minus bangor1 bangor2 bangor3 bangor4 bangor5 bangor6 bangor7 bangor8 bangor9 bangor10 bangor11 bangor12 bangor13 bangor14 bangor15 bangor16 bangor17 bangor18 bangor19 bangor20 bangor21 bangor22 bangor23 bangor24 bangor25 bangor26 bangor27 bangor28 bangor29 bangor30 bangor31 bangor32 bangor33 bangor34 bangor35 bangor36 bangor37 bangor38 bangor39 bangor40 bangor41 bangor42 bangor43 bangor44 bangor45 bangor46 chevron-down chevron-left chevron-right chevron-up download email facebook instagram plus search twitter vimeo youtube external

Offeiriad ac Arweinydd Ardal Weinidogaeth Newydd ar gyfer Bro Tudno

Mae Esgob Bangor ac Archesgob Cymru yn falch o gyhoeddi penodiad y Parch Vince Morris yn Arweinydd Ardal Weinidogaeth a ficer Bro Tudno. Yn ei swyddogaeth newydd, bydd Vince yn gwasanaethu cymuned Llandudno, sy'n cael ei hadnabod fel brenhines trefi glan môr gogledd Cymru oherwydd dyma dref gwyliau glan môr fwyaf Cymru.

Ar hyn o bryd Vince yw Arweinydd Ardal Weinidogaeth a ficer Bro Cwyfan. Bydd ei drwyddedu yn digwydd ddydd Mawrth 16 Ebrill yn Eglwys y Drindod Sanctaidd, Llandudno.

Wrth edrych ymlaen at ei rôl newydd, dywedodd Vince, "Mae wedi bod yn fendith ac yn fraint cael gwasanaethu pobl Bro Cwyfan dros y tair blynedd diwethaf. Gweithio ac addoli ochr yn ochr â thîm mor wych ac ymroddedig o glerigwyr a gweinidogion lleyg, gan helpu i adeiladu a datblygu gweinidogaeth plant a gofal bugeiliol ar draws ardal y weinidogaeth.

"Rwy'n teimlo’n hynod o gyffrous ac mae’n anrhydedd cael dychwelyd i weithio yn Llandudno ac rwy’n edrych ymlaen at yr heriau o ddatblygu gweinidogaethau newydd, yn ogystal ag ehangu rhai presennol a helpu i ddatblygu a rhannu cariad Crist ym mrenhines trefi glan môr gogledd Cymru."

Bydd Vince yn arwain y ddwy gymuned eglwysig ym Mro Tudno, sef Y Drindod Sanctaidd, Llandudno, eglwys Fictoraidd fawr yng nghanol y dref, ac Eglwys Sant Tudno, eglwys hynafol ar Ben y Gogarth.


Mae gan Vince gariad dwfn yn barod tuag at bobl Llandudno a’r lle ei hun.

Wrth groesawu Vince i Fro Tudno, meddai’r Hybarch David Parry, Archddiacon Bangor, "Mae hwn yn benodiad gwych. Mae gan Vince gariad dwfn yn barod tuag at bobl Llandudno a’r lle ei hun. Rwy'n siŵr y bydd ei arweinyddiaeth ymroddedig a gweddigar yn helpu Bro Tudno i ffynnu mewn cenhadaeth ac i gryfhau eu bywyd o ffydd a rennir."

Diolchodd Archddiacon Môn, John Harvey, i Vince am ei wasanaeth i Fro Cwyfan a chanmolodd ei natur gydweithredol; "Byddwn yn gweld eisiau Vince yn Ardal Weinidogaeth Bro Cwyfan ac Archddiaconiaeth Ynys Môn. Rwyf wedi mwynhau ein gwaith cydweithredol gyda'n gilydd, ac wedi cael anogaeth gan Vince wrth archwilio ffyrdd dychmygus o ddod â phobl ynghyd mewn addoliad a brawdoliaeth yn y Fro.

"Dymunaf fendith Duw arno ef a Louise a'u plant wrth iddyn nhw baratoi i symud i Fro Tudno."

Ynghylch y Parch Vince Morris

Cafodd Vince ei eni a'i fagu yn Rhydychen, lle dechreuodd archwilio ei ffydd am y tro gyntaf. Cyn ymuno â’r offeiriadaeth, bu Vince yn gweithio mewn amryw o swyddi, gan gynnwys fel technegydd graffeg ym Mhrifysgol Oxford Brookes. Tra oedd yn byw yn Swydd Efrog, cyfarfu a phriodi ei wraig Louise ac yn ddiweddarach ymgartrefodd y ddau yng ngogledd Cymru.

Yn 2016, cychwynnodd Vince ar ei hyfforddiant ar gyfer ei ordeinio yn Athrofa Padarn Sant yng Nghaerdydd. Ar ôl lleoliadau yn y Drindod Sanctaidd yn Llandudno, a hyfforddiant ym Mro Gwydyr, cafodd ei ordeinio'n ddiacon ym mis Mehefin 2018 ac yn offeiriad yn 2019. Yn 2021 fe'i penodwyd yn Arweinydd Ardal Weinidogaeth a ficer Bro Cwyfan yng nghornel gogledd-orllewin Ynys Môn.

Ganwyd dau blentyn Vince yng ngogledd Cymru ac mae ef a'i wraig yn ddysgwyr Cymraeg brwdfrydig.

Mae Vince yn mwynhau criced, rygbi a phêl-droed (er ei fod wedi'i gyfyngu i'r eisteddleoedd y dyddiau hyn yn anffodus) ac yn ei amser hamdden mae'n gweithio'n agos gyda Chadetiaid Awyr y Llu Awyr Brenhinol ledled gogledd Cymru.

Mae gan Vince ddiddordeb angerddol mewn addysg a gweithio gyda phobl ifanc a theuluoedd ac mae'n edrych ymlaen at weithio gydag eraill i ddatblygu gweinidogaethau newydd i adlewyrchu'r gymuned a'r ardal gyda phawb ym Mro Tudno a Llandudno.

Cadwch Vince a'i deulu yn eich gweddïau.

Cymraeg

New priest and Ministry Area Leader for Bro Tudno

The Bishop of Bangor and Archbishop of Wales is pleased to announce the appointment of the Revd Vince Morris as Ministry Area Leader and Vicar of Bro Tudno. In his new role, Vince will serve the community of Llandudno, commonly known as the Queen of North Wales resorts owing to its distinction of being the largest seaside resort in Wales.

Vince is currently the Ministry Area Leader and Vicar of Bro Cwyfan. His licensing will take place on Tuesday 16th April at Holy Trinity Llandudno.

Looking forward to his new role, Vince said, “It has been a blessing and a privilege to serve the people of Bro Cwyfan over the last three years. Working and worshiping alongside such a fantastic and dedicated team of clergy and lay ministers, helping to build and develop children’s ministry and pastoral care across the ministry area.

“I am immensely excited and honoured at the prospect of returning to work in Llandudno and looking forward to the challenges of developing new ministries, as well as expanding existing ones and helping to develop and share the love of Christ in the Queen of North Wales resorts.”

Vince will lead the two church communities in Bro Tudno, namely Holy Trinity Llandudno, a large Victorian church in the town centre, and Saint Tudno's Church, an ancient church on the Great Orme.


Vince already has a deep love for the people and place of Llandudno.

Welcoming Vince to Bro Tudno, the Ven. David Parry, Archdeacon of Bangor, says, “This is a great appointment. Vince already has a deep love for the people and place of Llandudno. I am sure that his committed and prayerful leadership will help Bro Tudno to flourish in mission and build up their shared life of faith."

The Archdeacon of Anglesey John Harvey thanked Vince for his service to Bro Cwyfan and praised his collaborative nature, “We will miss Vince in Bro Cwyfan Ministry Area and the Archdeaconry of Anglesey. I've enjoyed our collaborative work together, and been encouraged by Vince exploring imaginative ways of bringing people together in worship and fellowship in the Bro.

“I wish him and Louise and their children God's blessing as they prepare to move to Bro Tudno.”

About the Revd Vince Morris

Vince was born and grew up in Oxford, where he first began to explore his faith. Before entering the priesthood, Vince worked various jobs, including as a graphics technician at Oxford Brookes University. While living in Yorkshire he met and married his wife Louise and they eventually settled in North Wales.

In 2016, Vince began his ordination training at Saint Padarn’s Institute in Cardiff. After placements in Holy Trinity in Llandudno, and training in Bro Gwydyr, he was ordained a deacon in June 2018 and priest in 2019. In 2021 he was appointed Ministry Area Leader and Vicar of Bro Cwyfan in the North West corner of Anglesey.

Vince’s two children were born in North Wales and he and his wife are enthusiastic Welsh learners.

Vince enjoys cricket, rugby, and football (though sadly constrained to the stands these days) and in his spare time works closely with the Royal Air Force Air Cadets throughout North Wales.

Vince has a passionate interest in education and working with young people and families and is looking forward to working with others to develop new ministries to reflect the community and the area with everyone in Bro Tudno and Llandudno.

Please keep Vince and his family in your prayers.