minus bangor1 bangor2 bangor3 bangor4 bangor5 bangor6 bangor7 bangor8 bangor9 bangor10 bangor11 bangor12 bangor13 bangor14 bangor15 bangor16 bangor17 bangor18 bangor19 bangor20 bangor21 bangor22 bangor23 bangor24 bangor25 bangor26 bangor27 bangor28 bangor29 bangor30 bangor31 bangor32 bangor33 bangor34 bangor35 bangor36 bangor37 bangor38 bangor39 bangor40 bangor41 bangor42 bangor43 bangor44 bangor45 bangor46 chevron-down chevron-left chevron-right chevron-up download email facebook instagram plus search twitter vimeo youtube external

Cofio COP26 - Cefnogaeth Ariannol

Fel gyda’r gair ‘ymgyrchu’, gallai'r gair 'cyllid' eich gadael yn dyfalu beth sy'n mynd i gael ei ofyn ohonoch! Yn COP26 cafodd cefnogaeth ariannol ei addo i helpu, galluogi a chefnogi gwledydd sy'n datblygu a chenhedloedd llai i wneud y newidiadau sydd ei angen i'w harwain at ddyfodol mwy cynaliadwy ar gyfer y blaned.

Darlleniad o’r Beibl: Luc 21: 1 – 4 a Mathew 13: 44-46

Cododd Iesu ei lygaid a gwelodd bobl gyfoethog yn rhoi eu rhoddion i mewn yng nghist y drysorfa; yna gwelodd wraig weddw dlawd yn rhoi dwy hatling ynddi. Meddai “Yn wir, rwy’n dweud wrthych fod y weddw dlawd hon wedi rhoi mwy na phawb; oherwydd cyfrannodd y rhain i gyd o'r mwy na digon sydd ganddynt, ond rhoddodd hon o'i phrinder y cwbl oedd ganddi i fyw arno."

Meddai Iesu ‘Mae teyrnas nefoedd yn debyg i drysor wedi ei guddio mewn maes; pan ddaeth dyn o hyd iddo, fe’i cuddiodd, ac yn ei lawenydd y mae’n mynd ac yn gwerthu’r cwbl sydd ganddo, ac yn prynu'r maes hwnnw. Eto, y mae teyrnas nefoedd yn debyg i fasnachwr sy’n chwilio am berlau gwych; wedi iddo ddarganfod un perl gwerthfawr, aeth i ffwrdd a gwerthu’r cwbl oedd ganddo, a’i brynu”.

Myfyrdod

Yn aml, nid yw trafod arian a chyllid yn cael ei annog; mae bron iawn yn bwnc tabŵ, hyd yn oed mewn eglwysi! Eto, mae’r arian sy’n dod i mewn ac yn mynd allan yn rhoi pwysau gwirioneddol ar eglwysi, fel ar ein bywydau ni o ddydd i ddydd, yn enwedig ar gyfnod pan mae prisiau'n codi.

Os ydych chi’n rhan o gymuned eglwys, faint ydych chi’n ei wybod am y costau o gynnal gweinidogaeth a chenhadaeth a gofalu am yr adeiladau yn eich ardal?

Mae’r beibl yn llawn o gyfeiriadau at arian, o’r casglwyr trethu’n cymryd gormod o arian i fasnachwyr yn rhwystro’r ffordd i mewn i’r deml yn Jerwsalem, o’r ddameg am y talentau i’r ddau ddarlleniad o’r beibl uchod, a'r gymhariaeth rhwng y cyfoethog a'r tlawd. I Iesu mae’r pwyslais ar gyfiawnder.

Mae’r darn cyntaf o Luc yn ein galw i ystyried beth ydyn ni’n ei roi ac a fyddwn ni’n colli hynny ai peidio. Yn y ddameg, mae Iesu’n awgrymu na fyddai’r cyfoethog yn sylwi, yn eu bywydau bob dydd, ar golli eu rhodd, ond, ar y llaw arall, y byddai'r wraig. Nid yw’r ddameg yn sôn wrthym sut oedd y rhai yn gwrando yn ymateb i’r stori! Ond yn fwy na hynny, mae Iesu’n gofyn i ni ystyried pam ein bod yn rhoi a beth mae’r rhoi hwnnw'n ei olygu i ni, nid faint sydd gennym neu nad sydd gennym i’w roi.

Yn COP26, gofynnwyd i’r gwledydd a’r cenhedloedd datblygedig i roi, i addo, mwy o gefnogaeth ariannol i alluogi gwledydd sy'n datblygu a chenhedloedd ar ynysoedd bychain, i addasu i leihau effeithiau newid hinsawdd, gwaith na fydden nhw gallu ei fforddio ar eu pen eu hunain. Yr awgrym oedd y byddai, erbyn 2025, yr addewid ariannol ar y cyd wedi dyblu, ac felly'n galluogi rhoi llawer mwy o gefnogaeth i'r ardaloedd yn y byd sydd ei angen mwyaf.

Er mwyn i’r gweithredu fod yn effeithiol yn erbyn effeithiau parhaus a chynyddol newid hinsawdd, mae’n rhaid i’r byd ‘fod ynddi gyda’i gilydd’, yn cefnogi ei gilydd ar draws y byd; a ble bo angen, yn ariannol.

Wrth edrych ar yr ail ddarn o’r beibl, mae Iesu’n sôn am deyrnas nefoedd, yn dweud ei fod fel trysor i yn disgwyl cael ei ddarganfod ac, unwaith y bydd wedi’i ddarganfod, y bydd popeth yn cael ei roi i’w brynu. Gallai hyn swnio braidd yn faterol, ond un ffordd o edrych ar y ddameg hon yw gyda llygaid ffydd, gweld y trysor fel ein ffydd. Dyma ffydd sydd, unwaith y mae wedi’i darganfod, yn ein galw i ofalu am y byd rydym yn byw ynddo ac i wneud ac i roi popeth y gallwn i helpu i adeiladu gwell dyfodol i’r cenedlaethau i ddod.

Beth mae’r ddwy ddameg yn ei ddweud wrthych chi am arian a rhoi o safbwynt ffydd a bod yn rhan o deyrnas Duw?

Efallai bod arian yn bwnc byddai’n well gennym beidio â siarad amdano, ond mae’n faes anodd iawn ei osgoi gan ei fod yn effeithio ar bob un ohonom pob dydd; yn y cartref ac yn yr eglwys!

Gweddi

Dduw sy'n amgylchynu popeth,
yn dal fel un holl ddarnau’r cread,
yn chwilio am gyfiawnder, trugaredd a chariad
a rhannu cyfoeth y byd yn deg,
er mwyn i bawb fyw yn ddiogel ac yn llesol,
yn gallu anadlu awyr lân ac yfed dŵr glân.
Rwyt yn ein galw ni i fod yn bobl hael,
boed i mi / ni fod yn hael wrth i mi / ni roi
a rhoi i mi / ni y dewrder i wrthwynebu,
i herio ac i wynebu [yn addfwyn]
y rhai sydd â’r awdurdod i wneud gwahaniaeth,
ac i anrhydeddu’r addewidion maen nhw wedi’u haddo.
Duw sy'n amgylchynu popeth,
agor fy / ein llygaid i harddwch
a realiti’r byd hwn,
ac i’r gwahaniaeth y gallaf i / gallwn ni ei wneud.
Amen.

Ychydig o awgrymiadau

Wyddoch chi sut mae’ch ardal leol chi’n gwario'i harian, yn enwedig i gefnogi’r newidiadau angenrheidiol i wella’r amgylchedd?

  • Ysgrifennwch at eich aelod o’r Senedd i ofyn faint sydd wedi’i addo i gefnogi newidiadau yma ac ar draws y byd.
  • Os oes gennych chi gynilion neu fuddsoddiadau, wyddoch ble mae’ch arian ac a yw’r cefnogi ynni gwyrdd ai peidio?
  • Meddyliwch pa mor aml y mae sôn am arian yn yr eglwys a faint sy'n gwybod am gostau ariannol yr eglwys.
Cymraeg

Remembering COP26 - Financial Support

As with the word ‘campaigning’ the word ‘finance’ may leave you wondering what is going to be asked of you! At COP26 financial support was pledged to help enable and support developing countries, and smaller nations, to bring about the necessary changes that will lead to a more sustainable future form the planet.

Bible Reading: Luke 21: 1-4 and Matthew 13: 44-46

Jesus looked up and saw rich people putting their gifts into the treasury; he also saw a poor widow put in two small copper coins. He said, ‘Truly I tell you, this poor widow has put in more than all of them; for all of them have contributed out of their abundance, but she out of her poverty has put in all she had to live on.’

Jesus said, ‘The kingdom of heaven is like treasure hidden in a field, which someone found and hid; then in his joy he goes and sells all that he has and buys that field. Again, the kingdom of heaven is like a merchant in search of fine pearls; on finding one pearl of great value, he went and sold all that he had and bought it’.

Reflection

Conversations about money and finance are often discouraged; it’s almost a taboo subject, even in churches! Although, the finances coming in and going out is a very real pressure upon churches, as it is for our own day to day lives, especially in a time of rising prices.

If you are part of a church community, how much do you know about the costs involved in supporting ministry and mission and the care of buildings in your area?

The bible is full references to money, from the tax collectors taking too much money to traders blocking the way into the temple in Jerusalem, from the parable of the talents to the two bible readings printed above, and the comparisons between the rich and the poor. For Jesus the emphasis is on justice.

The first passage from Luke calls us all to consider what we give, and whether or not that will be missed by us or not. In the parable Jesus intimates that the rich wouldn’t notice the difference of their giving in their day to day lives, whereas the woman would do. The parable doesn’t tell what the reaction to this story is on those listening! More than this though, Jesus is asking us to consider why we give and what that giving means to us, and not how much we have or don’t have.

At COP26 the developed countries and nations were asked to give, to pledge, more financial support to enable developing countries, and small island nations, to make the adaptations necessary to lessen the effects of climate change which alone they cannot financially afford to do. The suggestion was that by 2025 this collective financial pledge would have been doubled, thereby enabling far more support to the areas in the world most in need.

For action to be effective against the ongoing and increasing effects of climate change, the world has to be ‘in it together’, supporting each other across the world; and where necessary financially.

When we look at the second passage from the bible, Jesus speaks of the kingdom of heaven saying it is like a treasure to be discovered and once found to give everything to buy it. This can sound somewhat materialistic, but one way of looking at this parable from the eyes of faith, is to see the treasure as our faith. This is a faith that once discovered calls us to care for the world in which we live, and to do and to give all we can that will help to build a better future for the generations to come.

What do these two parables say to you about money and giving from the perspective of faith and being a part of the kingdom of God?

Money may be the subject we’d rather not talk about, but it is an area difficult to avoid as it affects each one of us every day; at home and in church!

Prayer

God all encompassing,
holding as one all parts of creation,
seeking justice, mercy and love
and a fair sharing of the world’s wealth,
so all may live in safety, security and wellbeing,
able to breathe clean air and drink clean water.
You call us to be a generous people,
may I/we be generous in my/our own giving

and grant to me/us the courage to speak out,
to challenge and [gently] confront
those who have the authority to make a difference,
and to honour the pledges they have promised.
God all encompassing,
open my/our eyes to the beauty
and the reality of this world,
and to the difference I/we could make.
Amen.

A few suggestions

Do you know how your local area spends its money, especially to support necessary changes to improve the environment?

  • Write to your Senedd member to ask how much has been pledged to support changes here and across the world.
  • If you have savings or investments, do you know where your money is and whether or not it is supporting green energy?
  • Think about how often money is mentioned in church, and how many know about the financial cost of the church.