minus bangor1 bangor2 bangor3 bangor4 bangor5 bangor6 bangor7 bangor8 bangor9 bangor10 bangor11 bangor12 bangor13 bangor14 bangor15 bangor16 bangor17 bangor18 bangor19 bangor20 bangor21 bangor22 bangor23 bangor24 bangor25 bangor26 bangor27 bangor28 bangor29 bangor30 bangor31 bangor32 bangor33 bangor34 bangor35 bangor36 bangor37 bangor38 bangor39 bangor40 bangor41 bangor42 bangor43 bangor44 bangor45 bangor46 chevron-down chevron-left chevron-right chevron-up download email facebook instagram plus search twitter vimeo youtube external

Her 70k yr Archesgob ar gyfer Cymorth Cristnogol

Mae Archesgob Cymru, Andrew John, yn mynd y filltir nesaf a hynny i helpu cymunedau bregus ledled y byd ar gyfer Wythnos Cymorth Cristnogol 2024.

Mae'n cymryd rhan yn ‘70k in May’ - her i gwblhau 70 cilometr ym mha bynnag ffordd rydych chi'n ei hoffi, mewn undod ac empathi â miliynau o bobl sy'n gorfod cerdded pellteroedd maith i gael dŵr glân neu werthu eu cynnyrch.

Dywedodd Archesgob Andrew ei fod yn edrych ymlaen at yr her.

"Bob blwyddyn, yn ystod Wythnos Cymorth Cristnogol, mae pobl ledled Cymru yn codi arian, yn gweithredu ac yn gweddïo dros eu cymdogion byd-eang i ddathlu gobaith am fyd tecach," esboniodd.

"Dwi'n gwneud 70k ym mis Mai achos mae'n ffordd wych o gefnogi'r apêl; Rwy'n mwynhau cymryd yr amser i fynd allan a myfyrio ar bethau tra hefyd yn gwneud rhywbeth ystyrlon i gefnogi eraill.

"Mae Wythnos Cymorth Cristnogol wir yn dod â phobl at ei gilydd i roi ein ffydd ar waith - ac mae pob gweddi, pob rhodd, pob gweithred yn gwneud gwahaniaeth."

Bydd yr arian a godir yn ystod Wythnos Cymorth Cristnogol yn helpu partneriaid y sefydliad i rymuso cymunedau bregus i ddod o hyd i ffyrdd ymarferol a chynaliadwy allan o dlodi.

Mae'r apêl eleni - o Fai 12–18 - yn canolbwyntio ar waith yn Burundi, un o'r gwledydd mwyaf poblog a thlotaf yn Affrica. Gan ddibynnu'n drwm ar amaethyddiaeth, mae hefyd yn un o'r rhai lleiaf parod wrth ymdopi ag effeithiau newid hinsawdd, gan gynnwys sychder, llifogydd a thirlithriadau. Mae argyfwng costau byw byd-eang wedi dwysáu'r heriau: mae mwy na 70 y cant o'r boblogaeth yn byw mewntlodi a mwy na hanner y plant yn dioddef o ddiffyg maeth difrifol.

Mae Cymorth Cristnogol wedi bod yn gweithio yn Burundi ers 1995 pan roddwyd cymorth dyngarol i bobl wrth oroesi'r gwrthdaro sifil. Nawr, ochr yn ochr â phartneriaid lleol, mae'r sefydliad yn helpu i sefydlu Cymdeithasau Cynilo a Benthyciadau Pentref (VSLAs). Mae'r grwpiau hyn a arweinir gan y gymuned yn golygu y gall pobl arbed a benthyca arian, gan wneud busnesau bach yn bosibl, cynnig incwm dibynadwy ac amrywiol fel y gall teuluoedd fwyta'n rheolaidd, cael meddyginiaeth pan fydd ei angen arnynt, ac adeiladu cartrefi mwy diogel.

Mae Aline Nibogora, 35 oed, yn gadeirydd VSLA sy'n cefnogi tua 25 o deuluoedd mewn pentref anghysbell, yn Nhalaith Makamba. Dihangodd Aline o briodas dreisgar gan ganfod ei hun yn byw ar y strydoedd yn cardota am le i aros.

Newidiodd ei bywyd pan aeth i weithdy cymunedol tri diwrnod a ariannwyd gan Cymorth Cristnogol. Yn dilyn hyn a gyda benthyciad cychwynnol bychan, dechreuodd Aline werthu afocados a chnau daear yn lleol. Mae hi bellach yn gyfanwerthwr bwyd ac yn byw ar lain ei hun o dir lle mae'n adeiladu cartref i'w theulu. Yn ystod y pum mlynedd nesaf mae hi'n gobeithio ehangu,ac un diwrnod mae’n gobeithio gallu prynu melin. Bydd hyn yn darparu ffynhonnell incwm heb fod angen cludo nwyddau trwm dros bellteroedd hir.

Cymraeg

Archbishop takes on 70k for Christian Aid

The Archbishop of Wales, Andrew John, is going the extra mile for vulnerable communities around the world during Christian Aid Week 2024.

He is taking part in 70k in May – a challenge to cover 70 kilometres in whatever way you like, in solidarity with millions of people who have to walk long distances for clean water or to sell their produce.

Archbishop Andrew said he was looking forward to it.

“Every year, during Christian Aid Week, people across Wales raise funds, act and pray for their global neighbours in a celebration of hope for a fairer world,” he explained.

“I’m doing 70k in May because it’s a great way to support the appeal; I enjoy taking the time to get out and about and reflect on things while also doing something meaningful in support of others.

“Christian Aid Week really brings people together to put our faith into action – and every prayer, every gift, every action makes a difference.”

Money raised during Christian Aid Week will help the organisation’s partners empower vulnerable communities to find practical and sustainable ways out of poverty.

This year’s appeal - from May 12–18 - is focusing on work in Burundi, one of the most densely populated and poorest countries in Africa. Heavily reliant on agriculture, it’s also one of the least prepared to combat the effects of climate change, including droughts, floods and landslides. The global cost of living crisis has intensified the challenges: more than 70 per cent of the population live in poverty and more than half of children are chronically malnourished.

Christian Aid has been working in Burundi since 1995 when it first offered humanitarian assistance to people surviving the civil conflict. Now, alongside local partners, the organisation helps establish Village Savings and Loans Associations (VSLAs). These community-led groups mean people can save and borrow money, making small businesses possible, offering reliable and diverse incomes so families can eat regularly, get medicine when they need it, and build safer homes.

Thirty-five-year-old Aline Nibogora is the chairperson of a VSLA which supports some 25 families in a remote village, in Makamba Province. Aline escaped an abusive marriage only to find herself on the streets begging for a place to stay.

Her life changed when she went to a three-day, Christian Aid-funded community workshop. With a small start-up loan, Aline began trading avocados and peanuts locally. She’s now a grocery wholesaler and living on her own plot of land where she’s building a home for her family. In the next five years she hopes to expand, so one day she can buy a mill. This will provide a source of income without the need to transport heavy goods over long distances.