minus bangor1 bangor2 bangor3 bangor4 bangor5 bangor6 bangor7 bangor8 bangor9 bangor10 bangor11 bangor12 bangor13 bangor14 bangor15 bangor16 bangor17 bangor18 bangor19 bangor20 bangor21 bangor22 bangor23 bangor24 bangor25 bangor26 bangor27 bangor28 bangor29 bangor30 bangor31 bangor32 bangor33 bangor34 bangor35 bangor36 bangor37 bangor38 bangor39 bangor40 bangor41 bangor42 bangor43 bangor44 bangor45 bangor46 chevron-down chevron-left chevron-right chevron-up download email facebook instagram plus search twitter vimeo youtube external

Archddiacon newydd i Ynys Môn

Mae’n bleser gan Archesgob Cymru ac Esgob Cynorthwyol Bangor gyhoeddi bod y Parchg John Harvey wedi cael ei apwyntio yn Archddiacon Ynys Môn. 

Braint a llawenydd yw cael croesawu John yn ôl i’r Esgobaeth lle cafodd ei ordeinio. Bydd John yn dod â’i angerdd, sgiliau a phrofiad i’r rôl wrth iddo alluogi Arweinwyr a Thimau Ardaloedd Gweinidogaeth ar draws yr Archddiaconiaeth i barhau i dyfu a ffynnu. Daliwch John a’i wraig Sally yn eich gweddïau wrth iddo baratoi i symud i’r Esgobaeth ac i’r bennod newydd hon o’i weinidogaeth o fewn Eglwys Dduw.

Archesgob Cymru, Y Parchedicaf Andrew John

The Revd John Harvey in church
Y Parchg John Harvey

Gan fyfyrio ar ei rôl newydd meddai John,

Mae gen i angerdd dwfn dros weld cymunedau o bobl yn archwilio gyda’i gilydd eu galwedigaeth yng Nghrist, ac yn tyfu yn eu galwad i addoli Duw a charu’r byd. Rwy’n gobeithio y bydd fy mhrofiadau yn cyfrannu at hyn ym Môn, er fy mod yn amau bod unrhyw beth mewn gwirionedd yn paratoi person ar gyfer rôl o’r fath heblaw bod yn agored i syndod a rhyfeddod gras Duw! Mae gweinidogaeth ordeiniedig wedi mynd â ni fel teulu i gyfeiriadau annisgwyl, ond nid yw'r un yn peri mwy o syndod na gostyngedig na'r alwad hon; Rwy’n edrych ymlaen yn fawr at ymuno â’r teulu Archddiaconiaeth a’r Esgobaeth a ninnau’n dod i adnabod ein gilydd yn fuan iawn.

Esgob Cynorthwyol Bangor | The Assistant Bishop of Bangor

Wrth edrych ymlaen at groesawu’r Parchg John Harvey yn ôl i Esgobaeth Bangor meddai ein Hesgob Cynorthwyol,

Mae gweinidogaeth John yn ymwneud â galluogi trawsnewid ysbrydol a thwf ym mhob un o bobl Dduw ac ar eu cyfer. Mae’n frwd dros ymateb i alwad Crist a helpu i adeiladu eglwys gynhwysol, fugeiliol a bywiog.

Mae rhoddion niferus John wedi ei arwain at gydweithio’n agos â mudiad Cursillio yng Nghymru. Mae ei weinidogaeth wedi ei arwain i fyw mewn nifer o rolau sy'n gysylltiedig â galluogi gweddi ac ysbrydolrwydd ar draws cymunedau amrywiol. Yn ogystal â gweinidogaeth gyfoethog fel offeiriad ac Arweinydd Ardal Genhadaeth, mae wedi bod yn Gyfarwyddwr Ordinandiaid Esgobaethol, yn swyddog ysbrydolrwydd, yn gyfarwyddwr ysbrydol ac yn Ddeon Gwledig. Mae John wedi gweithio yn Dewi Sant ac yn Esgobaeth Llanelwy. Mae ganddo rywfaint o Gymraeg yn barod ac mae’n awyddus i ddatblygu a gloywi ei sgiliau iaith. Edrychwn ymlaen at groesawu John a Sally Harvey i’r esgobaeth ym mis Medi. Byddwn yn cyhoeddi dyddiad Trwyddedu John cyn gynted ag y bydd hyn wedi’i drefnu.


Dyma John yn cyflwyno ychydig am ei hun:

Gyda syndod a llawenydd y caf fy hun yn dychwelyd i Esgobaeth Bangor i rannu cenhadaeth a gweinidogaeth gyda chwi, fel Archddiacon Ynys Môn. Bangor yw fy esgobaeth gartrefol, lle cefais fy meithrin yn y ffydd Gristnogol ac archwilio fy ngalwedigaeth yn fy nhref enedigol, Llandudno. Ar ôl prifysgol yn Llanbedr Pont Steffan a hyfforddiant diwinyddol yn Lincoln, fe’m hordeiniwyd ym Mangor yn 1989, a gwasanaethais fy nghwradiaeth yn Nwygyfylchi (mae gweinidogaeth fugeiliol y Canon Gwilym Berw Hughes yn y blynyddoedd hynny yn parhau i fod yn ysbrydoliaeth).

Ers hynny rwyf wedi gwasanaethu mewn gweinidogaeth arfordirol wledig yn Esgobaeth Tyddewi, ac yna perigloriaethau yn Esgobaeth Llanelwy ar hyd arfordir Gogledd Cymru, ac arweinyddiaeth ardaloedd cenhadol. Ochr yn ochr â’r rhain bu rolau esgobaethol mewn galwedigaethau ac ysbrydolrwydd, ac rwyf wedi bod yn weithgar yn y mudiad Cursillo.

Rwy’n ŵr i Sally – gwnaethom gyfarfod a phriodi yn y brifysgol, 36 mlynedd yn ôl – ac yn dad i Michael a Manon. Rydym yn dal i addasu at eu statws fel oedolyn oddi cartref. Rwy’n ddysgwr Cymraeg, ac yn edrych ymlaen at gyrsiau dwys i ddatblygu fy Nghymraeg llafar, ac gofyn am eich anogaeth amyneddgar os gwelwch yn dda!

Os ydych chi’n hoff o Elvis Presley neu wneud bara neu’r amgylchedd, yna bydd gennym ni bethau’n gyffredin yn barod.


Cymraeg

A new Archdeacon for Anglesey

The Archbishop of Wales and the Assistant Bishop of Bangor are pleased to announce that the Revd John Harvey has been appointed as the new Archdeacon of Anglesey. 

Archesgob Cymru ac Esgob Bangor | The Archbishop of Wales and Bishop of Bangor
It is a privilege and a joy to welcome John back to the diocese in which he was ordained. John will bring his passions, skills and experience to the role as he enables Ministry Area Leaders and Teams across the Archdeaconry to continue to grow and to flourish. Please hold John and his wife Sally in your prayers as he prepares to move to the diocese and to this new chapter of his ministry within the Church of God.
The Archbishop of Wales, the Most Reverend Andrew John

Reflecting on his new role John says,

I’ve a deep passion for seeing communities of people explore together their vocation in Christ, and grow in their calling to worship God and love the world. I hope my experiences may contribute to this on Anglesey, though I doubt anything really prepares a person for such a role other than an openness to the surprise and wonder of God’s grace! Ordained ministry has taken us as a family in unexpected directions, but none more surprising or humbling than this calling; I’m so looking forward to joining the Archdeaconry and Diocesan family and us getting to know each other very soon.

The Revd John Harvey outside
The Revd John Harvey

Looking forward to welcoming the Revd John Harvey back to the Diocese of Bangor our Assistant Bishop says,

John’s ministry is all about enabling spiritual transformation and growth in and for all God’s people. He is passionate about responding to Christ’s call and helping to build an inclusive, pastoral, and vibrant church.

John’s many gifts have led him to work closely with the Cursillio movement in Wales. His ministry has led him to inhabit a number of roles connected to enabling prayer and spirituality across diverse communities. In addition to a rich ministry as a priest and Mission Area Leader, he’s been Diocesan Director of Ordinands, spirituality officer, a spiritual director, and Rural Dean. John has worked both in Saint David’s and in St Asaph Diocese. He already has some Welsh and is keen to develop and hone his language skills. We look forward to welcoming John and Sally Harvey to the diocese in September. We will announce the date of John’s Licensing as soon as this is arranged.


Here John introduces himself briefly:

It is with surprise and delight that I find myself returning to the Diocese of Bangor to share in mission and ministry with you, as Archdeacon of Anglesey. Bangor is my home diocese, where I was nurtured in Christian faith and explored vocation in my home town of Llandudno. After university at Lampeter and theological training in Lincoln, I was ordained in Bangor in 1989, and served my curacy in Dwygyfylchi (Canon Gwilym Berw Hughes’ pastoral ministry in those years continues to inspire).

Since then I’ve served in coastal rural ministry in the Diocese of Saint Davids, followed by incumbencies in Diocese of Saint Asaph along the North Wales coast, and mission area leadership. Alongside these there have been diocesan roles in vocations and spirituality, and I’ve been active in the Cursillo movement.

I’m husband to Sally – we met and married at university, 36 years ago – and father to Michael and Manon whose grown-up status away from home we’re still adjusting to. I’m a Welsh learner, and look ahead to intensive courses to develop my spoken Welsh, and can only ask for your patient encouragement please!

If you’re keen on Elvis Presley or bread making or the environment then we’ll have things in common already.