minus bangor1 bangor2 bangor3 bangor4 bangor5 bangor6 bangor7 bangor8 bangor9 bangor10 bangor11 bangor12 bangor13 bangor14 bangor15 bangor16 bangor17 bangor18 bangor19 bangor20 bangor21 bangor22 bangor23 bangor24 bangor25 bangor26 bangor27 bangor28 bangor29 bangor30 bangor31 bangor32 bangor33 bangor34 bangor35 bangor36 bangor37 bangor38 bangor39 bangor40 bangor41 bangor42 bangor43 bangor44 bangor45 bangor46 chevron-down chevron-left chevron-right chevron-up download email facebook instagram plus search twitter vimeo youtube external

Buddsoddi £130,000 i weddnewid tir eglwys sydd wedi’i esgeuluso yn ardd gymunedol fywiog

Mae pentref Dolgarrog yng ngogledd Cymru wedi cael dros £130.000 o gyllid Ffyniant Bro i weddnewid tir eglwys sydd wedi’i esgeuluso yn ardd gymunedol a man ar gyfer digwyddiadau mewn ymgais i adfywio bywyd cymunedol.

Mae prosiect DyfoDol y Garrog wedi cael £130,404 gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU.

Rhan ganolog o’r cyllid yw adfywio tir o amgylch Eglwys y Santes Fair. Bydd yr ardd newydd yn dod yn fan deinamig ar gyfer cynulliadau lleol, digwyddiadau diwylliannol a chyfleoedd dysgu gydol oes. Bydd y gwaith adfywio yn cael ei arwain gan dîm prosiect DyfoDol y Garrog a fydd yn gweithio gyda’r gymuned leol i greu gardd awyr agored ecogyfeillgar sy’n addas ar gyfer pob tywydd.

Bydd y prosiect hefyd yn cyflwyno calendr amrywiol o ddigwyddiadau, gan gynnwys perfformiadau, arddangosfeydd a gweithdai, sydd wedi’u cynllunio i ddarparu ar gyfer diddordebau amrywiol y gymuned yn ogystal â hyrwyddo diwylliant lleol a’r Gymraeg.

Mae hwn yn brosiect mawr ei angen ar gyfer cymuned sydd wedi’i chreithio gan drasiedi yn y gorffennol a cholli swyddi yn ddiweddar. Yn 1925, cafodd pentref Dolgarrog ei ddinistrio pan ffrwydrodd dau argae a gorlifo’r ardal, gan arwain at farwolaeth 10 oedolyn a chwech o blant. Yn fwy diweddar, yn 2007, cafodd ffatri Alwminiwm Dolgarrog ei chau ar ôl 100 mlynedd, gan golli 170 o swyddi. Yn 2023, cyhoeddodd Parc Antur Eryri ei fod yn cau ar unwaith gan golli swyddi.


Mae DyfoDol y Garrog yn fwy na phrosiect adnewyddu yn unig; mae’n gatalydd ar gyfer newid

Tyfodd prosiect DyfoDol y Garrog o gyfres o ddigwyddiadau ymgysylltu cymunedol yn Eglwys y Santes Fair ym mis Chwefror 2022 i ddarparu cyfleoedd i bentrefwyr ddod at ei gilydd ac archwilio’u hanghenion a’u dyheadau eu hunain. Arweiniodd hyn at Ŵyl Garrog gyntaf erioed ym mis Medi 2023, a ddenodd dros 600 o bobl ac 80 o wirfoddolwyr.

Wedi’i hysbrydoli gan chwedlau lleol a’i thanio gan yr awydd am newid, ysgogodd yr ŵyl ymdeimlad newydd o undod a balchder ymhlith pentrefwyr. Cafodd ei hagor yn swyddogol gan Archesgob Cymru, Andrew John, ac roedd yn cynnwys plant yr ysgol leol yn adrodd o’r newydd stori draig chwedlonol y pentref, sef Carrog Dolgarrog.

Mae tîm prosiect DyfoDol y Garrog yn cynnwys yr offeiriad lleol Stuart Elliott o Ardal Weinidogaeth Bro Gwydyr a Jackie Ley, Swyddog Datblygu Prosiect a ysgrifennodd y cais gwreiddiol. Yn ymuno â nhw mae Jasmine Cash, Swyddog Prosiect Cynorthwyol ac Alys Hughes, Cydlynydd Gweithgareddau.

"Mae DyfoDol y Garrog yn fwy na phrosiect adnewyddu yn unig; mae’n gatalydd ar gyfer newid," dywedodd y Parchedig Stuart. "Drwy feithrin cydweithio rhwng pentrefwyr a’r diwydiant lleol, rydyn ni’n gobeithio creu cyfleusterau unigryw y gall pobl ifanc, unigolion, grwpiau cymunedol, addysgwyr a gweithwyr proffesiynol fod yn falch ohonyn nhw."

Cafodd DyfoDol y Garrog ei enwi ar ôl pentrefannau gwreiddiol Dol y Garrog a Phorth Llwyd, sydd, at ei gilydd, yn ffurfio’r ardal o’r enw Dolgarrog erbyn hyn.

Ychwanegodd y Parchedig Stuart, "Trwy feithrin ysbryd creadigrwydd, cynaliadwyedd a chyfranogiad cymunedol, rydyn ni’n awyddus i ysbrydoli cenedlaethau’r dyfodol. Gyda chanmlwyddiant trychineb trasig yr argae yn 2025, mae’n bwysig ein bod ni’n anrhydeddu’r gorffennol wrth ganolbwyntio ar atgyweirio, ailddatblygu a dyfodol ein cymuned."

Mae’r prosiect hwn yn cael ei ariannu gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU.

Mae Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU yn un o brif gonglfeini agenda Ffyniant Bro Llywodraeth y DU ac mae’n rhoi £2.6 biliwn o gyllid ar gyfer buddsoddi lleol erbyn mis Mawrth 2025. Nod y Gronfa yw gwella balchder mewn lle a chynyddu cyfleoedd bywyd ledled y DU gan fuddsoddi mewn cymunedau a lleoedd, gan gefnogi busnesau lleol, a phobl a sgiliau.

Cymraeg

£130,000 investment to transform neglected church land into a vibrant community space

The North Wales village of Dolgarrog has received over £130.000 Levelling Up funding to transform neglected church land into a community garden and events space in a bid to revitalise community life.

The DyfoDol y Garrog project has received £130,404 from the UK Government through the UK Shared Prosperity Fund

A central part of the funding is the revitalisation of land surrounding St Mary’s church. The new garden will become a dynamic space for local gatherings, cultural events and lifelong learning opportunities. The revitalisation work will be led by the DyfoDol y Garrog project team who will work with the local community to create an eco-friendly all-weather outdoor garden space.

The project will also deliver a diverse calendar of events, including performances, exhibitions, and workshops, designed to cater to the varied interests of the community as well as promote local culture and the Welsh language.

This is a much-needed project for a community scarred by past tragedy and recent job losses. In 1925, the village of Dolgarrog was devastated when two dams burst open and flooded the area, resulting in the death of 10 adults and six children. More recently, in 2007, the Dolgarrog Aluminium factory closed down after 100 years, with the loss of 170 jobs. In 2023, Adventure Parc Snowdonia announced redundancies and its immediate closure.


DyfoDol y Garrog is more than just a renovation project; it's a catalyst for change


The DyfoDol y Garrog project grew out of a series of community engagement events at St. Mary’s Church in February 2022 to provide opportunities for villagers to come together and explore their own needs and aspirations. This led to the first-ever Gŵyl Garrog Festival in September 2023, which attracted over 600 people and 80 volunteers.

Inspired by local legends and fueled by a desire for change, the festival sparked a newfound sense of unity and pride among villagers. It was officially opened by Archbishop of Wales Andrew John and featured a re-telling by local schoolchildren of the story of the village’s mythical dragon, the Garrog of Dolgarrog.

The DyfoDol y Garrog project team includes local priest Stuart Elliott of Bro Gwydyr Ministry Area and Jackie Ley, Project Development Officer who wrote the original bid. They are joined by Jasmine Cash, Assistant Project Officer and Alys Hughes, Activities Coordinator.

"DyfoDol y Garrog is more than just a renovation project; it's a catalyst for change," said Revd Stuart. "By fostering collaboration between villagers and the local industry, we're hoping to create unique facilities that young people, individuals, community groups, educators and professionals can be proud of.”

DyfoDol y Garrog is named after the original hamlets of Dol y Garrog and Porth Llwyd, which together form the area now known as Dolgarrog. Dyfodol is also Welsh for future.

Revd Stuart adds, “By nurturing a spirit of creativity, sustainability, and community involvement, we are keen to inspire future generations. With the 100th anniversary of the tragic dam disaster in 2025, it is important that we honour the past while focusing on repair, regrowth and the future of our community.”

This project is funded by the UK government through the UK Shared Prosperity Fund.

The UK Shared Prosperity Fund is a central pillar of the UK government’s Levelling Up agenda and provides £2.6 billion of funding for local investment by March 2025. The Fund aims to improve pride in place and increase life chances across the UK investing in communities and place, supporting local business, and people and skills.