddi am fanteision iachâd
a harddwch eich cread.
Am y coed, wedi’u gwreiddio’n ddwfn yn y tir,
yn cynnal yr aer rydym yn ei anadlu,
yn cysgodi adar, pryfed, anifeiliaid a phlanhigion,
yn cynnal amgylchedd ble gallwn ffynnu.
Datgela’r geiriau i’m/ i’n helpu i ddatgan
er mwyn gwarchod coed ar draws y byd,
i ddod â datgoedwigo di-angen i ben,
i blannu coed newydd er iachâd cenedlaethau’r dyfodol.
Dduw popeth gweledig ac anweledig,
arwain fy / ein ffordd i wneud beth allaf / allwn
dros fanteision iachau a harddwch eich cread.

Amen.

Awgrymiadau

  • Os ydych chi wedi cael cynnig coeden i’w phlannu – ble byddwch yn ei phlannu?
  • Ailgylchwch holl bapur a chardiau a chwiliwch am gynnyrch papur wedi’i ailgylchu gyda logo ‘tick tree’ FSC arno.
  • Wrth brynu cynnyrch coed, gwnewch yn siŵr, a holwch, a ydyn nhw’n cael eu gwneud o ffynonellau cynaliadwy.
  • Ewch am dro mewn coetir os oes un yn agos atoch chi, ac edrychwch ar yr amrywiaeth gyfoethog o fywyd yno.
  • Edrychwch ar wefan Cronfa Bywyd Gwyllt y Byd Cymru am ragor o wybodaeth, a'r syniadau ac awgrymiadau sydd yno i helpu i gynnal y coedwigoedd a choetiroedd.
  • Edrychwch ar wefan Cyfoeth Naturiol Cymru am ragor o wybodaeth ynghylch pam fod ein coetiroedd mor bwysig i'r byd.
  • Ysgrifennwch at eich Aelod o’r Senedd i ofyn faint o goed sydd wedi’u plannu hyd yn hyn.
Cymraeg

Remembering COP26 - Deforestation

At COP26 many nations signed a pledge saying they would end deforestation by 2030. The cutting down of trees affects the climate and the local habitat which is home to a rich diversity of plants and wildlife; in many parts of the world these will be lost forever.

Mark 4: 30-32 and Revelation 22: 1-2

Jesus said, ‘With what can we compare the kingdom of God, or what parable will we use for it? It is like a mustard seed, which, when sown upon the ground, is the smallest of all the seeds on earth; yet when it is sown it grows up and becomes the greatest of all shrubs, and puts forth large branches, so that the birds of the air can make nests in its shade.’

Then the angel showed me the river of the water of life, bright as crystal, flowing from the throne of God and of the Lamb through the middle of the street of the city. On either side of the river is the tree of life with its twelve kinds of fruit, producing its fruit each month; and the leaves of the tree are for the healing of the nations.

Reflection

When Jesus told the parable of the mustard, those listening would know that trees provided a home and shelter for the birds; later perhaps they would also come to know that in the kingdom of God there is a home and shelter for everyone. The image of crystal-clear water would also be a recognisable reality in an age when pollution in the rivers and in the air was unknown. They would also be unaware of the healing nature of the leaves and trees for the nations. Today, of course, we do know.

Walking through a woodland or park we see trees that are hundreds of years old, and they have their own story to tell of how they have survived the storms of weather and changing landscapes. We can see younger trees starting out on the life journey. We can see wild flowers, insects, ponds, evidence of animals who have made this place their home; and nests in the trees. When spending time in these places it can be easy to forget the crisis of climate change.

When was the last time you had a walk in a woodland – what did it feel like, what were the scents and sounds around you?

Trees are vitally important for the well-being of our world; for all sizes of plants, all wildlife both big and small, and for us too. Trees absorb carbon dioxide and convert it into oxygen. When trees are felled, or disturbed or damaged they release carbon dioxide, and other gases, into the air, and so the loss of forests causes 10% of global warming.

Forests, and the habitats they provide, help in reducing global warming and could help the world to reach the target that was set of 1.5o. This will only happen if deforestation is taken seriously. In our local woodlands the trees have a vital role in ensuring a rich diversity of life and growth, beyond the absorption of carbon dioxide. What happens across the world affects the air we breathe, and what we do affects the air others also breathe in.

Here in Wales, about 15% of the land is woodland, whereas in Europe the average is around 37%; and so we live, surprisingly perhaps, in one of the least wooded countries in Europe! By 2030, the government pledge is to plant another 100,000 hectares of woodland in Wales. The UK as a whole, imports 80% of its timber and wood products. For more information on this and other effects of deforestation on the environment see the ‘suggestions’ below.

The benefits to the environment rely on mature trees for ‘the healing of the nations’ and to provide a welcome habitation for wildlife to flourish. Care for the trees we have now and those that will be planted can help us to flourish too.

How does being outside, in a woodland or some other place, help you to flourish and feel better - physically, emotionally, mentally?

The beauty of God’s creation is all around us sheltering us with the leaves of healing, as much as the birds who nest in the mustard tree. Trees are a vital part of the equation to the health and well-being of the planet, and without them we will harm not only ourselves but the rest of creation too.

Prayer

God of all that is seen and unseen,
hear my/our prayer for the healing benefits
and beauty of your creation.
For the trees, deeply rooted in the land,
supporting the air we breathe,
sheltering birds, insects, animals and plants,
sustaining an environment in which all can flourish.
Reveal the words to help me/us speak out
to protect trees across the world,
to bring to an end unwarranted deforestation,
to plant new trees for the healing of future generations.
God of all that is seen and unseen,
guide my/our way to do what I/we can
for the healing benefits and beauty of your creation.

Amen.

Some suggestions

  • If you have been offered a tree to plant – where will you plant it?
  • Recycle all paper and card, and look out for recycled paper products which will have the FSC ‘tick tree’ logo.
  • When buying wood products, check and ask if they are made from sustainable sources.
  • Take a walk in a woodland if there is one near you, and look at the rich diversity of live there.
  • Have a look at the World Wildlife Fund [WWF] Wales website for more information, and the ideas and suggestions they have to help sustain the forests and woodlands.
  • Have a look at the National Resource Wales website for more information on why our woodlands are so important for the world.
  • Write to your Senedd member to ask how many trees have been planted so far.