minus bangor1 bangor2 bangor3 bangor4 bangor5 bangor6 bangor7 bangor8 bangor9 bangor10 bangor11 bangor12 bangor13 bangor14 bangor15 bangor16 bangor17 bangor18 bangor19 bangor20 bangor21 bangor22 bangor23 bangor24 bangor25 bangor26 bangor27 bangor28 bangor29 bangor30 bangor31 bangor32 bangor33 bangor34 bangor35 bangor36 bangor37 bangor38 bangor39 bangor40 bangor41 bangor42 bangor43 bangor44 bangor45 bangor46 chevron-down chevron-left chevron-right chevron-up download email facebook instagram plus search twitter vimeo youtube external

Y peth gorau am fod yn…

Mae Duw yn galw bob un ohonom i wasanaethu. Gelwir rhai ohonom i wasanaethu’r Eglwys mewn ffyrdd penodol drwy weinidogaethau unigryw.

Gofynnon ni i'r Parchg Eryl Parry, Offeiriad Arloesi yn Nyffryn Conwy, a Keith Wadcock, Swyddog Trwyddedig Lleyg, am eu galwedigaeth.


Offeiriad Arloesol

Eryl Parry (canol)

Fe alwodd fy ffrind hyn yn ‘ficera crwydrol’ – ac rwy'n hoff iawn o'r teitl hwnnw! Rwyf wrth fy modd yn cyfarfod â'r rhai a fyddai'n galw eu hunain ‘yn ysbrydol ond nid yn grefyddol’, ac yn dechrau eu helpu ar eu taith ffydd. Dydw i ddim yn mynd â Duw atyn nhw – mae'r Ysbryd Glân eisoes ar waith ac rwyf innau’n ymuno. Mae gennym ni dreftadaeth Gristnogol anhygoel yn y wlad hon, felly wrth i mi wasanaethu fel caplan ar Ynys Enlli neu adeiladu cymuned addoli newydd i fyny yn eglwys hynafol anghysbell Llangelynnin, rwy'n teimlo cysylltiad â'r llif hir hwnnw o dystion a'u gweddïau. Rwyf wir yn sefyll ar ysgwyddau cewri. Mae offeiriadaeth arloesol yn agos iawn at gaplaniaeth – y gwrando dwfn ar bobl a lle. Yna, mae’n ymwneud â sut rydyn ni'n dechrau dirnad sut mae Duw yn gweithredu a pha fath o 'le o berthyn' y gallwn ni ei greu. Gyda'n gilydd, rydym yn adeiladu tîm ac felly mae'n dechrau …

Un tîm o'r fath yw cymuned grwydrol Addoli yn y Gwyllt sydd wedi bod yn bleser arbennig dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, lle gall y rhai sy'n teimlo bod cerdded yn ddefnyddiol yn eu bywyd ysbrydol, gael eu denu’n agosach at Dduw ac eraill yn ein ymgynulliadau misol. Weithiau mae pobl yn gofyn i mi ‘pwy yw'r bobl hyn?’ ac fe allen i ddefnyddio hen ymadrodd Saesneg ‘the nones and dones’ (y rhai nad ydyn nhw erioed wedi cael eu denu at fywyd yr eglwys, neu sydd wedi ei adael). Ond fyddai hynny ddim yn cwmpasu pawb, oherwydd mae gan bob un ohonom ni stori, ac mae yna lawer o resymau pam y gallai rhywun ddewis dod i gerdded gyda ni (gan gynnwys y rhai sy’n ymroddedig i fywyd yr eglwys ac sy’n teimlo bod yr hyn maen nhw'n ei gael yn yr awyr agored yn helpu i roi persbectif, cwmnïaeth a heddwch iddyn nhw).

Dydy gweinidogaeth arloesol ddim yn cystadlu ag addoli plwyfol traddodiadol. Rwy’n credu'n gryf y gall helpu i adnewyddu a chefnogi.


Darllenwch fwy am Eryl: Cyfres Pilgrimage y BBC i sbarduno diddordeb newydd yn Nhaith Pererin Gogledd Cymru


Gweinidog Lleyg Trwyddedig

Keith Wadcock

Bron i 40 mlynedd yn ôl cefais “fy nghydnabod a fy nghomisiynu” fel pregethwr lleol yn yr Eglwys Fethodistaidd a dechreuais fy nhaith yn y weinidogaeth leyg.

Pan symudais i Gymru yn 2012, penderfynais addoli yn fy eglwys leol ym Mhenmachno. Yn dilyn trafodaethau gyda'r offeiriad ar y pryd, sefydlwyd addoliad misol ar gyfer pobl o bob oed a oedd yn cynnwys pobl o wahanol enwadau ac yn cyfuno talent anhygoel ein cymuned leol.

Fodd bynnag, collais y cyfleoedd i bregethu. Roeddwn i wastad wedi teimlo bod Duw, trwy Ei Ysbryd, yn siarad â mi mewn ffordd bwerus iawn a phan ddaeth y gwahoddiad i mi gael fy nhrwyddedu i arwain yr addoli yn seiliedig ar fy mhrofiad ac argymhelliad fy Arweinydd Tîm – roeddwn i ar ben fy nigon!

Rwy'n mwynhau'r fraint o arwain yr addoli fel Darllenydd ac, yn y rôl hon, rwyf wedi arwain sesiynau hyfforddi ar ysgrifennu gweddïau sy’n cael eu hadrodd ar ran eraill ac wedi gweithio gyda'n heglwysi yn Ardal y Weinidogaeth i ddatblygu cyfleoedd addoli i bobl o bob oed. Mae llawer i'w wneud o hyd yn fy Ardal Weinidogaeth fy hun ond rwy'n credu y dylai Gweinidogion Lleyg Trwyddedig gael eu dyrchafu i gefnogi a datblygu’r addoli a chenhadaeth eu Hardaloedd Gweinidogaeth eu hunain ac, fel y Gweinidog Lleyg Trwyddedig ar gyfer Bangor, dyna sy'n fy nghyffroi am fy rôl bresennol.


Yr hyn sydd ei angen yw i “Gristnogion cyffredin”, fel chi a fi, gamu ymlaen.

Bydd dyfodol ein heglwysi yn dibynnu ar leygwyr yn dod ymlaen ac yn mynd ati i helpu i lunio’r eglwys a fydd yn gwasanaethu yn y dyfodol trwy wrando ar ein cymunedau a gofyn iddyn nhw beth sydd ei angen arnyn nhw, wrth weddïo'n ffyddlon ac yn gyson am arweiniad yr Ysbryd.

Rydym yn eglwys sy'n gwasanaethu ac yn cael ein galw i ddangos yr Efengyl Cariad i bawb rydym ni’n cwrdd â nhw yn ein cymunedau.

Rwy'n berson “gwydr hanner llawn” ac rwy’n hyderus bod ffordd ymlaen i genhadaeth a thystiolaeth yr Eglwys; yr hyn sydd ei angen yw i “Gristnogion cyffredin”, fel chi a fi, gamu ymlaen.


Darllenwch fwy am Keith: Penodi Swyddog Gweinidogaeth Trwyddedig Lleyg


Galwad Duw?

Sut y gallai Duw fod yn eich galw chi i wasanaethu drwy weinidogaethau’r Eglwys yng Nghymru?

Rydym wedi paratoi nifer o adnoddau i helpu i nodi a dathlu Sul y Galwedigaethau ar 21 Ebrill. Mae’r rhain i’w gweld yn adran Adnoddau’r wefan yma.

Os ydych am archwilio’n bellach yn sgil hynny, siaradwch ag Arweinydd eich Ardal Weinidogaeth, neu cysylltwch â Chyfarwyddwr Gweinidogaeth yr Esgobaeth.

Cymraeg

The best thing about being...

God calls all of us to serve. Some of us are called to serve the Church in particular ways through distinctive ministries.

We asked the Revd Eryl Parry, Pioneer Priest in the Conwy Valley, and Keith Wadcock, Lay Licensed Officer, to tell us the best thing about their vocation.


Pioneer Priest

Eryl Parry (centre)

‘Free range vicar-ing’ is what a friend called it – and I rather like that title! I love to come alongside those who would call themselves ‘spiritual but not religious’, and begin to help them on their journey of faith. I don’t take God to them – the Holy Spirit is already at work and I simply join in. We have an incredible Christian heritage in this land, so as I serve as a chaplain on Bardsey Island or build a new worshipping community up in the remote, ancient church of Llangelynnin, I feel connected to that long stream of witnesses and their prayers. I’m really standing on the shoulders of giants. Pioneer priesthood is very close to chaplaincy – the deep listening to people and place. Then, it is how we begin to discern how God is at work and what kind of ‘space of belonging’ we can create. Together, we build a team and so it begins …

One such is the nomadic community of Worship in the Wild that has been a particular joy over the last few years, where those who find walking helpful in their spiritual life, can be drawn closer to God and others in our monthly gatherings. I sometimes get asked ‘who are these people?’ and could use a well-worn phrase ‘the nones and dones’ (those who have never felt drawn to church life, or have left it). But that wouldn’t capture everyone, for we all have a story, and there are many reasons why someone might choose to come walking with us, (including those who have a committed church life and find what they receive outdoors helps to give perspective, companionship and peace).

Pioneer ministry doesn’t compete with traditional parish worship. I truly believe that it can help to renew and resource.


Read more about Eryl's work: BBC's Pilgrimage Series to spark renewed interest in North Wales Pilgrim’s Way


Lay Licensed Minister

Keith Wadcock

Nearly 40 years ago I was “recognised and commissioned” as a local preacher in the Methodist Church and began my journey of lay ministry.

Moving to Wales in 2012 I decided to worship at my local church in Penmachno. Following discussions with the then priest a monthly all age worship was established which involved people of different denominations and pooled the amazing talent of our local community.

However, I missed the opportunities to preach a sermon. I had always felt God, through His Spirit, spoke to me most powerfully and when the invitation to be licensed to lead worship based on my experience and my Team Leader’s recommendation – there was no holding me back!

I enjoy the privilege of leading worship as a Reader and in this role I’ve led training sessions on writing intercessions and worked with our M.A. churches to develop all age worship opportunities. There is still much to do in my own Ministry Area but I do believe that Lay Licensed Minister's (LLM) should be raised up to support and develop the worship and mission of their own Ministry Areas and as the LLM officer for Bangor that is what excites me about my current role.


It just needs “ordinary Christians”, like you and I, to step forward.

The future of our churches will depend on the response of lay people to come forward and actively help shape the serving church of the future by listening to our communities and ask them what they need, whilst constantly praying faithfully for the Spirit’s guidance.

We are a serving church and are called to demonstrate the Gospel of Love to all we meet in our communities.

I’m a “glass half full” person and confident there is a way forward for the Church’s mission and witness; it just needs “ordinary Christians”, like you and I, to step forward.


Read more about Keith: Lay Licensed Ministry Officer appointed


Called by God?

How might God be calling you to service through the ministries of the Church in Wales? 

We have prepared several resources to help mark and celebrate Vocations Sunday on 21 April. These can be found in the Resources section of the website here.

If you want to explore further please talk to your Ministry Area Leader, or contact the Diocesan Director of Ministry.