minus bangor1 bangor2 bangor3 bangor4 bangor5 bangor6 bangor7 bangor8 bangor9 bangor10 bangor11 bangor12 bangor13 bangor14 bangor15 bangor16 bangor17 bangor18 bangor19 bangor20 bangor21 bangor22 bangor23 bangor24 bangor25 bangor26 bangor27 bangor28 bangor29 bangor30 bangor31 bangor32 bangor33 bangor34 bangor35 bangor36 bangor37 bangor38 bangor39 bangor40 bangor41 bangor42 bangor43 bangor44 bangor45 bangor46 chevron-down chevron-left chevron-right chevron-up download email facebook instagram plus search twitter vimeo youtube external

Prosiect Llenyddol Llwybr Cadfan yn Abaty Cymer

Cafwyd prynhawn bendigedig Ddydd Sadwrn diwethaf yn y trydydd lleoliad ar y bererindod lenyddol, Llwybr Cadfan. Cafwyd dathliad ynghyd â gwasanaeth byr yn yr awyr agored yn Abaty Cymer, Dolgellau. Roedd hwn yn brynhawn braf, heulog a hwyliog yng nghwmni’r beirdd preswyl Siôn Aled a Sian Northey oedd yn adrodd eu cerddi gwreiddiol. Roedd canolbwynt y sylw ar ddathlu’r dreftadaeth leol, a nodi’n arbennig bwysigrwydd yr Abaty i ddatblygiad Cristnogaeth yn yr ardal.

Croesawyd pawb gan y Parchg Tim Webb. Yr Hybarch Andrew Jones, Archddiacon Meirionydd gyflwynodd hanes yr Abaty gan osod cyd-destun a chefndir y Sistersiaid. Yna trosglwyddwyd yr awenau i’r actor amryddawn Llion Williams. Perfformiodd ddrama newydd sbon sydd wedi cael ei chomisiynnu gan gynllun ‘Llan’ Esgobaeth Bangor fel rhan o’r prosiect hwn gan y cwmni Mewn Cymeriad. Awdur y ddrama yw Manon Steffan Ros a bydd y ddrama yn mynd ar daith ym mis Medi eleni o amgylch rhai o eglwysi’r esgobaeth fel rhan o Wyl Hanes Cymru i Blant. Roedd yn brofiad gwych cael gweld y perfformiad cyntaf hwn gyda Llion yn portreadu cymeriad y Sant Cadfan o’r 6ed ganrif, ar ei bererindod cyntaf o Dywyn i Enlli

Cafwyd datganiadau gan y beirdd preswyl o’u cerddi gwreiddiol ac eitem gerddorol gan y cerddor Gwilym Bowen Rhys. Rhoddwyd gair o weddi gan y y Parchg Carwyn Siddall. Hefyd cyfrannodd ein Hesgob Cynorthwyol, Y Gwir Barchedig Mary Stallard i’r gwasanaeth gyda darlleniad o’r Beibl cyn i’r Archesgob, Y Parchedicaf Andrew John rhoi bendith i gloi prynhawn difyr iawn.

Dewiswyd 10 o safleoedd eglwysig i fod yn ganolfannau penodol ac yn ganolbwynt y gweithgarwch y prosiect hwn a hynny ar ddyddiadau penodol dros y deunaw mis nesaf. Lleoliadau y tybir i Cadfan ymweld â hwy ar ei bererindod gyntaf i Enlli. Maent oll yn amrywiol ac yn cynnig naws a themâu gwahanol ar hyd y daith. Bydd y prosiect yn parhau er ei daith yn olrhain pererindod gyntaf Cadfan Sant i Ynys Enlli a hynny yn Eglwys Eglwys Tanwg Sant, Llandanwg ar benwythnos 12 Medi, ymunwch â ni yno ar gyfer y bennod nesaf yn ein pererindod.


Pethau cuddiedig

A ninnau ond pump,
yn bystachu i gadw'r sioe i fynd
â chymylau ar y gorwel,
cymerais y plât a'r cwpan,
eu lapio mewn brethyn glân
a cherdded oddi yno, liw nos.
Ond cyn eu cuddio
dan bridd ac o dan garreg yn niwl y cwm
agorais y bwndel unwaith eto,
edrych ar eu disgleirdeb,
sychu rhyw olion bysedd y methais cynt,
a'u cusanu.
Yna es adre'n waglaw,
yn gwybod y byddai'n rhaid i mi,
o hyn allan,
gadw coffa gwastadol
wrth fwyta bara rhyg
oddi ar blatiau pren,
a chofio amdano
wrth yfed dŵr
o gwpan glai
â chrac ynddi.

Ac eto weithiau bydd un o'r gronynnau gloyw
a lynodd i'm gwefusau yng ngwyll y noson honno
yn llithro i mewn i'r crac
a finnau'n gweld goleuni.

Sian Northey

Cymraeg

Llwybr Cadfan's Literary Project in Cymer Abbey

Last Saturday was a wonderful afternoon at the third location on the literary pilgrimage, Llwybr Cadfan. A short service and celebration were held outdoors at Cymer Abbey, Dolgellau. It was a nice, sunny and fun afternoon in the company of the resident poets Siôn Aled and Sian Northey who recited their original poems. The focus was on celebrating the local heritage and noting in particular the importance of the Abbey to the development of the area's Christianity tradition.

The Revd Tim Webb welcomed everyone. The Venerable Andrew Jones, Archdeacon of Meirionydd, presented the history of the Abbey setting the context and background of the Cistercians. The reins were then transferred to the talented actor Llion Williams. He performed a brand-new play that has been commissioned by the Diocese of Bangor's 'Llan' scheme as part of this project by the company ‘In Character’. The author is Manon Steffan Ros and the play will tour in September this year around some of the diocese's churches as part of the Welsh History Festival for Children. It was a great experience to see this first performance with Llion portraying the character of the 6th century St Cadfan, on his first pilgrimage from Tywyn to Enlli.

The resident poets performed their original compilations followed by a musical item by the musician Gwilym Bowen Rhys. A word of prayer was given by the Rev. Carwyn Siddall. Our Assistant Bishop, The Right Reverend Mary Stallard also contributed to the service with a reading from the Bible before the Archbishop, The Most Reverend Andrew John gave a blessing to end a very entertaining afternoon.

10 ecclesiastical sites were selected to be specific centres and the focus of this project's activity on specific dates over the next eighteen months. Locations that Cadfan is assumed to have visited on his first pilgrimage to Bardsey, they are all varied and offer different tones and themes along the journey. The project will continue its journey tracing Saint Cadfan's first pilgrimage to Bardsey Island at St Tanwg Church, Llandanwg on the weekend of September 12, join us there for the next chapter in our pilgrimage.

Hidden Things

When there were only five of us
struggling to keep things going
as clouds gathered on the horizon,
I took the plate and the cup,
wrapped them in clean flannel,
and walked away as night fell.
But before I hid them,
under earth and under stone
in the mist of the cwm,
I opened the bundle one last time,
gazed at their shimmer,
wiped away a few fingermarks I'd missed,
and kissed them.
Then I returned empty handed,
knowing that I would have to,
from now on,
keep perpetual memorial
with hunks of rye bread
on wooden platters,
and remember him
as I drank water
from a clay cup
that has a crack in it.

And yet occasionally one of the shining grains
that had clung to my lips that dark night
slips down into the crack
and I see light.

Sian Northey