minus bangor1 bangor2 bangor3 bangor4 bangor5 bangor6 bangor7 bangor8 bangor9 bangor10 bangor11 bangor12 bangor13 bangor14 bangor15 bangor16 bangor17 bangor18 bangor19 bangor20 bangor21 bangor22 bangor23 bangor24 bangor25 bangor26 bangor27 bangor28 bangor29 bangor30 bangor31 bangor32 bangor33 bangor34 bangor35 bangor36 bangor37 bangor38 bangor39 bangor40 bangor41 bangor42 bangor43 bangor44 bangor45 bangor46 chevron-down chevron-left chevron-right chevron-up download email facebook instagram plus search twitter vimeo youtube external

Cynhadledd Efengylu Cymreig

Ysgrifennwyd gan Y Parchg Dr Adrian Morgan

Mae’n dda cael bod yma. Ond mae hi wedi bod yn dda cael bod yma mewn cynhadledd a drefnwyd gan Yr Eglwys yng Nghymru ond cynhadledd sy’n goresgyn ffiniau esgobaethol ac enwadol. Cyfle i ddod at ein gilydd, i wrando ar ein gilydd, i ddysgu wrth ein gilydd, i ysbrydoli’n gilydd, ac i ddirnad o’r newydd beth mae’r Ysbryd yn ei ddweud wrth yr Eglwys. Mae’n dda cael bod yma.

Y Pachg Dr Adrian Morgan

Arloesi yn yr Eglwys Bresbyteraidd

Fe gofiwch chi fod ni wedi dechrau’r daith mewn cwch ar y lan gyda Nan Powell Davies. Nan yn onest ynglŷn â’r heriau oedd yn wynebu’r Eglwys Bresbyteraidd. Ac yn dweud bod angen mentro tu hwnt i’r cyfarwydd gan fod y cyfarwydd yn marw.

A dyna benderfynwyd. Penderfynwyd mentro i’r dyfroedd dyfnion ac roedd hi’n dweud bod gwneud hynny ar adegau yn gallu bod yn arswydus ac yn gostus. Ond, dyna benderfynwyd.

Penderfynwyd arloesi. Dod o hyd i arweinwyr newydd fydde’n gallu gwneud pethau newydd wrth gyhoeddi’r newyddion da. Pobl â galwad. Pobl â gweledigaeth. Pobl â doniau a dycnwch pwrpasol ar gyfer y gwaith.

A’r hyn wnaeth fy nharo i, a’r enw sydd gen i yn y ‘margin’ yw enw David Attenborough. Sgwn i os ydych chi, fel fi, yn ddiweddar wedi bod yn edrych ar ei raglenni fe ar Earth.

Mae mentro i’r dyfroedd dyfnion yn gallu bod yn arswydus ac mae’n gallu bod yn gostus, ond yn y dyfroedd dyfnion yna mae yna harddwch a bywyd sydd heb eto gael ei ganfod.

A’r alwad i ni yw mentro mewn ffydd, mewn gobaith a chariad. Roedd Nan yn sôn am y cydbwysedd yna rhwng mentro drwy Weinidogaeth newydd, ac adeiladau ar y llaw arall. 

Archbishop of Wales and Revd Nan Powell-Davies

Storïau'r Seitiau. Beth mae hynny'n ei olygu i ni heddiw?

Wel, fe aethon ni wedyn drwy gyfarwyddyd Siôn Aled, Elin Owen a Deon Tyddewi i weld bod lle ac adeilad ddim bob amser yn her. Mae’n medru cynnig cyfleoedd i efengylu.

Y Deon yn sôn am Dyddewi fel un o’r mannau cyfyng yna lle gallwn ni fynd i ganfod Duw, ac i addoli Duw. Estyn gwahoddiad i’r sawl sydd yn ymweld, i ddod yn bererin ac yn ddisgybl. A’r her i gofio bod y bererindod ddim yn ddiwedd ynddo’i hun, ond yn gyfle i fynd y tu hwnt i’r cyfarwydd ag i gyfarfod ag Iesu.

Fe welson ni hefyd drwy brosiect arloesol Y Pererin yn Esgobaeth Bangor bod modd defnyddio’n hiaith a’n diwylliant cynhenid ni fel arf i rannu’r newyddion da.

Siôn ac Elin yn rhannu arferion da y beirdd preswyl. Defnyddio doniau pobl fel Gwilym Bowen Rhys, Llion Williams, Gwyneth Glyn a Twm Morys. Enwau fyddwn ni ddim bob amser efallai yn eu cysylltu â’r ffydd Gristnogol, ond o’u gwahodd nhw i ddefnyddio’u doniau, i ddod a’n hiaith a’n diwylliant ni’n fyw o bererindota i’r mannau lle mae’r Saint wedi bod yn gweddïo ers canrifoedd.

Roedd yna wahoddiad ffres, gwahoddiad newydd, i addoli ac i gyfarfod ag Iesu. Yr Hwn sydd yr un ddoe, heddiw ac yfory.

Elin, Siôn a Canon Sarah Rowland Jones

Efengylu Cam-wrth-Gam

Yna fe aethon ni gyda Rhys Llwyd i Gaernarfon i glywed am stori sydd yn ein hatgoffa ni bod twf ac adfywiad mewn cyd-destun eglwys cymharol draddodiadol yn bosibl.

Mae yna griw bach yno meddai Rhys wrth ddisgrifio’r eglwys yn 2010, ond roedden nhw’n bobl oedd eisiau newid. Eisiau ysgrifennu pennod newydd a gwahanol. Ac roedd yr awydd yna i newid, i ysgrifennu pennod mwy gobeithiol yn eu sbarduno nhw i fynd y tu hwnt i’r cyfarwydd.

Fe glywson ni am hanes pobl go iawn oedd wedi cyfarfod â’r Iesu am y tro cyntaf. Pobl oedd eu bywydau nhw wedi newid oherwydd parodrwydd yr Eglwys i fentro. Ond, fe glywson ni hefyd fod gwaith felly yn gallu bod yn anodd. Yn dod â chost. Felly, rhaid dibynnu, nid cymaint ar ein doniau ni ond ar nerth yr Ysbryd Glân.

Yr hwn sydd yn ein cymell ni i fynd ymlaen ac i fentro. 

Defnyddio ein Cadeirlannau. Adfywio Litwrgaidd a Sacramentaidd

Yna, fe glywson ni gyda Deon Nigel a Siôn Rhys Evans am fentergarwch y cadeirlannau. Conglfeini ysbrydol sydd wedi bod yno ers dechreuadau’r ffydd ar yr ynys yma.

Llefydd sydd yn dal i dystiolaethu am y newyddion da yn Iesu Grist. Llefydd sy’n medru arloesi drwy fod yn wych. Fe glywson ni sut mae’r eglwysi cadeiriol yn Llanelwy ac ym Mangor yn arloesi drwy gynnig litwrgi da a cherddoriaeth da sydd yn real ac yn bwrpasol. Ac yn y litwrgi a’r gerddoriaeth eto mae pobl yn canfod ac yn dod i addoli’r Duw byw.

Fe glywson ni hefyd am bwysigrwydd defnyddio hanes, treftadaeth a’r syniad o ysbrydoledd Geltaidd fel arf i wahodd pobl i mewn ac i gyfarfod Iesu. Ac mewn cyd-destun lle mae Cymru’n dod yn wlad sydd yn fwyfwy hyderus, yn fwyfwy parod i sefyll ar ei thraed ei hun, ac i dorri ei chŵys ei hun yn y byd, fe gawson ni’n hysbrydoli i gofio am bwysigrwydd dwyieithrwydd.

Ac nid yn unig gwneud rhywbeth ddwywaith, ond gwneud rhywbeth mewn dwy iaith sydd yn siarad nid dim ond â’r pen ond â’r galon. Ac mae yna angen, onid oes yna, bod y neges am Iesu yn neges sydd yn mynd o’r pen i’r galon i weddnewid ein bywydau ni.

Nigel Williams, Deon Cadeirlan St Asaph a Siôn Rhys Evans, is-Deon Cadeirlan Deiniol Sant ym Mangor

Betysau

Rydyn ni’n aml yn meddwl am adeiladau fel meini mawr sydd yn rhwystrau am ein gyddfau ni ond fe ddangosodd Naomi Starkey i ni hefyd fod modd bod yn greadigol a gweld ein hadeiladau ni, nid fel heriau, ond eto fel cyfleoedd. Un o’r pethau wnaeth fy nharo i oedd ei hargyhoeddiad hi bod yr hen Saint yn gwybod yn union beth oedden nhw’n eu gwneud pan ddewison nhw greu rhywbeth mewn mannau penodol.

Mae’n wir fod ei Heglwysi hi ar Ynys Môn mewn mannau anghysbell. Does yna ddim cyfleusterau, a’r cymdogion agosaf yn aml iawn yw’r defaid yn y caeau. Ac eto, maen nhw’n fannau lle mae’r Saint wedi bod yn addoli ac yn gweddïo am ganrifoedd.

Maen nhw’n llefydd sydd yn gyfoethog o weddïau’r Saint. Ac felly, drwy edrych, nid ar yr heriau, ond ar y cyfleoedd, fe lwyddodd hi i droi’r Eglwysi yna yn betysau, yn fannau gweddi. A gweddi yw’r pwerdy sy’n dod â bywyd i’r Eglwys.

Do, fe gawson ni fodd i fyw. Do, bu’r gynhadledd yn un lle gawson ni gyfle i wrando ar ein gilydd, i ddysgu wrth ein gilydd, i annog a sbarduno ein gilydd y tu hwnt i ffiniau esgobaethol ac enwadol.

Y Parchg Naomi Starkey

Mae’n dda cael bod yma. Ond, yr her nawr yw beth sy’n dod nesaf. Ac nid codi pebyll ac aros ar fynydd y Gweddnewidiad oedd y comisiwn. Ond mynd â’r hyn welson nhw yn ôl lawr i waelod y mynydd er mwyn tanio dychymyg a dod â bywyd newydd yn y fan honno.

Rydyn ni wedi cael ein hysbrydoli a’n hannog ond nawr rhaid mynd yn ôl. Rhaid mynd yn ôl i rannu'r hyn rydyn ni wedi’i ddysgu a sbarduno eraill. Mae yna awydd am barhau â’r drafodaeth. Mae yna awydd am barhau â’r cydweithio. Mae yna awydd hefyd, o’r hyn rwy’n clywed, o archwilio sut allwn ni fod yn hyfforddi ochr yn ochr â’n gilydd er mwyn sicrhau bod yr hyn rydyn ni wedi’i ddysgu yn ddechrau ar y daith, ac nid yn ddiwedd.

Ond wrth i ni bererindota yn ein blaen, rydyn ni’n gweddïo bod Duw gyda ni. Yr her yw gweld lle mae Duw ar waith a bod yn ddigon mentrus i ymuno yn yr hyn mae E’n ei wneud.

Gawn ni weddïo.

Dduw Dad,
Rydyn ni’n diolch i ti am y cyfle rydyn ni wedi’i gael o fod yma.
Rydyn ni yn cydnabod dy fod Di wedi bod yma yn ein canol.
Diolch i ti am y cyfle o wrando ar ein gilydd, o ddysgu wrth ein gilydd, ac o ddirnad gyda’n gilydd unwaith eto yn yr hyn mae dy Ysbryd Di yn ei ddweud wrth yr Eglwys.
Cynheua fflam ynddon ninnau wrth i ni fynd yn ôl i’n cymunedau ni.
Helpa ni i rannu'r hyn rydyn ni wedi’i ddysgu, yr arfer dda.
Ac arwain ni wrth i ni geisio ffyrdd doeth a da o barhau â’r drafodaeth er mwyn sicrhau ffrwyth i dy deyrnas Di.
Yn enw Iesu,
Amen.

Cymraeg

Welsh Evangelism Conference

Article written by The Revd Dr Adrian Morgan

It's good to be here. It has been good to be here at a conference organised by the Church in Wales - a conference that transcends diocesan and denominational boundaries. An opportunity to come together, to listen to each other, to learn from each other, to inspire one another, and to discern anew what the Spirit is saying to the Church.

The Revd Dr Adrian Morgan

Pioneering in the Presbyterian Church

We started the journey in a boat on the shore with The Revd Nan Powell Davies. Nan was honest about the challenges facing the Presbyterian Church. And says that it is necessary to venture beyond the familiar because the familiar is dying. And that's what was decided. It was decided to venture into deep waters, and she said that doing so can be terrifying and costly at times. But that's what was decided.

The decision was made to innovate. To find new leaders who would be able to do new things whilst announcing the good news. People with a calling. People with vision. People with talent and tenacity for the job.

I wonder if, like me, you've watching Planet Earth III recently? Venturing into the deep waters can be terrifying and costly, but in those deep waters there is beauty and life that has yet to be found. And the call to us is to venture in faith, in hope and love. Nan spoke about that balance between venturing through a new Ministry, and buildings on the other hand.

Archesgob Cymru a Y Parchg Nan Powell-Davies

Stories of the Saints. What do they have to say to us today?

Well, we then went through the direction of Siôn Aled, Elin Owen and the Dean of St David’s to find that space and building isn't always a challenge. It can provide opportunities to preach the Gospel.

The Dean spoke about St David’s as one of those confined spaces where we can go to find God, and to worship God. Extend an invitation to the visitor, to become a pilgrim and pupil. And the challenge of remembering that the pilgrimage is not an end in itself, but an opportunity to go beyond the familiar and to meet Jesus.

We also saw through the innovative project, Y Pererin, in the Diocese of Bangor that our indigenous language and culture can be used as a tool to share the good news.

Siôn and Elin shared the good practices of resident poets. Using the talents of people like Gwilym Bowen Rhys, Llion Williams, Gwyneth Glyn and Twm Morys. Names we may not always associate with the Christian faith perhaps, but inviting them to use their talents, to bring our language and culture to life from pilgrimage to the places where the Saints have been praying for centuries.

Elin, Sïon a Canon Sarah Rowland Jones

Process Evangelism

We then accompanied The Reverend Dr Rhys Llwyd to Caernarfon to hear a story that reminds us that growth and rejuvination in the context of a relatively traditional church is possible.

There's a small group there Rhys said when describing the church in 2010, but they were people who wanted change. They wanted to write a new and different chapter. And it was that desire to change, to write a more hopeful chapter that spurred them on to go beyond the familiar.

We heard about real people who had met Jesus for the first time. People whose lives had changed because of the Church's willingness to take a risk. But we also heard that such work can be difficult. It comes with a cost. Therefore, we must depend, not so much on our talents but on the strength of the Holy Spirit.

We heard about real people who had met Jesus for the first time. People whose lives had changed because of the Church's willingness to take a risk. But we also heard that such work can be difficult. It comes with a cost. Therefore, we must depend, not so much on our talents but on the strength of the Holy Spirit.

The one that motivates us to go on and to take risks.

Using our Cathedrals. Liturgical and Sacramental Revitalisation

Then we heard from Deans Nigel and Siôn Rhys Evans about the enterprise of the cathedrals. Spiritual cornerstones that have been there since the beginnings of the faith on this island.

Places that are still testifying to the good news in Jesus Christ. Places that can innovate by being great. We heard how the cathedrals in St Asaph and Bangor are innovating by offering good liturgy and good music that is real and purposeful. And in the liturgy and the music again people find and come to worship the living God.

We also heard about the importance of using history, heritage and the idea of Celtic spirituality as a tool to invite people in and to meet Jesus. And in a context where Wales is becoming a country that is increasingly confident, increasingly willing to stand on its own two feet in the world, we were inspired to remember about the importance of bilingualism.

And not only doing something twice but doing something in two languages that speaks not just to the head but to the heart. And there is a need, isn't there, that the message about Jesus is a message that goes from the head to the heart to transform our lives.

Nigel Williams, Dean of St Asaph Cathedral and Siôn Rhys Evans, sub-Dean Saint Deiniol's Cathedral in Bangor

Betysau

We often think of buildings as millstones around our necks, but Naomi Starkey also showed us that it is possible to be creative and see our buildings, not as challenges, but as opportunities. One of the things that struck me was her conviction that the ancient Saints knew exactly what they were doing when they chose to create something in specific places.

It is true that her Churches on Anglesey are in remote places. There are no facilities, and the nearest neighbours are often the sheep in the fields. Yet they are places where the Saints have been worshipping and praying for centuries.

They are places rich in the prayers of the Saints. And so, by looking, not at the challenges, but at the opportunities, she was able to turn those Churches into places of prayer. And prayer is the powerhouse that brings life to the Church.

The Revd Naomi Starkey

Yes, we enjoyed ourselves. Yes, the conference was one where we had the opportunity to listen to each other, to learn from each other, to encourage and motivate each other beyond diocesan and denominational boundaries.

It's good to be here. But the challenge now is what comes next. And the commission wasn’t to erect tents and stay on the Mount of Transfiguration, but to take what they saw back down to the bottom of the mountain to spark the imagination and bring new life there.

We have been inspired and encouraged but now we must go back. We have to go back and share what we've learned and motivate others. There is a desire to continue the discussion. There is an appetite for continuing the collaboration. There is also a desire, from what I am hearing, to explore how we can train alongside each other to ensure that what we've learned is the beginning of the journey, not the end.

But as we travel onwards, we pray that God is with us. The challenge is to see where God is at work and be bold enough to join in what He is doing.

Let us pray.

God, our Father,
we thank you for the opportunity we've had of being here.
We recognise that you've been here in our midst.
Thank you for the opportunity to listen to each other, to learn from each other, and to discern together once again what your Holy Spirit is saying to the Church.
Spark a flame within us as we go back to our communities.
Help us share what we've learned, the good practice.
And guide us as we seek good and wise ways to continue the discussion to bring your kingdom to fruition.
In Jesus' name,

Amen.