minus bangor1 bangor2 bangor3 bangor4 bangor5 bangor6 bangor7 bangor8 bangor9 bangor10 bangor11 bangor12 bangor13 bangor14 bangor15 bangor16 bangor17 bangor18 bangor19 bangor20 bangor21 bangor22 bangor23 bangor24 bangor25 bangor26 bangor27 bangor28 bangor29 bangor30 bangor31 bangor32 bangor33 bangor34 bangor35 bangor36 bangor37 bangor38 bangor39 bangor40 bangor41 bangor42 bangor43 bangor44 bangor45 bangor46 chevron-down chevron-left chevron-right chevron-up download email facebook instagram plus search twitter vimeo youtube external

Cofio COP26 - Gofal Bugeiliol a Mannau Gwyrdd

Thema’r mis hwn yw gofal bugeilio a mannau gwyrdd sy’n bwnc mawr ond sydd eto’n berthnasol iawn i’w drafod wrth i ni ddal i ystyried agweddau COP26 a’i effaith ar ein bywydau o ddydd i ddydd.Yn enwedig, efallai, ar gyfer y rhai mae’u gobeithion a’u breuddwydion o weithredu mewn symud i newid hinsawdd erbyn hyn yn eu gadael yn teimlo’n siomedig a diobaith.

Darlleniad o’r Beibl: Salm 23 [wedi’i hail ysgrifennu ychydig]

Duw yw fy mugail, ni bydd eisiau arnaf.
Duw fydd yn fy arwain ar hyd llwybrau cyfiawnder;
llwybrau i borfeydd breision a thywys fi gerllaw dyfroedd tawel i adfywio fy enaid
Er imi gerdded trwy ddyffryn tywyll du, nid ofnaf unrhyw niwed; oherwydd yr wyt ti gyda mi; a’th wialen a’th ffon yn fy nghysuro.
Yr wyt yn arlwyo bwrdd o’m blaen yng ngŵydd fy ngelynion;
yr wyt yn eneinio fy mhen ag olew; y mae fy nghwpan yn llawn.
Yn sicr, bydd daioni a thrugaredd yn fy nilyn bob dydd o’m bywyd,
a byddaf yn byw yn nhŷ fy Nuw, holl ddyddiau fy oes.

Myfyrdod:

Mi allai'r salm hon fod yn gyfarwydd i chi, er ei bod wedi'i hail ysgrifennu ychydig. Mae’n llawn delweddau. Mae yna synnwyr o addfwynder, cysur a thangnefedd; tangnefedd sy’n dod o ymddiried yn Nuw. Nid ymddiriedaeth plentyndod mohono ond ymddiriedaeth a ddaw o brofiad bywyd ac o ffydd. Mae yna awgrym o gael eich adfywio a’ch adnewyddu ar gyfer y daith o’ch blaen, allan o helaethrwydd cariad Duw tuag atom; Duw sydd gyda ni hyd yn oed yn yr adegau ‘dyffryn tywyll du' rydym yn eu hwynebu.

Wrth i ni ddal i ddod allan o’r pandemig, un peth rydym wedi’i ddysgu yw gwerth ein mannau gwyrdd ar gyfer ein llesiant meddyliol, corfforol ac emosiynol. Efallai bod mynd i’r awyr agored mewn gerddi neu barciau, am dro yn y mynyddoedd neu ar y traeth, yn rhywbeth yr oeddem yn ei wneud heb lawer o feddwl; nes ein bod ond yn gallu ei wneud am amser byr iawn. Roeddem yn byw gyda hynny oherwydd dyna oedd y ffordd orau o atal lledaeniad y feirws; dim ond ar ôl hynny mae'r gwir effaith yn cael ei deimlo a'i gydnabod.

  • Sut oedd gallu mynd i’r awyr agored yn eich helpu yn ystod y cyfnodau clo?
  • A yw hynny wedi newid eich ffordd o feddwl ynghylch newid hinsawdd ar ein mannau gwyrdd?

Mae mannau gwyrdd yn bwysig.Mae bod yn yr awyr agored yn ein helpu i ail gysylltu â’r ddaear yr ydym wedi pellhau ac wedi datgysylltu ychydig oddi wrthi.Mae Dr Ruth Valerio o Tearfund yn sôn am bwysigrwydd y byd naturiol i iechyd a llesiant dynoliaeth yn y dyfodol.

Mae newid hinsawdd wedi effeithio ar y tymhorau newidiol, ac eto maen nhw’n dal i ddod â gorffwys, tyfiant, haul a glaw i ni. Efallai mai un o efeithiau’r pandemig yw ein bod yn fwy ymwybodol ein bod angen y byd naturiol y tu allan i'n cartrefi; a faint ohono sy'n cael ei ddinistrio ar draws y byd.

Mae mannu gwyrdd yn cynnwys amrywiaeth o fywyd gwyllt a phlanhigion hanfodol yn ogystal â chynnig mannau tawel ar gyfer iachau. Erbyn hyn, mae yna fwy na 6 mis ers cyfarfod COP16 a’r cwestiwn sydd gan lawer ar eu meddyliau yw, ‘oes unrhyw beth wedi newid?’

Efallai bod cynnydd araf llywodraethau yn arwain rhai i’r ‘dyffryn tywyll du’ o rwystredigaeth ac anobaith. Mae disgwyl i weld rhywbeth yn cael ei wneud ac am waith mwy amlwg yma, ac ar draws y byd, er mwyn helpu i wrthdroi'r effeithiau ar yr hinsawdd, yn gallu bod yn ddigalon i’r ifanc a’r hen fel ei gilydd.

Nhw yw’r rhai a allai fod angen ychydig o ofal, cefnogaeth ac anogaeth i ddal ati i ‘siarad allan’ a mannau gwyrdd i eistedd a chael eu hadnewyddu a’u hadfywio.

Os oeddech chi, neu rywun yr ydych yn eu hadnabod, yn weithgar iawn yn cefnogi newid hinsawdd yn arwain at COP26, sut ydych chi neu nhw'n teimlo erbyn hyn?Ydych chi neu nhw dal yn weithgar wrth gefnogi newid hinsawdd?

Mae Salm 23 yn sôn am obaith, ac nad yw’n hawdd bob amser cyrraedd popeth rydym yn gobeithio amdano a hynny heb frwydr.Duw yw ein bugail, y mae ef gyda caredigrwydd cariadus yn gorffwys wrth ein hochr mewn porfeydd breision ac yn ein hadfer at y gwaith sydd dal angen ei wneud.

Gweddi

Dduw, Fugail yr holl gread,
pan rydym yn teimlo’n rhwystredig
Pan ymddengys nad yw ein llais y cael ei glywed;
arwain ni gyda’th ddoethineb.
Pan rydym yn teimlo’n ddigalon
ac mae’n ymddangos nad yw ein gweithredoedd yn cael unrhyw effaith;
arwain ni gyda’th gariad.
Pan rydym yn teimlo’n isel fy / ein hysbryd
oherwydd arafwch llywodraethau i weithredu;
arwain ni gyda thangnefedd.
Pan rydym yn teimlo’r alwad i siarad allan,
datgela’r geiriau i’w hyngan a’r gweithredu i’w wneud;
arwain ni ar hyd llwybrau cyfiawnder.
Ar adegau o orffwys mewn porfeydd breision
Ac wrth gerdded trwy ddyffryn tywyll du;
Ni bydd eisiau arnom oherwydd dy fod ti gyda ni.

Amen

Ychydig o Awgrymiadau:

  • Ble mae’r mannau gwyrdd sy’n agos atoch chi a sut y gofelir amdanyn nhw?
  • Os oes gennych chi ardd, ydi hi’n cael gofal da neu a oes mannau wedi’u gadael yn wyllt i ddenu gwenyn a gloÿnnod byw.
  • Cymerwch amser i fynd i’r awyr agored a mwynhau’r arogleuon a synau.
  • Mae mynwentydd yn cael eu ‘galw’n’ fannau gwyrdd, oherwydd, mewn eglwysi hynafol, efallai nad ydyn nhw wedi'u cyffwrdd ers canrifoedd ac felly mae’n nhw’n lle delfrydol ar gyfer pryfed, anifeiliaid, adar a glaswellt a lle gall blodau dyfu.Os oes gan eich eglwys fynwent, pwy sy’n gofalu amdani er mwyn sicrhau mai dim ond ar yr adegau priodol o’r flwyddyn y mae’r glaswellt yn cael ei dorri ar er mwyn gwarchod popeth sy’n tyfu ac yn cysgodi yn y fan yna?
  • Oes yna ysgol leol gyda disgyblion sy’n weithgar dros newid hinsawdd, estynnwch wahoddiad iddynt i ddod a siarad a rhannu'u gobeithion? Efallai y gallen nhw helpu i ofalu am y fynwent?

Mae gofal bugeiliol ac iachau yn weinidogaeth yr eglwys:

  • Yn eich eglwys chi ystyriwch sut y gallai cymorth cael ei roi - i bob oedran - er mwyn ail gysylltu â harddwch cread Duw.
  • Hefyd, gwasanaethau ar gyfer iachau’r amgylchedd a chefnogi’r bobl ifanc wrth iddyn nhw chwilio am ddyfodol gwell.
Cymraeg

Remembering COP26 - Pastoral Care and Green Spaces

The theme for this month of pastoral care and green spaces is a big, yet very relevant topic to explore as we continue to consider aspects of COP26 and the impact upon our day to day lives. Particularly perhaps, for those whose hopes and dreams of action in a move to climate change may now leave them feeling disappointed or despondent.

Bible Reading: Psalm 23 [slightly re-written]

God is my shepherd, and so I shall not want.
For God will lead me in the right paths;
paths to green pastures in which to lie down and still waters to restore my soul
Even though I seem to walk through the darkest valley,I will fear no evil;
for you are with me; your rod and your staff give me comfort.
You prepare a table before me in the presence of my enemies;
you anoint my head with oil; and my cup overflows.
Surely goodness and loving kindness shall follow me all the days of my life,
and I shall dwell in the house of God,my whole life long.

Reflection:

This psalm may be familiar to you, even though it has been re-written slightly. It is full of imagery. There is a sense of gentleness, comfort and peace; a peace that comes from trusting God. This is not a trust of childhood but a trust borne from experience of life and of faith. There is the suggestion of being refreshed and renewed for the ongoing journey, out of the abundance of God’s love for us; God who is with us even in the ‘darkest valley’ moments that we face.

As we continue to come out of the pandemic, one thing we have learnt is the value of our green spaces for our mental, physical and emotional well-being. Going outside into gardens or parks, for mountain walks, or to the beach, is something we perhaps did without too much thought; until we couldn’t or only for a limited time. We lived with it because it was the best way then to prevent the spread of the virus; only afterwards is the actual impact felt and being recognised.

  • How did being able to get outside help you during the lockdown times?
  • Has that time changed your thoughts on climate change on our green spaces?

Green spaces are important. To be outside helps us to reconnect with the earth from which we have become somewhat distanced and disconnected. Dr Ruth Valerio of Tearfund speaks of the importance of the natural world to the future of health and well-being of humanity.

Climate change has affected the changing seasons, and yet they still bring to us both rest and growth, sun and rain. It may be that an impact of the pandemic has been to make us more aware of our need for the natural world outside our homes; and how much across the world is being destroyed.

Green spaces hold within them a rich diversity of essential wildlife and plant life, as well as offering a space for quietness and for healing. It is now over 6 months since the COP26 meeting and the question many may have on their mind is, ‘has anything changed?’.

The slow processes of governments may lead some into that ‘darkest valley’ of frustration and despondency. Waiting for action and more noticeable and active work to be seen, here and across the world, to help reverse the effects on the climate, can be dispiriting for young and old alike.

They are the ones who may need some care, support, and encouragement to continue to speak out; and green spaces in which to sit and be renewed and refreshed.

If you, or someone you know, was very active in supporting climate change in the run up to COP26, how are you or they feeling now? Are you or they still actively supporting climate change?

Psalm 23 speaks of hope, and that to achieve all we hope for doesn’t always come to us easily and without a struggle. God is our shepherd, who with loving kindness rests alongside us in the green pastures and restores us for the work that still needs to be done.

Prayer:

God, Shepherd of all creation,
when we feel frustrated
when our voice seems not to be heard;
guide us with your wisdom.
When we feel despondent
that our actions seem to have no impact;
guide us with your love.
When we feel dispirited
at the slowness of governments to act;
guide us with peace.
When we feel the call to speak out,
reveal the words to speak and the action to take;
guide us along the right paths.
In times of rest in green pastures
and in when walking through the darkest valleys;
We shall not want for you are with us.
Amen

A Few Suggestions:

  • Where are the green spaces near you, and how are they cared for?
  • If you have a garden, is it well kept or are there space left wild to attract bees and butterflies?
  • Take time to go outside and enjoy the scents and sounds.
  • Churchyards are the ‘unknown’ green spaces, which in the more ancient churches may not have been touched for centuries and so provide space for insects, animals, birds and grasses and flowers to grow. If your church has a churchyard who cares for it to ensure the grass is only cut at the right times of the year to protect all that grows and shelters in that space?
  • If there is a local school with pupils active for climate change, invite them to come and speak and share their hopes, maybe they could help care for the churchyard?

Pastoral care and healing is a ministry of the church:

  • In your church consider how help can be given – to all ages - to re-connect with the beauty of God’s creation.
  • Also, services for the healing of the environment and support of young people as they seek a better future.