minus bangor1 bangor2 bangor3 bangor4 bangor5 bangor6 bangor7 bangor8 bangor9 bangor10 bangor11 bangor12 bangor13 bangor14 bangor15 bangor16 bangor17 bangor18 bangor19 bangor20 bangor21 bangor22 bangor23 bangor24 bangor25 bangor26 bangor27 bangor28 bangor29 bangor30 bangor31 bangor32 bangor33 bangor34 bangor35 bangor36 bangor37 bangor38 bangor39 bangor40 bangor41 bangor42 bangor43 bangor44 bangor45 bangor46 chevron-down chevron-left chevron-right chevron-up download email facebook instagram plus search twitter vimeo youtube external

Diwrnod Agored i archwilio cyfleoedd gweinidogaeth yn Esgobaeth Bangor

Mae Esgobaeth Bangor yn cynnal Diwrnod Agored Gweinidogaeth - y cyntaf o'i fath i'r Eglwys yng Nghymru - lle gall clerigwyr a lleygwyr ordeiniedig archwilio'r cyfleoedd gweinidogaeth cyffrous sydd ar gael ar draws yr esgobaeth.

Mae Diwrnod Agored y Weinidogaeth yn gyfle i glywed mwy am weledigaeth Esgobaeth Bangor a'r cyfleoedd mewn gweinidogaeth sydd ar gael. Bydd clerigion a lleygwyr yn clywed gan Archesgob Cymru ac Esgob Bangor am fywyd yn yr esgobaeth ac yn cyfarfod â phobl eraill sy'n gweinidogaethu ar draws yr esgobaeth mewn amrywiaeth o swyddogaethau. Bydd cyfleoedd hefyd i ymweld ag eglwysi ac Ardaloedd Gweinidogaeth i ddarganfod hanes unigryw a diwylliant dwyieithog Gogledd-orllewin Cymru.

Meddai Archddiacon Bangor David Parry, sy'n trefnu'r digwyddiad, "Ein Diwrnod Agored Gweinidogaeth yw'r cyntaf o'i fath yn yr Eglwys yng Nghymru. Rydym yn falch iawn o fod yn penodi nifer o rolau amrywiol mewn gweinidogaeth ordeiniedig a lleyg diolch i'n buddsoddiad cynyddol mewn gweinidogaeth ar draws yr esgobaeth.

"Mae Esgobaeth Bangor yn lle gwych i wasanaethu ac rwy'n gwahodd clerigwyr a lleygwyr o esgobaethau eraill i'n diwrnod agored i weld popeth sydd gennym i'w gynnig."

Meddai'r Canon David Morris, Cyfarwyddwr Gweinidogaeth, "Rydym yn cynnig ystod o gyfleoedd amrywiol o fewn gweinidogaeth ar gyfer clerigion lleyg ac ordeiniedig. Os oes gennych alwad i weinidogaeth arloesi, cariad dros gyfiawnder cymdeithasol, awydd i dyfu ein llwybrau pererinion hynafol, neu os ydych yn dymuno rhannu arweinyddiaeth yn un o'n Ardaloedd Gweinidogaeth, yna mae Esgobaeth Bangor ar eich cyfer chi."

Cynhelir Diwrnod Agored y Weinidogaeth ddydd Sadwrn 4 Tachwedd 2023 rhwng 10.30am a 4pm yng Nghanolfan Rheolaeth Bangor, Prifysgol Bangor. Am fwy o wybodaeth ewch i Digwyddiadau / Events - Diocese of Bangor (eglwysyngnghymru.org.uk)

Cymraeg

Open Day to explore ministry opportunities in Diocese of Bangor

Diocese of Bangor is hosting a Ministry Open Day – the first of its kind for Church in Wales - where ordained clergy and lay people can explore the exciting ministry opportunities available across the diocese.

The Ministry Open Day is an opportunity to hear more about the Diocese of Bangor’s vision and the ministry roles available. Clergy and lay people will hear from the Archbishop of Wales and Bishop of Bangor about life in the diocese and meet other people who are ministering across the diocese in a variety of roles. There will also be opportunities to visit churches and Ministry Areas to discover the unique history and bilingual culture of North West Wales.

Archdeacon of Bangor David Parry, who is organising the event, says, “Our Ministry Open Day is the first of its kind in the Church in Wales. We are delighted to be appointing to a number of diverse ordained and lay ministry roles thanks to our increased investment in ministry across the diocese.

“The Diocese of Bangor is a great place to serve and I warmly invite clergy and lay people from other dioceses to our open day to see all we have to offer.”

Canon David Morris, Director of Ministry, says, “We offer a diverse range of ministry roles for lay and ordained clerics. Whether you have a call to pioneer ministry, a heart for social justice, a desire to grow our ancient pilgrim ways, or you wish to share in the leadership of one of our Ministry Areas, then the Diocese of Bangor is for you.”

The Ministry Open Day takes place on Saturday 4 November 2023 from 10.30am - 4pm at The Management Centre Bangor, University of Bangor.

For more information visit Digwyddiadau / Events - Diocese of Bangor (eglwysyngnghymru.org.uk)