minus bangor1 bangor2 bangor3 bangor4 bangor5 bangor6 bangor7 bangor8 bangor9 bangor10 bangor11 bangor12 bangor13 bangor14 bangor15 bangor16 bangor17 bangor18 bangor19 bangor20 bangor21 bangor22 bangor23 bangor24 bangor25 bangor26 bangor27 bangor28 bangor29 bangor30 bangor31 bangor32 bangor33 bangor34 bangor35 bangor36 bangor37 bangor38 bangor39 bangor40 bangor41 bangor42 bangor43 bangor44 bangor45 bangor46 chevron-down chevron-left chevron-right chevron-up download email facebook instagram plus search twitter vimeo youtube external

Gwasanaeth y Plygain

Wrth i lawer ohonom ddychwelyd i'r gwaith ar ôl y gwyliau, mae dathliadau’r Nadolig yn parhau i Gristnogion Cymru wrth i eglwysi ar draws yr esgobaeth baratoi ar gyfer gwasanaethau Plygain traddodiadol. 

Er i’r traddodiad bron â phylu i ebargofiant erbyn y 1970au, mae'r gwasanaeth Plygain Cymraeg traddodiadol yn mwynhau adfywiad ac mae’n boblogaidd unwaith eto. Eleni bydd cymunedau ledled Cymru yn gallu enwebu eu traddodiadau Cymraeg anwylaf i'w cynnwys mewn cofrestr newydd o dreftadaeth ddiwylliannol yn y DU.


Beth yw gwasanaeth y Plygain?

Mae’r Plygain yn rhan unigryw o draddodiad Cristnogol Cymru ac mae'n cynnwys canu carolau Cymraeg traddodiadol yn ddigyfeiliant. Mae'r enw 'plygain' yn deillio o'r Lladin pulli canto, sy'n golygu 'ar ganiad y ceiliog'. Yn draddodiadol, canwyd carolau Plygain yn ystod Offeren y Bugeiliaid - yCymun a weinyddwyd tua thri o'r gloch ar fore Dydd Nadolig.


Mae'r Plygain yn weithred o addoliad sy'n seiliedig yn fras ar yr Hwyrol Weddi.

Gyda threigl amser gelwidy gwasanaeth hwn yn 'Blygain' a'i garolau yn 'garolau Plygain'. Heddiw mae'r enw 'Plygain' yn cyfeirio at natur y gwasanaeth ac nid at amser y gwasanaeth. Newyddion da i'r rhai ohonom nad ydym yn hoffi codi’n gynnar. Mewn gwirionedd, mae gwasanaethau yn ein hesgobaeth am 6pm neu 7pm sy’n fwy derbyniol.

Mae'r Plygain yn weithred o addoliad sy'n seiliedig yn fras ar wasanaeth yr Hwyrol Weddi. Cenir mawl i Dduw am gyfanwaith yr iachawdwriaeth a ddaeth i ni trwy Iesu Grist, ac am rodd yr Ysbryd sy’n adnewyddu’r greadigaeth. Gwneir hyn yng nghwmni Mair, mam ein Harglwydd, a holl gwmpeini’r nef. Mae’r gynulleidfa yn cyd-addoli gyda hwy ac wrth wneud, yn tystio i ryfeddod gras a chariad Duw.


Nodwedd o’r gwasanaeth yw awyrgylch o ryfeddu gerbron y Gair a wnaethpwyd yn gnawd.

Myfyrio a moli yw rôl y gynulleidfa - nid yw cymeradwyo yn rhan o'r traddodiad. Nodwedd o’r cynulliad yw awyrgylch o ryfeddu gerbron y Gair a wnaethpwyd yn gnawd.

Mae distawrwydd yn elfen bwysig o'r Plygain. Cariad a defosiwn at Grist a ysbrydolodd y carolau yn y lle cyntaf ac felly yn y distawrwydd gweddigar rhwng y carolau cawn wahoddiad i ddyfnhau ein defosiwn a'n cariad ein hunain.


Y Plygain yng Nghadeirlan Deiniol Sant

Yng Nghadeirlan Deiniol Sant ym Mangor cynhelir gwasanaeth Plygain ar gyfer Esgobaeth Bangor ddydd Gwener 19 Ionawr am 7pm. 

Dywed yr Is-Ddeon Siôn Rhys Evans, "Mae’r Plygain yn rhan draddodiadol o’r Nadolig Cymreig, ac yn haeddu ei le yn nathliadau’r Gadeirlan dros yr Ŵyl.

"Da ydi croesawu cantorion a chorau o’r gymuned i fod yn rhan o arlwy gerddorol y Gadeirlan, a chroesawu hefyd y carolau cyfrin hynny sy’n rhan o sain neilltuol y Plygain."

Isod rydym wedi rhestru detholiad o wasanaethau Plygain a gynhelir yn ein heglwysi ac mae eraill wedi'u rhestru ar Plygain.org.

Plygeiniau yn Esgobaeth Bangor 2024

Nos Wener 12 Ionawr

  • Eglwys S Tydecho, Mallwyd, 7yh (Bro Cyfeiliog a Mawddwy)

Nos Sul 14 Ionawr

  • Eglwys S Gwyndaf, Llanwnda, 7yh, (Beuno Sant Uwch Gwyrfai)

Nos Fercher 17 Ionawr

  • Eglwys y Santes Fair, Llanfair ger Harlech, 7yh (Bro Ardudwy)

Nos Wener 19 Ionawr

  • Cadeirlan Deiniol Sant, Bangor 7yh (Esgobaeth Bangor)

Trefn Gwasanaeth

Mae trefn Gwasanaeth y Plygain ar gael ar wefan yr Eglwys yng Nghymru.


Rhannwch eich lluniau

Os yw eich eglwys yn cynnal gwasanaeth y Plygain, rhannwch eich lluniau â ni. Naill ai tagiwch ni ar y cyfryngau cymdeithasol neu anfonwch neges e-bost at mattbatten@churchinwales.org.uk

Cymraeg

The Plygain

While many of us returning to work after the festive season, Christmas celebrations continue for Welsh Christians as churches across the diocese prepare for traditional Plygain services. 

Despite nearly fading into obscurity by the 1970s, the traditional Welsh Plygain service is witnessing a resurgence in popularity. This year communities across Wales will be able to nominate their most cherished Welsh traditions to be included in a new register of cultural heritage in the UK, including The Plygain service.

What is the Plygain service?

Plygain is a unique part of the Welsh Christian tradition and consists of the singing of traditional Welsh carols, unaccompanied. The name ‘plygain’ derives from the Latin pulli canto, meaning ‘at cock crow’. Plygain carols were traditionally sung during the Mass of the Shepherds - the Eucharist celebrated around three o’clock on Christmas morning. 


The Plygain is an act of worship loosely based upon Evening Prayer.

As time went on this service became known as ‘Plygain’ and its carols as ‘Plygain carols’. Today the name ‘Plygain’ refers to the nature of the service rather than the time of the service. Good news for those of us who are not early risers. In fact, services in our diocese are at a respectable 6pm or 7pm. 

The Plygain is an act of worship which is loosely based upon Evening Prayer. Praise is sung to God for the entire work of salvation brought to us through Jesus Christ, and for the gift of the Spirit in renewing the whole of creation. This is celebrated in the company of Mary, mother of our Lord, and the whole company of heaven. In worship with them the congregation testifies to the wonder of God’s grace and love.


The service is characterised by an atmosphere of wonder before the Word made flesh.

The congregation’s role is one of contemplation and praise - applause does not form part of the tradition. The gathering is characterised by an atmosphere of wonder before the Word made flesh. 

Silence is an important element of the Plygain. It was love and devotion to Christ which inspired the carols in the first place and so in the prayerful silence between the carols, we are invited to deepen our own devotion and love.

Plygain at Saint Deiniol's Cathedral

A Plygain service for the Diocese of Bangor takes place at Saint Deiniol's Cathedral in Bangor on Friday 19 January at 7pm, and everyone is welcome.

Sub-Dean Siôn Rhys Evans says, "The Plygain is a traditional part of the Welsh Christmas, and deserves its place in the Cathedral celebrations during Christmastide. 

"It is good to welcome singers and choirs from the community to be part of the music-making life of the Cathedral, and also to welcome those beautiful, mysterious carols that are part of the distinctive sound of the Plygain."

Below we've listed a selection of Plygain services that are taking place in our churches and others are listed on Plygain.org


Plygain services across the diocese

Friday 12 January

  • Saint Tydecho's Church, Mallwyd, 7yh (Bro Cyfeiliog a Mawddwy)

Sunday 14 January

  • Saint Gwyndaf's Church, Llanwnda, 7pm, (Beuno Sant Uwch Gwyrfai)

Wednesday 17 January

  • Saint Mary's Church, Llanfair ger Harlech, 7yh (Bro Ardudwy)

Friday 19 January

  • Cadeirlan Deiniol Sant, Bangor 7pm (Diocese of Bangor)

Order of Service

An order of Service of the Pygain is available on the Church in Wales website. 


Share your photos

If your church is hosting a Plygain service, please do share your photos us. Either tag us on social media or email mattbatten@churchinwales.org.uk