minus bangor1 bangor2 bangor3 bangor4 bangor5 bangor6 bangor7 bangor8 bangor9 bangor10 bangor11 bangor12 bangor13 bangor14 bangor15 bangor16 bangor17 bangor18 bangor19 bangor20 bangor21 bangor22 bangor23 bangor24 bangor25 bangor26 bangor27 bangor28 bangor29 bangor30 bangor31 bangor32 bangor33 bangor34 bangor35 bangor36 bangor37 bangor38 bangor39 bangor40 bangor41 bangor42 bangor43 bangor44 bangor45 bangor46 chevron-down chevron-left chevron-right chevron-up download email facebook instagram plus search twitter vimeo youtube external

Eglwysi Eco cyntaf Ynys Môn

Braint a phleser o'r mwyaf i mi yw cael llongyfarch tair o Eglwysi cydwybodol Bro Dwynwen ar ennill dwy wobr Efydd ac un wobr Arian fel rhan o'r prosiect Eglwysi Eco yn ddiweddar. Yr eglwys gyntaf i ennill y wobr ym Môn oedd Eglwys Nidan Sant ym Mrynsiencyn, Eglwys fu'n hynod arloesol ers degawdau bellach mewn rheolaeth mynwentydd gyda dros gant ymhell o flodau gwyllt i'w gweld yn tyfu yno rhwng misoedd Mawrth a diwedd yr haf .

Yn ur un modd, Egwys y Santes Fair Llanfairpwll sydd a thim hynod frwdfrydig yn mynd ati bob blwyddyn, nid yn unig i fabwysiadu bob math o wahanol ffyrdd i hybu ein gofalaeth o'r greadigaeth, ond hefyd drwy agor ei heglwys 'a'u mynwentydd i ysgolion a chymunedau lleol fel rhan o'r prosiect 'Eglwysi'n Cyfri ar Natur ' 'Churches Count on nature', bydd hyn yn digwydd eto eleni ar 18 Mehefin rhwng 10.00am a 2.00pm.

O ran Eglwys Llangeinwen a'r Hen fecws , yno,- fe aed ati i asesu'n ofalus sut y gellid lleihau eu ol traed carbon, a hynny drwy 'arbed', 'ail ddefnyddio' ag 'ailgylchu' ar y ddau safle, a hynny yn hynod lwyddianus.

Mae'r alwad arnom geir yn Genesis i ofalu am y greadigaeth yn 'orchymyn' i Gristnogion wneud gwaith amgylcheddol a throedio'n ysgafn ar y Ddaear Sanctaidd. Ga i felly ddiolch unwaith yn rhagor i bencampwyr Eco Bro Dwynwen a'r timau sy'n eu cynorthwyo am y gwaith arbennig wnaed hyd yma.Yng ngeiriau Archesgob Cymru, - ''gwaith difrifol mewn maes hanfodol bwysig''.


Cymraeg

Anglesey's first Eco-Churches

It is a great privilege and pleasure for me to congratulate three conscientious Bro Dwynwen Churches on winning two Bronze awards and one Silver award as part of the Eco Churches project recently. The first church to win the award in Anglesey was Eglwys Nidan Sant in Brynsiencyn, a church that has been extremely innovative for decades in cemetery management with over a hundred wild flowers that can be seen growing there between the months of March and the end of summer.

In the same way, Egwys y Santes Fair, Llanfairpwll has an extremely enthusiastic team that goes about it every year, not only to adopt all kinds of different ways to promote our care of creation, but also by opening its church and their cemeteries for schools and local communities as part of the 'Churches Count on nature' project, this will happen again this year on 18 June between 10.00am and 2.00pm.

Regarding Llangeinwen Church and the Old Bakery, there, - a careful assessment was made of how their carbon footprint could be reduced, by 'reducing', 'reusing' and 'recycling' on both sites, and that is extremely successful.

The call on us found in Genesis to take care of creation is a 'command' for Christians to do environmental work and tread lightly on the Holy Earth. May I therefore once again thank the champions of Eco Bro Dwynwen and the teams that assist them for the special work done so far. In the words of the Archbishop of Wales, - ''serious work in a vitally important area''.