minus bangor1 bangor2 bangor3 bangor4 bangor5 bangor6 bangor7 bangor8 bangor9 bangor10 bangor11 bangor12 bangor13 bangor14 bangor15 bangor16 bangor17 bangor18 bangor19 bangor20 bangor21 bangor22 bangor23 bangor24 bangor25 bangor26 bangor27 bangor28 bangor29 bangor30 bangor31 bangor32 bangor33 bangor34 bangor35 bangor36 bangor37 bangor38 bangor39 bangor40 bangor41 bangor42 bangor43 bangor44 bangor45 bangor46 chevron-down chevron-left chevron-right chevron-up download email facebook instagram plus search twitter vimeo youtube external

Arweinydd Ardal Weinidgoaeth newydd ym Mro Ardudwy

Mae'n bleser gan Archesgob Cymru ac Esgob Cynorthwyol Bangor gyhoeddi penodiad y Parchg Ben Griffith yn Ficer ac Arweinydd Ardal Weinidogaeth Bro Ardudwy sy'n gwasanaethu'r cymunedau o amgylch Harlech ac Abermaw yn Archddiaconiaeth Meirionnydd.

Meddai Esgob Mary am yr apwyntiad,

Rwy’n falch iawn ein bod am groesawu Benedict (Ben) Griffith i Fro Ardudwy ac i’n hesgobaeth. Mae Ben yn offeiriad dawnus sy’n canolbwyntio ar bobl ac mae ganddo brofiad blaenorol o weinidogaethu yng Nghymru yn esgobaeth Abertawe ac Aberhonddu. Ar hyn o bryd mae’n gweinidogaethu’n agos i Gymru yn Esgobaeth Henffordd ac edrychwn ymlaen at groesawu Ben a’i wraig Jean yn y gwanwyn.

Gan gyflwyno'i hyn meddai Ben,

Mae fy nhad yn wreiddiol o ogledd Cymru a fy mam o Cockney London. Rwy’n un o saith o blant ac fe’n magwyd yn Gatholigion er bod gennym gymysgedd eang o enwadau yn y teulu. Fel myfyriwr yng Ngholeg y Drindod, Caerfyrddin yn yr 1980au y deuthum ar draws Anglicaniaeth a'r hyn sydd wedi teimlo ers hynny fel fy nghartref ysbrydol.

Cyfarfûm â Jean pan oeddwn yn 49. Merch o Sir Faesyfed oedd hi a oedd yn byw dros y ffordd o’r Ficerdy yr oeddwn yn byw ynddi ar y pryd. Roeddem yn briod yn 2014 ac mae’r teulu’n cael ei gwblhau gan Labrador Du egnïol 3 oed o’r enw Jack, nid yw wedi arfer â’r môr, felly gallai gwylio’r datblygiad hwnnw fod yn hwyl.

Wrth siarad am ei benodiad, dywedodd Ben:

Bro Ardudwy yw lle mae rhan o fy nheulu yn tarddu ac mae’n rhan o’r byd rydw i wedi bod yn ymweld ag ef cyhyd ag y gallaf gofio ac er nad wyf erioed wedi byw yno, dyma’r lle rwyf wedi’i garu yn fwy nag unrhyw un arall ar y Ddaear. Mae’r syniad o rannu antur ogoneddus yr Efengyl mewn lle dwi wedi caru o bell ers cyhyd yn teimlo fel gwireddu breuddwyd, dwi’n mawr obeithio na fydd neb yn mynd i’m deffro ohoni unrhyw bryd yn fuan!

Wedi treulio 18 mlynedd yn dysgu dechreuodd Ben ar ei hyfforddiant ar gyfer ordeinio yn 2004 yng Ngholeg Ripon, Cuddesdon cyn cael ei Ordeinio’n Ddiacon yn Eglwys Gadeiriol Sant Alban yn 2006 ac yna’n Offeiriad yn 2007. Gwasanaethodd ei guradiaeth y tu allan i Bedford cyn symud i Sir Faesyfed yn 2009 fel Ficer 'Upper Wye' rhwng Llanfair ym Muallt a Llandrindod Wells.

Mae Archddiacon Meirionnydd yn edrych ymlaen at groesawu Ben, gan ddweud,

Hyfrydwch mawr yw croesawu’r newyddion bod Ben a Jean yn dod i wasanaethu yn Archddiaconiaeth Meirionnydd ac yn arbennig i Ardal Weinidogaeth Bro Ardudwy. Yr wyf yn siŵr y bydd pobl yr ardal yn croesawu’r ddau yn gynnes. Mae’n ddiddorol fod gan Ben wreiddiau teuluol yn yr ardal ac rwy’n sicr y bydd hyn yn eu gwasanaethu’n dda wrth iddynt setlo i gyd-destun newydd. Eto, braf fydd croesawu clerigwr newydd o’r tu allan i’r esgobaeth i fod yn rhan o’n ‘teulu’ yma ym Mangor. Dymunaf yn dda iddynt.

Bydd Ben yn dechrau ei weinidogaeth newydd ar 22 Mawrth 2023 yn Eglwys Ioan Sant, Abermaw am 7pm. Gweddïwch dros Ben, Jean a phobl Bro Ardudwy wrth iddynt ddechrau pennod newydd yn eu bywydau.


Cymraeg

A new Ministry Area Leader for Bro Ardudwy

The Archbishop of Wales and the Assistant Bishop of Bangor are pleased to announce the appointment of the Revd Ben Griffith as Vicar and Ministry Area Leader of Bro Ardudwy Ministry Area which serves the communities around Harlech and Barmouth in the Archdeaconry of Meirionnydd.

Speaking of the appointment Bishop Mary says,

I am delighted that we are to welcome Benedict (Ben) Griffith to Bro Ardudwy and to our diocese. Ben is a talented and people-orientated priest with previous experience of ministry in Wales in Swansea and Brecon diocese. He is currently ministering close to Wales in Hereford Diocese and we look forward to welcoming Ben and his wife Jean in the spring.

Introducing himself Ben says,

My father is originally from north Wales and my mother from Cockney London. I am one of seven children and we were raised as Roman Catholics although we have a broad mix of denominations in the family. It was as a student at Trinity College, Carmarthen in the 1980s that I encountered Anglicanism and what has felt ever since as my spiritual home.

I met Jean when I was 49. She was a Radnorshire girl who lived over the road from the Vicarage I was living in at the time. We were married in 2014 and the family is completed by a bouncy 3 year old Black Labrador called Jack, he’s not that used to the sea, so watching that develop could be fun.

Speaking of his appointment Ben says:

Bro Ardudwy is where part of my family originates and it’s a part of the world that I’ve been visiting for as long as I can remember and despite never having lived there, it’s the place I’ve loved more than any other on Earth. The idea of sharing the glorious adventure of the Gospel in a place I’ve loved from afar for so long feels like a dream come true, I’m really hoping that nobody’s going to wake me from it anytime soon!

Having spent 18 years teaching Ben began his training for ordination in 2004 at Ripon College, Cuddesdon before being ordained a Deacon in Saint Alban's Cathedral in 2006 and then a Priest in 2007. He served his curacy outside Bedford before moving to Radnorshire in 2009 to become Vicar of the Upper Wye between Builth Wells and Llandrindod Wells.

The Archdeacon of Meirionnydd is looking forward to welcoming Ben, saying,

It is with great delight that I welcome the news of Ben and Jean coming to serve in the Archdeaconry of Meirionnydd and particularly to the Bro Ardudwy Ministry Area. I am sure that the people of the area will welcome them both warmly. It is interesting that Ben has family roots in the area and I am certain that this will serve them well as they settle into a new context. Again, it will be good to welcome a new cleric from outside the diocese to be part of our ‘family’ here in Bangor. I wish them well.

Ben will begin his new ministry on 22 March 2023, and will be licensed at Saint John's Church, Barmouth at 7pm. Please pray for Ben, Jean and the people of Bro Ardudwy as they enter a new chapter in their lives.