minus bangor1 bangor2 bangor3 bangor4 bangor5 bangor6 bangor7 bangor8 bangor9 bangor10 bangor11 bangor12 bangor13 bangor14 bangor15 bangor16 bangor17 bangor18 bangor19 bangor20 bangor21 bangor22 bangor23 bangor24 bangor25 bangor26 bangor27 bangor28 bangor29 bangor30 bangor31 bangor32 bangor33 bangor34 bangor35 bangor36 bangor37 bangor38 bangor39 bangor40 bangor41 bangor42 bangor43 bangor44 bangor45 bangor46 chevron-down chevron-left chevron-right chevron-up download email facebook instagram plus search twitter vimeo youtube external

Virginia Crosbie AS yn cyhoeddi mai Ffermwr o Amlwch yw ei Harwr Cudd

Ffermwr o Amlwch sydd wedi treulio degawdau’n cyflawni gwasanaethau gwirfoddol a dyngarol i gyn-filwyr, i Ambiwlans Sant Ioan ac i’r Eglwys yng Nghymru yw Arwr Cudd Virginia Crosbie, Aelod Seneddol Ynys Môn.

Mae Vaughan Prytherch a’i deulu wedi bod yn ffermio yn yr ardal ers y bedwaredd ganrif ar bymtheg, ac yn 2018 rhoddodd bum acer o’i dir ar osod i Caru Amlwch er mwyn creu cynllun rhandiroedd cymunedol i helpu cyn-filwyr. Hefyd, am sawl blwyddyn bu’n gwasanaethu Cymdeithas Cyn-filwyr Normandi fel cydgysylltydd Cysylltiadau Cyhoeddus.

Mae Vaughan wedi treulio 40 mlynedd yn gwasanaethu’r Eglwys yng Nghymru a’r Eglwys Anglicanaidd, yn cynnwys cynrychioli Esgobaeth Bangor ar gorff llywodraethu a chorff cynrychiolwyr yr Eglwys yng Nghymru.

Ar hyn o bryd, mae’r siaradwr Cymraeg rhugl yn ysgrifennydd ariannol ac yn drysorydd plwyf Eglwys Sant Eleth yn Amlwch.

Hefyd, mae wedi bod yn gysylltiedig ag Ambiwlans Sant Ioan Cymru ers mwy na phum degawd, yn cynnwys dros gyfnod y pandemig Covid 19, ac ef yw Pennaeth Urdd Sant Ioan.

Mae hyd yn oed wedi ymddangos ar y teledu – ef oedd yn chwarae rhan Goronwy Owen, yr athrylith llenyddol a’r clerigwr o Fôn o’r ddeunawfed ganrif, yn y rhaglen ddogfen ‘O Fôn i Virginia’ yn 2003.

“Mae gwasanaeth Vaughan dros y degawdau mewn rolau mor amrywiol, yn agos at ei gartref ac ymhellach, yn ei wneud yn ymgeisydd delfrydol ar gyfer bod yn un o’m harwyr cudd,” medd Virginia.

“Gwych o beth yw cael rhywun sydd mor ymroddedig i wasanaethu’r cyhoedd ar ein hynys, ac rydw i’n gwybod nad oes ganddo unrhyw fwriad i roi’r gorau i’w waith pwysig mewn cynifer o feysydd.”

Medd Vaughan,” Braint yw cael bod yn Arwr Cudd ein Haelod Seneddol ar gyfer mis Hydref. Diolch i Mrs Crosbie am fy newis i uwchlaw cynifer o bobl eraill sy’n gwneud cymaint dros Ynys Môn.”

Cymraeg

MP Virginia Crosbie announces Amlwch Farmer as her Hidden Hero

An Amlwch farmer who has spent decades in voluntary and humanitarian service for veterans, the St John Ambulance and the Church of Wales is Ynys Môn MP Virginia Crosbie’s October Hidden Hero. 

Vaughan Prytherch and his family have farmed in the area since the 19th century and in 2018 he leased five acres of land to Caru Amlwch to create a community allotments scheme to help veterans. He also served the Normandy Veterans' Association as Public Relations coordinator for several years. 

Vaughan has spent 40 years in the service of the Church in Wales and the Anglican Church including representing the Diocese of Bangor on both the governing and representative bodies of the Church in Wales. 

The fluent Welsh speaker is currently the financial secretary and parochial treasurer of St Eleth's Church in Amlwch. He has also been associated with St John Ambulance Cymru for upwards of five decades, including throughout the duration of the Covid 19 pandemic and is a Commander of the Order of St John. 

He has even been on TV cast in the role of Goronwy Owen, the celebrated 18th century Anglesey-born clergyman and literary genius, in the documentary 'O Fon i Virginia' in 2003. 

“Vaughan’s many decades of service in such wide-ranging roles close to his home and further afield makes him an ideal candidate to be one of my hidden heroes,” said Virginia. “To have someone so dedicated to public service on our island is wonderful and I know Vaughan has no intention of stopping his important work in so many areas. 

Vaughan added: “I am honoured to be our MP’s October’s Hidden Hero and I thank Mrs Crosbie for choosing me over so many other people who do so much for Ynys Môn.”